Newyddion

WNO yn dychwelyd i Hong Kong

26 Chwefror 2018

Ym mis Mawrth 2018 Fe aeth y Cwmni i Hong Kong fel rhan o 46fed Gŵyl Gelfyddydau Hong Kong sy’n rhedeg o 23 Chwefror i 24 Mawrth 2018.

 Fe berfformiwyd ein cynhyrchiad o Pelléas et Mélisande Debussy, a berfformiwyd diwethaf yn ystod tymor yr Haf 2015, yn yr ŵyl , ar ddydd Iau 15 a dydd Sadwrn 17 Mawrth 2018. Fe ddychwelodd yr un aelodau a gymerodd ran yn ein perfformiadau yn 2015 i ffurfio’r prif gast, yn cynnwys Christopher Purves fel Golaud, Jacques Imbrailo fel Pelléas a Jurgita Adamonyté fel Mélisande. Hwn oedd y tro cyntaf i ni ymweld â’r ŵyl ers i ni fynd â La bohème yno yn 2007.

Nid yr opera’n unig fe wnaethom gynnig yn yr Ŵyl, fe wnaeth ein hadran Ieuenctid a Chymuned mynd â detholiad o’n digwyddiadau cyfranogi arferol ar gyfer teuluoedd yno hefyd.

 Y prif atyniad oedd y Cyngerdd Teuluol, O is for Opera!, ar y nos Wener a ddilynodd fformiwla lwyddiannus ein cyngherddau yn Neuadd Dewi Sant yma yng Nghaerdydd, Southampton a Birmingham. Yn ystod y dydd fe wnaethom gynnal Diwrnod Antur Opera, a oedd yn rhannu fflagiau WNO a masgiau opera i blant wrth iddyn nhw gyrraedd. Yn ogystal, fe oedd arddangosfa o bropiau a gwisgoedd, arddangosiadau offerynnau cerdd i blant, ynghyd â phaentio wynebau ac arddangosiadau wigiau, ac mi oedd yna gyfle hefyd i gymryd rhan mewn gweithdy offerynnau taro. Yn ogystal a hyn fe wnaeth ein profiad rhith wirionedd (VR) poblogaidd, Magic Butterfly, hedfan dramor hefyd ar gyfer ambell sesiwn yn gynnar gyda’r nos.

I’r rhai sydd â diddordeb yn y storïau tu ôl i opera, y gerddoriaeth a’r caneuon, fe wnaethom cynnal tri sesiwn gweithdy er mwyn mynd â’r gynulleidfa ar ‘Wibdaith o gwmpas Carmen’. Yn ogystal, fe oedd gyfleoedd i glywed ein Cyfarwyddwr Artistig, David Pountney, neu ein Cyfarwyddwr Gweinyddu Artistig, Nicholas Winter, yn siarad am Pelléas et Mélisande mewn sgyrsiau cyn y perfformiad ar y nos Iau neu’r nos Sadwrn. Yn ogystal, fe wnaeth David cyflwyno sgwrs dan faner ‘Arweinydd Diwylliannol Nodedig Cyfres V’ yr Ŵyl ar y dydd Iau; yn siarad am ei angerdd at yr opera a’r heriau sy’n wynebu’r gelfyddyd heddiw.

Ar y dydd Sadwrn cynnigwyd perfformiadau cyntedd, ynghyd â mwy o arddangosiadau colur a wigiau, yn cynnwys sesiwn arbennig i blant yn edrych ar golur ar gyfer y llwyfan. Fe oedd mwy o gyfleoedd i gwrdd ag aelodau’r Gerddorfa a rhoi cynnig ar chwarae’r gwahanol offerynnau, ac fe wnaeth ein Corws cymryd rhan mewn perfformiad cyngerdd. Felly oedd cynrychiolwyr o’r Cwmni cyfan yn yr ŵyl i roi blas o’r hyn sydd ynghlwm â llwyfannu opera, gyda thaith gefn llwyfan o Pelléas et Mélisande yn cwblhau’r arlwy.