Y Wasg

Mae mis Ionawr yn pefrio gyda chlasuron Fiennaidd a Bohemaidd gan Gerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru

14 Rhagfyr 2022
  • Taith ‘Dychwelyd i Fienna’ Cerddorfa WNO i wneud ei hymddangosiad cyntaf ers 2020
  • Cyfarwyddwr Cerddoriaeth WNO, Tomáš Hanus yn arwain Cerddorfa WNO mewn perfformiad o Má Vlast gan Smetana yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd, cyn agor yng Ngŵyl Gerddoriaeth Ryngwladol fawreddog y Gwanwyn ym Mhrâg yn y Weriniaeth Tsiec.

Dychwelyd i Fienna

Mae Cerddorfa WNO yn agor Tymor y Gwanwyn gyda’u taith boblogaidd Dychwelyd i Fienna. Bydd y perfformiad yn rhaglen fywiog a chalonogol o’r gerddoriaeth Fiennaidd orau oll, gan arwain cynulleidfaoedd ledled Cymru a Lloegr i’r flwyddyn newydd.

Yn ailddechrau am y tro cyntaf ers tair blynedd, bydd taith Dychwelyd i Fienna, 2023 yn cynnwys wyth cyngerdd yn Abertawe, Bangor, Y Drenewydd, Truro, Barnstaple, Caerdydd, Southampton a Sir Benfro. Bydd y cyngerdd yn cynnwys cerddoriaeth ogoneddus Johann Strauss II, a’r cyfansoddwr ac arweinydd Americanaidd a aned yn Awstria sy’n hyrwyddwr gwych o gerddoriaeth Strauss, Erich Korngold. Cyflwynant raglen o waltsiau a polcas bythol, gan gludo cynulleidfaoedd i ddinas gerddorol Habsbwrg.

Bydd David Adams, Blaenwr a Chyngerddfeistr WNO yn arwain y Gerddorfa a’r gynulleidfa trwy gyngerdd sy’n cynnwys rhai o’r waltsiau mwyaf adnabyddus erioed. Mae’r rhain yn cynnwys y Blue Danube hynod boblogaidd Strauss II, a Radetzky March afieithus Strauss I. Hyd oll ochr yn ochr â Polca Straussiana Korngold, ymhlith gweithiau eraill.

Bydd Artist Cyswllt WNO a benodwyd yn ddiweddar, y bariton Dafydd Allen hefyd yn ymuno â’r Gerddorfa i gyflwyno detholiad o ariâu godidog; 'Als flotter Geist' o The Gypsy Baron gan Strauss II, 'Mein Sehnen, mein Wähnen' o Die tote Stadt gan Korngold, ynghyd â dau rif Lehár, ‘Girls were made to love and kiss’ ' o Paganini ac 'O Vaterland… Da geh' ich zu Maxim' o The Merry Widow.

Dywedodd Dafydd Allen: ‘Rwy’n falch iawn o gael ymuno â Cherddorfa WNO ar gyfer y daith Dychwelyd i Fienna. Mae fy misoedd cyntaf fel Artist Cyswllt wedi rhoi boddhad proffesiynol i mi, ac rwyf wrth fy modd yn cychwyn ar y cam nesaf hwn o fy nhaith gyda WNO. Rwy’n teimlo’n hynod o gyffrous cael perfformio’r casgliad gwych hwn o gerddoriaeth Fienna mewn ystod mor eclectig o leoliadau ledled Cymru a Lloegr.’

Gellir archebu tocynnau o bob lleoliad (gweler y manylion isod), am ragor o wybodaeth ewch i wno.org.uk/orchestra

Caerdydd Glasurol

Yn ogystal, ym mis Ionawr bydd Cerddorfa WNO yn perfformio Má Vlast gan Smetana (‘Fy Mamwlad) mewn cyngerdd sydd yn rhan o Gyfres Cyngherddau Clasurol Neuadd Dewi Sant. Cynhelir y cyngerdd ar ddydd Sul, 29 o Ionawr am 3pm dan arweiniad Cyfarwyddwr Cerddoriaeth WNO, Tomáš Hanus.  

Wedi’i llunio’n wreiddiol fel chwe gwaith unigol, cadarnhaodd Má Vlast enw da Smetana fel ‘tad cerddoriaeth Tsieceg’. Ysgogodd ei berfformiad cyntaf yn 1882 ym Mhrâg olygfeydd o frwdfrydedd gwladgarol gyda ‘storm o gymeradwyaeth ddiddiwedd […] yn cael ei hailadrodd ar ôl pob un o’r chwe rhan’. Bellach yn cael ei chydnabod fel cerdd symffonig mewn chwe rhan, mae pob symudiad yn darlunio agwedd ar Bohemia, o’i hanes i’w chefn gwlad a’i chwedlau. Mae’r cyngerdd yn Neuadd Dewi Sant yn gyfle prin i glywed y gwaith yn ei gyfanrwydd, dan arweiniad Tomáš Hanus sydd yn cael ei ganmol am ei berfformiad meistrolgar o gerddoriaeth ei gydwladwyr.

Bydd y cyngerdd yn rhagflaenu perfformiad y Gerddorfa o Má Vlast yng nghyngerdd agoriadol Gŵyl Gerddoriaeth Ryngwladol Gwanwyn Prâg ar y 12 Mai, sef penblwydd marwolaeth Bedřich Smetana – traddodiad sydd yn dyddio yn ôl i 1952.

Dywed Cyfarwyddwr Cerddoriaeth WNO, Tomáš Hanus: ‘Pan rwy’n clywed Má Vlast, rwy’n gofyn i mi fy hun sut y gallai Smetana fod wedi creu rhywbeth mor wreiddiol, mor wahanol. Mae gan gerddoriaeth y pŵer i fynd yn ddyfnach na geiriau, ac yn yr amseroedd hyn, mae tonau Má Vlast yn dod â hunanymwybyddiaeth o bwy ydym ni, sut mae ein hanes yn siarad â ni a pha ystyr sydd iddo.’ 

Gellir archebu tocynnau ar gyfer y cyngerdd yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd, am £5 - £42, ar stdavidshallcardiff.co.uk neu drwy gysylltu â’r Swyddfa Docynnau ar 029 2087 8444.

DIWEDD

Nodiadau i Olygyddion

Opera Cenedlaethol Cymru yw cwmni opera cenedlaethol Cymru, a ariennir gan Gynghorau Celfyddydau Cymru a Lloegr i ddarparu opera ar raddfa fawr, cyngherddau a gwaith allgymorth ledled Cymru ac i ddinasoedd mawr yn rhanbarthau Lloegr. Rydym yn ymdrechu i ddarparu profiadau trawsnewidiol trwy ein rhaglen addysg ac allgymorth a'n prosiectau digidol arobryn. Rydym yn gweithio gyda’n partneriaid i ddarganfod a meithrin talent operatig ifanc, a’n nod yw dangos i genedlaethau’r dyfodol fod opera yn ffurf gelfyddydol werthfawr, berthnasol a chyffredinol gyda’r pŵer i effeithio ac ysbrydoli.

Mae lluniau cynhyrchiadau WNO ar gael i’w lawrlwytho ar wno.org.uk/press 

Mae rhagor o wybodaeth am gynyrchiadau WNO ar gael ar wno.org.uk  

Cefnogir Cyngherddau Gaeaf a Gwanwyn WNO yn Neuadd Dewi Sant gan Mathew a Lucy Prichard 

  • Cefnogir Cadair Blaenwr y Gerddorfa gan Mathew a Lucy Prichard
  • Cefnogir amrywiol Gadeiriau’r Gerddorfa gan Gylch y Prif Chwaraewyr
  • Cefnogir rhaglen Artistiaid Cyswllt WNO gan Fwrsariaeth Sheila a Richard Brooks
  • Cefnogir Rhaglen Datblygu Talent WNO gan Sefydliad Kirby Laing ac Ymddiriedolaeth Elusennol Teulu Bateman

Am fwy o wybodaeth, lluniau neu gyfweliadau cysylltwch: 

Giselle Dugdale, Gweinyddwr y Wasg a Chyfathrebu
giselle.dugdale@wno.org.uk 

Christina Blakeman, Rheolwr y Wasg
christina.blakeman@wno.org.uk

Rhys Edwards, Rheolwr Cyfathrebu 
rhys.edwards@wno.org.uk 

Penny James & Rachel Bowyer, Pennaeth Cyfathrebu (rhannu swydd)
penny.james@wno.org.uk / rachel.bowyer@wno.org.uk