Y Wasg

Aidan Lang, Cyfarwyddwr Cyffredinol WNO, yn ymddeol

26 Medi 2023

Ar ddiwedd y flwyddyn, bydd Aidan Lang, Cyfarwyddwr Cyffredinol Opera Cenedlaethol Cymru, yn ymddeol ar ôl pedair blynedd yn y rôl a mwy na 40 mlynedd yn gweithio’n fyd-eang yn y byd opera.

Ymunodd Aidan ag WNO fel cyfarwyddwr staff yn y 1980au a dechrau’r 1990au. Dychwelydd i WNO ar ôl gyrfa ryngwladol, a oedd yn cynnwys swydd fel Cyfarwyddwr Cyffredinol Opera Seattle. Yn awr, bydd yn ymddeol er mwyn treulio rhagor o amser gyda’i wraig, y gantores a’r cyfarwyddwr, Linda Kitchen.

Yn ystod ei amser fel Cyfarwyddwr Cyffredinol gydag WNO, llywiodd Aidan y Cwmni trwy gyfnodau eithriadol. Aeth ati i oruchwylio rhaglen ddigidol newydd yn ystod y cyfnod clo Covid, a oedd yn cynnwys rhaglennu fersiwn ddigidol o La Voix Humaine gan Poulenc, ac arweiniodd y Cwmni tuag at ei berfformiadau byw cyntaf ar ôl y cyfnod clo, gydag Alice’s Adventures in Wonderland. Mae ei lwyddiannau artistig yn ystod ei gyfnod gydag WNO yn cynnwys comisiynau newydd fel Blaze of Glory!, yn ogystal â chynyrchiadau newydd ac uchel eu bri o The Makropoulos Affair gan Janáček a Candide gan Bernstein.

Medd Aidan Lang:

“I mi, fel i gynifer o bobl eraill, yn WNO mewn gwirionedd y dechreuodd fy ngyrfa yn y byd opera. Braint enfawr fu cael arwain y Cwmni gwych hwn. A minnau wedi gweithio yn y byd opera’n ddi-dor ers mwy na 40 mlynedd, rydw i’n teimlo mai nawr yw’r adeg iawn imi fwynhau rhagor o amser gyda ’nheulu, gan roi cyfle i rywun arall arwain y bennod nesaf yn hanes WNO. Cafodd fy nghariad at opera ei danio pan oeddwn yn fyfyriwr yn Birmingham wrth wylio cynyrchiadau WNO. Rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at ddychwelyd fel aelod o’r gynulleidfa.”

Medd Yvette Vaughan-Jones, Cadeirydd WNO:

“Ar ran y Bwrdd, y Cwmni a chynulleidfaoedd opera yng Nghymru a thu hwnt, hoffwn wneud yn fawr o’r cyfle hwn i ddiolch i Aidan am ei gyfraniad eithriadol at WNO yn ystod ei gyfnod gyda ni. Mae Aidan yn meddu ar gymwysterau artistig heb eu hail, ac er gwaethaf yr heriau digynsail a ddaeth i’n rhan yn ystod y pedair blynedd diwethaf a’r effaith a gafwyd ar sector y celfyddydau, llwyddodd ei arweiniad artistig i sicrhau bod WNO yn dal i fod yn uchelgeisiol ac yn berthnasol, ac y bydd yn parhau i fod felly yn y dyfodol.”

Bydd Aidan Lang yn aros yn ei swydd tan y Nadolig a than ddiwedd tymor presennol WNO a fydd yn cychwyn ar daith yr wythnos nesaf.

 

DIWEDD

wno.org.uk

Nodiadau i Olygyddion

Opera Cenedlaethol Cymru yw cwmni opera cenedlaethol Cymru, a ariennir gan Gynghorau Celfyddydau Cymru a Lloegr i ddarparu opera ar raddfa fawr, cyngherddau a gwaith allgymorth ledled Cymru ac i ddinasoedd mawr yn rhanbarthau Lloegr.  Rydym yn ymdrechu i ddarparu profiadau trawsnewidiol trwy ein rhaglen addysg ac allgymorth a’n prosiectau digidol arobryn.  Rydym yn gweithio gyda’n partneriaid i ddarganfod a meithrin talent operatig ifanc, a’n nod yw dangos i genedlaethau’r dyfodol fod opera yn ffurf gelfyddydol werthfawr, berthnasol a chyffredinol gyda’r pŵer i effeithio ac ysbrydoli.

Mae delweddau cynhyrchiad WNO ar gael i’w lawrlwytho yn wno.org.uk/press