Y Wasg

Gwledd o Ddant-teithion Calan Gaeaf i’r teulu cyfan!

5 Hydref 2018

Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn dychwelyd i Neuadd Dewi Sant ar gyfer Cyngerdd i’r Teulu WNO ar ddydd Sul 28 Hydref am 3pm, y tro hwn gyda thro brawychus. Bydd Steve Speirs o’r rhaglenni  Upstart Crow a Stella yn cyflwyno prynhawn o ganeuon ffilmiau arswyd adnabyddus yn ogystal â chaneuon operatig poblogaidd.

Dan arweiniad James Southall, bydd y gerddorfa’n perfformio mewn gwisg ffansi, nifer o ffefrynnau’r teulu gan gynnwys Sorcerer’s Apprentice, arwyddgan Batman a’r gerddoriaeth o Harry Potter. Bydd James yn cyflwyno offerynnau’r gerddorfa drwy gydol Symphonie fantastique, Berlioz. Ymhlith y gerddoriaeth glasurol arall a berfformir yn y cyngerdd mae ‘Song to the Moon’ Dvorak o Rusalka sy’n sôn am fôr-forwyn. Bydd y cyngerdd yn gorffen gyda dwy gân o’r opera sy’n seiliedig ar stori dylwyth teg Hansel and Gretel gan Humperdinck.

Bydd y cyngerdd hwyliog ac anffurfiol hwn o gerddoriaeth gerddorfaol gyfarwydd o’r byd opera, ffilm a diwylliant poblogaidd hefyd yn cynnwys nifer o elfennau theatraidd. Yn ystod y perfformiadau hudol bydd animeiddiadau yn cael eu defnyddio law yn llaw â’r cerddorion, yn ogystal â phropiau cyffrous i ddod â’r gerddoriaeth yn fyw. Bydd yr hanner cyntaf yn gorffen gyda chyfranogiad gan y gynulleidfa i arwyddgan Ghost Busters.

Bydd y Soprano Ailish Tynan a’r Bariton Gareth Brynmor John yn ymuno â Cherddorfa WNO, a bydd Opera Ieuenctid WNO yn perfformio am y tro cyntaf gyda’r Gerddorfa.

Bydd arlwy o weithgareddau cyn y perfformiad i’w mwynhau. Anogir aelodau’r gynulleidfa i gyrraedd o 1pm ymlaen i ymuno â’r hwyl rhad ac am ddim i’r teulu yng nghynteddau Neuadd Dewi Sant cyn y cyngerdd. Bydd yr holl weithdai cyn y perfformiad ar agor i’r cyhoedd ac i’r rhai hynny nad oes ganddynt docyn. Bydd Neuadd Dewi Sant yn cael ei thrawsnewid yn gyrchfan arswydus gyda llond gwlad o we pryf cop. Bydd plant ac oedolion yn cael cyfle i chwarae offerynnau gydag aelod o Gerddorfa WNO neu gymryd rhan mewn gweithdy gwisgoedd a cherddoriaeth. Bydd arddangosiadau wigiau a cholur a fydd yn cynnwys prostheteg a chreithiau yn ogystal â phaentio wynebau. Bydd yna helfa drysor a chystadleuaeth gwisg ffansi gyda gwobrau i’w hennill hefyd, a chonsuriwr yn perfformio hud a lledrith i ddifyru’r teulu cyfan.

Mae Steve Speirs yn dychwelyd i ymuno â WNO ar ôl perfformio gyda’r cwmni y llynedd yn yr opera Die Fledermaus, pan chwaraeodd ran ddigrif, Frosch, ceidwad y carchar, nad oedd yn canu o gwbl. Dywedodd Steve Speirs: “Rwyf wedi gwirioni gyda’r gwahoddiad gan WNO i gyflwyno cyngerdd Calan Gaeaf eleni. Cyngerdd, a fydd, heb amheuaeth, yn cyflwyno pobl ifanc i gerddoriaeth wych. Mae cerddoriaeth glasurol yn rhan mor gyfoethog o’n bywydau ac mae mewn gwirionedd o’n cwmpas pob dydd mewn rhyw ffurf neu’i gilydd – rwy’n credu bod y prynhawn am fod yn wledd i bawb sy’n cymryd rhan ac rwy’n lwcus iawn i gael sedd flaen.”

Dywedodd Emma Flately, Cyfarwyddwr Partneriaethau ac Ymgysylltu WNO, “Bellach yn rhan greiddiol o galendr WNO, rwy’n falch o groesawu cyngerdd i’r teulu arall yn ôl i Gaerdydd, y tro hwn gyda thema Calan Gaeaf. Mae WNO wedi ehangu’r ffurf boblogaidd iawn yma i’w pherfformio mewn dinasoedd pell ag agos, gan gynnwys dwy o’r dinasoedd y byddwn yn teithio’n rheolaidd iddynt, Birmingham a Southampton, yn ogystal â’i chyflwyno fel rhan o Ŵyl Ryngwladol Hong Kong yn gynharach eleni gydag ymateb gwych gan gynulleidfaoedd. Rydym yn gobeithio ehangu’r gyfres gyngherddau ymhellach yn y dyfodol i gyflwyno teuluoedd i gerddoriaeth fyw ar draws y rhanbarthau y byddwn yn teithio iddynt.”

Mae tocynnau ar gyfer y Cyngerdd i’r Teulu yn Neuadd Dewi Sant ar werth nawr, gyda thocynnau yn £18/£14 i oedolion, yn £7 i bobl ifanc o dan 16 ac am ddim i’r rhai hynny o dan 5 oed. Ffoniwch y Swyddfa Docynnau i drefnu ar  02920 878 444 neu gallwch brynu ar-lein yn http://www.stdavidshallcardiff.co.uk/whats-on/wno-family-concert/

Diwedd

Nodiadau i Olygyddion

  • Opera Cenedlaethol Cymru yw cwmni opera cenedlaethol Cymru. Ariennir WNO gan Gynghorau Celfyddydau Cymru a Lloegr i ddarparu opera graddfa fawr ledled Cymru ac i ddinasoedd mawr yn rhanbarthau Lloegr.
  •  Gellir lawrlwytho lluniau cynyrchiadau WNO yn www.wno.org.uk/press 
  • Am ragor o wybodaeth, lluniau neu gyfweliadau cysylltwch â Branwen Jones neu Penny James, Rheolwr y Wasg a Materion Cyhoeddus ar 029 206 35038 neu branwen.jones@wno.org.uk / penny.james@wno.org.uk, Christina Blakeman, Swyddog y Wasg 029 20 635037 neu christina.blakeman@wno.org.uk neu Elinor Lloyd, Cynorthwyydd Datblygu a Chyfathrebu ar 029 20 635046 neu elinor.lloyd@wno.org.uk