Gyda gwyliau'r Nadolig ar fin dod i ben a disgyblion yn mynd yn ôl i’r ysgol, rydym ni yn Opera Cenedlaethol Cymru yn edrych ymlaen at ein taith ein hunan i’r ystafell ddosbarth y gwanwyn hwn pan fyddwn yn cyflwyno ‘Yr Ysgol i Gariadon’ mewn cynhyrchiad newydd sbon o Così fan tutte gan Mozart. Yn yr opera gomig hon sy’n ymwneud â thyfu i fyny, caiff pedwar disgybl y chweched dosbarth wers werthfawr mewn cariad, bywyd a rhyddid pan mae eu hathro yn eu cynnwys mewn arbrawf cudd ac yn eu gosod mewn cyfres o senarios doniol.
Wrth gwrs, nid dyma’r unig dro i gelfyddyd, cariad ac ysgolion ddod yn un er ein difyrrwch. O sioeau cerdd, i ffilmiau a chaneuon i deledu, mae rhamant mewn ysgol uwchradd yn nodwedd barhaol mewn celfyddyd boblogaidd.
Mae'r teledu wastad wedi cyflwyno straeon amrywiol am gariad ifanc, o glasuron Prydeinig fel Grange Hill a Byker Grove lle gwelsom berthnasoedd rhwng Ted a Chrissy a Julie a’r ‘Gill’ Gillespie drygionus, yn eu tro, i ffefrynnau Americanaidd fel Beverly Hills, 90210 a Gossip Girl, nad oedd modd cadw ar flaen y cariadon a’r cyfnewid perthnasoedd ar y sgrin ac oddi arni. Roedd Beverly Hills yn llawn cariadon ifanc yn eu harddegau; Donna a David, Andrea a Steve, Brandon a Kelly a’r triongl cariad rhwng Kelly, efaill Brandon, sef Brenda, a bachgen drwg mwyaf golygus y 90au, Dylan McKay. Ac ar drywydd teledu'r 90au, rhaid i ni sôn am ‘School for Lovers’ a chwpl allweddol y 90au, Zack a Kelly o Saved by the Bell. Fe syfrdanwyd eu cefnogwyr pan wahanodd y ddau, ond roedd y sefyllfa yn adlewyrchu profiadau llawer o bobl ifanc yn yr ysgol uwchradd.
Yn niwylliant poblogaidd heddiw, mae'r gantores a'r cyfansoddwr caneuon, Taylor Swift, yn aml yn canu am ddyddiau'r ysgol a disgyn mewn cariad ac allan o gariad. Mae ei chân Betty yn archwilio triongl cariad yn yr ysgol uwchradd, a'r cymhlethdodau ynghlwm ag ef; mae You Belong With Me yn trafod emosiynau cariad ofer, gan daro deuddeg â gwrandawyr sydd wedi wynebu sefyllfaoedd tebyg yn yr ysgol; ac mae'r gân hyfryd Fifteen yn adlewyrchu heriau a gwersi mae rhywun yn eu dysgu yn yr ysgol.
Mae sioeau cerdd hefyd yn dueddol o ganolbwyntio ar fywydau cariadon yn yr ysgol a gwersi bywyd. Mae Hairspray (1988) wedi’i osod mewn ysgol uwchradd lle mae ymddangosiad personol, hil, cariad a dysgu’r hyn sydd fwyaf pwysig i chi yn flaenoriaeth. Serennodd yr unigolyn diweddaraf i ennill Seren ar y Walk of Fame yn Hollywood, Zac Efron, yn yr addasiad 2007 ar ôl dod i enwogrwydd yn High School Musical gan Disney (a’r ddwy ffilm a ddilynodd); stori ynglŷn â sut all dod o hyd i gariad ifanc eich rhoi ar lwybr i ddod o hyd i chi’ch hunan.
Un o’r sioeau cerdd enwocaf yn ymwneud â chariad mewn ysgol uwchradd yw Grease wrth gwrs. Mae yna sawl perthynas ramantus yn y ffilm, ond y stori gariad rhwng Danny a Sandy, a gyfarfu dros wyliau'r haf, yw’r stori eiconig. Gyda'r disgyblion yn dychwelyd i’r ysgol wedi gwyliau'r haf, maen nhw’n gwirioni o sylweddoli eu bod yn yr un flwyddyn, ond nid yw pethau mor rhwydd â hynny. Er bod uchafbwyntiau ac isafbwyntiau, yn y pendraw mae Danny a Sandy yn dod ynghyd.
I gael gwybod a yw'r cyplau yn ein cynhyrchiad newydd o Così fan tutte yn mwynhau diweddglo fel Danny a Sandy, ymunwch â ni yn y gwanwyn pan fyddwn yn mynd ar daith i Gaerdydd, Llandudno, Southampton, Rhydychen, Bryste a Birmingham.