Y Wasg

Cyfres o Gyngherddau Rhyngwladol gyda Cherddorfa WNO

11 Hydref 2018

Fis Tachwedd hwn bydd Opera Cenedlaethol Cymru’n perfformio tri chyngerdd cerddorfaol sy’n ffurfio rhan o’r Gyfres Cyngherddau Rhyngwladol yn Neuadd Dewi Sant. Cyfarwyddwr Cerdd WNO, Tomáš Hanus, fydd yn arwain y cyngerdd hwn, a bydd dau unawdydd ardderchog yn ymuno ag ef: y sielydd ifanc o Armenia, Narek Hakhnazaryan a’r bariton o Slofacia, Gustáv Beláček.

Mae Tomáš yn dychwelyd i arwain Cerddorfa WNO mewn cyngerdd y mae cryn ddisgwyl amdano, sy’n serennu concerto sielo teimladwy a myfyriol Elgar yn ogystal ag agorawd William Tell, enwog Rossini, Sinfonietta, Janacek a ‘Forester’s Monologue’ o The Cunning Little Vixen.

Mae opera olaf Rossini, William Tell yn cynnwys cerddoriaeth sydd wedi cael ei defnyddio drosodd a throsodd mewn ffilmiau a rhaglenni teledu poblogaidd. Dyma’r opera olaf i Rossini ei chyfansoddi cyn iddo hanner-ymddeol, a berfformiwyd am y tro diwethaf gan WNO yn hydref 2014.

Mae Narek Hakhnazaryan yn ymuno â Cherddorfa WNO am y tro cyntaf i berfformio Concerto Sielo yn E leiaf, Elgar. Mae Narek wedi perfformio gyda sawl cerddorfa proffil uchel ledled y byd ac mae hefyd wedi ennill Gwobr Gyntaf a Medal Aur Sielo yng Nghystadleuaeth Ryngwladol Tchaikovsky XIV yn 2011 pan oedd yn 22 mlwydd oed. O 2014-2016 ymunodd â chynllun mawreddog Artistiaid y Genhedlaeth Newydd BBC, pan berfformiodd yn llwyddiannus am y tro cyntaf yn BBC Proms. Mae’r Concerto Sielo wedi dod yn un o weithiau mwyaf cofiadwy Elgar er gwaethaf methiant y perfformiad cyntaf o ganlyniad i ddiffyg ymarfer, bron i gant o flynyddoedd yn ôl. Mae cordiau cyntaf digalon, trawiadol y darn mor gyfarwydd. Wedi cael ei effeithio gan drychineb y Rhyfel Byd Cyntaf, cyfansoddodd Elgar y concerto fel myfyrdod, yn dilyn marwolaeth nifer o gerddorion, cyfansoddwyr a ffrindiau agos ato yn y rhyfel, sy’n cyferbynnu’n llwyr â’i Goncerto Feiolin cynharach. Ar ôl cael tynnu ei donsiliau, pan ddaeth Elgar ato’i hun gofynnodd am bensil a phapur a chyfansoddi beth rydym yn ei adnabod heddiw fel thema gyntaf y concerto sielo.

Mae ail ran y cyngerdd yn cynnwys dau o weithiau Janáček. Yn gyntaf bydd Gustáv Beláček yn perfformio’r ‘Forester’s Monologue’ o olygfa olaf The Cunning Little Vixen, sy’n cynnwys cerddoriaeth fwyaf addurnol a phrydferth yr opera. Mae Gustáv yn perfformio’n rheolaidd gyda cherddorfeydd Ffilharmonig Slofacia a Gweriniaeth Siec ac mae wedi gweithio gyda nifer o arweinwyr adnabyddus, yn eu plith Tomáš Hanus. Byddai Janáček yn aml yn cofnodi synau natur pan gerddai yng nghoedwig Morafia ger ei gartref a gellir clywed dylanwad natur ar yr opera.

Bydd y prynhawn yn gorffen gyda Sinfonietta epig, Janáček. Fe’i hysbrydolwyd i ysgrifennu’r ffanfferau ar ôl gwrando ar fand milwrol ac yn ddiweddarach gofynnodd Gŵyl Gymnasteg Sokol am gomisiwn ganddo, a dyma pryd y datblygodd y ffanfferau yn Sinfonietta.

Dywedodd Tomáš Hanus “Rwyf wedi gwirioni fy mod i’n gallu gwneud y cyngerdd hwn gyda’n Cerddorfa WNO anhygoel. I gerddorion sydd fwy aml na pheidio yn chwarae operâu, mae cyngerdd bob amser yn gyfle i siarad â’r gynulleidfa mewn iaith wahanol. Y tro hwn, mae’r iaith yn hynod unigryw, oherwydd mai Leoš Janáček ydyw. Mae ei gerddoriaeth mor wahanol i’r hyn a fyddai rhywun yn ei ddisgwyl, mae’n sefyll ar ei ben ei hun, yn ei safle gwreiddiol, bron nad yw’n perthyn i hanes.”

“Yn yr hanner cyntaf mae gennym Agorawd William Tell, Rossini, darn anhygoel o gerddoriaeth, yn ogystal â Choncerto Sielo Elgar, y gellir gwrando arno drosodd a throsodd, a bob tro byddwch yn clywedd rhywbeth newydd. Mae golygfa olaf ei opera, The Cunning Little Vixen, yn un o’r golygfeydd olaf mwyaf prydferth, dwys a barddonol yn y byd opera. Hoffwn wahodd yn gynnes ein cynulleidfa i rannu’r profiad unigryw hwn gyda ni, a gwrando ar ei Sinfonietta, lle mae’n defnyddio 12 trymped ymhlith offerynnau eraill.”

Yn dilyn y cyngerdd hwn, bydd Carlo Rizzi yn dychwelyd i arwain Cerddorfa WNO ar 27 Ionawr mewn cyngerdd sy’n cynnwys Agorawd Mendelssohn, The Hebrides (Fingal’s Cave), Scottish Fantasy, Bruch a Symffoni Rhif 2. cyffrous Rachmaninov. Bydd y feiolinydd o Rwsia, Alexander Sitkovetsky yn ymuno â’r gerddorfa, yn dilyn ei berfformiad o Goncerto Feiolin Mendelssohn yn gynharach eleni gydag WNO.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wno.org.uk

Diwedd

Nodiadau i Olygyddion

  • Opera Cenedlaethol Cymru yw'r cwmni opera cenedlaethol i Gymru gydag enw da yn rhyngwladol am ei ragoriaeth gerddorol. Wedi’i ariannu gan Gynghorau Celf Cymru a Lloegr, mae’r WNO yn cysylltu â phobl drwy gynnal perfformiadau wedi eu llwyfannu’n llawn o operâu a chyngherddau, yn ogystal â thrwy waith cymunedol ac addysgol a thrwy brosiectau digidol. Mae manylion llawn ar gael yn www.wno.org.uk
  • Gellir lawrlwytho lluniau cynyrchiadau WNO yn www.wno.org.uk/press 
  • Am ragor o wybodaeth, lluniau neu gyfweliadau cysylltwch â Branwen Jones neu Penny James, Rheolwr y Wasg a Materion Cyhoeddus ar 02920 635038 neu branwen.jones@wno.org.uk / penny.james@wno.org.uk, Christina Blakeman, Swyddog y Wasg 02920 635037 neu christina.blakeman@wno.org.uk neu Elinor Lloyd, Cynorthwyydd Datblygu a Chyfathrebu ar 02920 635046 neu elinor.lloyd@wno.org.uk
  •  Cefnogir rôl Cyfarwyddwr Cerdd WNO gan Marian a Gordon Pell.