Cynhyrchiad newydd o The Flying Dutchman yn arwain Tymor y Gwanwyn 2026 Opera Cenedlaethol Cymru
3 Mawrth 2026- Mae’r bas-bariton Simon Bailey yn dychwelyd i ganu’r brif ran mewn cynhyrchiad newydd o The Flying Dutchman Wagner
- Cân ddwyieithog newydd wedi’i chomisiynu gan Opera Ieuenctid WNO gyda themâu o The Flying Dutchman
- Corau meibion o Gymru yn dychwelyd i berfformio yn rhan o Blaze of Glory!
- Chwarae Opera YN FYW! yn dychwelyd gyda thema Llongddrylliad
- Perfformiad Opera Ieuenctid Seligman WNO o Odyssey
The Flying Dutchman
Bydd y cyfarwyddwr o Gymru, Jack Furness yn gweithio am y tro cyntaf gyda WNO er mwyn cyfarwyddo ailddychmygiad cyfoes o gampwaith cynnar Wagner, fydd yn cael ei arwain gan Gyfarwyddwr Cerdd WNO, Tomáš Hanus.
O nodau agoriadol yr agorawd daranllyd i’r arias cyfareddol, mae cerddoriaeth Wagner yn consurio pŵer y cefnfor, gan osod yr olygfa’n berffaith ar gyfer stori sy’n archwilio emosiynau dynol dwfn unigrwydd a dyheu am gysylltiad. Wedi’i ysbrydoli gan harddwch arfordir Cymru, mae cynllun slic ond elfennol Elin Steele yn galluogi ffocws ar yr adrodd stori a’r perfformiad.
Mae’r bas-bariton Simon Bailey yn dychwelyd i WNO ar gyfer rôl yr Iseldirwr gyda’r soprano Emma Bell yn ymddangos am y tro cyntaf yn ei rôl fel Senta. Wedi iddo berfformio yng nghynhyrchiad Haf 2024 WNO o Il tabarro, mae’r tenor Leonardo Caimi yn dychwelyd i rôl Erik. Hefyd yn dychwelyd mae’r tenor o Gymru, Trystan Llŷr Griffiths yn rôl Y Llywiwr, ac yn cwblhau’r cast mae’r baswr James Cresswell fel Daland a Minika Sawa fel Mary.
Meddai cyfarwyddwr The Flying Dutchman, Jack Furness:
‘A minnau wedi fy magu yng Nghaerdydd, WNO oedd y Cwmni wnaeth fy nghyflwyno i gyntaf i opera. Mae gen i lawer gormod o atgofion artistig hyfryd i’w rhannu, ond rwy’n cofio’n iawn i mi gael fy nghyfareddu yn gwylio cynhyrchiad Yannis Kokko o Tristan und Isolde Wagner yn 2006, ac fe wnaeth chwalu i ar y pryd, a minnau’n 18 oed. Roedd Die Meistersinger Richard Jones ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach yn brofiad ffurfiannol tebyg. Felly, mae’n anodd cyfleu mewn geiriau yr hyn mae’n ei olygu i fod yn dychwelyd ugain mlynedd yn ddiweddarach fel cyfarwyddwr am y tro cyntaf ar gyfer fy nghwmni lleol gydag opera ddolurus hyfryd a dirfodol gan Wagner, The Flying Dutchman.
Rwyf mor gyffrous i fod yn gweithio gydag Emma Bell sy’n chware rôl Senta. Yn union wedi i mi adael y Brifysgol, cefais gyfle i weld atgyfodiad o Die Meistersinger Graham Vick yn yr Opera Brenhinol. Fe wnaeth yr holl brofiad chwalu fy meddwl, ac roedd Emma yn wych yn chwarae rhan Eva. A dyma ni, yn cydweithredu, ynghyd â chast rhagorol.
‘Rydw i hefyd yn arbennig o hapus i fod yn gweithio gyda thîm rhagorol o artistiaid creadigol. Mae Elin Steele, Lizzie Powell, Rebecca Meltzer a minnau’n gobeithio creu sioe sy’n rhoi ffocws elfennol ar ddrama ddynol, ddofn opera Wagner ac sy’n galluogi i’w cherddoriaeth drosgynnol hoelio sylw’r gynulleidfa.
Mae’r gwaith eithriadol WNO wedi bod yn bresenoldeb cyson yn fy mywyd cerddorol a dramatig, ac mae gallu chwarae rhan ym mhennod nesaf y cwmni, gyda’i Gorws a Cherddorfa anhygoel yn rhywbeth sydd wastad wedi bod ar fy rhestr o bethau i’w gwneud.’
Fel prif ariannwr The Flying Dutchman, mae WNO yn ddiolchgar am y gefnogaeth barhaus gan Ymddiriedolaeth Colwinston; meddai Mathew Prichard CBE, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Cowinston:
‘Mae Ymddiriedolaeth Colwinston yn falch iawn o fod yn dathlu 30 mlynedd o weithio gyda chymaint o sefydliadau celfyddydol o safon uchel ledled y DU drwy ddyfarnu Grant Pen-blwydd arbennig i Opera Cenedlaethol Cymru, i gefnogi eu cynhyrchiad o The Flying Dutchman, wrth iddynt ddathlu eu pen-blwydd yn 80 oed. Bydd y cynhyrchiad yn agor yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ym mis Ebrill 2026.’
Bydd The Flying Dutchman yn agor yng Nghaerdydd ar ddydd Iau 16 Ebrill, cyn mynd ar daith i Plymouth, Birmingham a Milton Keynes.
Blaze of Glory!
Mae Tymor y Gwanwyn Opera Cenedlaethol Cymru yn agor gyda dychweliad y cynhyrchiad sydd wedi derbyn canmoliaeth uchel, Blaze of Glory! Mae’r stori’n yn dilyn grŵp o lowyr yng Nghymru wrth iddynt ddechrau ar daith gerddorol i ail-sefydlu eu côr meibion ar ôl trychineb lofaol lleol. Mae’r sioe yn agoriad teilwng i dymor pen-blwydd Opera Cenedlaethol Cymru yn 80 oed.
Ymddangosodd Opera Cenedlaethol Cymru o ysbryd diwedd y rhyfel o ddemocratiaeth a chafodd ei sylfaenu gan grŵp o gantorion ac arweinwyr amateur ar hyd a lled de Cymru. Mae’r aelodau sefydlol yma, rhai ohonynt yn lowyr, rhai yn athrawon, rhai yn ddoctoriaid wedi gosod y naws ar gyfer y cwmni sy’n bodoli heddiw: wedi’i wreiddio yn y gymuned a’i eni o’r angerdd Cymreig hwnnw dros lais mewn cân.
Wedi’i gyfansoddi gan David Hackbridge Johnson, a chyda libretto gan Emma Jenkins, mae’r sioe ddyrchafol hon yn cyfuno harmonïau traddodiadol o Gymru gyda synnau a capella yr 1950au, gydag operatta, gospel a ‘big band’ yn cael eu hychwanegu at y gymysgedd. Mae Caroline Clegg yn dychwelyd i gyfarwyddo, gyda James Southall yn arwain. Bydd nifer o’r cast gwreiddiol yn dychwelyd, gan gynnwys Jeffrey Lloyd-Roberts fel Meistr y Corws Dafydd Pugh, Rebecca Evans fel Nerys Price, Mark Llewelyn Evans fel Caradog Probert, Themba Mvula fel Anthony, Adam Gilbert fel Emlyn a Feargal Mostyn-Williams fel Bryn Bevan. Yn ymuno gyda’r cast fel Blodwen mae Lea Shaw fydd yn canu ochr yn ochr ag Angharad Morgan fel Bronwen ac Angharad Lyddon fel Branwen.
Mae Blaze of Glory! yn agor yng Nghaerdydd ar ddydd Mercher 1 Ebrill, cyn mynd ar daith i Plymouth, Birmingham, Milton Keynes ac Abertawe.
Chware Opera YN FYW!
Mae sioe deuluol Opera Cenedlaethol Cymru Chwarae Opera YN FYW! yn dychwelyd i’n llwyfannau gyda thema newydd, Llongddrylliad! Gan ddod yn fyw drwy Gerddorfa a Chorws WNO, gyda’r cyflwynwr Tom Redmond yn dychwelyd i lywio’r llong, mae’r sioe ryngweithiol ac addysgiadol yma yn cyflwyno teuluoedd i fyd cerddoriaeth glasurol ac opera.
Gan gynnwys cerddoriaeth rymus gan Wagner, Verdi, Puccini, a llawer mwy, bydd y sioe yn mynd â’r gynulleidfa drwy daith o gerddoriaeth, drama, a moroedd mawr gwyllt. Mae Caroline Clegg yn dychwelyd fel cyfarwyddwr gyda Tom Fetherstonhaugh yn arwain. Yng Nghaerdydd, bydd Julie Doyle yn darparu dehongli BSL wedi’i integreiddio mewn cydweithrediad ag arbenigwyr theatr arloesol a hygyrch, Taking Flight Theatr, sydd wedi gweithio’n ddiweddar gydag Opera Ieuenctid WNO ar gynhyrchiad eu 20fed pen-blwydd Panig! Attack!!.
Cyn bob sioe bydd gweithgareddau cyn-perfformiad am ddim ym mhob lleoliad yn cynnwys gorsafoedd goleuo a sain, creu propiau, archwilio gwisgoedd WNO a helfa drysor, ochr yn ochr â gweithdai rhyngweithiol a pherfformiadau.
Bydd y gweithdai yn arddangos talent lleol a grwpiau celfyddydol yr ifanc ym mhob lleoliad ar daith. Ar gyfer Caerdydd, bydd perfformiadau gan Opera Ieuenctid WNO, myfyrwyr Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a band siantis môr lleol, Bois y Bryn.
Bydd Chwarae Opera YN FYW! yn agor yng Nghaerdydd ar ddydd Sadwrn 18 Ebrill, cyn mynd ar daith i Plymouth, Birmingham, Abertawe a Milton Keynes.
Gweithgaredd Ymgysylltu
Mae’r sioe sy’n agor y tymor, Blaze of Glory! yn cynnwys perfformiadau byw gan rai o gorau meibion gorau Cymru, a fydd hefyd yn perfformio cyn y sioe gyda phob perfformiad. Yng Nghaerdydd, mae Côr Meibion Dowlais yn dychwelyd i’r cynhyrchiad yn ogystal â Chôr Meibion Ynysowen o Aberfan - cartref sylfaenydd y WNO, Idloes Owen. Bydd Blokes Who Sing yn ymuno gyda’r cast yn Plymouth a bydd City of Birmingham Male Voice yn canu cyn y sioe yn y Birmingham Hippodrome. Bydd Cyfarwyddwr Cerdd Opera Ieuenctid WNO, Dan Perkin, y libretydd Juliette Manon, cyfarwyddwr Hannah Noone a’r dylunydd Tamsin Robinson yn dod ynghyd er mwyn dod â pherfformiad cyn y perfformiad o flaen The Flying Dutchman, o’r enw Cragen Becan. Mae’r comisiwn newydd hwn wedi’i ddatblygu gyda’r Cwmni Opera Ieuenctid ac yn tynnu ar themâu creiddiol o opera Wagner: dyhead am gartref a gwylltineb a phŵer y môr. Cyfrannodd cyfranogwyr at greu’r testun a syniadau cerddorol drwy weithdai archwiliol gyda’r ysgrifennwr a’r cyfansoddwr. Bydd y darn yn cael ei berfformio mewn tair iaith, Cymraeg, Saesneg ac Iaith Arwyddion Prydain.
Bydd Cragen Becan yn cael ei berfformio ar Lwyfan Glanfa, Canolfan Mileniwm Cymru cyn perfformiad agoriadol The Flying Dutchman ar ddydd Iau 16 yn ogystal â dydd Sul 19 Ebrill.
Perfformiad Opera Ieuenctid Seligman WNO
Bydd Cwmni Opera Ieuenctid Opera Cenedlaethol Cymru yn perfformio cynhyrchiad o Odyssey Ben Moore a Kelley Rourke ym Mherfformiad Opera Ieuenctid Seligman eleni. Bydd yr opera 50 munud yma’n cael ei pherfformio yn Stiwdio Weston Canolfan Mileniwm Cymru ddydd Sadwrn 23 a dydd Sul 24 o Fai. Wedi’i pherfformio’n flaenorol gan Opera Ieuenctid New York Met, mae’r darn hwn yn addasiad cerddorol o’r stori Roegaidd galsurol o daith Odysseus gartref o Ryfel Caerdroea. Bydd Opera Ieuenctid WNO, sy’n cynwys hyd at 70 o bobl ifanc rhwng 8-18 oed yn perfformio ochr yn ochr â dau unawdydd sy’n gyn-aelodau o’r Opera Ieuenctid. Bydd dehongliad llwyfan BSL hefyd yn cael ei berfformio gan y Dehonglydd Llwyfan Cathryn McShane-Kouyate a bydd y cyfan yn i gyfeiliant pum offerynwr. Bydd Cyfarwyddwr Cerdd Opera Ieuenctid WNO, Dan Perkin yn arwain, gyda Sian Cameron yn Gyfarwyddwr Llais a Hannah Noone yn dychwelyd i gyfarwyddo.
DIWEDD
Nodiadau i Olygyddion
Opera Cenedlaethol Cymru yw'r cwmni opera cenedlaethol ar gyfer Cymru, a ariennir gan Gynghorau Celfyddydau Cymru a Lloegr i ddarparu cyngherddau, gwaith allgymorth ac operâu ar raddfa fawr ledled Cymru ac mewn dinasoedd mawr yn rhanbarthau Lloegr. Rydym yn ymdrechu i gynnig profiadau trawsnewidiol drwy ein rhaglen addysg ac allgymorth a'n prosiectau digidol llwyddiannus. Rydym yn gweithio gyda'n partneriaid i ddarganfod a meithrin doniau operatig ifanc, a'n nod yw dangos i genedlaethau'r dyfodol bod opera'n gelfyddyd foddhaus, berthnasol a byd-eang sydd â'r grym i gael effaith ac i ysbrydoli.
Mae lluniau cynyrchiadau WNO ar gael i'w lawrlwytho o https://wno.org.uk/cy/press
Mae rhagor o wybodaeth ynghylch gwaith WNO ar gael yn wno.org.uk/cy/
- Prif Gyllid gan Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston
- Cefnogir Cynyrchiadau 2026 gan Gronfa Dunard ac Ymddiriedolaeth Opera Laidlaw
- Cefnogir The Flying Dutchman gan Sheila a Richard Brooks
- Mae cynhyrchiad WNO o The Flying Dutchman wedi’i gefnogi’n hael gan Syndicet Dutchman WNO
- Cefnogir Blaze of Glory! a’r Flying Dutchman gan Noddwyr WNO
- Cefnogir rôl yr Iseldirwr yn The Flying Dutchman gan Julia Ellis
- Cefnogir rôl Senta yn The Flying Dutchman gan Malcolm Herring
- Cefnogir rôl Nerys Price yn Blaze of Glory! gan Samantha Maskrey
- Mae cynhyrchiad WNO o The Flying Dutchman wedi’i gysegru gyda diolchgarwch er cof am Peter Byng
- Cefnogir rôl Cyfarwyddwr Cerdd WNO Tomáš Hanus gan Marian a Gordon Pell.
- Cefnogir Chwarae Opera YN FYW! a’r gweithgaredd ymgysylltu cyn The Flying Dutchman gan Ymddiriedolaeth Elusennol Simon Gibson
- Cefnogir rôl Blaenwr Cerddorfa WNO gan Mathew a Lucy Prichard
- Cefnogir Cerddorfa WNO gan Mathew a Lucy Prichard
- Cefnogir Staff Cerdd WNO, y Corws a’r Gerddorfa gan Anthony Negus a Carmen Jakobi-Negus
- Cefnogir Cadeiryddion Cerddorfa WNO gan y Cylch Prif Chwaraewyr
- Cefnogir Artist Cyswllt WNO, Owain Rowlands gan Philip Carne MBE
- Mae WNO yn ddiolchgar am gefnogaeth hael Bwrsariaeth Shirley a Rolf Olsen, Bwrsariaeth Sheila a Richards Brooks, Ysgoloriaeth Anthony Evans, Bwrsariaeth Eira Francis Davies, Ymddiriedolaeth Elusennol Fidelio, Ymddiriedolaeth Joseph Strong Frazer, Ymddiredolaeth Stanley Picker, Sefydliad Noël Coward a Bwrsariaeth Chris Ball tuag at ein rhaglen Artist Cyswllt WNO.
- Cefnogir Artist Cyswllt WNO | Canwr WNO Seligman gan gymynrodd y diweddar David Seligman
- Cefnogir Perfformiad Opera Ieuenctid WNO Seligman ac Opera Ieuenctid WNO gan gymynrodd y diweddar David Seligman a Rhodd Seligman, Ymddiriedolaeth Gibbs, Ymddiriedolaeth Clive Richards ac Andrew Fletcher
Am ragor o wybodaeth, lluniau neu gyfweliadau, cysylltwch â:
Christina Blakeman, Rheolwr Cyfathrebu
Neil Collins Arweinydd Cyfathrebu Strategol



