Y Wasg

Un o deilyngwyr Cystadleuaeth Arwain Donatella Flick-LSO yn ymuno ag WNO fel Arweinydd Cyswllt

30 Mai 2019

Un o deilyngwyr Cystadleuaeth Arwain Donatella Flick-LSO yn ymuno ag WNO fel Arweinydd Cyswllt

Yr haf hwn, mae'r arweinydd ifanc o Brydain, Harry Ogg yn ymuno ag Opera Cenedlaethol Cymru fel Arweinydd Cyswllt WNO mewn cydweithrediad â Chystadleuaeth Arwain Donatella Flick-LSO ar ôl cyrraedd rownd derfynol y Gystadleuaeth yn Llundain yn 2018.  Mae Harry eisoes yn gwneud enw iddo'i hun ar ôl ennill yr ail wobr yng Nghystadleuaeth Arwain Cerddorfa Symffoni MDR yn Leipzig 2018 a chael ei ddewis ar gyfer gwobr Deutsche Dirigentenforum yr un flwyddyn, a bydd yn gweithio â François-Xavier Roth yn Cologne gyda'u Cerddorfa Gürzenich breswyl y tymor nesaf.

Yn ddiweddar, bu Harry yn gweithio ag WNO yn ystod tymor Hydref 2018 pan roddodd help llaw i'r Cyfarwyddwr Cerdd Tomáš Hanus gyda chynhyrchiad newydd y Cwmni o War and Peace, a bydd yn cydweithio eto â Tomáš, pan gaiff War & Peace ei pherfformio yn y Royal Opera House, Covent Garden y mis Gorffennaf hwn.  Yn ogystal, bu Harry yn arwain Cerddorfa WNO ar gyfer cyngerdd yn Neuadd Saffron, Saffron Walden ym mis Mawrth 2019, a'i swydd gyntaf fel Arweinydd Cyswllt WNO fydd arwain Cerddorfa WNO mewn tri chyngerdd Clasuron Opera'r Haf a fydd yn digwydd yn Abertawe, Casnewydd a'r Drenewydd yn ystod mis Mehefin a mis Gorffennaf. Bydd y cyngherddau yn cynnwys rhai o'r ffefrynnau operatig o ‘Casta Diva’ o Norma i ‘Some Enchanted Evening’ o South Pacific, gyda pherfformiadau gan unawdwyr clodwiw, Joyce El Khouri a Jason Howard, y mae'r ddau ohonynt wedi perfformio'n ddiweddar mewn operâu prif raddfa gydag WNO.

Yr hydref hwn, bydd Harry yn gweithio eto law yn llaw â Tomáš fel Arweinydd Cyswllt ar gynhyrchiad newydd WNO o Carmen, Bizet. Bydd yna'n dychwelyd i arwain Carmen yng Nghaerdydd ac ar daith yn ystod tymor Gwanwyn 2020.

Harry yw'r ail arweinydd ifanc i dderbyn y swydd hon, gan ddilyn ôl traed Kerem Hasan, a oedd hefyd ar restr fer Cystadleuaeth Arwain Donatella Flick-LSO, a'r Arweinydd Cyswllt WNO cyntaf fel rhan o'r cydweithrediad rhwng y Gystadleuaeth a WNO, sydd bellach wedi hen ennill ei blwyf.  Y llynedd, cynorthwyodd Kerem y meistr Carlo Rizzi ar gynhyrchiad newydd o La forza del destino, ac arweiniodd berfformiad o'r opera yn Plymouth.  Cymaint fu'r bri ar gyfnod Kerem yn WNO yn y swydd hon, nes y bydd yn dychwelyd i'r Cwmni fel arweinydd The Barber of Seville yn 2020. 

Dywedodd Harry: "Rwyf wedi gwirioni gyda fy swydd newydd yn WNO.  Wedi i mi weithio yma ar ddau gynhyrchiad fel Arweinydd Cynorthwyol, mae derbyn swydd gyda chwmni sydd mor agos at fy nghalon yn arbennig iawn i mi. Yn aml mae arweinwyr ifanc yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i'r cyfleoedd cywir i fagu profiad (ni allwch "ymarfer" gartref yn yr un modd ag y gall offerynnwr) ac fel rhan o'r swydd hon byddaf yn arwain nifer o berfformiadau yn ogystal â chynorthwyo fel yr wyf wedi ei wneud yn y gorffennol. Yn fy marn i mae cerddorion, cyfarwyddwyr, cantorion, staff cerddorol a staff technegol WNO yn wirioneddol ysbrydoledig. Ni allaf feddwl am unlle gwell i dyfu a datblygu."

Dywedodd, Cyfarwyddwr Cerdd WNO, Tomáš Hanus: "Wedi gweithio gyda Harry Ogg y llynedd ar War & Peace, rwyf wrth fy modd ei fod wedi cael ei benodi yn Arweinydd Cyswllt WNO.  Rwy'n edrych ymlaen yn arw at gydweithio gyda Harry unwaith eto, yr hydref hwn ar gynhyrchiad newydd WNO o Carmen."

Am ragor o wybodaeth, ewch i wno.org.uk  


Nodiadau i Olygyddion

  • Opera Cenedlaethol Cymru yw'r cwmni opera cenedlaethol ar gyfer Cymru gydag enw da yn rhyngwladol am ragoriaeth gerddorol. Wedi ei ariannu gan Gynghorau Celf Cymru a Lloegr, mae WNO yn cysylltu â phobl drwy gynnal perfformiadau wedi eu llwyfannu’n llawn o operâu a chyngherddau, yn ogystal â thrwy waith cymunedol ac addysgol a thrwy brosiectau digidol. Gallwch weld y manylion llawn yn www.wno.org.uk   
  • Mae lluniau cynyrchiadau WNO ar gael i’w lawrlwytho o http://www.wno.org.uk/press
  • Am ragor o wybodaeth, lluniau neu gyfweliadau, cysylltwch â Rachel Bowyer neu Penny James, Rheolwr y Wasg a Materion Cyhoeddus (rhannu swydd) ar 029 2063 5038 neu rachel.bowyer@wno.org.uk / penny.james@wno.org.uk neu Christina Blakeman, Swyddog y Wasg, ar 029 2063 5037 neu christina.blakeman@wno.org.uk
  • Mae swydd yr Arweinydd Cyswllt mewn cydweithrediad â Chystadleuaeth Arwain Donatella Flick-LSO
  • Caiff Harry ei gynrychioli ar gyfer Rheoli Cyffredinol gan Askonas Holt Ltd. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag Etta Morgan, (0)20 7400 1742 / etta.morgan@askonasholt.com
  • Cyngherddau Clasuron Opera'r Haf WNO:
    Dydd Gwener 28 Mehefin, 19:30                        Y Neuadd Fawr, Prifysgol Abertawe
    Dydd Mercher 3 Gorffennaf, 19:30                     Glan yr Afon, Casnewydd
    Dydd Gwener 5 Gorffennaf, 19:30                      Yr Hafren, Y Drenewydd