Tymor yr Hydref 2022 Opera Cenedlaethol Cymru yn gyforiog o ymgysylltu cymunedol ac adrodd hanesion pwerus
2 Awst 2022- Bydd Cyfres Janáček WNO yn parhau gyda The Makropulos Affair dan arweiniad Tomáš Hanus
- Bydd Artistiaid Cyswllt WNO, Thomas Kinch a Dafydd Allen, yn perfformio am y tro cyntaf gyda’r Cwmni
- Bydd Opera Ieuenctid WNO yn cyflwyno Cherry Town, Moscow gan Shostakovich
- Bydd WNO yn perfformio yng ngŵyl fawreddog Janáček yn Brno
- Bydd comisiwn diweddaraf WNO, sef Migrations, yn dychwelyd i Gaerdydd ac yn mynd ar daith
- The Shoemaker – comisiwn newydd mewn partneriaeth ag Oasis Caerdydd lle byddwn yn gweithio gydag artistiaid sy’n ceisio noddfa
Bydd Opera Cenedlaethol Cymru yn agor Tymor yr Hydref gyda chynhyrchiad newydd o The Makropulos Affair; y cyfarwyddwr fydd Olivia Fuchs a’r arweinydd fydd Tomáš Hanus, Cyfarwyddwr Cerdd WNO. Mae’n rhan o Gyfres Janáček WNO ac mae’n seiliedig ar ddrama gan yr awdur Tsiecaidd, Karel Čapek. Yn yr opera hon, adroddir hanes menyw na all fyth farw ar ôl iddi yfed trwyth bywyd bron i 300 mlynedd yn ôl. Angeles Blancas Gulin fydd yn perfformio rhan y prif gymeriad enigmatig, Emilia Marty – y tro cyntaf i Angeles berfformio gyda’r Cwmni. Yn ogystal â theithio i wledydd yn y DU, bydd y cynhyrchiad yn cael ei berfformio hefyd yn y Weriniaeth Tsiec, fel rhan o Ŵyl Janáček 2022 a gynhelir yn Brno ym mis Tachwedd i ddathlu’r cyfansoddwr a’i waith.
Bydd cynhyrchiad Annabel Arden o Labohème gan Puccini yn dychwelyd dan gyfarwyddyd Caroline Chaney, gydag agwedd newydd a ffres. Dan arweiniad Pietro Rizzo yn ei ymddangosiad cyntaf gydag WNO, bydd y cast dwbl yn cynnwys Rodion Pogossov a Germán Enrique Alcántara fel Marcello (hwythau hefyd yn perfformio gyda’r Cwmni am y tro cyntaf), ochr yn ochr â Luis Gomes a Jung Soo Yun fel Rodolfo, Elin Pritchard ac Anush Hovhannisyan fel Mimì, Benson Wilson a Mark Nathan fel Schaunard, ac Aoife Miskelly a Haegee Lee fel Musetta.
Hefyd yn ystod Tymor yr Hydref bydd yr opera arloesol Migrations yn dychwelyd yn dilyn y première yng Nghaerdydd fis Mehefin 2022 – perfformiad a lwyddodd i ennill cryn fri. Mae awduron a libretwyr sy’n newydd i’r byd opera, sef Shreya Sen-Handley, Edson Burton a Miles Chambers, Eric Ngalle Charles, a Sarah Woods, wedi ymuno â Syr David Pountney (sydd hefyd yn cyfarwyddo’r cynhyrchiad) i greu libreto ar gyfer chwe stori bwerus yn sôn am ymfudo. Mae rhai o’r hanesion wedi deillio o brofiadau gwirioneddol a ddaeth i ran pobl, ynghyd â chyfnodau arwyddocaol mewn hanes. Mae cerddoriaeth arbennig y cyfansoddwr Will Todd yn plethu’r storïau gyda’i gilydd i greu opera lle ceir cerddoriaeth, dawns ac adrodd straeon ar raddfa aruthrol.
Mae’r cast o 100 yn cynnwys Tom Randle, Meeta Raval a David Shipley ymhlith artistiaid eraill, ynghyd â Chôr Gospel Cymunedol o Fryste, o’r enw Renewal, ensemble Bollywood a chôr plant sy’n cynnwys aelodau o Gwmni Opera Ieuenctid Opera Cenedlaethol Cymru. Matthew Kofi Waldren yw’r arweinydd.
Ar 9 Hydref ar lwyfan Canolfan Mileniwm Cymru, bydd Opera Ieuenctid gwobrwyol WNO yn cyflwyno dau berfformiad o gynhyrchiad newydd, sef gwaith cerddorol dychanol ac ysgafnfryd gan Shostakovich o’r enw Cheryomushki, neu Cherry Town, Moscow. Yn dilyn llwyddiant ysgubol Don Pasquale yn 2019, bydd Daisy Evans yn dychwelyd i WNO fel cyfarwyddwr. Bydd cerddorion proffesiynol o’r radd flaenaf yn ymuno â hi, yn cynnwys yr arweinydd Alice Farnham a’r arbenigwr lleisiol Mary King, gan arwain y cantorion ifanc mewn profiad cwbl broffesiynol tra’n cynnig adloniant o’r radd flaenaf i gynulleidfaoedd gan egin-dalentau cerddorol. Mae nifer o aelodau ifanc y cwmni eisoes ar eu taith tuag at ymuno â’r proffesiwn ac yn mynychu ysgolion cerddoriaeth, gyda rhai yn mynychu Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
Y tenor Thomas Kinch a’r bariton Dafydd Allen fydd Artistiaid Cyswllt newydd WNO ar gyfer Tymor 2022/2023, a’r Hydref hwn byddant yn perfformio gyda’r cwmni am y tro cyntaf.
Llwyddodd Dafydd Allen, myfyriwr ôl-radd diweddar yn y Coleg Cerdd Brenhinol, i gyrraedd y rownd derfynol yng ngwobr Bwrsari Kathleen Ferrier ar gyfer cantorion ifanc, gan gynrychioli’r Coleg Cerdd Brenhinol, ac mae’n enillydd mynych yn Eisteddfod yr Urdd ac yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Bydd yn perfformio am y tro cyntaf gydag WNO yn rôl y Technegydd Llwyfan yn The Makropulos Affair, a hefyd bydd yn chwarae rhan Boris yn Cherry Town, Moscow.
Gwelir bod Thomas Kinch wedi graddio’n ddiweddar o’r Royal Conservatoire of Scotland. Ac yntau wedi canu gyda Dorset Opera, Sri Lanka Opera ac Opera Gogledd Cymru, yn 2021 enillodd wobr yr Artist Datblygol yn Sefydliad Dolora Zajick ar gyfer Lleisiau Dramatig Ifanc, lle bu’n gweithio gyda hyfforddwyr, cyfarwyddwyr ac athrawon enwog o’r Metropolitan Opera, La Scala a Deutsche Oper Berlin. Bydd Thomas yn mynd i’r afael â rôl y cyfreithiwr Vitek yn The Makropulos Affair.
Medd Dafydd Allen, Artist Cyswllt WNO:
‘Rydw i’n llawn cyffro o gael ymuno ag Opera Cenedlaethol Cymru fel Artist Cyswllt ac rydw i’n teimlo’n ffodus iawn o gael ymuno â’m cwmni cenedlaethol. Rydw i’n gyffro i gyd o allu parhau â’m datblygiad ochr yn ochr â rhai o berfformwyr gorau’r byd. Alla i ddim disgwyl.’
Ym mis Tachwedd a mis Ionawr, bydd Cerddorfa WNO yn cymryd rhan yng nghyfres Cyngherddau Clasurol Caerdydd yn Neuadd Dewi Sant, ochr yn ochr â pherfformiadau yng ngŵyl fawreddog Janáček yn Brno. Bydd y ddau gyngerdd yn cynnwys cerddoriaeth o’r Weriniaeth Tsiec a byddant yn cael eu harwain gan Tomáš Hanus, Cyfarwyddwr Cerdd WNO. Hefyd, bydd y mezzo-soprano Jana Kurucova yn perfformio yn y cyngerdd a gynhelir fis Tachwedd. Mae gŵyl Janáček yn dathlu’r cyfansoddwr Leoṧ Janáček a’r llefydd y bu’n gweithio ac yn byw ynddynt am fwy na hanner can mlynedd. Yn ogystal â pherfformio The Makropulos Affair, bydd Cerddorfa WNO hefyd yn cyflwyno rhaglen gerddorfaol a fydd yn cynnwys gweithiau gan Wagner, Britten, Dvořák a Janáček dan arweiniad Tomáš Hanus, a bydd y bariton Adam Plachetka yn perfformio. Ymhellach, bydd Côr a Cherddorfa WNO yn perfformio’r Messiah yn Neuadd Dewi Sant ym mis Rhagfyr.
Rhywbeth arall sydd wedi’i drefnu ar gyfer Tymor yr Hydref yw gweithgareddau Rhaglenni ac Ymgysylltu WNO, sy’n anelu at ymgysylltu â phobl yn y gymuned a chael effaith gadarnhaol ar eu bywydau. Mae ardaloedd Hwb y Cwmni ar gyfer gwaith ymgysylltu yn galluogi WNO i droi diwylliant yn brofiad beunyddiol i bobl mewn cymunedau ledled y DU – yn Ne a Gogledd Cymru, ym Mirmingham ac yng Ngorllewin Canolbarth Cymru. Nod y rhaglen yw creu llwybrau ystyrlon at opera a cherddoriaeth glasurol i bobl yn y gymuned, ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd newydd ac iau ledled y rhanbarthau.
Mae’r uchafbwyntiau’n cynnwys The Shoemaker, sef comisiwn cyfareddol newydd a grëwyd gan WNO mewn partneriaeth ag Oasis, Caerdydd. Gan gyflwyno adroddiad pwerus a bythol berthnasol o wytnwch a dycnwch, mae’r cynhyrchiad yn adrodd hanes Isabella, sef crydd sy’n creu ac yn trwsio esgidiau i bobl er mwyn eu cynorthwyo gyda’u siwrneiau a’u hymdrechion i gael bywyd gwell. Adroddir y stori gan ensemble o awduron a cherddorion, gan gyfuno cerddoriaeth Ladin-Americanaidd, cerddoriaeth Bersiaidd a cherddoriaeth glasurol y Gorllewin. Bydd perfformiadau’n cael eu cynnal yn Stiwdio Weston, Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd ar 21 a 22 Hydref.
Yn dilyn treial llwyddiannus yn Abertawe, ym mis Hydref 2019 lansiwyd y Côr Cysur yn Aberdaugleddau, sef grŵp canu hwyliog i bobl sy’n byw gyda dementia. Mae’r Côr Cysur hefyd yn rhan allweddol o’r prosiect ‘Cysur’ ehangach sy’n anelu at bontio’r cenedlaethau, lle caiff plant ysgolion cynradd ac oedolion â dementia gyfle i ddod ynghyd. Ar ôl dwy flynedd lwyddiannus yn Aberdaugleddau, mae WNO bellach wedi ymestyn i leoliad newydd, ac ym mis Hydref bydd yn lansio sesiynau peilot newydd yn ymwneud a’r Côr Cysur gyda phartneriaid yn Llandeilo.
Bydd Chwarae Opera YN FYW, sef sioe WNO ar gyfer teuluoedd, yn dychwelyd i Gaerdydd ac yna’n mynd ar daith i’r Theatr Royal yn Plymouth – a’r tro hwn, fe fydd yna naws ‘ddeinosoraidd’ yn perthyn i’r sioe. Bydd y cerddor a’r cyflwynydd Tom Redmond yn dychwelyd i gyflwyno rhaglen yn llawn o weithiau adnabyddus, yn ogystal ag arwyddgan Jurassic Park gan John Williams. Hefyd, bydd Tom yn adrodd yr hanes ac yn dod â cherddoriaeth Dinosaur Rumpus Steve Pickett yn fyw – sef darn sy’n seiliedig ar lyfr plant Tony Mitton, Bumpus Jumpus Dinosaurumpus. Bydd llu o weithgareddau a gweithdai’n cael cynnal cyn y sioe er mwyn arddangos pob agwedd ar y cwmni opera – o walltiau gosod a cholur i bropiau a gwisgoedd.
Medd Aidan Lang, Cyfarwyddwr Cyffredinol WNO:
‘Fel celfyddyd, does wiw i opera aros yn ei hunfan. Rhan o genhadaeth WNO yw ehangu’r amrywiaeth o brofiadau y gall y cwmni eu cynnig i’w gynulleidfaoedd. Mae hyn yn gwbl ganolog i raglen WNO ar gyfer yr Hydref. Ar ôl yr agoriad llwyddiannus yn ystod yr Haf, rydw i’n edrych ymlaen at weld Migrations yn mynd ar daith, ac rydw i’n siŵr y bydd y perfformiadau’n llwyddo i gyffwrdd ein cynulleidfaoedd yn yr un modd ag y gwnaeth y première ym mis Mehefin. Os yw graddfa’r opera honno yn aruthrol, mae ei chwaer-opera, The Shoemaker, yn ymdrin â themâu tebyg, ond gwneir hynny mewn lleoliad a modd mwy preifat. Bydd yr egni hoenus sydd wastad yn perthyn i aelodau Opera Ieuenctid WNO yn gwbl amlwg yn y perfformiadau o Cherry Town, Moscow. Roedd hi’n hen bryd cael cynhyrchiad newydd o The Makropulos Affair, a thrwy lwc enfawr mae Tomáš Hanus, ein Cyfarwyddwr Cerdd, yn byw ac yn anadlu cerddoriaeth Janáček. Cred WNO fod opera yn gelfyddyd i bawb, a chyda La bohème (campwaith bythol Puccini) yn cwblhau’r rhaglen, ein gobaith yw y bydd Tymor yr Hydref yn gwireddu’r gred honno.
Medd Tomáš Hanus, Cyfarwyddwr Cerdd WNO:
‘Mae The Makropulos Affair gan Leos Janáček yn waith sydd wedi gadael ei ôl ar fy mywyd ac mae wedi bod yn rhan enfawr o’m gyrfa ryngwladol. Rydw i wedi arwain y gwaith hwn yn Opera Bastille ym Mharis, yn Opera Wladwriaethol Bafaria ym Munich ac yn fy ymddangosiad cyntaf gyda’r Theatr Genedlaethol ym Mhrag. Rydw i’n llawn cyffro o gael arwain y gwaith hwn gyda Chôr a Cherddorfa WNO, sy’n enwog am eu perfformiadau gwych o waith Janáček. Rydw i’n gyffro i gyd o gael croesawu’r Cwmni i’m tref enedigol, Brno, i berfformio’r opera hon yng Ngŵyl Janáček ym mis Tachwedd. Mae’r cynhyrchiad newydd hwn gan Olivia Fuchs yn brosiect hynod gyffrous, ac rydw i’n gobeithio y bydd yn berfformiad pwysig yn hanes WNO.’
wno.org.uk
Nodiadau i Olygyddion
Opera Cenedlaethol Cymru yw’r cwmni opera cenedlaethol ar gyfer Cymru. Caiff ei ariannu gan Gynghorau Celfyddydau Cymru a Lloegr er mwyn cynnig operâu ar raddfa fawr ynghyd â chyngherddau a gwaith allgymorth ledled Cymru ac mewn dinasoedd mawr yn rhanbarthau Lloegr. Rydym yn anelu at gynnig profiadau trawsnewidiol trwy gyfrwng ein rhaglen addysgol a chymunedol a’n prosiectau digidol gwobrwyol. Rydym yn gweithio gyda’n partneriaid i ddarganfod a meithrin doniau operatig ifanc, ac anelwn at ddangos i genedlaethau’r dyfodol fod opera yn gelfyddyd werthfawr, berthnasol a rhyngwladol a chanddi’r pŵer i gael effaith ac ysbrydoli.
Gellir lawrlwytho lluniau o gynyrchiadau WNO ar https://wno.org.uk/cy/press
- ABP, Cefnogwr Arweiniol WNO
- Cyflwynir Cherry Town, Moscow er cof am Philippa a David Seligman ac fe’i cefnogir gan yr Unity Theatr Trust
- Cefnogir rôl Cyfarwyddwr Cerdd WNO ar gyfer The Makropulos Affair gan Marian a Gordon Pell
- Cefnogir rôl Emilia Marty gan Peter Espenhahn
- Cefnogir rôl Krista gan Colin a Sylvia Fletcher
- Cefnogir The Makropulos Affair gan Sefydliad John Ellerman, Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston, Harry Hyman a Melanie Meads, Cylch Janáček WNO a Phartneriaid WNO
- Cefnogir Rhaglen Artistiaid Cyswllt WNO gan Fwrsari Shirley a Rolf Olsen, sy’n cynorthwyo Thomas Kinch yn ystod 2022/23
- Cefnogir Rhaglen Datblygu Talent WNO gan Sefydliad Kirby Laing ac Ymddiriedolaeth Elusennol y Teulu Bateman
- Cefnogir Migrations gan Sefydliad John Ellerman, ABP a Syndicet Comisiynau Newydd WNO. Cyflwynir y cynhyrchiad er cof am Anthony Bunker.
- Cefnogir The Shoemaker gan Pobl Trust
- Cefnogir Opera Ieuenctid WNO gan Ymddiriedolaeth Elusennol Gibbs, Sefydliad Elusennol Boris Karloff a’r Thistle Trust
- Cefnogir perfformiadau WNO yn Brno gan Mathew a Lucy Prichard
I gael rhagor o wybodaeth, lluniau neu gyfweliadau, cysylltwch â’r canlynol:
Penny James, Ymgynghorydd y Wasg
Christina Blakeman, Ymgynghorydd y Wasg
Rhys Edwards, Swyddog y Wasg Ddigidol