Newyddion

Canllaw WNO i Rai sy’n Dechrau Canu Opera

14 Mawrth 2025

Yn ystod Tymor y Gwanwyn 2025, bydd cynhyrchiad newydd WNO o Peter Grimes gan Benjamin Britten yn cael ei lwyfannu. Roedd ein blog blaenorol, Canllaw Pobl Ifanc i’r Gerddorfa WNO, yn dwyn ysbrydoliaeth o gyfansoddiad Britten o’r un enw, ac ar ôl eich cyflwyno i’r gerddorfa, rydym wedi dewis chwe aria yn gyflwyniad i wahanol fathau o leisiau operatig. Os ydych chi wedi clywed y termau hyn o’r blaen ond nad oeddech chi'n gwybod beth oedd eu hystyr, dylai’r canllaw hwn eich helpu i ddeall y gwahaniaethau rhyngddynt mewn ychydig mwy o fanylder. 

Soprano- Mozart Queen of the Night o The Magic Flute 

Y soprano yw’r llais operatig uchaf ac yn aml dyma lais y prif gymeriadau benywaidd mewn opera. Un o’r arias soprano enwocaf yw Queen of the Night ac mae’n dangos hyblygrwydd lleisiol llais y soprano gyda’i rannau cyflym a nodau uchel. 

Mezzo-soprano- Bizet Habanera o Carmen 

Y llais mezzo-soprano yw’r rhan lleisiol ganolig ar gyfer menyw ac mae’n enwog am ei draw cyfoethog, cynnes. Yn Carmen, defnyddir y dôn yma i bortreadu natur nwydus ac angerddol y prif gymeriad sy’n rhoi ei henw i deitl y gwaith. Mae Mezzo sopranos yn aml hefyd yn chware ‘rhannau mewn trowsus’ megis Cherubino yn The Marriage of Figaro oherwydd yr hyblygrwydd yn eu lleisiau. 

Contralto- Wagner Weiche, Wotan! Weiche! o Das Rheingold 

Y llais contralto yw’r isaf o rannau lleisiol benywaidd. Mae llais contralto wirioneddol yn beth prin, ac felly mae rhannau a gafodd eu hysgrifennu’n wreiddiol ar gyfer contraltos yn aml yn cael eu perfformio gan leisiau mezzo-soprano. Mae gan leisiau contralto wirioneddol ansawdd nodedig, gyda mwy o ddyfnder, ac weithiau traw tywyllach, ac mae’r nodweddion hyn yn disgleirio yn y recordiad hwn o aria Wagner.  

Tenor- Puccini Nessun Dorma o Turandot

Y tenor yw’r llais gwrywaidd uchaf mewn opera ac fe’i diffinnir gan ei bŵer a’i allu i  berfformio nodau anhygoel o uchel. Nessun Dorma o Turandot gan Puccini yw un o’r arias enwocaf yn rhaglen y tenor. Mae’n ddarn llawn angerdd ac mae’n dangos gallu’r tenor, Pavarotti, i daro nodau uchel yn glir a chadarn. 

Baritone- Rossini Largo al factotum from The Barber of Seville 

Mae’r llais bariton yn gyfoethog a soniarus ac yn un o’r rhai mwyaf hyblyg mewn opera. Mae’n is na llais y tenor, ac felly yn aml fe’i defnyddir mewn amrywiaeth o ffyrdd i gyfleu digrifwch, brafado neu gymeriad arwrol wrth arddangos hyblygrwydd lleisiol.

Bass- Mozart Notte e giorno faticar from Don Giovanni 

Y llais bas yw’r dyfnaf a’r ystod lleisiol isaf mewn opera ac mae’n gyfoethog ac yn soniarus. Gall  y math hwn o lais gael ei ddefnyddio i gyfleu awdurdod a chynhesrwydd, neu gall fod yn gysylltiedig gyda chymeriadau tywyllach, mwy difrifol. Mae’n addas iawn yn Don Giovanni, opera gyda  themâuarbennig o dywyll. 

Gobeithiwn fod y canllaw hwn wedi eich helpu i ddarganfod amrywiaeth ac ystod y llais operatig. Os ydych yn awyddus i ddysgu mwy, gallwch ymuno gyda’n gwesteiwr Tom Redmond a Chorws  a cherddorfa WNO y Gwanwyn hwn ar gyfer cyngerdd teuluol WNO Chwarae Opera YN FYW lle byddwn yn twrio’n ddyfnach i gelfyddyd canu opera mewn ffordd hwyliog ac mewn lleoliad ymlaciol sy’n berffaith ar gyfer bob oed.