Y Wasg

Cynulleidfaoedd yn ymuno â Cherddorfa WNO ar gyfer Noson yn Fienna

18 Rhagfyr 2018

Mae WNO yn dychwelyd gyda thaith o amgylch Cymru’r Flwyddyn Newydd hon gyda’u cyfres cyngherddau Fiennaidd boblogaidd, sydd wedi hen ennill ei phlwyf.

Ar gyfer 2019, bydd y daith fwyaf hyd yma o chwech chyngerdd yn Abertawe, y Drenewydd, Bangor, Caerdydd, Tyddewi a Chasnewydd, yn cynnwys cerddoriaeth ysblennydd Mozart a Johan Strauss II mewn rhaglen o waltsiau a pholcas bythol. Bydd cynulleidfaoedd yn cael eu tywys i brif ddinas Awstria a’r ddinas gerdd. 

Bydd Arweinydd a Chyngerddfeistr Cerddorfa WNO David Adams yn cyfarwyddo’r cerddorion a’r gynulleidfa drwy cyngerdd sy’n cynnwys rhai o’r waltsiau gorau erioed, gan gynnwys Blue Danube adnabyddus Strauss, yn ogystal â’r Waltsiau Acceleration a Sphärenklänge. Bydd David hefyd yn perfformio fel unawdydd y gweithiau meistrolgar ar gyfer feiolin gan Fritz Kreisler.

Am y tro cyntaf, bydd WNO yn cyflwyno elfen ychwanegol i’r gyfres, ar ffurf cân gan Artist Cyswllt newydd WNO, y soprano Harriet Eyley. Bydd yn ymuno â’r Gerddorfa i ganu pedair cân hyfryd; Bester Jüngling Mozart, Meine Lippen sie küssen so heiss a Vilja Lied Lehár, yn ogystal â’r Gân Chwerthin o Die Fledermaus.

Bydd y noson yn dirwyn i ben gyda’r Radetsky March, teimladwy a chyffrous, wedi ei dylunio i ddechrau’r Flwyddyn Newydd gyda bang!

Gallwch archebu tocynnau ym mhob un o’r lleoliadau (gweler y manylion isod), am ragor o wybodaeth ewch i www.wno.org.uk/

Diwedd


Dydd Gwener 04 Ionawr, 7.30yh    Y Neuadd Fawr, Prif Ysgol Abertawe
Dydd Sul 06 Ionawr, 4yh                Y Hafren, Drenewydd
Dydd Gwener 11 Ionawr, 7:30yh    Pontio, Bangor
Dydd Mawrth 15 Ionawr, 7:30yh     RWCMD, Caerdydd
Dydd Gwener 18 Ionawr, 7:30yh    Eglwys Gadeiriol Tyddewi, Sir Benfro
Dydd Sul 20 Ionawr, 4yh                Glan yr Afon, Casnewydd

Cyfarwyddwr a Chyngerddfeistr          David Adams  

Soprano           Harriet Eyley (WNO Associate Artist)      

Weber: Oberon Overture
Mozart: Der Schauspieldirektor, K.426: Bester Jüngling
Kreisler: Leibesfreud
Kreisler: Leibeslied
Kreisler: Schön Rosmarin
Lehár: Guiditta: Meine Lippen, sie küssen so heiß

Egwyl

Johann Strauss II: Die Fledermaus Entr'acte from Act III
Johann Strauss II: Die Fledermaus: Laughing Song
Johann Strauss II: Éljen a Magyar Op.332
Johann Strauss II: Acceleration Waltz, Op.234
Johann Strauss II: Perpetuum Mobile, Op.257
Joseph Strauss: Sphärenklänge Waltz, Op.235
Franz Lehár: The Merry Widow: Vilja
Johann Strauss II: The Blue Danube, Op.314
Johann Strauss I: Radetsky March, Op.228

  • Gallwch archebu tocynnau ar gyfer y cyngerdd yn Y Neuadd Fawr, Abertawe, sydd ar gael o £16-21 yn
  • https://www.taliesinartscentre.co.uk/en/great-hall-music  neu drwy gysylltu â’r Swyddfa Docynnau ar 01792604900
  • Gallwch archebu tocynnau ar gyfer y cyngerdd yn Y Hafren, Drenewydd, sydd ar gael o £16 efo consesiwn o £14.50 yn  www.thehafren.co.uk neu drwy gysylltu â’r Swyddfa Docynnau ar  01686 614555
  • Gallwch archebu tocynnau ar gyfer y cyngerdd ym Montio, Bangor sydd ar gael o £16-17 efo consesiwn o £5 yn  https://tickets.pontio.co.uk/Online/ neu drwy gysylltu â’r Swyddfa Docynnau ar 01248 382828
  •  Gallwch archebu tocynnau ar gyfer y cyngerdd yn y Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd, sydd ar gael o £8.75 - £17.50 yn www.rwcmd.ac.uk  neu drwy gysylltu â’r Swyddfa Docynnau ar 029 2039 1391.
  • Gallwch archebu tocynnau ar gyfer y cyngerdd yn Tyddewi, sydd ar gael o £5-20 yn https://www.ticketsource.co.uk/fishguardmusicfestival
  • Gallwch archebu tocynnau ar gyfer y cyngerdd yn Glan yr Afon, Casnewydd, sydd ar gael o £15-18 yn https://tickets.newportlive.co.uk neu drwy gysylltu â’r Swyddfa Docynnau ar 01633 656757.

Nodiadau i Olygyddion

  • Opera Cenedlaethol Cymru yw cwmni opera cenedlaethol Cymru. Ariennir WNO gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Lloegr i gyflwyno opera ar raddfa fawr ledled Cymru ac yn ninasoedd mawr yn rhanbarthau Lloegr.
  • Mae lluniau cynyrchiadau WNO ar gael i’w lawrlwytho o www.wno.org.uk/press 
  • Am ragor o wybodaeth, lluniau neu gyfweliadau cysylltwch â Branwen Jones / Penny James, Rheolwr y Wasg (rhannu swydd) ar 029 2063 5038 neu branwen.jones@wno.org.uk / penny.james@wno.org.uk  neu Christina Blakeman, Swyddog y Wasg ar 029 2063 5037 neu christina.blakeman@wno.org.uk, neu Elinor Lloyd, Cynorthwyydd Datblygu a Chyfarthrebu ar 029 2063 5046 neu elinor.lloyd@wno.org.uk