
- Cynhyrchiad newydd o War and Peace gan Prokofiev wedi’i gyfarwyddo gan David Pountney
- Adfywiad cynyrchiadau WNO o La traviata a La Cenerentola
- Yr opera neuadd gerddoriaeth Rhondda Rips It Up! yn dychwelyd ar ôl taith haf llwyddiannus
- Cerddorfa WNO i berfformio Cyngerdd i’r Teulu â’r thema Calan Gaeaf a chyngerdd Cyfres o Gyngherddau Rhyngwladol yn yr hydref yn Neuadd Dewi Sant Caerdydd
- Perfformiad Gŵyl Brno o From the House of the Dead gan Janáček
Mae Opera Cenedlaethol Cymru wedi cyhoeddi manylion llawn tymor yr hydref. Bydd y tymor o operâu prif raddfa yn cynnwys cynhyrchiad newydd o War and Peace gan Prokofiev ochr yn ochr ag adfywiadau o La traviata gan Verdi a La Cenerentola gan Rossini a fydd yn agor yng Nghaerdydd cyn teithio drwy Gymru a Lloegr.
Dechreua’r tymor â sioe agoriadol o fersiwn newydd o War and Peace wedi’i ddylanwadu gan ymchwil y cerddolegwr Rita McAllister i ailstrwythuro bwriadau gwreiddiol Prokofiev ar gyfer y darn, wrth barhau i gynnwys rhai o ychwanegiadau coeth diweddarach megis y walts yn Act I. Cyfarwyddir y cynhyrchiad ar raddfa fawr hwn gan Gyfarwyddwr Artistig WNO, David Poutney, ac fe’i harweinir gan Gyfarwyddwr Cerddoriaeth WNO, Tomáš Hanus. Yn dilyn taith yr hydref, bydd WNO yn mynd â War and Peace i’r Tŷ Opera Brenhinol yn Llundain ym mis Gorffennaf 2019 fel rhan o bartneriaeth barhaus y cwmnïau.
Wedi’i seilio ar nofel epig Tolstoy, gosoda’r stori drallodion cymdeithas Rwsiaidd yng nghanol y llwyfan gan gyfuno trallod cyhoeddus â rhamant a themtasiwn preifat. Mae tynged y cariadon ifanc nwyfus, Natasha ac Andrei, yn cael ei chydblethu â’r pendefig delfrydyddol, Pierre, sydd eisiau deall ei hunaniaeth ei hun ymysg digwyddiadau creulon goresgyniad Napoleon yn 1812. Ysgrifennwyd yr opera gan Prokofiev mewn cyfnod eithaf byr o ddwy flynedd yn y 1940au, wedi’i sbarduno gan effaith dinistriol y goresgyniad Almaenaidd ar yr Undeb Sofietaidd, yn mynd ochr yn ochr ag aflonyddwch a rhyfel yn nofel Tolstoy. Wedi’i hysbrydoli gan benderfynoldeb cyfunol pobl Rwsia, arddangosa sgôr helaeth Prokofiev ddigwyddiadau a chymeriadau lliwgar wedi dod i fywyd gyda chast mawr, a chorws a cherddorfa sylweddol yn y cynhyrchiad uchelgeisiol hwn.
Bydd Cyfarwyddwr Cerddoriaeth WNO, Tomáš Hanus, yn gwneud dychweliad hirddisgwyliedig i’r brif lwyfan i arwain, yn dilyn tymor o berfformiadau a gymeradwywyd gan y gynulleidfa yn hydref 2017. Perfformir rôl Natasha gan Lauren Michelle, a ddechreuodd ar ei thaith â’r WNO fel Jessica yng nghynhyrchiad 2016 o The Merchant of Venice, a pherfformir Andrei gan Jonathan McGovern sy’n dechrau arni gyda WNO. Cenir Pierre gan artist cyson gyda’r WNO sef Mark Le Brocq, sy’n adnabyddus am ei rolau blaenorol yng nghynyrchiadau’r cwmni o From the House of the Dead, The Merchant of Venice, Lulu ac A Christmas Carol.
Mae David Pountney wedi cydosod tîm dylunio gwych gyda’r dylunydd set, Robert Innes Hopkins, a’r dylunydd goleuadau, Malcolm Rippeth, y ddau yn gydweithwyr ar sioe agoriadol y byd llwyddiannus o In Parenthesis yn 2016, dylunydd y gwisgoedd yw’r partner creadigol tymor hir, Marie-Jeanne Lecca a thafluniadau fideo gan David Haneke. Bydd y cynhyrchiad wedi’i seilio ar yr un set ag In Parenthesis gyda’r dyluniad yn cyfochri â chyfnod rhyfel y 1940au a mawredd trawiadol ac amddifadedd cymdeithas Rwsiaidd yn yr 1800au cynnar.
Dyweda David Pountney, 'Mae War and Peace yn adnabyddus am un o’r sgoriau operatig mwyaf trwm ac yn gofyn am gorysau mawr ac oriel enfawr o rolau bychain i roi dilysrwydd i’r ddrama genedlaethol fawr o’r rhyfel a’r goroesiad a ddarlunnir. Mae’n arddangosiad rhagorol i Gorws enwog WNO ac i gwmni sy’n ymfalchïo ar ragoriaeth gyfunol. Ymuna War and Peace â’r holl epigau rhyfel wrth allu newid mewn eiliad o ddrama gyhoeddus i ddrama breifat, o ddwyster emosiwn personol i ymchwydd o benderfynoldeb cenedlaethol, ac mae hwn yn dir delfrydol i iaith yr opera: i’n cyffroi a’n symud ar y raddfa fwyaf a’r mwyaf cartrefol.'
La traviata
Yr opera fwyaf poblogaidd ac a berfformir amlaf yn y byd, mae La traviata gan Verdi yn stori garu drasig oesol ynghylch putain llys o Baris, Violetta, a’i pherthynas godinebus ag Alfredo, sy’n dod â chariad iddynt cyn y gwahanir hwy gan gymdeithas, afiechyd a thynged. Mae cynhyrchiad Syr David McVicar wedi’i gosod yn salonau moethus Ffrainc yn y 19eg ganrif, wedi’i llwyfannu yn gyntaf gan WNO yn 2009 ac wedi’i gyd-gynhyrchu gyda Scottish Opera. Bydd James Southall yn arwain La traviata, a genir yn Eidaleg gyda Sarah Crisp fel cyfarwyddwr adfywio.
Bydd dwy soprano yn canu rôl Violetta Valéry: Linda Richardson (Cio-Cio-San yn Madam Butterfly, Elvira yn II puritani, Amaltea yn Moses in Egypt ar gyfer WNO) ac Anush Hovhannisyan, sy’n gwneud ei hymddangosiad cyntaf gyda WNO. Mae tenor Awstralaidd-Tsieinïaidd Kang Wang hefyd yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf gyda’r cwmni yn rôl y bwrdais ifanc Alfredo Germont; gwelwyd Wang ac Hovhannisyan ddiwethaf yng Nghaerdydd yn cynrychioli Awstralia ac Armenia yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd yn 2017. Yn cwblhau’r cast mae’r arbenigwr ar Verdi, Roland Wood (Giorgio Germont), Rebecca Afonwy-Jones (Flora), James Cleverton (Baron Douphol) ynghyd ag unawdwyr o Gorws WNO.
La Cenerentola
Agorwyd opera lliwgar Rossini yn wreiddiol yn Rhufain yn 1817 a chafodd ei pherfformio diwethaf gan WNO yn 2007. Wedi’i chanu yn Eidaleg, mae’r cynhyrchiad yn opera gomig eferw gyda gwisgoedd lliwgar gan Joan Guillén. Bydd coreograffydd gwreiddiol y cynhyrchiad, Xevi Dorca, yn adfywio cynhyrchiad Joan Font a ddisgrifir gan y cyfarwyddwr gwreiddiol fel ei fod wedi’i greu 'dan drem o oleuni Canoldirol'. Mae’r opera wedi’i seilio ar y stori glasurol Sinderela gyda thro operatig. Bydd Tomáš Hanus yn arwain La Cenerentola, gan arddangos ehangder ei repertoire cerddorol ymhellach. Y fezzo-soprano Tara Erraught fydd yn perfformio’r brif rôl yn dilyn ei hymddangosiad cyntaf llwyddiannus â WNO gyda Cherddorfa WNO yn y Gyfres o Gyngherddau Rhyngwladol yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd. Mae aelodau eraill o’r cast yn cynnwys Aoife Miskelly (ymddangosiad cyntaf ag WNO), Heather Lowe (The Barber of Seville), Wotjek Gierlach (I Puritani) ynghyd ag arbenigwyr bel canto, Fabio Capitanucci, Matteo Macchioni a Giorgio Caoduro, y cwbl yn gwneud eu hymddangosiad cyntaf â WNO.
Rhondda Rips It Up! a Rhondda Rebel
Agorodd y cynhyrchiad arddull neuadd gerddoriaeth gyda chast o ferched yn unig am fywyd y swffragét a’r entrepreneur arloesol yr Arglwyddes Rhondda yr haf hwn i gymeradwyaeth fawr a bydd yn parhau i deithio trwy gydol fis Hydref a Thachwedd i Fangor, yr Wyddgrug, Rhydychen, Abertawe, Swindon a Chaer-wynt.
Cyfansoddwyd y comisiwn newydd hwn i WNO gan Elena Langer gyda libreto gan Emma Jenkins ac yn cynnwys cast a thîm creadigol merched yn unig a arweinir gan y cyfarwyddwr Caroline Clegg a’r cyfarwyddwr cerddoriaeth Nicola Rose, ac yn arddangos y soprano Lesley Garrett (fel yr Arweinydd) a’r fezzo-soprano Madeleine Shaw (fel yr Arglwyddes Rhondda). Mae Rhondda Rips It Up! yn wahanol i unrhyw beth arall a gyflwynwyd gan WNO o’r blaen, gyda chaneuon gwreiddiol wedi’u hysbrydoli gan sloganau’r swffragét, mae’r cynhyrchiad cellweirus hwn yn mynd â chynulleidfaoedd ar daith chwyrlwynt o genhadaeth yr actifyddion ysbrydoledig.
Yn cyd-deithio â’r cynhyrchiad, mae’r profiad digidol ymdrochi’r WNO, Rhondda Rebel, yn teithio i Gaerdydd, Bangor a Southampton. Mae gan Rhondda Rebel sgript sydd hefyd wedi’i ysgrifennu gan Emma Jenkins ac yn hytrach na defnyddio perfformiadau byw, defnyddir technoleg realiti estynedig i ddarparu cynulleidfaoedd â chipolwg ar brofiadau’r Arglwyddes Rhondda, ac yn gyflwyniad i rai o sgôr gwreiddiol Elena Langer.
Ymgysylltu â’r Gymuned
Mae WNO yn parhau i fewnosod ei hun mewn cymunedau, yn dilyn llwybr teithio’r cwmni ar draws Cymru a Lloegr. Am y tro cyntaf, mae WNO yn dod â’i gyngerdd cerddorfaol hynod boblogaidd i’r Hippodrome ym Mirmingham yn arbennig ar gyfer ysgolion Gorllewin Canolbarth Lloegr ar ddydd Mawrth 13 Tachwedd. Yn y cyfnod cyn y cyngerdd, bydd ysgolion ar draws y rhanbarth yn derbyn gweithdai canu gydag animateuriaid lleisiol WNO i gyflwyno plant i opera, gan gynyddu eu hunanhyder, hunanfynegiant a mwynhad o gerddoriaeth byw.
Bydd WNO hefyd yn rhan o’r gala i ail-agor Theatr Mayflower Southampton ar 26ain Medi, gan lansio ffocws y WNO ar Southampton a’r De Orllewin drwy gael presenoldeb parhaus yn y ddinas yn darparu gweithgaredd i bobl ifanc a’r gymuned.
Cerddorfa WNO
Bydd Cerddorfa WNO yn perfformio dau gyngerdd yn yr hydref. Ar ddydd Sul 28 Hydref am 3yp bydd y Gerddorfa ar lwyfan Neuadd Dewi Sant, Caerdydd ar gyfer Cyngerdd Teuluol Calan Gaeaf cyntaf WNO, wedi’i ddylunio i gyffroi bob oedran. Mae’r cyngherddau hynod boblogaidd hyn yn cynnwys rhaglen o ffefrynnau poblogaidd o fyd yr opera, ffilm a theledu wedi’i berfformio gan Gerddorfa lawn a chantorion WNO gyda gweithgareddau i deuluoedd am ddim yn y cyntedd yn cynnig y dull perffaith o gyflwyno’r teulu i opera a cherddoriaeth glasurol.
Ar ddydd Sul 4 Tachwedd am 3yp fel rhan o’r cyngerdd cyntaf o dri yng Nghyfres Cyngherddau Rhyngwladol 2018-2019 yn Neuadd Dewi Sant, ymunir Cerddorfa WNO â sielydd ifanc o Armenia, Narek Hakhnazaryan, i berfformio sail y repertoire sielo unigol, Elgar’s Cello Concerto. Mae ail hanner y cyngerdd yn cynnwys dau ddarn gan Janáček, angerdd Tomáš Hanus a gafodd ei eni yn nhref gartref y cyfansoddwr, Brno yn y Weriniaeth Siec. Bydd Bariton o Slofacia, Gustáv Beláček, yn dod â golygfeydd cau The Cunning Little Vixen i fywyd gyda’r gyngerdd yn darfod â Sinfonietta gan Janáček, gwaith cymeradwyol dros ben a neilltuodd y cyfansoddwr i Fyddin y Tsiecoslofac, yn llawn ffanfferau pres pwerus a diweddglo gogoneddus o fuddugoliaethus.
Gŵyl Brno Janáček2018
Bydd WNO yn mynd â’i gynhyrchiad a dderbyniodd adborth hynod gadarnhaol o From the House of the Dead gan Janáček i Ŵyl Brno Janáček 2018 ar 2 Rhagfyr. Bydd y perfformiad dan arweiniad Tomáš Hanus a fydd yn mynd â’r cwmni i’w dref enedigol am y tro cyntaf fel dathliad o fywyd a gwaith Leoš Janáček. Bydd hefyd yn foment arbennig i’r cyfarwyddwr, David Pountney, sydd â chysylltiad hir â gwaith Janáček, ac a ddaeth â’r cyfansoddwr yn amlwg yn y DU gyda’i gylchred o operâu Janáček a dorrodd tir newydd yn y 1970au a’r 1980au, wedi’i gyd-gynhyrchu gan WNO a Scottish Opera. Bydd y cynhyrchiad, a gyfarwyddir gan Caroline Clegg, yn cael ei pherfformio yn rhifyn beirniadol newydd John Tyrrell a agorwyd gan WNO yn hydref 2017 ac sy’n fersiwn mor agos ag sy’n bosibl i fwriadau gwreiddiol Janáček.
Dyweda Tomáš Hanus, 'Rwy’n falch y gallwn gyflwyno i’n cynulleidfa gwaith anghyffredin o’r fath â War and Peace gan Prokofiev, ac fel cyferbyniad, tlysau repertoire Eidalaidd, La Cenerentola gan Rossini a La traviata gan Verdi. Ochr yn ochr â gwaith dwys Prokofiev, bydd y ddau yn ddathliad o opera Eidalaidd a fydd yn swyno, a symud ein cynulleidfaoedd i chwerthin a chrio bob yn ail. Ym mis Rhagfyr, byddwn yn ymweld â Gŵyl BrnoJanáček gyda chynhyrchiad sy’n agos iawn at fy nghalon, yn perfformio From the House of the Dead gan Janáček i’r gymuned ryngwladol. Mae potensial artistig WNO mor fawr teimlaf fod datblygu ei enw da rhyngwladol yn hanfodol. Yn y byd sydd ohoni heddiw, nid posibl yn unig mo hyn, ond hanfodol i ddenu sylw rhyngwladol i’r hyn a wnawn, sy’n bwysig nid yn unig i WNO ei hun, ond hefyd i Gaerdydd a Chymru. Mae Gŵyl Janáček yn gam yn y cyfeiriad hwn'
Mae mwy o wybodaeth ynghylch tymor yr hydref 2018 y WNO ar gael yma.
Diwedd
Nodiadau i Olygyddion
· Opera Cenedlaethol Cymru yw cwmni opera cenedlaethol Cymru. Ariennir WNO gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Lloegr i ddarparu profiadau opera ac operatig ar raddfa fawr ledled Cymru ac i ddinasoedd mawr yn rhanbarthau Lloegr.
· Gellir lawrlwytho lluniau cynyrchiadau WNO yn wno.org.uk/press
· Am ragor o wybodaeth, lluniau neu gyfweliadau cysylltwch â Penny James neu Branwen Jones, Rheolwr y Wasg ar 029 20635038 penny.james@wno.org.ukbranwen.jones@wno.org.uk neu Christina Blakeman, Swyddog y Wasg 029 20635037 christina.blakeman@wno.org.uk
· Mae War and Peace yn gyd-gynhyrchiad gyda Theatr Magdeburg
· Rydym yn falch bod Ei Ardderchowgrwydd, Llysgennad Rwsia yn Noddwr Anrhydeddus dros War and Peace
· Cefnogir War and Peace gan The Derek Hill Foundation a Phartneriaid WNO
· Mae La traviata yn gyd-gynhyrchiad gyda Scottish Opera a’r Grand Teatre del Liceu.
· Mae La Cenerentola yn gyd-gynhyrchiad gyda Houston Grand Opera, Grand Teatre del Liceu a’r Grand Théâtre de Genéve
· Cefnogir La Cenerentola gan Gyfeillion WNO
· Cefnogir cyngherddau WNO fel rhan o Gyfres Cyngherddau Rhyngwladol gan Mathew a Lucy Prichard
· Rydym yn falch bod Barwnes Blaenrhondda a’r Fro yn Noddwr dros Rhondda Rips It Up!
· Cefnogir Rhondda Rips It Up! gan Nicholas John Trust, er cof am Joan Moody, Colwinston Charitable Trust, Ambache Charitable Trust, Boltini Trust, The John S Cohen Foundation, The Ernest Cook Trust, Elusen Gwendoline a Margaret Davies, The John Coates Charitable Trust, The Leche Trust, Sefydliad PRS, RVW Trust, Undeb Rhondda WNO a chyfranyddion Rhondda
· Cefnogir perfformiad Rhydychen o Rhondda Rips It Up! gan Sian Marshall Thomas mewn cydgysylltiad â Choleg Somerville, Prifysgol Rhydychen