Y Wasg

Sioe liwgar o gerddoriaeth, dawns a barddoniaeth gydag Opera Cenedlaethol Cymru’r Hydref hwn

19 Gorffennaf 2023
  • Perfformiad cyntaf o Ainadamar (Osvaldo Golijov) yng Nghymru, wedi ei gyfarwyddo gan y coreograffwr byd-enwog Deborah Colker, ac yn cynnwys enillydd Gwobr y Gynulleidfa Canwr y Byd Caerdydd 2023, Julieth Lozano Rolong
  • Mae Alexander Joel yn dychwelyd i WNO i arwain cynhyrchiad clodfawr Syr David McVicar o La traviata (Verdi), gyda Stacey Alleaume
  • Lansio cyfres Cwta | Compact gyda La traviata
  • Cerddorfa WNO i berfformio Symffoni Gyntaf Brahms a Four Last Songs gan Strauss yn Neuadd Dewi Sant gyda’r soprano Chen Reiss
  • Cyngerdd i’r teulu Chwarae Opera YN FYW yn dychwelyd am daith estynedig ar thema'r gofod

 

Ainadamar

Mae fflamenco a barddoniaeth yn cwrdd ag opera wrth i Dymor yr Hydref Opera Cenedlaethol Cymru agor gyda'r perfformiad cyntaf yng Nghymru o Ainadamar gan y cyfansoddwr o’r Ariannin, Osvaldo Golijov. Yn gynhyrchiad ar y cyd ag Opera Ventures, Scottish Opera, Detroit Opera, a’r Metropolitan Opera, perfformiwyd y llwyfaniad cyntaf yn y DU gan Scottish Opera yn Nhymor yr Hydref 2022 i ganmoliaeth beirniaid o bob cwr. Wedi’i ganu yn Sbaeneg - sy’n hollol newydd i WNO - mae’r gwaith sydd wedi cipio dwy wobr Grammy, yn ail-ddychmygu bywyd y bardd a’r dramodydd o Sbaen, Federico García Lorca, fel merthyr artistig drwy ôl-fflach o atgofion ei awen a’i gydweithredwr, yr actores Margarita Xirgu.

Yng nghadair y cyfarwyddwr mae’r coreograffwr o Frasil, sef Deborah Colker, sy’n adnabyddus yn rhyngwladol ac wedi ennill gwobr Olivier (Gemau Olympaidd Rio 2016, Cirque du Soleil) y mae ei hagwedd yn addo sioe liwgar o gerddoriaeth, dawns a theatr. Mae Ainadamar yn cyfuno opera glasurol a dawns fflamenco draddodiadol i adrodd stori Lorca.

Mae Matthew Kofi Waldren yn dychwelyd i WNO i arwain Ainadamar, yn dilyn rhediad llwyddiannus o Migrations gyda’r Cwmni yn Haf a Hydref 2022. Wedi ei arwain gan driawd o leisiau merched, mae’r cast rhyngwladol yn cynnwys y soprano o’r Ariannin, Jaquelina Livieri (Margarita Xirgu) a’r mezzo-soprano o Wlad Pwyl, Hanna Hipp (Federico García Lorca).

Yn ymuno â’r ddwy mae seren y dyfodol, y soprano o Golombia, Julieth Lozano Rolong (Nuria), a gafodd ei choroni gyda Gwobr y Fonesig Kiri Te Kanawa yng nghystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd, yn ogystal â’r canwr fflamenco o Andalucia, Alfredo Tejada (Ruiz Alonso). Mae’r cast hefyd yn cynnwys Annie Reilly (Niña 1) ac Artist Cyswllt newydd WNO, Beca Davies (Niña 2).

Caiff Ainadamar ei berfformio gyntaf yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd ar 9 Medi cyn teithio i Landudno (10 Hydref), Bryste (17 Hydref), Plymouth (31 Hydref), Birmingham (7 Tachwedd), Milton Keynes (16 Tachwedd), a Southampton (22 Tachwedd).

 

La traviata Mae cynhyrchiad clodfawr Syr David McVicar o La traviata poblogaidd Verdi, yn dychwelyd i WNO gyda Sarah Crisp yn cyfarwyddo. Mae’r stori glasurol am gariad wedi'i rwystro, sgandal a hunan-aberth wedi ei seilio ar nofel Alexandre Dumas fils, La Dame aux Camélias.

Dan arweiniad Alexander Joel, bydd y cynhyrchiad yn cynnwys y soprano o Awstralia a Mawrisia, Stacey Alleaume a fydd yn gwneud ei hymddangosiad cyntaf gydag WNO fel y butain llys osgeiddig, Violetta Valéry, sy’n wynebu’r dewis o droi cefn ar ei bywyd moethus i ddod o hyd i gariad pur gyda’r bardd aristocrataidd tlawd, Alfredo Germont, sy’n cael ei chwarae gan y tenor David Junghoon Kim. Yn ymuno â’r cast hefyd mae’r bariton bas o America, Mark S Doss, sy’n dychwelyd i WNO i ganu rhan Giorgio Germont, tad Alfredo.

Caiff La traviata ei berfformio gyntaf yng Nghaerdydd ar 21 Medi cyn teithio i Landudno (12 a 14 Hydref), Bryste (19 a 21 Hydref), Plymouth (2 a 4 Tachwedd), Birmingham (9 ac 11 Tachwedd), Milton Keynes (18 Tachwedd), a Southampton (24 a 25 Tachwedd).

 

Cerddorfa WNO

Fel rhan o Gyfres Glasurol Caerdydd yn Neuadd Dewi Sant Caerdydd, bydd Cerddorfa WNO yn perfformio cyngerdd gyda’r thema Cariad a Cholled ar 29 Hydref dan faton Cyfarwyddwr Cerddoriaeth WNO, Tomáš Hanus. Mae’r rhaglen, sy’n archwilio alawon rhamantaidd ac uchafbwyntiau ac isafbwyntiau cariad ac aberth, yn cynnwys Symffoni Gyntaf aruchel Brahms, ochr yn ochr ag agorawd ffantasi Romeo and Juliet gan Tchaikovsky a Four Last Songs meistrolgar Richard Strauss, yn cael eu canu gan y soprano o Israel, Chen Reiss.

 

Chwarae Opera YN FYW

Bydd WNO yn parhau gyda’i gyfres o gyngherddau poblogaidd i deuluoedd, Chwarae Opera YN FYW, gan ddechrau arni gyda sioe â thema’r gofod iddi a gyflwynir gan Tom Redmond. Bydd y cyngerdd yn cynnig golwg newydd ar opera a cherddoriaeth glasurol, yn cynnwys chwarae cerddorfaol, cân a pherfformio. Bydd gweithgareddau am ddim ar gael yn y cyntedd cyn bob perfformiad. Caiff Chwarae OperaYN FYW ei berfformio gyntaf yng Nghaerdydd ar 30 Medi cyn teithio i Landudno (14 Hydref), Bryste (21 Hydref), Plymouth (4 Tachwedd), Birmingham (11 Tachwedd) a Southampton (25 Tachwedd) ynghyd â’r brif daith. Dyma’r tro cyntaf i Chwarae Opera YN FYW ymweld â Bryste.

 

Gweithgaredd Prosiectau ac Ymgysylltu

Ochr yn ochr â’r cyngherddau a fydd yn cefnogi’r prif deithiau opera, bydd WNO yn parhau gyda rhaglen amrywiol o weithgareddau cymunedol ac ymgysylltu.  Côr Cysur Bydd WNO yn treialu Côr Cysur newydd yn Llanelli yr Hydref hwn gan gynnal cyfres gychwynnol o 8 sesiwn wythnosol awr o hyd yn dechrau 19 Medi. Mae Côr Cysur yn cynorthwyo’r rhai sydd â dementia, eu gofalwyr a’u teuluoedd drwy fwynhau canu cymunedol mewn sesiynau cynhwysol lle gellir gadael pryderon a heriau bob dydd wrth y drws. Mae WNO wedi dod ynghyd â Theatrau Sir Gaerfyrddin a Ffwrnes yn benodol lle fydd y côr yn cael ei gynnal. Mae’r lleoliad newydd hwn yn uno’r ddau gôr arall sydd eisoes yn gweithredu yn Aberdaugleddau a Llandeilo.


La traviata Cwta | Compact Bydd cyfres dreialu Cwta | Compact WNO yn dechrau’r Hydref hwn gyda fersiwn gryno o La traviata. Mae’r prosiect hwn yn cynnig fersiwn gryno o operâu clasurol gyda’r nod o ddenu pobl newydd i ddod i weld y gelfyddyd. Bydd y perfformiadau hyn, sy’n cael eu lansio gyntaf yng Nghaerdydd, ar agor i ddisgyblion ysgol 11-14 oed. Yna bydd y Cwmni’n mynd â Cwta | Compact ar daith i ddau o leoliadau teithio rheolaidd WNO, Llandudno a Plymouth, lle bydd perfformiadau’n cael eu hategu gan raglen Ddarganfod gyffredinol o weithdai creadigol ar gyfer grwpiau ysgol penodol. Nod y prosiect yw cysylltu cynyrchiadau teithio llawn WNO a’r rhaglen ymgysylltu ehangach.

Clwb Canu Dros yr Haf, bydd WNO yn lansio grŵp canu dwyieithog newydd yn y Galeri, Caernarfon, gogledd Cymru lle all pobl ifanc rhwng 7-12 oed fwynhau drwy ganu. Bydd y prosiect pedair wythnos yn cael ei arwain gan y bariton a’r tiwtor llais, Caleb Rhys a Scott Howarth, a bydd yn cynnig lle i bobl ifanc ddysgu technegau sylfaenol llais a chwrdd â ffrindiau newydd. Bydd y cynllun treialu’n parhau wedyn yn nhymor yr Hydref gyda dyddiadau newydd yn cael eu hychwanegu.

Dywedodd Cyfarwyddwr Cyffredinol WNO, Aidan Lang:

“Rydym wrth ein bodd o agor Tymor yr Hydref gyda pherfformiad cyntaf hir ddisgwyliedig o Ainadamar gan Osvaldo Golojov. Dyma’r tro cyntaf i gynulleidfaoedd yng Nghymru a Lloegr weld y cynhyrchiad hwn, sy’n cyfuno opera gyda cherddoriaeth Lladin, fflamenco, dawns a barddoniaeth, ac sy’n addo bod yn wledd i’r llygad. Mae Ainadamar yn cynnig rhywbeth hollol wahanol i’r hyn maent wedi ei brofi gynt i’n cynulleidfaoedd. Ochr yn ochr â’r cynhyrchiad newydd hwn, bydd y Cwmni’n perfformio cynhyrchiad o’r La traviata poblogaidd gan Syr David McVicar, dan faton Alexander Joel. Rydym wrth ein bodd yn cynnwys perfformiad cyntaf yn y DU y soprano o Awstralia a Mawrisia, Stacey Alleaume, yn y brif ran.”

“Mae nifer o brosiectau cyffrous newydd yn cael eu lansio yn Nhymor yr Hydref drwy waith gwych ein tîm Prosiectau ac Ymgysylltu, yn cynnwys ein perfformiadau Cwta | Compact newydd. Mae’r prosiect hwn yn ffordd o gyflwyno byd yr opera a cherddoriaeth glasurol i’r rhai na fyddant fel arall yn cael profiad ohono, a hynny drwy gyflwyno’r opera ar ffurf gryno.”

 

DIWEDD

wno.org.uk


Nodiadau i Olygyddion

Opera Cenedlaethol Cymru yw'r cwmni opera cenedlaethol ar gyfer Cymru, a ariennir gan Gynghorau Celfyddydau Cymru a Lloegr i ddarparu operâu ar raddfa fawr, cyngherddau a gwaith allgymorth ledled Cymru ac mewn dinasoedd mawr yn rhanbarthau Lloegr.  Rydym yn ymdrechu i gynnig profiadau trawsnewidiol drwy ein rhaglen addysg ac allgymorth a'n prosiectau digidol llwyddiannus.  Rydym yn gweithio gyda'n partneriaid i ddarganfod a meithrin doniau operatig ifanc, a'n nod yw dangos i genedlaethau'r dyfodol bod opera'n gelfyddyd foddhaus, berthnasol a byd-eang sydd â'r grym i gael effaith ac i ysbrydoli. 

Mae lluniau cynyrchiadau WNO ar gael i'w lawrlwytho o https://wno.org.uk/cy/press

 Prif gymorth cynhyrchiad gan Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston.

Mae cynyrchiadau a chomisiynau newydd WNO yn cael eu cefnogi gan Sefydliad John Ellerman

Cynhyrchiad ar y cyd gydag Opera Ventures, Scottish Opera, Detroit Opera a The Metropolitan Opera yw Ainadamar. Prif gymorth i Ainadamar yw Enrique Sacau a Ditlev Rindom a Sheila a Richard Brooks gyda chymorth ychwanegol gan Roddwyr WNO.

Cynhyrchiad ar y cyd â Scottish Opera, Gran Teatre del Liceu, Barcelona a Teatro Real, Madrid yw La traviata.

Cefnogir Rhaglen Datblygu Doniau WNO gan Sefydliad Kirby Laing ac Ymddiriedolaeth Elusennol Teulu Bateman.

Cefnogir y rhaglen Lles gyda WNO gan Gyngor Celfyddydau Cymru trwy’r gronfa Loteri Genedlaethol: y Celfyddydau, Iechyd a Lles.

Cefnogir Dysgu gyda WNO gan Ymddiriedolaeth Garfield Weston.

Cefnogir Artistiaid Cyswllt WNO gan Ymddiriedolaeth Elusennol Garrick, Ymddiriedolaeth Stanley Picker, Bwrsariaeth Shirley a Rolf Olsen, Bwrsariaeth Sheila a Richard Brooks, Bwrsariaeth Chris Ball ac Ymddiriedolaeth Joseph Strong Fazer.


Am ragor o wybodaeth, lluniau neu gyfweliadau, cysylltwch â:

Christina Blakeman, Rheolwr y Wasg

christina.blakeman@wno.org.uk

Rhys Edwards, Rheolwr Cyfathrebu

rhys.edwards@wno.org.uk

Penny James a Rachel Bowyer, Pennaeth Cyfathrebu (rhannu swydd)

penny.james@wno.org.uk / rachel.bowyer@wno.org.uk