Newyddion

Cyngerdd i’r Teulu Diweddaraf WNO– blas bwganllyd ar opera

19 Hydref 2018

Yn dilyn llwyddiant y Cyngherddau Teulu blaenorol yn Neuadd Dewi Sant, mae WNO yn dychwelyd y mis hwn gyda pherfformiad newydd sbon ar y thema Calan Gaeaf sy’n berffaith i blant ac oedolion fel ei gilydd.

Mae Calan Gaeaf yn cynnig cyfle gwych i ni fod yn greadigol gyda’r cyngerdd hwn – o addurno’r neuadd gyngerdd a’r cynteddau, cynllunio gweithgareddau a gwisgoedd dychrynllyd, i ddod o hyd i raglen o ddarnau cerddoriaeth poblogaidd (ac eraill nad ydynt mor adnabyddus) i ddifyrru’r gynulleidfa.

Byddem wrth ein bodd petaech yn dod draw i Neuadd Dewi Sant yn gynnar, o 1pm ymlaen, lle bydd llond trol o gemau a gweithgareddau am ddim i aelodau ifanc y teulu gael cymryd rhan ynddynt (y cwbl yn agored i’r rheiny nad oes ganddynt docyn hefyd). Bydd helfa drysor, paentio wynebau, ac arddangosfeydd gwisgoedd a wigiau gan ein timau gwych yma yn WNO a hefyd cewch gyfle i gyfarfod rhai o’r cerddorion y byddwch yn eu gweld yn y cyngerdd yn hwyrach ymlaen. Cewch hyd yn oed gyfle i chwarae offeryn – ai chi yw drymiwr neu drombonydd y dyfodol?!

Rydym yn hynod falch o gael yr actor a’r ysgrifennwr o Gymru, Steve Speirs, fel ein cyflwynydd eleni. Gwnaeth Steve ei ymddangosiad cyntaf gyda WNO yn Haf 2017 yn rôl Frosch, ceidwad y carchar, yn Die Fledermaus. Efallai y bydd y gynulleidfa hefyd yn ei adnabod o’i ymddangosiadau yn Stella, Extras, Upstart Crow a Star Wars Episode 1 – The Phantom Menace.

Yn ogystal â chael Steve wrth y llyw, bydd gennym ein Harweinydd Cyngherddau Teulu rheolaidd, James Southall, sydd ar hyn o bryd ar daith gyda WNO yn arwain La traviata, a’r unawdwyr Ailish Tynan, Gareth Brynmor John a Sophie Yelland. Mae Ailish eisoes wedi ymddangos gyda WNO fel Gretel yn Hansel und Gretel – a byddwn yn ei chlywed yn perfformio ariâu o’r opera honno yn y cyngerdd; aeth Gareth ar daith ledled Cymru yn ddiweddar gyda chyngerdd Clasuron Opera’r Haf Cerddorfa WNO, yn ogystal ag ymddangos yn La bohéme a Don Giovanni mewn tymhorau opera diweddar; mae Sophie wedi perfformio gyda WNO ar sawl achlysur ac, yn ddiweddar, daeth yn aelod parhaol o Gorws WNO.

Mae WNO wrth eu boddau yn cyflwyno amrywiaeth o gerddoriaeth yn y cyngherddau hyn, fel y gall pawb fwynhau’r profiad o gerddorfa fyw, pa un ai hwn yw eich tro cyntaf neu eich bod yn ymwelydd rheolaidd. Mae’r thema Calan Gaeaf yn rhoi cyfle i ni gael ychydig o hwyl hefyd, felly yn ogystal ag ariâu o Hansel und Gretel a The Magic Flute byddwch yn clywed darnau poblogaidd o fyd ffilm a theledu, gan gynnwys Batman a Harry Potter.

Dewch draw i fwynhau Calan Gaeaf gyda WNO.