Y Wasg

Swyn, gobaith, anobaith a chariad: Tymor y Gwanwyn 22 WNO

26 Ionawr 2022
  • Cyfarwyddwr Cerddoriaeth WNO, Tomáš Hanus, fydd yn arwain yr ail opera yn y gyfres Janáček
  • Rhagor o berfformiadau o gynhyrchiad newydd y Cwmni o Madam Butterfly
  • Elizabeth Llewellyn a Peter Berger yn ymuno â'r Cwmni ar gyfer perfformiadau o Jenůfa
  • Andrei Kymach a Duncan Rock yn ymddangos am y tro cyntaf gyda'r Cwmni yn Don Giovanni
  • Cantorion Cymru, Rhodri Prys Jones a Sion Goronwy, yn dychwelyd i WNO
  • Opera Ieuenctid WNO yn dychwelyd i’r llwyfan
  • Chwarae Opera BYW yn dod i Ganolfan Mileniwm Cymru

Mae Opera Cenedlaethol Cymru wedi cyhoeddi manylion llawn ar gyfer Tymor Gwanwyn 2022, sy'n cynnwys Don Giovanni gan Mozart a Jenůfa gan Janáček. Bydd cynhyrchiad llwyddiannus newydd y Cwmni o Madam Butterfly gan Puccini a agorodd yn nhymor yr Hydref 2021 hefyd yn cael ei berfformio yn ystod y Tymor.

Don Giovanni
Egyr y Tymor gyda llwyfaniad 2011 o Don Giovanni gan John Caird, gyda dyluniadau gan John Napier.  Yn seiliedig ar chwedl Don Juan, mae Don Giovanni yn dilyn marwolaeth hudwr enwog y byd opera wrth i'w fercheta direidus ei gipio a daw i ddiwedd ei daith drwy rym y tu hwnt i'r bedd.  Dyma un o'r operâu mwyaf poblogaidd, ac mae ychydig o bopeth i'w chael ynddi, o lofruddiaeth i serch i gomedi, drama a'r goruwchnaturiol.  Caroline Chaney fydd yn cyfarwyddo Don Giovanni, a bydd Tobias Ringborg yn arwain am y tro cyntaf gyda'r Cwmni. Mae Tobias yn hynod gyfarwydd â'r opera hon, wedi iddo ei harwain gyda'r Royal Swedish Opera ac Opera North.

Pleser gan WNO yw croesawu'r baritonau Andrei Kymach a Duncan Rock a fydd yn perfformio am y tro cyntaf gyda'r Cwmni a byddant yn rhannu'r brif rôl, sef Don Giovanni.  Enillodd Andrei Canwr y Byd Caerdydd yn 2019 ac nid yn unig mae Duncan yn prysur sefydlu ei hun yn gantor a pherfformiwr ifanc rhagorol, mae hefyd yn arbenigo mewn maeth ar gyfer y llais ac yn gweithio gyda chantorion ac actorion i warchod eu lleisiau er mwyn datblygu yn eu gyrfaoedd. Bydd Sarah Tynan (Donna Elvira), Joshua Bloom (Leporello) a James Atkinson (Masetto) hefyd yn gwneud eu perfformiadau cyntaf â'r Cwmni ac yn rhannu'r rolau gyda Meeta Ravel, Simon Bailey a Gareth Brynmor John. Mae James Platt a Marina Monzó yn dychwelyd wedi eu perfformiadau fel Sparacfucile a Gilda yng nghynhyrchiad 2019 WNO o Rigoletto gan Verdi i ganu Commendatore a Donna Anna yn y drefn honno.  Yn cwblhau'r cast dwbl hwn mae Trystan Llŷr Griffiths a Kenneth Tarver sy'n rhannu rôl Don Ottavio, Linda Richardson sy'n rhannu rôl Donna Anna, a Chyn-artist Cyswllt WNO, Harriet Eyley, ac Artist Cyswllt cyfredol WNO, Isabelle Peters, sy'n rhannu rôl Zerlina.

Jenůfa
Bydd Eloise Lally yn ymgymryd ag awenau cyfarwyddo, gyda WNO yn croesawu unwaith eto cynhyrchiad gwreiddiol Katie Mitchell o Jenůfa ar y llwyfan.Jenůfa yw rhan arall o Gyfres Janáček y Cwmni a bydd yn cael ei harwain gan Gyfarwyddwr Cerdd WNO, sef Tomáš Hanus. Y tro olaf i'r cynhyrchiad hwn gael ei berfformio oedd yn 2008 gan WNO. Mae Jenůfa yn adrodd stori merch sy'n cadw cyfrinach a fyddai'n dod â chywilydd i'w rhan ac i'w theulu. Bydd Elizabeth Llewellyn hefyd yn chware'r brif rôl Jenůfa am y tro cyntaf gyda'r Cwmni. Perfformiodd Elizabeth am y tro cyntaf gydag English National Opera yn 2010, gan ddenu canmoliaeth fawr. Mae Peter Berger yn un arall sy'n perfformio am y tro cyntaf gydag WNO, a bydd yn canu rôl Laca y mae'n ei rhannu gyda Peter Auty. Mae Peter Berger yn gyfarwydd iawn â'r rôl hon ac mae wedi'i pherfformio eisoes gyda Scottish National Opera a Danish National Opera. Yn cwblhau'r cast mae Angela Denoke sy'n rhannu rôl Kostelnička gydag Eliska Weissova.

Gan barhau ag ymrwymiad WNO i ddatblygu doniau, mae Artistiaid Cyswllt WNO Adam Gilbert, Aaron O’Hare ac Isabelle Peters wedi'u castio mewn rolau yn Jenůfa gan ganu Ŝteva Buryja, Stárek a Jana. Yn cwblhau'r cast mae'r tenor o Gymru, Rhodri Prys Jones, sy'n rhannu rôl Ŝteva Buryja gydag Adam a'r baswr o Gymru, Sion Goronwy, sy'n chwarae rôl y Maer. Dychwela Rhodri i WNO ar ôl perfformio'n broffesiynol am y tro cyntaf yn nhymor yr Hydref 2018 yn War and Peace gan Syr David Pountney. Mae Sion hefyd yn ymuno â chast Madam Butterfly gan rannu rôl The Bonze gyda Keel Watson.

Dywedodd Cyfarwyddwr Cerdd WNO, Tomáš Hanus: “Mae Janáček yn gyfansoddwr sy'n agos iawn at fy nghalon a'm hanes, a hefyd mae'n gyfarwyddwr sy'n dal i fod â chryn dipyn i'w ddweud a all uniaethu â chynulleidfaoedd modern. Mae Jenůfa yn un o'r operâu gorau sydd erioed wedi'i hysgrifennu a hoffwn sicrhau y caiff ei pherfformio i'r safonau uchaf posibl. Rwy'n edrych ymlaen at gyflwyno'r darn hwn gerbron cynulleidfaoedd yng Nghaerdydd ac ar daith hefyd er mwyn i gynifer â phosibl o bobl gael clywed y gerddoriaeth anhygoel hon."

Madam Butterfly
Mae cynhyrchiad newydd o Madam Butterfly a agorwyd yn nhymor yr Hydref 2021 yn dychwelyd yn y Gwanwyn, dan gyfarwyddyd Lindy Hume ac arweiniad James Southall. Mae'r cynhyrchiad llwyddiannus hwn yn archwilio'r themâu sy'n berthnasol i stori glasurol Puccini, gyda'r gerddoriaeth hyfryd yn gefnlen i'r opera hynod boblogaidd hon. Wedi'i osod drwy lygaid yr 21ain ganrif lle mae cariad yn rhywbeth gwerthfawr, mae'r cynhyrchiad newydd hwn o'r opera yn driw i sgôr deimladwy Puccini ac yn dangos mor berthnasol yw'r stori i gymdeithas hyd heddiw.

Bydd y soprano Alexia Voulgaridou yn dychwelyd i'r rôl Butterfly (Cio-Cio-San) ac yn rhannu'r llwyfan â Leonardo Caimi yn rôl Pinkerton. Ymuna Gareth Brynmor John â'r cast fel Sharpless, gyda Keel Watson, Tom Randle, Neil Balfour a Kezia Bienek yn dychwelyd i gwblhau'r cast.

Opera Ieuenctid WNO
Yn dilyn llwyddiant Brundibár yn 2019, bydd grwpiau Opera Ieuenctid WNO yn dod ynghyd unwaith eto ar gyfer perfformiad llawn o The Black Spider yn Stiwdio Weston Canolfan Mileniwm Cymru ym mis Mai 2022. Cafodd aelodau'r Opera Ieuenctid gyfle i berfformio gerbron cynulleidfa am y tro cyntaf ers 18 mis ym mis Medi 2021 pan agorwyd y Senedd ym mhresenoldeb Ei Mawrhydi'r Frenhines, a dyma fydd eu perfformiadau cyhoeddus cyntaf fel rhan o gynhyrchiad ers Haf 2019. Mae hon yn stori iasol, ddigrif gan yr ysgrifennwr, cyfansoddwr a Meistr Cerddoriaeth y Frenhines, Judith Weir, a bydd yn cael ei pherfformio gan aelodau Opera Ieuenctid WNO yn ne Cymru sydd rhwng 10 a 18 oed. Rhian Hutchings sy'n dychwelyd i WNO i gyfarwyddo, gyda Chyfarwyddwr Cerdd Opera Ieuenctid WNO, Dan Perkin yn arwain. Sian Cameron sy'n arwain y lleisiau a'r dylunydd yw Bethany Seddon. Bydd y tocynnau ar gael i'w prynu yn fuan.

Cyfarwyddwr Cyffredinol WNO, Aidan Lang: Er nad yw'r anawsterau a ddaw law yn llaw â Covid-19 wedi diflannu, rydym yn edrych ymlaen at gyflwyno ein tymor y Gwanwyn gwaetha'r modd. Un o gryfderau'r byd opera yw nad yw amser yn berthnasol i ddarnau da o waith, ac mae'r prif syniadau wrth wraidd iddynt yr un mor berthnasol i'n bywydau heddiw ag oeddynt pan gawsant eu hysgrifennu. Yn rhai achosion, megis gyda'r anfoesol Don Giovanni, rydym yn edrych ar ei weithredoedd heddiw drwy lens newydd, mwy cyfoes. Yr hyn sy'n taro deuddeg gyda'r opera arbennig Jenůfa gan Janáček yw bod gweithredoedd ofnadwy'r opera yn digwydd oherwydd y credir y'u gwneir am y rheswm cywir. Ac yn anffodus mae pwyslais ein cynhyrchiad o'r opera Madam Butterfly ar ei chymeriad ifanc sy'n rhan o fasnachu pobl fel pecyn pleser, yn amserol iawn, o ystyried datblygiadau diweddar".

Gweithgareddau Rhaglenni ac Ymgysylltu
Yn dilyn llwyddiant y gyfres ar-lein, Chwarae Opera, bydd rhaglen WNO, sy'n anelu at agor drysau at opera ac ysbrydoli pobl ifanc, yn dod i'r llwyfan gyda Chwarae Opera BYW ddydd Sul 13 Mawrth. Bydd y cyngerdd byw yn agor yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ac yn parhau ar daith yn Llandudno, Plymouth, Southampton a Chanolbarth Lloegr yn The Gatehouse Theatre, Stafford. Mae'r cyngherddau hyn yn rhoi cyfle i bobl ifanc gael profiad o berfformiad byw, ac i lawer ohonynt dyma'r tro cyntaf iddynt gael blas ar opera a cherddoriaeth glasurol. Bydd llu o weithdai cyn y sioe a gweithgareddau yn y cyntedd ym mhob lleoliad sy'n dangos pob agwedd ar gwmni opera, o wigiau a cholur i offer a gwisgoedd. Bydd Cerddorfa WNO ac unawdwyr gwadd yn perfformio rhaglen sy'n cynnwys ffefrynnau o'r byd opera, yn ogystal â cherddoriaeth o West Side Story, The Wizard of Oz ymhlith rhagor o sioeau enwog eraill. 

Mae rhagor o wybodaeth ynghylch cynyrchiadau WNO i'w chael ar wno.org.uk 
Diwedd


Nodiadau i Olygyddion

  • Opera Cenedlaethol Cymru yw'r cwmni opera cenedlaethol ar gyfer Cymru. Fe'i hariennir gan Gynghorau Celfyddydau Cymru a Lloegr i ddarparu operâu graddfa fawr, cyngherddau a gwaith estyn allan ledled Cymru ac mewn rhanbarthau mawr yn Lloegr. Rydym yn darparu profiadau trawsnewidiol i bobl o bob oed a chefndir drwy ein rhaglen addysg ac estyn allan a'n prosiectau digidol gwobrwyedig. Rydym yn gweithio gyda'n partneriaid i ddarganfod a meithrin doniau operatig ifanc, a'n nod yw dangos i genedlaethau'r dyfodol bod opera'n gelfyddyd foddhaus, berthnasol a byd-eang sydd â'r grym i gael effaith ac ysbrydoli.
  • Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn falch iawn o gael dychwelyd i'r llwyfan a pherfformio ar gyfer cynulleidfaoedd eto. Mae'r Cwmni wedi rhoi nifer fawr o fesurau diogelwch ac asesiadau risg ar waith er mwyn diogelu staff, perfformwyr a chriw yn ystod ymarferion a thra'r ydym yn teithio, ac mae'n parhau i lynu wrth holl ganllawiau Llywodraeth Cymru. Mae lleoliadau partner hefyd yn gweithio'n galed i sicrhau y gall cynulleidfaoedd deimlo'n ddiogel pan fyddant yn eu hadeiladau yn gwylio perfformiadau WNO. Mae gan bob lleoliad ei set ei hun o ganllawiau a gwybodaeth, sydd ar gael ac yn cael eu diweddaru'n rheolaidd, ar eu gwefan.
  • Cefnogir Jenůfa gan Gylch Janáček a Phartneriaid WNO
  • Cefnogir rôl Cyfarwyddwr Cerdd WNO ar gyfer Jenůfa gan Marian a Gordon Pell
  • Cefnogir rôl Kostelnička gan Christopher Greene ac Annmaree O'Keeffe
  • Cefnogir Madam Butterfly gan John Ellerman Foundation
  • Cefnogir rôl Butterfly (Cio-Cio-San) gan Jo Furber
  • Cefnogir rôl Pinkerton gan Martyn Ryan
  • Cefnogir yr Arweinydd ar gyfer Madam Butterfly gan Colin a Sylvia Fletcher
  • Cefnogir Cyfarwyddwr Madam Butterfly gan Christopher Greene, Annmaree O'Keeffe a noddwr di-enw
  • Cefnogir rhaglen Datblygu Doniau WNO gan Kirby Laing Foundation a Bateman Family Charitable Trust
  • Cefnogir rhaglen Artist Cyswllt WNO gan Fwrsariaeth Shirley a Rolf Olsen, Joseph Strong Frazer Trust a The Fidelio Charitable Trust
  • Prif Gefnogwr Tymor Gwanwyn WNO yw Cymdeithas Porthladdoedd Prydain. Mae delweddau o gynhyrchiad WNO ar gael i'w lawrlwytho yn http://www.wno.org.uk/press
  • Am ragor o wybodaeth, lluniau neu gyfweliadau, cysylltwch â:
    Christina Blakeman, Swyddog y Wasg
    christina.blakeman@wno.org.uk 

    Rhys Edwards, Swyddog Cyfathrebu Digidol
    rhys.edwards@wno.org.uk