Newyddion

Grwpiau Opera Ieuenctid WNO yn uno'n ddigidol

25 Medi 2020

Tra ein bod ni wedi bod yn cadw'n ddiogel dan gloi mawr yn ystod y misoedd diwethaf, mae Opera Cenedlaethol Cymru wedi bod yn cadw mor brysur â phosib, gyda pherfformiadau digidol o adref, rhoi golwg y tu cefn i'r llen a gweithgareddau teuluol. Rydym hefyd wedi bod yn cadw mewn cysylltiad â grwpiau o bobl rydym yn gweithio â nhw wyneb yn wyneb fel arfer, ac mae hynny'n cynnwys Opera Ieuenctid WNO. Ar hyn o bryd, mae tri grŵp Opera Ieuenctid, wedi'u lleoli yn Ne Cymru, Gogledd Cymru a Birmingham, ac rydyn ni wedi defnyddio'r sefyllfa bresennol fel cyfle i ddod â'r grwpiau hynny ynghyd (arlein) am y tro cyntaf erioed.

Mae'r 82 person ifanc, sydd rhwng 6 – 18 oed yn uno mewn perfformiad o I Shall Not Live In Vain, o gerdd Emily Dickinson, ‘If I Can Stop One Heart From Breaking’. Neges sylfaenol y gân yw helpu eraill sydd angen eich cymorth, sy'n berthnasol iawn ar hyn o bryd. Roedd y gynulleidfa dan deimlad pan berfformiodd Opera Ieuenctid De Cymru'r darn yn 2016.

Bu i'r cyfranogwyr gychwyn ymarfer ar ddechrau mis Awst o fewn eu grwpiau, o'u cartrefi gan ddefnyddio Zoom, gyda'i harweinwyr Opera Ieuenctid rhanbarthol Dan Perkin a Sian Cameron (De Cymru), Jenny Pearson (Gogledd Cymru) a Suzie Purkis a Abigail Kelly (Birmingham). Recordiodd bob un o'r cantorion ifanc eu fideos a sain eu hunain, oedd yna'n cael ei anfon at Tŷ Cerdd, ein cyd-breswylwyr yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, a gynhyrchodd y fideo terfynol.

Dywedodd Paula Scott, Cynhyrchydd Opera Ieuenctid 'Nod y prosiect hwn oedd rhoi cyfle i bob cyfranogwr Opera Ieuenctid fod yn rhan o brofiad dysgu creadigol newydd. Cafodd y cyfranogwyr gyfle i gwrdd a chanu (arlein) gyfochr â'u ffrindiau yn rheolaidd unwaith eto, wrth weithio gyda'i gilydd ar brosiect arbennig iawn, lle roedd pob aelod yn perfformio gyda'i gilydd am y tro cyntaf erioed, yn ogystal â chael eu cynnwys mewn perfformiad ar fideo. Mae bob un ohonynt wedi gweithio'n galed iawn, gyda chymorth eu teuluoedd, dysgu sgiliau digidol newydd ac addasu at ffordd newydd o ddysgu a recordio cerdd/perfformio o adref, sydd yn gryn her i'w chyflawni... Dylai pob un fod yn falch iawn o'r hyn y maent wedi'i gyflawni yn ystod y cyfnod heriol hwn.'

Mae tymor hydref Opera Ieuenctid WNO yn cychwyn fis Medi, gyda sesiynau gweithdy wythnosol ar Zoom ar draws y 3 grŵp rhanbarthol, gyda'r gobaith o gychwyn ymarferion ym mis Ionawr 2021.


Cefnogir gweithgareddau Ieuenctid, Cymunedol a Digidol WNO gan rodd hael gan