Yng ngwanwyn 2019 bydd WNO yn adfywio ei gynhyrchiad 2005 o The Magic Flute gan Mozart - antur hwyliog, liwgar, rhyfeddol, o natur stori dylwyth teg, wedi’i hysbrydoli gan Magritte, gan Dominic Cooke a adfywiwyd diwethaf yn 2015.
Mae The Magic Flute yn ddewis hynod boblogaidd, ac mae ein cynhyrchiad ni gyda’i gimwch mawr, beic pysgodyn a llu o anifeiliaid eraill all ddarllen papurau newydd, yn sicr o ddal eich llygaid yn ogystal â’ch clyw. Mae yna glogyn o blu amryliw Papageno, yr heliwr adar; y Corws â’u hetiau bowler a’u siwtiau; a Brenhines y Nos â’i ffrog arbennig. Hefyd, mae yna gwpl o offerynnau cerddorol hudol - y ffliwt o’r teitl a set o glychau. Mae gan yr opera hon bopeth: dyn drwg (neu a yw’n ddrwg mewn gwirionedd?) sy’n herwgipio’r dywysoges; tywysog yn cychwyn arni i’w hachub dan orchymyn y frenhines gyda’r addewid y caiff briodi’r dywysoges; partner doniol; tair boneddiges breswyl; a thri thywyswr ysbrydol.
Sameer Rahim, The Telegraph, 22 April 2013 in a piece related to the ROH David McVivar revivalThe plot of The Magic Flute is more akin to a fairy tale: a noble prince is ordered by the mysterious Queen of the Night to rescue a beautiful princess who has been kidnapped.
Ac oes, rhag ofn nad yw cyffredinrwydd y trioedd yn ei ddatgelu’n llwyr, mae yna gysylltiad Masonaidd - roedd Mozart yn Saer Rhydd ac mae rhai yn dehongli The Magic Flute, gyda’i gyfeiriadaeth niferus at y rhif tri a’r profion sy’n rhaid i Tamino a Pamina eu hymgymryd â nhw, fel symbolau o ddefodau Masonaidd. Mae’r elfennau rhyfeddol i’r stori yn ‘cuddio’r’ themâu o Oleuedigaeth, o’r daith hunan-wella dynol, yn ysbrydol: dewrder, rhinweddau a doethineb yn cael eu gwobrwyo; anwybodaeth, gwendid a llygredigaeth yn cael eu gorchfygu. Pwysleisiodd Julian Crouch, Dylunydd y Set, y cysylltiad ymhellach drwy roi tri drws yr un yn nhair wal y set.
Dominic CookeThe fundamental idea is that human beings are full of contradictions… What Mozart is interested in are the contradictions in human behaviour and human experience and how people can hold two opposite desires at the same time
Mae’n opera Singspiel, ffurf ar opera Almaenaidd sy’n deillio o’r 18fed ganrif, sy’n golygu bod ‘deialog’ yn ogystal â chanu (‘drama-ganu’ yn llythrennol) - gan ganiatáu ‘perthynas uniongyrchol â’r gynulleidfa, gan gynnwys siarad gyda nhw ar draws y goleuni’ (rhaglen 2005 WNO). Bu i The Magic Flute wneud ei ymddangosiad cyntaf yn Theater auf dêr Wieden, yn Fienna ar 30 Medi 1791 ychydig fisoedd cyn marwolaeth Mozart, mewn theatr faestrefol, boblogaidd yn hytrach na theatr llys fawreddog.
Mae’r stori yn dilyn Tamino, tywysog y darn, a gaiff ei achub rhag ymosodiad gan anghenfil gan dair merch yn gwasanaethu Brenhines y Nos. Dymuna’r Frenhines iddo achub ei merch, Pamina, rhag yr archoffeiriad drwg, Sarastro. Unwaith y gwelai ei llun, mae Tamino yn disgyn mewn cariad ac yn cychwyn ar ei gwest, gyda chymorth Papageno, yr heliwr adar, ac arweiniad gan dri bachgen, yr ysbrydion. Gyda’r ffliwt hudol a’r set o glychau hudol, cychwynnant ar eu taith i deyrnas Sarastro. Yn ystod y daith hon, yn gorfforol ac ysbrydol, gyda chyfres o dri phrawf i’w gorchfygu cyn y gallent lwyddo a chael eu derbyn i frawdoliaeth Sarastro, y datgelir y gwir ac mae goleuni yn trechu nos a thywyllwch. Ac am unwaith mewn opera, mae’r dyn yn ennill y ferch - diweddglo megis stori dylwyth teg.
Nid yw’n syndod bod The Magic Flute wedi cael sylw mewn llu o rithiau diwylliannol poblogaidd, o ffurfio’r themâu canolog mewn pennod o’r rhaglen deledu Inspector Morse a oedd yn dwyn y teitl ‘Masonic Mysteries’, a oedd yn chwarae ar thema waelodol yr opera; i’r sgrin fawr, o Miss Congeniality i The Rocketeer, Face/Off i Eat Pray Love. Mae rhaglenni eraill a ddefnyddiodd y gerddoriaeth yn cynnwys Buffy the Vampire Slayer, Gossip Girl a House.
Caiff poblogrwydd bythol The Magic Flute ei bwysleisio ymhellach gan ei bresenoldeb parhaus yn repertoire'r holl gwmnïau opera. Mae’n ffefryn parhaol ar bob ffurf - yn union fel y straeon tylwyth teg gorau.