Cwmni Opera yn rhoi hawliau dynol dan y chwyddwydr – WNO yn cyhoeddi ei Dymor Rhyddid
5 Tachwedd 2018
David Pountney, Cyfarwyddwr Artistig WNOMae'r tymor Rhyddid hwn yn dod â grŵp o waith ynghyd â phob un ohonynt yn cyffwrdd â'r pwnc gwleidyddol hwn, ond fel gwaith celf, nid maniffestos gwleidyddol. Mae'n sefydlu bod gan waith celf sydd yn aml yn cael ei gamfarnu fel maes chwarae'r sefydliad, lawer i ddweud am ddioddefaint gwleidyddol a chymdeithasol.
Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn cyflwyno Rhyddid, tymor o waith operatig gyda thrafodaethau panel, sgyrsiau, gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned ac arddangosfa o waith celf realiti trochol sy'n archwilio themâu hawliau dynol, cyfiawnder a charchariad gwleidyddol.
Wedi'i guradu gan y Cyfarwyddwr Artistig David Pountney, bydd y tymor yn arddangos pob elfen o'r cwmni perfformio o Gorws a Cherddorfa WNO i Gorws Cymunedol WNO ac Opera Ieuenctid WNO sydd wedi ennill gwobrau. Yn ogystal, bydd cantorion ifanc, gan gynnwys cyn-aelodau o’r Opera Ieuenctid a myfyrwyr yn Ysgol Opera David Seligman yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (CBCDC) yn cymryd rhan mewn nifer o'r cynyrchiadau, gan arddangos ymrwymiad parhaus WNO i ddatblygu talent ifanc. Bydd y broses greadigol yn gweld artistiaid ifanc yn rhannu ystafell ymarfer a llwyfan gyda chydweithwyr ag enw rhyngwladol.
Wrth galon y tymor Rhyddid, mae pum opera, pedwar wedi’u llwyfannu’n rhannol ac un cynhyrchiad wedi’i lwyfannu’n llawn. Mae’r cynyrchiadau a fydd yn cael eu llwyfannu’n rhannol yn cynnwys The Consul gan Gian Carlo Menotti, Dead Man Walking gan Jake Heggie, The Prisoner gan Luigi Dallapiccola ac ail act Fidelio Beethoven gyda chynhyrchiad wedi’i lwyfannu’n llawn o Brundibár gan y cyfansoddwr Iddewig o’r Weriniaeth Tsiecaidd, Hans Krása. Bydd pob opera yn cael ei pherfformio yng Nghanolfan Mileniwm Cymru Caerdydd.
Mae'r partneriaid ar gyfer y trafodaethau a'r dadleuon yn ystod y tymor yn cynnwys Amnesty International UK, Cyngor Ffoaduriaid Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru ymysg eraill, gyda'r nod o ysgogi sgwrs a chodi ymwybyddiaeth o'r materion a amlygir gan yr operâu sy’n rhan o’r tymor Rhyddid ac yn y gymdeithas heddiw.
Opera am arhosiad anobeithiol un dyn am fisa yw The Consul gan Gian Carlo Menotti. Enillodd wobr Pulitzer am ei pherfformiad cyntaf ym 1935 ac mae'n parhau i fod yn hynod gyfoes. Mae’r cast yn cynnwys Gary Griffiths, Giselle Allen, Leah-Marian Jones, Catherine Wyn-Rogers a Graeme Broadbent, bydd yr opera yn cael ei chyfarwyddo gan Max Hoehn a'i harwain gan Justin Brown.
Bydd Dead Man Walking, opera gyntaf Jake Heggie gyda libreto gan Terrence McNally, yn cynnwys Lucia Cervoni, Morgan Smith ac Anne Mason yn y tair prif ran, gyda chefnogaeth Corws WNO, cyn-aelodau Opera Ieuenctid WNO a chantorion presennol yr Opera Ieuenctid, myfyrwyr lleisiol a drama o CBCDC ac wedi'u hategu gan leisiau myfyrwyr y conservatoire. Wedi'i seilio ar stori wir sydd hefyd yn llyfr gan y Chwaer Helen Prejean, mae'r plot yn dilyn lleian sydd, wrth gysuro llofrudd euogfarnedig sydd ar res yr angau, yn cydymdeimlo gyda’r llofrudd a theuluoedd y rhai a lofruddiodd. Mae'r cynhyrchiad hwn yn mynd i’r afael â’r syniad o gyfiawnder, gwneud iawn a goddefgarwch, ac fe'i cyfarwyddir gan Martin Constantine a'i harwain gan Karen Kamensek.
Bydd Opera Ieuenctid WNO o gantorion ifanc rhwng 10 a 14 oed yn cyflwyno cynhyrchiad wedi’i lwyfannu’n llawn o Brundibár, opera i blant gyda neges o obaith ac undod yn trechu teyrn drwg, wedi'i chyfarwyddo gan David Pountney. Perfformiwyd yr opera hon am y tro cyntaf ym 1942 mewn cartref plant amddifad Iddewig, yn ddiweddarach daeth Brundibár yn enwog ar ôl iddi gael ei chynnwys mewn ffilm bropaganda gan y Natsïaid, roedd y ffilm yn dangos perfformiad yng ngwersyll crynhoi Terezín (Theresienstadt) yn Tsiecoslofacia dan oresgyniad lle cafodd llawer o’r plant amddifad eu hanfon. Daw'r enw Brundibár o’r gair Tsieceg am gacwn. Bydd yr opera yn cael ei harwain gan Gyfarwyddwr Cerdd WNO Tomáš Hanus sydd â chysylltiad emosiynol â’r gwaith gan fod ei fam yn un o ‘Ferched Ystafell 28’ a wnaeth gymryd rhan mewn perfformiadau yng ngwersyll grynhoi Terezín ac yn un o'r ychydig iawn a wnaeth oroesi. Dyma'r tro cyntaf y bydd Opera Ieuenctid WNO yn gweithio gyda’r pâr arweinyddol o fri Pountney ac Hanus.
Tomáš HanusMae gwneud cerddoriaeth a chelf yn gynhwysyn pwerus i ryddid dynoliaeth a rhyddid pob unigolyn. I’r plant yng ngwersyll grynhoi Teresín (Theresienstadt), a oedd wedi'u gwahanu oddi wrth eu rhieni, roedd cerddoriaeth yn rhoi rhyddid iddynt yn wyneb y drefn Natsïaidd a oedd yn ceisio dwyn eu gobaith a'u paratoi ar gyfer marwolaeth yn unig. Gadawodd Brundibár gan Hans Krása y plant hynny i anadlu, i brofi urddas dynol, cyfeillgarwch a harddwch... yn drist i'r rhan fwyaf ohonynt dyma oedd y pelydryn olaf o haul iddynt ei gael cyn iddynt gael eu llofruddio'n greulon yn Auschwitz. Mae pob plentyn, waeth beth yw eu hamgylchiad, yn haeddu teimlo'r goleuni y gall y celfyddydau a rhyddid creadigol eu rhoi.
Bydd bil dwbl o The Prisoner a Fidelio(Act II) yn cael ei berfformio gyda grym llawn Corws WNO a Chorws Cymunedol WNO ar lwyfan Donald Gordon yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Yn dychwelyd i WNO am y noson, bydd y cyfarwyddwr cerdd blaenorol Lothar Koenigs yn arwain Cerddorfa Cenedlaethol Cymreig y BBC. Mae'r opera un act The Prisoner yn seiliedig ar y stori fer La torture par l'espérance (Artaith gan Obaith) gan Auguste Villiers a bydd yn cynnwys Lester Lynch a Peter Hoare yn y prif rannau fel y Carcharor a'r Ceidwad Carchar, a gyda Sara Fulgoni fel y Fam. Mae unig opera Beethoven Fidelio yn ddangosiad dramatig o drechu gormes gan gariad a rhyddid. Mae'r cast yn cynnwys y tenor Cymreig Gwyn Hughes Jones, Emma Bell, Wojtek Gierlack a Daniel Grice.
Bydd cyfres o ddadleuon, trafodaethau a sgyrsiau yn cyd-fynd â’r cynyrchiadau, gyda siaradwyr gwadd mewn sgyrsiau megis Natur Trosedd a Chyfiawnder, Cynnydd Cenedlaetholdeb a Lleiafrifoedd o fewn, Gwrth-gaethwasiaeth, Rhyddid Barn a Rhyddid Artistig, Croesawu Ffoaduriaid, Amddiffynwyr Hawliau Dynol a Hawliau Plentyn. Ymhlith y siaradwyr bydd: Mona Siddiqui, Athro ym Mhrifysgol Caeredin a'r person cyntaf i ddal cadair mewn Astudiaethau Islamaidd a Rhyng-grefyddol; Bela Arora, Athro Llywodraethu Byd-eang ac Is-gadeirydd Prosiect Americanaidd Prydeinig; Claire Fox, awdur libertaraidd Prydeinig a Chyfarwyddwr a Sylfaenydd The Institute of Ideas yn ogystal â Eric Ngalle Charles, bardd a ddramodydd sydd ei hun wedi dioddef oherwydd y fasnach mewn pobl.
Arddangosfa Celfyddydau Digidol
I ategu'r tymor, mae WNO wedi trefnu arddangosfa ddigidol o weithiau celf realiti trochol i'w harddangos yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Gweithiau trochol gan artistiaid rhyngwladol wedi’i hysbrydoli gan hanesion personol o wynebu rhagfarn a dadleoli oherwydd gwrthdaro yn cael eu gweld yng Nghymru am y tro cyntaf. Yn ogystal, bydd WNO yn cyflwyno stori ddigidol ar y cyd â thîm Arloesi BBC Cymru Wales. Mae'r rhaglen o brofiadau trochol yn cynnwys Terminal 3, The Last Goodbye a Future Aleppo a fydd yn cael eu harddangos ochr yn ochr â’r gosodiad celf weledol The Girls of Room 28, L 410 Theresienstadt.
Mae Terminal 3 yn archwilio hunaniaethau Moslemaidd cyfoes trwy lens holi mewn meysydd awyr a ysbrydolwyd gan brofiadau personol y creawdwr Asad J. Malik gyda'r ymwelydd yn chware rhan yr holwr. Mae’r profiad realiti rhithwir The Last Goodbye yn mynd â stori Pinchas Gutter a wnaeth oroesi’r holocost i lefel trochol wrth iddo dywys y gynulleidfa ar ymweliad â Gwersyll Grynhoi Majdanek lle cafodd ei garcharu. Yn cyfuno rhith-realiti gyda model ffisegol, mae Future Aleppo yn rhannu tystiolaeth Mohammed Kteish, bachgen pymtheg mlwydd oed, wrth iddo geisio ail-greu ei gartref a'i ddelfrydau ar gyfer dyfodol Aleppo.
Mae The Girls of Room 28, L 410 Theresienstadt yn arddangosfa i gofio am y deg ar hugain o ferched a fu'n byw yn Ystafell 28, gwersyll Theresienstadt - perfformiodd rhai ohonynt yn y llwyfaniadau o Brundibár. Er i'r rhan fwyaf o'r merched gael eu llofruddio yn Auschwitz, cefnogodd yr ychydig oroeswyr greu’r arddangosfa hon sy'n arddangos dogfennau gwreiddiol gan drigolion Ystafell 28: dyddiadur, llyfr lloffion, llyfrau nodiadau, cerddi, llythyrau, traethodau, lluniau a lluniadau. Bydd atgynhyrchiad o'r ystafell ei hun yn gartref i'r arteffactau hyn ac yn dathlu'r gymuned a'r ddynoliaeth a fu'n ffynnu yno er gwaethaf amodau torcalonnus. Bydd y newyddiadurwr o’r Almaen, Hannelore Brenner, a wnaeth greu’r arddangosfa, yn ymweld â Chaerdydd i agor y gosodiad.
Mae WNO yn falch iawn o fod yn dechrau ar bartneriaeth pum mlynedd gyda Chyngor Ffoaduriaid Cymru, gan ddechrau eleni gyda darn o theatr gerddorol ddatblygiadol o'r enw Beyond the Rainbow a fydd yn rhan o Wythnos Ffoaduriaid Cymru. Mae'r tîm creadigol yn cynnwys ffoaduriaid sy’n artistiaid ac mae'n cynnig datblygiad proffesiynol i artistiaid sy'n ceisio lloches ar hyn o bryd, nad ydynt yn gallu gweithio oherwydd eu statws. Bydd y gwaith yn dileu'r mythau a'r camdybiaethau negyddol sy'n aml yn gysylltiedig â'r cymunedau ffoaduriaid a mudol. Ar ben hyn, mae WNO hefyd yn gweithio'n benodol gyda ffoaduriaid benywaidd mewn canolfannau yng Nghaerdydd a Birmingham i greu caneuon yn cynnwys negeseuon o loches a gobaith.
Dywedodd Rosie Leach, Cydlynydd Wythnos Ffoaduriaid Cymru "Mae Cyngor Ffoaduriaid Cymru yn falch iawn bod artistiaid sydd â phrofiad o ddadleoli yn cael cyfle i ddatblygu a rhannu eu sgiliau creadigol gydag WNO, i ddysgu oddi wrth arweinwyr y diwydiant celfyddydol, i gael mynediad i gyfleoedd gwaith ac i rannu straeon yn ehangach gyda chynulleidfaoedd theatr”
Mae deg ysgol gynradd yn cymryd rhan yn y rhaglen addysgol sy’n cyd-fynd â Thymor Rhyddid WNO a byddant yn cael gweithdai wythnosol gydag artistiaid o WNO. Y ffocws yw dysgu plant am eu hawliau dynol, ac archwilio’r syniadau o ryddid a chydraddoldeb, gan weithio gyda cherddoriaeth a chelf sy'n hyrwyddo tosturi, empathi a derbyniad. Fel rhan o'r rhaglen ddysgu hon, bydd Siaradwyr gwirfoddol o Amnesty International yn cynnal gweithdai addysg ar hawliau dynol gyda’r plant. Gan gymryd ysbrydoliaeth o'r themâu sy'n codi o'r tymor Rhyddid, bydd grŵp o blant ysgol yn gweithio gyda chyfansoddwyr ac awduron i greu cân wreiddiol y byddant yn perfformio gyda'i gilydd ym mis Mehefin.
Dywedodd Rowena Seabrook o Amnesty International UK: "Mae hawliau dynol yn perthyn i bawb ohonom ac rydym wrth ein bodd i gydweithio ag WNO i'w dathlu nhw".
Diwedd
Perfformiadau Tymor Rhyddid
Dydd Gwener 7 Mehefin Dead Man Walking* 7.30pm
Dydd Mercher 12 Mehefin The Consul* 7.30pm
Dydd Gwener 14 Mehefin The Prisoner / Fidelio (Act II) * 7.30pm
Dydd Sadwrn 22 Mehefin Brundibár 5.00pm
Dydd Sul 23 Mehefin Brundibár* 2.00pm
Dydd Sul 23 Mehefin Brundibár 5.00pm
*Dynodi nosweithiau’r wasg
Nodiadau i Olygyddion
- Opera Cenedlaethol Cymru yw cwmni opera cenedlaethol Cymru. Ariennir WNO gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Lloegr i gyflwyno opera ar raddfa fawr ledled Cymru ac yn ninasoedd mawr yn rhanbarthau Lloegr.
- Mae lluniau cynyrchiadau WNO ar gael i’w lawrlwytho o wno.org.uk/cy/press
- Am ragor o wybodaeth, lluniau neu gyfweliadau cysylltwch â Branwen Jones / Penny James, Rheolwr y Wasg (rhannu swydd) ar 029 2063 5038 neu branwen.jones@wno.org.uk / penny.james@wno.org.uk neu Christina Blakeman, Swyddog y Wasg 029 2063 5037 neu christina.blakeman@wno.org.uk.
Partneriaid Allweddol
- Amnesty International UK
- Cyngor Ffoaduriaid Cymru
- Cefnogir Brundibár gan David Seligman er cof am Philippa Seligman
Mae WNO yn ddiolchgar i'r partneriaid canlynol am gefnogi'r tymor Rhyddid
- Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Caerdydd
- Canolfan Gelfyddydau Chapter
- Comisiynydd Plant Cymru
- Cynulliad Cenedlaethol Cymru
- Oasis Caerdydd
- Prifysgol De Cymru
- Canolfan Mileniwm Cymru
- Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru