Newyddion

‘Rip it up!’ – Gallwch chithau newid y drefn!

6 Mehefin 2018

Cofiwch eich baner, tynnwch eich staes a dewch i’n helpu i ddathlu can mlynedd ers i’r merched cyntaf gael pleidleisio.

Awydd cael mwy o brofiadau gyda WNO yr haf hwn? Rydym ni’n cynnig ystod eang o ddigwyddiadau a gweithgareddau i gyd-fynd â’n perfformiadau o Rhondda Rips it Up! Felly, p’un a ydych chi’n 8 neu’n 80 mlwydd oed, ymunwch â ni ar ein hanturiaethau gyda mudiad y Swffragetiaid yng Nghymru a dysgwch mwy am y cyfnod hanesyddol hwn ym mywydau merched Prydain. O symposiwm ar ferched mewn cerddoriaeth glasurol, i weithdai creadigol, diwrnod o weithgareddau teuluol i gyfleoedd i ganu rhai o anthemau’r swffragetiaid, dewch draw ac ymunwch â ni.

I gyd-fynd â sioe agoriadol Rhondda Rips it Up! ar ddydd Iau 7 Mehefin, rydym yn cynnal symposiwm ar gyfer merched mewn cerddoriaeth glasurol yng Nglan yr Afon, Casnewydd, ‘Ble mae’r merched?’. Bwriad hyn yw pwysleisio prinder merched ym myd cerddoriaeth glasurol – mae arweinwyr, cyfansoddwyr a chyfarwyddwyr sy’n ferched yn hynod brin. Mae achosion tebyg mewn meysydd celfyddydol eraill megis y diwydiant ffilm, lle mae’r pwnc erbyn hyn yn agored i’w drafod, o leiaf; yma gobeithiwn godi proffil diffyg menywod yn ein diwydiant. Os ydych yn gweithio yn y sector, ymunwch â ni a rhannwch eich barn – gallwch archebu lle, neu am fwy o wybodaeth ewch draw i’n tudalen ddigwyddiadau. Mae’n gyfle unigryw i’r holl fenywod yn y sector godi eu llais a lleisio’u barn, gwneud safiad, a dilyn ôl traed Arglwyddes Rhondda a’i chyd-swffragetiaid.

Efallai fod gennych awydd diwrnod o weithgareddau rhad ac am ddim i’r teulu? Ar ddydd Sul 10 Mehefin, rydym yn cynnal ein hail ddiwrnod WNO yn yr Amgueddfa, sydd, o bosibl, yn newydd da i rai o aelodau ifanc ein cynulleidfa, neu’r rhai ohonoch sydd â phlant i’w diddanu. Wrth i chi ddysgu am Arglwyddes Rhondda a’r bywyd rhyfeddol a gafodd, rhowch gynnig ar wneud propiau, ceisiwch chwarae offeryn neu ddau, gwrandewch ar straeon neu gwyliwch berfformiad opera gwib. Neu efallai mentrwch ymhellach yn ôl mewn amser yn arddangosfeydd parhaol Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, oherwydd sut y gallwch chi barhau gyda nod y swffragetiaid i newid y byd os nad ydych chi’n gwybod sut ddechreuodd y byd?

Fodd bynnag, os ydych yn chwilota am esgus i ganu eich hun, yna byddwch yn hynod falch o glywed y byddwn yn cynnal mwy o ddigwyddiadau Dewch i Ganu, yn ystod mis Mehefin mewn sawl lleoliad Rhondda Rips It Up! ledled Cymru a Lloegr. Felly, rhowch nodyn yn eich dyddiadur bod angen cyrraedd yn fuan, dysgu rhai o’r caneuon ac efallai hyd yn oed  ‘cyfrannu’ yn ystod y sioe – a’r cwbl er mwyn i’r profiad fod yn un dilys, i’n helpu ni gynnau awyrgylch Neuadd Gerdd.

Yn dod â’r cwbl yn ôl i’r presennol, rydym hefyd yn lansio ein profiad digidol mwyaf diweddar, Rhondda Rebel yn Nhŷ’r Sesiynau ym Mrynbuga lle bu Margaret Haig Thomas yn garcharor am ei bom cartref mewn blwch postio. Yn gymysg o wirionedd estynedig a pherfformiad byw i’ch tywys chi i dreial yr Arglwyddes Rhondda, a osodir yn yr union ystafell llys lle y cafodd ei dedfrydu. Os nad ydych yn gallu cyrraedd Brynbuga, na phoener, byddwn yn mynd â fersiwn i Gwrt Insole ac Adeilad y Pierhead yng Nghaerdydd, ac i leoliadau eraill yn hwyrach yn y flwyddyn hefyd. Rhestrir y cwbl ar ein gwefan.

Felly, mewn gwirionedd, mae gennym rywbeth at ddant pawb – cadwch lygad ar ein tudalen pwrpasol am fwy o newydd fel y mae’n digwydd.