A barnu yn ôl ei theitl, byddech yn meddwl mai’r prif gymeriad yn opera Mozart yw Figaro. Ond, er ei holl gynllwynion, y merched mewn gwirionedd, sef Iarlles Almaviva a’i morwyn, Susanna, sy’n sbarduno’r naratif ac yn cyfleu grym emosiynol The Marriage of Figaro.
Roedd Mozart a’i libretwr, Da Ponte, wedi gweld potensial mewn addasu drama Ffrengig ddadleuol Beaumarchais ym 1784, oedd wedi’i gwahardd. Ond, i sicrhau y gellid perfformio unrhyw opera heb sensoriaeth, bu rhaid i Da Ponte fynd ati’n ofalus i adolygu a lleihau elfennau mwy chwyldroadol y sgript, heb golli’r tensiwn cymdeithasol, yr elfennau comig, a’r beiddgarwch dychanol. Arweiniodd hyn at opera a oedd yn canolbwyntio mwy ar broblemau ac emosiynau’r cymeriadau, a’r gwrthdaro rhyngddynt. Yn ogystal â gwneud hwyl am ben breintiau ac ymddygiad aristocrataidd, mae’r opera hefyd yn gwawdio dynameg y pŵer rhwng gwas a meistr, ac yn enwedig rhwng dynion a merched. Er mai merched sydd wedi’u mygu mewn cymdeithas batriarchaidd yw Susanna a’r Iarlles, portreadir eu bod yn ddeallus ac yn ymwthgar, a’u bod yn mynd ati’n fwriadol i danseilio’r Iarll. Trwy gymeradwyo perthynas fwy cydraddol rhwng dynion a merched, roedd The Marriage of Figaroyn torri tir newydd, ac yn flaengar.
Mae’r opera nid yn unig yn dangos dawn arbennig Mozart fel cyfansoddwr, ond fel dramodydd, sy’n mynd ati’n ddeheuig i gyfuno hiwmor, dwyster ac emosiynau dynol cymhleth trwy gerddoriaeth. Y sgôr hon yw’r cyfuniad perffaith o gerddoriaeth a drama. Roedd ei allu i fynegi cymeriad ac emosiwn trwy gerddoriaeth ar y lefel hon yn wych, ac ni welwyd ei debyg o’r blaen. Mae Mozart yn defnyddio ffurfiau cerddorol cyferbyniol i ddarlunio’r gwahanol ddosbarthiadau cymdeithasol a rhywiau, gyda chymeriadau aristocrataidd yn aml yn cael eu cyfleu trwy gerddoriaeth fwy cain, ffurfiol, a’r gweision a’r morwynion trwy felodïau mwy syml a bywiog. Enghraifft o hyn yw’r ddeuawd hyfryd Canzonetta sull’aria rhwng yr Iarlles a Susanna, sy’n creu cydadwaith teimladwy ac ennyd o agosrwydd a thensiwn cynnil. Mae’r gerddoriaeth yn awgrymu perthynas glós iawn rhwng y merched hyn.
O safbwynt cerddorol, hwyrach mai Susanna, sef darpar wraig Figaro a thestun sylw amhriodol yr Iarll, yw’r cymeriad mwyaf amryddawn yn yr opera. Mae ei cherddoriaeth yn llawn ysgafnder, ceinder a deallusrwydd, sy’n adlewyrchu ei rôl ganolog yn y naratif, ynghyd â chynildeb a graslonrwydd ei hemosiynau.
Yr Iarlles, sef cymeriad sy’n nodedig am ei hurddas a’i dyfnder emosiynol, sy’n cael peth o gerddoriaeth hyfrytaf a mwyaf ingol yr opera. Mae ei hariâu, Porgi, amor a Dove sono, yn llawn ymdeimlad o dristwch, colled a hiraeth wrth iddi ddelio ag anffyddlondeb ei gŵr. Ond eto, trwy ei cherddoriaeth, gwelwn hefyd ei chryfder a’i gwydnwch, yn enwedig yng ngolygfa olaf yr opera, ym mhle mae hi’n benderfynol o faddau i’r Iarll.
Mae’r gerddoriaeth ensemble yn yr opera yn rhyfeddol, o ran y modd y mae’n gwau nifer o leisiau gyda’i gilydd yn gelfydd, ond eto’n caniatáu i bob cymeriad fynegi ei feddyliau a’i deimladau. Mae’r diweddglo i Act II yn ddosbarth meistr mewn strwythur operatig, gyda’r anrhefn yn cynyddu, yr emosiynau’n dwysáu, y plotiau’n cymhlethu, a sawl cymeriad yn rhyngweithio mewn rhaeadr o gerddoriaeth ddyrchafedig a thensiwn dramatig.
Mae’r merched yn The Marriage of Figaro yn llawer doethach, craffach a gwaraidd na’r dynion. Wrth i Susanna ganu: Aprite un po’ quegli occhi, uomini incauti e sciocchi! (Agorwch y llygaid yna rywfaint, chwi ddynion diofal, ffôl!) mae hi’n gwawdio’r dynion yn ei bywyd yn chwareus. Mae Susanna’n llawn bywyd ac yn ymwthgar, ond mae’r Iarlles yn aml yn fwy pruddglwyfus a myfyriol, sy’n cyfleu brwydrau emosiynol dyfnach. Gyda’i gilydd, maent yn dangos dwy ochr ddramatig a cherddorol: gwydnwch a ffraethineb Susanna, a graslonrwydd a hiraeth yr Iarlles. Yn y bôn, y merched yw calon ac enaid yr opera.
Mae cynhyrchiad poblogaidd WNO o gampwaith Mozart, The Marriage of Figaro, yn mynd ar daith o 6 Chwefror yng Nghaerdydd, ac wedyn yn Abertawe, Southampton, Birmingham, Milton Keynes a Plymouth o 27 Chwefror i 6 Mehefin.