Yn ddiweddar, cafodd prosiect Cysur Opera Cenedlaethol Cymru ei gydnabod fel rhan o ymgyrch gan y Loteri Genedlaethol i daflu goleuni ar unigolion yn sector y celfyddydau sy'n defnyddio cyllid y Loteri Genedlaethol i sicrhau bod pobl yn parhau i gael eu cynnwys a'u cyfoethogi gan y celfyddydau yn ystod amser o unigedd a chyfnodau clo. Ers y cyfnod clo cyntaf ym mis Mawrth, mae'r Côr Cysur (sy'n rhan allweddol o'r prosiect Cysur) wedi parhau i ddod ag oedolion â dementia a'u teuluoedd a'u cefnogwyr yn ardal Aberdaugleddau ynghyd, i ganu a chwarae cerddoriaeth mewn sesiynau wythnosol arlein.
Mae’r ffotograffydd o Brydain, Chris Floyd, wedi cipio cyfres o 13 portread o bobl ledled y DU, gan gynnwys y Cynhyrchydd WNO, Jennifer Hill, a greodd prosiect Cysur, i ddod â’r stori hon yn fyw. Mae'r portreadau gorffenedig wedi'u cartrefu'n ddigidol gyda nifer o orielau celf ledled y DU, a fydd yn cydweithredu am y tro cyntaf i ddangos eu cefnogaeth. Teitl y casgliad terfynol yw: Portreadau o'r Bobl y Loteri Genedlaethol 2020. Dilynwyd y canllawiau cadw pellter cymdeithasol wrth dynnu'r holl bortreadau.
Wedi’i ysbrydoli gan brofiad Jennifer o salwch ei mam, a’i fodelu ar brosiect peilot yn Abertawe, a ariannwyd gan y Loteri Genedlaethol ychydig flynyddoedd yn ôl, lansiwyd y prosiect yn Aberdaugleddau yn 2019 gyda chôr oedolion newydd a rhaglen i ysgolion. Mae'r ymarferion côr wythnosol yn cynnwys pobl â dementia sydd yng nghwmni ffrindiau, aelodau o'r teulu, gofalwyr a gwirfoddolwyr. 'Mae'n awr lawen,' meddai Jennifer. ‘Dydyn ni ddim yn siarad am ddementia, rydyn ni jyst yn cael amser braf yn canu ac yn cefnogi ein gilydd, a’r cyfle i adael unrhyw bryderon a straen wrth y drws a mwynhau amgylchedd cefnogol.
Pan darodd y pandemig, roedd yn ymddangos y byddai prosiect Cysur yn cael ei orfodi i gau oherwydd natur broblemus canu cymunedol. Fodd bynnag, roedd Jennifer yn benderfynol o gadw'r sesiynau i fynd. Er gwaethaf yr her anodd o symud y côr arlein - mae mwyafrif y cyfranogwyr yn 50 oed neu'n hŷn, ac nid oedd gan lawer ohonyn nhw gyfrifiadur gartref hyd yn oed - esblygodd Cysur y tu hwnt i gydganu yng nghanol mis Ebrill, gyda symudiadau corfforol byr ac ymarferion anadlu ar gyfer ymlacio, ynghyd ag ymarferion cwlwm tafod i gadw'r ymennydd yn brysur a pherfformiadau byr gan aelodau neu ein corws a'n cerddorfa.
Roedd y prosiect i fod i ddod i ben ym mis Gorffennaf gyda digwyddiad rhannu i'r holl gyfranogwyr, ond yn anochel nid oedd posib cynnal y digwyddiad wyneb yn wyneb. Yn benderfynol bod yn rhaid i'r sioe fynd yn ei blaen, trefnodd Jennifer ddigwyddiad rhithwir lle'r oedd aelodau'n rhannu caneuon, ochr yn ochr â chyfraniadau gan y tîm creadigol a ffilmiau byr a grëwyd gyda disgyblion ysgol.
Y gobaith yw y byddwn yn ôl yn ein cartref yn Theatr Torch, Sir Benfro rhyw dro yn y dyfodol. Y syniad wedyn fydd, oherwydd bod gennym y dechnoleg, y gallem dyfu'r rhaglen gyda sesiynau digidol fel y gall mwy o gartrefi gofal lleol ac unigolion nad ydynt yn gallu bod yno yn bersonol gymryd rhan o bell. Y bwriad yw defnyddio grym cerddoriaeth i ysgogi pobl i symud, ac os gallwn gynnwys mwy o bobl, rydym yn gwireddu ein cenhadaeth.