Y Wasg

Mygydau, Brenhiniaeth a Hud: Opera Cenedlaethol Cymru yn cyhoeddi manylion llawn tymor y Gwanwyn

28 Tachwedd 2018
  • Trioleg Verdi WNO yn parhau gyda chynhyrchiad newydd o Un ballo in maschera
  • Joyce El-Khoury a Barry Banks yn dychwelyd i WNO ar gyfer y cynhyrchiad o Roberto Devereux, bydd Joyce yn chwarae Elisabetta a Barry yn chwarae’r rôl deitl
  • The Magic Flute wedi’i hysbrydoli gan Magritte yn dychwelyd
  • Dehongliad newydd o Don Pasquale gan Donizetti i deithio i lwyfannau llai ar draws y wlad

Cariad, grym, gwleidyddiaeth a llofruddiaeth: Un ballo in maschera

Yn agor tymor y gwanwyn mae cynhyrchiad newydd o Un ballo in maschera, lle mae cariad, grym a gwleidyddiaeth yn gwrthdaro i greu stori am dwyll, cynllwynio a dial.

Yr ail gynhyrchiad yn nhrioleg Verdi WNO, bydd y cynhyrchiad yn cael ei gyfarwyddo gan David Pountney, a’i arwain gan Arweinydd Llawryfol WNO Carlo Rizzi ac mae'n gyd-gynhyrchiad gydag Oper dêr Stadt Bonn.

Mae un ballo in maschera yn astudiaeth o frenhiniaeth, a'r berthynas rhwng materion personol a materion cyhoeddus. Datgela’r stori driongl serch trasig rhwng Amelia, ei gŵr Renato a'i chariad y Brenin (Riccardo), ffrind gorau Renato. Mae gan y Brenin obsesiwn gyda theatr a chuddwisgo, ac mae hyn yn adeiladu'n anterthol i ddawns fygydau yn erbyn cefnlen o gynllwynio cynyddol yn ei erbyn gan ei elynion gwleidyddol a phersonol. Er bod Riccardo yn troi ei gefn ar Amelia, mae diweddglo’r darn yn gweld Renato yn dod i wybod am y berthynas ac yn cymryd y mater i’w ddwylo ei hun gyda chanlyniadau difrifol. Bydd y cast yn cynnwys y tenor Cymreig uchel ei barch Gwyn Hughes Jones a fydd yn canu rhan Riccardo gyda Mary Elizabeth Williams fel Amelia a Roland Wood fel Renato. Bydd dyluniad set ‘Peiriant Verdi’ Rawund Baue o dair ffrâm sy’n cyd-gloi yn ymddangos eto yn y cynhyrchiad hwn, ond bydd yn edrych yn dra gwahanol i set La forza del destino, fe’i dyluniwyd i adlewyrchu'r ffordd y mae'r Brenin yn chwarae'n gyson â gwirionedd a chuddio, ac yn colli ei synnwyr o realiti o ganlyniad i’w obsesiwn gyda'r theatr. Dylunydd y gwisgoedd yw Marie-Jeanne Lecca sydd wedi cydweithio'n ddiweddar â WNO ar y cynhyrchiad rhyfeddol o War and Peace.

Dywedodd David Pountney, Cyfarwyddwr Artistig WNO

Mae’r tymor cyfan o operâu yn ymwneud â’r mater o frenhiniaeth. Mae hanes The Magic Flute yn cynnwys hyfforddiant rheolwr delfrydol, gwybodus ac yn awgrymu yn obeithiol y bydd  cydraddoldeb rhwng dyn a dynes i reoli’n gyfartal yn y dyfodol. Yn Roberto Devereux, cawn ddathliad o bŵer a chyfaredd un o arweinwyr mwyaf clodfawr Prydain erioed, ac mae Un ballo in maschera yn dangos yr hyn sy'n digwydd pan fydd y deyrnas yn dod yn faes chwarae ar gyfer rhithdybiau theatrig a cariadus y brenin. Mae'r tri darn yn dal y gwrthgyferbyniad rhyfeddol rhwng pŵer cyhoeddus ac angerdd preifat lle mae opera yn rhagori

Torcalon a Theyrnfradwriaeth: Roberto Devereux

Yn y gwanwyn hefyd bydd yna adfywiad o Roberto Devereux gan Donizetti, a gyfarwyddwyd yn wreiddiol gan Alessandro Talevi. Perfformiwyd yr opera hon gyntaf yn 2013 fel rhan o dymor y Tuduriaid WNO a gafodd ganmoliaeth fawr. Mae'r cynhyrchiad newydd hwn yn cynnwys dyluniadau trawiadol Madeleine Boyd. Bydd Carlo Rizzi yn arwain yng Nghaerdydd a Birmingham, gyda James Southall yn cymryd y baton ar ddyddiadau diweddarach y daith. Cenir yr opera yn yr Eidaleg, ac mae wedi'i seilio'n fras ar fywyd Robert Devereux, Ail Iarll Essex a'i berthynas agos gyda'r Frenhines Elisabeth I. Roedd gan Donizetti ddiddordeb mawr yn Hanes Oes Elisabeth, ysgrifennodd dair opera yn drwm dan ddylanwad “y Forwyn Frenhines”, ac yn y tair opera mae’r sibrydion am ei thymer a’i bywyd carwriaethol tanbaid yn cael eu gosod wrth wraidd y stori. Yn Roberto Devereux, mae'r Frenhines yn cael ei chysylltu'n rhamantus ag Iarll Essex wrth iddo ef gael ei roi ar brawf am deyrnfradwriaeth.  Bydd y Bel canto virtuoso Barry Banks yn dychwelyd i WNO i chwarae Devereux, ochr yn ochr â'r soprano Joyce El-Khoury fel Elisabetta, y ddau ohonynt yn chwarae eu rhan am y tro cyntaf. Yn ymuno â'r cast hefyd bydd Justina Gringyté fel Sara a Gary Griffiths fel Nottingham.

Rhyfeddodau wedi’u hysbrydoli gan Magritte: The Magic Flute

Yn cwblhau tymor y gwanwyn bydd adfywiad o The Magic Flute opera bythol-boblogaidd Mozart gyda chynhyrchiad a gyfarwyddwyd yn wreiddiol gan Dominic Cooke, wedi'i ganu yn Saesneg a’i arwain gan Damian Iorio, sy’n gweithio gyda WNO am y tro cyntaf. Stori arall o antur frenhinol, mae'r cynhyrchiad hwn a ysbrydolwyd gan Magritte yn gosod ymgais y Tywysog Tamino i achub tywysoges a dod o hyd i wir gariad mewn byd breuddwydiol, swreal sy'n cynnwys cimwch dig, llew sy’n hoff o ddarllen papurau newydd a physgodyn sydd wedi'i drawsnewid yn feic. Mae'r stori ddoniol hon am swyn a chymeriadau lliwgar ochr yn ochr â cherddoriaeth Mozart yn creu darn unigryw o opera, sy’n adnabyddus am ei hariâu esgynnol sy’n cael eu canu gan Frenhines y Nos. Mae'r cast yn cynnwys Mark Stone fel Papageno, Ben Johnson fel Tamino, ac Anita Watson fel Pamina. Yn ymddangos am y tro cyntaf gyda WNO, bydd y soprano Jennifer Davis yn chwarae rhan y Foneddiges Gyntaf, yn syth o'i pherfformiad fel Elsa yn Lohengrin yn y Tŷ Opera Brenhinol a gafodd llawer o ganmoliaeth.

Blas Cebab Doner i gynhyrchiad o Don Pasquale

Yn agor ym mis Mai, bydd WNO yn mynd â fersiwn newydd o’r opera gomig Don Pasquale ar daith i leoliadau graddfa-ganolig ar draws Cymru a Lloegr. Bydd ensemble eclectig o saith offerynnwr, gan gynnwys acordion a sacsoffon, yn ymddangos ar y llwyfan o dan arweiniad y cyfarwyddwr cerdd Stephen Higgins. Mae’r cyfieithiad newydd gan Daisy Evans, sydd hefyd yn cyfarwyddo’r cynhyrchiad, yn tynnu ar y naratif comedïaidd mewn lleoliad yn Ne Cymru yn yr unfed ganrif ar hugain a bydd yn rhoi persbectif newydd i gynulleidfaoedd ar y clasur hwn gan Donizetti.

Mae Andrew Shore sy’n chwarae'r hen lanc, Pasquale, yn y cynhyrchiad hwn, yn gweld ei fusnes Cebab llwyddiannus yn cael ei gipio gan y cariadon ifanc cyfrwys Norina ac Ernesto, gyda chymorth y cynllwyniwr lleol Malatesta. Yn dychwelyd i WNO ar ôl ei berfformiad blaenllaw yn Kiss Me, Kate!, bydd Quirijn de Lang yn canu rhan Malatesta ac yn ymuno ag ef bydd Nico Darmanin fel Ernesto a’r soprano Harriet Eyley, Artist Cysylltiol newydd WNO, yn chwarae rhan Norina. Bydd Eyley yn ymuno â WNO am 18 mis, a bydd hefyd yn canu ac yn dirprwyo dros gantorion yn nhymor blynyddol 2019-20 yn ogystal â chymryd rhan yng ngwaith ymgysylltu’r Cwmni.

Bydd Don Pasquale yn ymweld â llwyfannau llai ar draws Cymru a Lloegr yn dilyn taith lwyddiannus ddiweddar y cynhyrchiad Rhondda Rips It Up! fel rhan o ymrwymiad parhaus WNO i gyrraedd ystod eang o gynulleidfaoedd gyda repertoire operatig amrywiol, mewn partneriaeth â rhai o theatrau rhanbarthol gorau'r wlad.

Dywedodd y Cyfarwyddwr a'r libretydd Daisy Evans:

Mae'r cynhyrchiad hwn o Don Pasquale yn ffres, yn gyfoes ac yn unigryw. Mae wedi cael ei ail-ddychmygu ar gyfer cynulleidfa fodern, a materion cyfredol sy’n gyrru'r comedi clasurol hwn. Mae Pasquale yn ymfalchïo yn ei fan cebab a'r blynyddoedd o wasanaeth y mae wedi ei ddarparu i bartiwyr hwyr yng Nghaerdydd, ond mae wedi mynd yn grintachlyd ac yn ofn moderneiddio. Mae ei nai, Ernesto a'i gariad Norina yn cynrychioli’r dyfodol - yn galw am ddefnyddio llai o blastig, bwyta eco-ymwybodol a dylunio mwy syml. Mae'r ddwy ochr yn cystadlu yn erbyn ei gilydd mewn comedi a fydd yn gwneud i chi chwerthin yn ogystal â meddwl.

Cerddorfa WNO

Bydd WNO yn croesawu 2019 gyda chyfres o gyngherddau i ddathlu’r Flwyddyn Newydd a fydd yn gweld Cerddorfa WNO yn perfformio waltzes, polkas a chaneuon sydd yn ddod ag ysbryd Fienna a'i neuaddau cyngerdd yn fyw. Cyfarwyddwyd ‘Noson yn Fienna’ gan Arweinydd Cerddorfa WNO David Adams gydag Artist Cyswllt WNO Harriet Eyley fel unawdydd, a bydd yn teithio i chwe theatr ledled Cymru.

Fel rhan o Gyfres o Gyngherddau Rhyngwladol Neuadd Dewi Sant bydd, Cerddorfa WNO yn perfformio dau gyngerdd y Gwanwyn hwn. At ddiwedd mis Ionawr bydd Carlo Rizzi, Arweinydd Llawrydd WNO yn dychwelyd i’r CGR am y tro cyntaf ers 2008, gyda rhaglen o gampweithiau o ddiwedd y cyfnod Rhamantaidd. Alexander Sitkovetsky, y ffidilydd o fri, fydd yn ymuno â'r Gerddorfa ar gyfer Scottish Fantasy gan Bruch, darn â pedwar symudiad yn seiliedig ar alawon gwerin yr Alban, sydd bellach ymysg gweithiau mwyaf poblogaidd y cyfansoddwr. Yn cwblhau’r rhaglen, perfformir Hebrides Overture gan Mendelssohn a Symffoni Rhif 2 hynod boblogaidd Rachmaninov.

Ym mis Mawrth, bydd Cyfarwyddwr Cerdd WNO Tomáš Hanus yn arwain y Gerddorfa mewn rhaglen sy'n cynnwys Till Eulenspiegels lustige Streiche gan Strauss, a Symffoni Rhif 3 Brahms a bydd y pianydd Paul Lewis yn ymuno â’r gerddorfa i berfformio Concerto Piano Rhif 27 Mozart, cyfraniad unigryw ac olaf y cyfansoddwr at y ffurf.

DIWEDD

Nodiadau i Olygyddion

  • Opera Cenedlaethol Cymru yw cwmni opera cenedlaethol Cymru. Ariennir WNO gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Lloegr i gyflwyno opera ar raddfa fawr ledled Cymru ac yn ninasoedd mawr yn rhanbarthau Lloegr.
  • Mae lluniau cynyrchiadau WNO ar gael i’w lawrlwytho o wno.org.uk/press
  • Am ragor o wybodaeth, lluniau neu gyfweliadau cysylltwch â Branwen Jones / Penny James,  Rheolwr y Wasg (rhannu swydd) ar 029 2063 5038 neu branwen.jones@wno.org.ukpenny.james@wno.org.uk neu Christina Blakeman, Swyddog y Wasg 029 2063 5037 neu christina.blakeman@wno.org.uk.
  • Mae'r cynhyrchiad o Un ballo in maschera yn gyd-gynhyrchiad gydag Oper dêr Stadt Bonn ac fe'i cefnogir gan Syndicate Verdi WNO
  • Rydym ni wrth ein bodd fod Ei Ardderchowgrwydd Llysgennad yr Eidal yn noddi ein Trioleg Verdi
  • Cefnogir swydd Cyfarwyddwr Cerdd WNO gan Marian a Gordon Pell
  • Cefnogir Cyngherddau Cerddorfa WNO yn Neuadd Dewi Sant gan Mathew & Lucy Prichard