Mae Opera Cenedlaethol Cymru’n falch o gyhoeddi penodiad y bariton Donald Maxwell i’w Fwrdd Cyfarwyddwyr.
Mae Bwrdd Cyfarwyddwyr WNO yn cydweithio i oruchwylio materion y Cwmni a’i gynlluniau at y dyfodol.
Mae Donald Maxwell wedi bod yn ganwr opera proffesiynol ers dros 45 o flynyddoedd. Perfformiodd gyda’r WNO am y tro cyntaf ym 1982, a dros y 35 mlynedd nesaf gwnaeth dros 500 o berfformiadau gyda’r Cwmni mewn 30 rôl wahanol. Perfformiad arbennig oedd hwnnw yn y brif rôl yn Falstaff Verdi, ynghyd ag Iago yn Otello, Golaud yn Pelléas and Mélisande a’r Somarone, yr athro cerdd meddw, yn Béatrice and Bénédict.
Roedd gan Donald hefyd gysylltiad agos â chynulleidfaoedd WNO fel Llywydd Cyfeillion y WNO. Yn wreiddiol o Perth yn yr Alban, bu Donald yn byw yn Ne Cymru am dros 30 mlynedd.
Yn ogystal â’i gysylltiad agos â WNO, mae gyrfa ryngwladol Donald wedi mynd ag ef i La Scala Milan, Vienna Staatsoper, Teatro Colon Buenos Aires, Gŵyl y Pasg Salzburg, ac mae ganddo gysylltiad parhaus â’r Metropolitan Opera yn Efrog Newydd.
Roedd Donald yn gyfarwyddwr y National Opera Studio am saith mlynedd ac yn Bennaeth Astudiaethau Opera yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Mae ei yrfa hefyd yn cynnwys gwaith cyfarwyddo, ac mae ganddo ddiddordeb brwd mewn datblygu a hyfforddi artistiaid ifanc.
Dywedodd Donald Maxwell:
‘Bu Opera Cenedlaethol Cymru’n rhan ganolog o’m mywyd am dros 40 o flynyddoedd, a bûm yn ddigon ffodus i gael perfformio mewn rolau rhyfeddol gyda’r Cwmni. Rydym mewn cyfnod heriol i fyd opera a pherfformwyr ar hyn o bryd. Rwy’n edrych ymlaen at gael helpu WNO i gwrdd â’r heriau hyn, a hefyd i sicrhau bod gwaith rhagorol y Cwmni dros y 75 mlynedd diwethaf yn parhau i ysbrydoli a swyno cynulleidfaoedd o bob oed.’
Dywedodd Cadeirydd Bwrdd WNO, Yvette Vaughan Jones:
‘Mae’n bleser gennym groesawu’r canwr opera Donald Maxwell i’n Bwrdd. Bydd Donald yn cyfrannu profiad amhrisiadwy fel canwr rhyngwladol a chanddo gysylltiad cryf â WNO, a bydd yn gam pellach tuag at gryfhau sgiliau aelodau presennol ein bwrdd wrth i ni lywio dyfodol y Cwmni.'
Diwedd
Nodiadau i Olygyddion
Opera Cenedlaethol Cymru yw'r cwmni opera cenedlaethol ar gyfer Cymru, a ariennir gan Gynghorau Celfyddydau Cymru a Lloegr i ddarparu operâu ar raddfa fawr, cyngherddau a gwaith allgymorth ledled Cymru ac mewn dinasoedd mawr yn rhanbarthau Lloegr. Rydym yn ymdrechu i gynnig profiadau trawsnewidiol drwy ein rhaglen addysg ac allgymorth a'n prosiectau digidol llwyddiannus. Rydym yn gweithio gyda'n partneriaid i ddarganfod a meithrin doniau operatig ifanc, a'n nod yw dangos i genedlaethau'r dyfodol bod opera'n gelfyddyd foddhaus, berthnasol a byd-eang sydd â'r grym i gael effaith ac i ysbrydoli.
Mae lluniau cynyrchiadau WNO ar gael i'w lawrlwytho o wno.org.uk/press
Am ragor o wybodaeth, lluniau neu gyfweliadau, cysylltwch â:
Christina Blakeman, Rheolwr y Wasg
Rhys Edwards, Rheolwr Cyfathrebu
Penny James a Rachel Bowyer, Pennaeth Cyfathrebu (rhannu swydd)
penny.james@wno.org.uk / rachel.bowyer@wno.org.uk
wno.org.uk