Newyddion

Penodiad Cyfarwyddwr Cyffredinol WNO

6 Medi 2018

Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn falch i gyhoeddi penodiad Aidan Lang fel y Cyfarwyddwr Cyffredinol newydd yn dilyn proses recriwtio drwyadl.

Mae Lang, a aned ym Mhrydain, ar hyn o bryd yn Gyfarwyddwr Cyffredinol ar Gwmni Opera Seattle, swydd y bu ynddi ers 2014.  Bydd yn dechrau ei swydd newydd ym mis Gorffennaf 2019 ac yn adrodd yn uniongyrchol i’r Cadeirydd a’r Bwrdd.

Dywedodd Mark Molyneux, Cadeirydd Bwrdd WNO: “Mae’r Bwrdd yn falch iawn gyda phenodiad Aidan Lang fel ein Cyfarwyddwr Cyffredinol.  Roedd y broses recriwtio yn drwyadl ac ar raddfa fyd-eang ac roeddem yn falch iawn â safon yr ymgeiswyr, sy’n adlewyrchu’n dda ar enw da’r Cwmni.  Roedd Aidan yn sefyll allan, gyda’i gymwysterau artistig eang yn ogystal â’i sgiliau arwain profedig, ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at gyd-weithio gydag ef.  Bydd y profiad y bydd Aidan yn ei gynnig i WNO yn adeiladu ar enw da rhyngwladol y Cwmni am gyflawni’r safonau artistig uchaf, cynyrchiadau beiddgar ac arloesol a rhaglen ieuenctid a chymuned helaeth.  Fel cwmni opera teithiol mwyaf y DU mae WNO yn gwmni dyfeisgar a chreadigol ac rydym yn credu ein bod wedi dod o hyd i arweinydd sy’n ymgorffori’r nodweddion hyn ac sy’n gymwys i ymgymryd â chynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol.Edrychwn ymlaen ato’n adeiladu perthynas waith wych gyda’n tîm arwain cryf."

Yn ystod ei gyfnod fel Cyfarwyddwr Cyffredinol Cwmni Opera Seattle, mae Aidan Lang wedi ffurfio partneriaethau newydd ar draws y diwydiant opera, gan gynnwys cyd-gynhyrchiadau gydag Opera Cenedlaethol Washington, Opera San Francisco, Opera Santa Fe, Gŵyl Glimmerglass, Opera Philadelphia, Opera Queensland ac Opera Seland Newydd.  Gwnaeth hefyd lansio’r gyntaf o nifer o operâu siambr a ddenodd gymeradwyaeth gan feirniaid ac a gynlluniwyd i arddangos operâu mewn goleuni newydd, yn enwedig y rhai sydd â chysylltiad uniongyrchol â’r sgyrsiau cymdeithasol sy’n digwydd heddiw.  Mae’r cwmni wedi ehangu ei raglenni ar gyfer ieuenctid ac oedolion yn sylweddol, ac mae ei gynulleidfa ar gyfer perfformiadau prif lwyfan wedi cynyddu o 67,000 yn ei dymor cyntaf i 85,000 yn y tymor sydd newydd orffen.  Mae’r mileniaid yn y gynulleidfa wedi cynyddu bron bedair gwaith yn ystod y cyfnod hwn ac erbyn hyn mae 40% o’r rhai sy’n prynu tocynnau i weld perfformiadau Seattle Opera dan 50 oed.  Bu Aidan hefyd yn goruchwylio datblygiad a’r ymdrechion codi arian ar gyfer cartref gweinyddu ac ymarfer newydd y cwmni, a fydd yn agor mis Rhagfyr eleni.

Cyn ei swydd bresennol yng Nghwmni Opera Seattle, roedd Lang yn Gyfarwyddwr Cyffredinol Cwmni Opera Seland Newydd rhwng 2006 a 2013.  Yn ystod ei gyfnod yno, elwodd y Cwmni ar gyfnod o dwf parhaus ac arloesi er gwaethaf yr heriau ariannol byd-eang.  Ehangodd y cwmni i gynnwys perfformiadau yn ninas Christchurch am y tro cyntaf a datblygodd weithdy cynhyrchu opera cyntaf Seland Newydd, gan sefydlu partneriaethau newydd a dulliau  cydweithredol o weithio.

Mae Aidan Lang hefyd wedi dal swyddi arweinyddiaeth artistig yng Ngŵyl Buxton, Opera Gŵyl Glyndebourne, Opera Teithiol Glyndebourne ac Opera Zuid yn yr Iseldiroedd.  Ar yr un pryd â’r swyddi arweinyddiaeth hyn, roedd Lang hefyd yn gyfarwyddwr llawrydd gyda galw mawr amdano ar draws y byd.  Dechreuodd ei yrfa yng Ngŵyl Glyndebourne, cyn ymuno ag Opera Cenedlaethol Cymru fel Cyfarwyddwr Staff.

Dywedodd Aidan Lang:  “Bydd hi’n anodd iawn gadael Cwmni Opera Seattle, gan fod y cwmni’n adnabyddus ar draws y byd am ei gymuned opera frwdfrydig a hael, a’r awyrgylch cynnes a chroesawgar mae’n ei greu i’w artistiaid.  Ond yn Opera Cenedlaethol Cymru y gwnaeth fy ngyrfa opera ddechrau go iawn, ac yno rwyf wastad wedi ystyried fy nghartref creadigol.  Yn ystod fy amser yno yn yr 1980au y deuthum i ddeall potensial opera fel modd i newid y ffordd y mae pobl yn ystyried y gymdeithas rydym yn byw ynddi, ac mae’r ddealltwriaeth honno wedi bod wrth wraidd fy holl waith byth ers hynny.  Braint anhygoel yw cael fy mhenodi yn Gyfarwyddwr Cyffredinol nesaf WNO, ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gael gweithio gyda Tomáš, y staff, y Bwrdd, y Corws, y Gerddorfa a’r amrywiol griwiau technegol sy’n ffurfio’r cwmni arbennig hwn.”

Dywedodd David Pountney a fydd yn gadael WNO fel Cyfarwyddwr Artistig yr haf nesaf: “Mae’n fraint arbennig croesawu Aidan fel Cyfarwyddwr Cyffredinol newydd WNO.  Mae’n weithiwr opera proffesiynol hynod brofiadol a gwybodus, ac mae’n rhyddhad mawr i mi wybod y bydd cwmni gwych WNO mewn dwylo diogel ac yn gallu adeiladu ar ei enw da fel ‘cwmni opera mwyaf beiddgar Prydain’ (The Spectator)”.

Dywedodd Tomáš Hanus, Cyfarwyddwr Cerdd WNO: “Hoffwn ddymuno sawl blwyddyn lwyddiannus iawn i Aidan gyda’n cwmni rhagorol.  Rwy’n siŵr y bydd ei nodweddion proffesiynol ac arwain niferus yn cyfrannu at gyfnod pwysig i WNO, wedi’i nodweddu gan y cyflawniadau artistig uchaf posib.  Pan ymunais â WNO ddwy flynedd yn ôl roedd ansawdd artistig ryfeddol, ymroddiad ac ysbryd cadarnhaol y Cwmni dan arweinyddiaeth artistig David Pountney yn ysbrydoliaeth anferthol i mi.  Rwy’n siŵr y bydd y Cyfarwyddwr Cyffredinol newydd yn mwynhau gweithio yma’n fawr iawn. Croeso, Aidan.”

Bydd Aidan Lang yn symud i Gymru gyda’i wraig, y gantores a’r cyfarwyddwr Linda Kitchen, a’u merch, Eleanor.