Y Wasg

Dau gynhyrchiad newydd yn arwain rhaglen Tymor y Gwanwyn Opera Cenedlaethol Cymru

20 Tachwedd 2023
  • Bydd Cyfarwyddwr Cerddoriaeth WNO, Tomáš Hanus, yn arwain cynhyrchiad newydd o Così fan tutte gan Mozart, gyda Sophie Bevan a Rebecca Evans yn chwarae'r prif rannau, a Max Hoehn yn cyfarwyddo
  • Bydd WNO yn cydweithio â NoFit State a Firenza Guidi i lwyfannu Death in Venice o waith Britten am y tro cyntaf, gydag Olivia Fuchs yn cyfarwyddo a pherfformiadau gan Mark Le Brocq a Roderick Williams
  • Bydd Cerddorfa WNO yn perfformio cyngerdd Ffefrynnau Opera ochr yn ochr â thaith opera'r gwanwyn, gyda cherddoriaeth gan rai o gyfansoddwyr mwyaf adnabyddus y byd opera

Bydd rhaglen Tymor y Gwanwyn Opera Cenedlaethol Cymru yn agor gyda dau gynhyrchiad newydd; ffefryn operatig gan Mozart, a chyfle prin i weld opera olaf Britten.

Così fan tutte

Yn gyntaf, cawn gynhyrchiad newydd o Così fan tutte gan Mozart, dan arweinyddiaeth Cyfarwyddwr Cerddoriaeth WNO Tomáš Hanus. Bydd Max Hoehn yn dychwelyd i gyfarwyddo'r stori hon am dyfu i fyny, sy'n mynd â'r gynulleidfa yn ôl i'r ysgol, lle mae pedwar myfyriwr ifanc yn dysgu am uchafbwyntiau ac isafbwyntiau syrthio mewn cariad. Jemima Robinson yw dylunydd y cynhyrchiad. Mae dyluniad y cynhyrchiad wedi'i ysbrydoli gan gyfnod y saithdegau, gydag ystafell ddosbarth, ffreutur ac ystafell loceri yn gefndir i'r cyfan, a darluniau gwerslyfrau nodweddiadol o'r cyfnod.

Mae Sophie Bevan, soprano, yn dychwelyd i WNO i ganu rhan Fiordiligi, ac mae Rebecca Evans, soprano o Gymru, hefyd yn dychwelyd fel Despina - sy'n cael ei phortreadu fel cynorthwyydd cinio yn y cynhyrchiad hwn. Yn perfformio eu rhannau am y tro cyntaf yn y cynhyrchiad hwn y mae Kayleigh Decker (Dorabella), Egor Zhuravskii (Ferrando) a James Atkinson (Guglielmo), sydd, ynghyd â Sophie Bevan, yn ffurfio'r pedwarawd o gariadon ifanc.  Hefyd yn ymuno â'r cast y mae José Fardilha fel Don Alfonso.

Dywedodd cyfarwyddwr Così fan tutte, Max Hoehn:

‘Mae Ysgol Gariadon Mozart a da Ponte’s yn lle trawsnewidiol, ond peryglus. Ni fyddai'n gwneud yn dda mewn arolwg ysgol, ac ni fyddai'n cael ei ystyried yn briodol ar gyfer un o gyfresi drama ieuenctid ysgafn Netflix. Mae'r opera'n stori unigryw ac annisgwyl am dyfu i fyny, ac rwy'n edrych ymlaen at gael dod â'r stori'n fyw gyda Chyfarwyddwr Cerddoriaeth WNO Tomáš Hanus a chast cyffrous o rai sy'n chwarae rhannau am y tro cyntaf a rhai sy'n hen law ar gyflwyno gwaith Mozart.’

Bydd Così fan tutte yn agor yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd ar 24 Chwefror cyn teithio i Landudno (14 ac 16 Mawrth), Southampton (21 a 23 Mawrth), Rhydychen (27 Mawrth), Bryste (24 a 26 Ebrill), a Birmingham (10 Mai).

Death in Venice

Bydd WNO hefyd yn llwyfannu cynhyrchiad newydd o Death in Venice o waith Britten yn ystod Tymor y Gwanwyn. Dyma fydd y tro cyntaf i'r cwmni lwyfannu'r opera hon. Bydd Olivia Fuchs yn dychwelyd i WNO i gyfarwyddo Death in Venice, gyda gwaith Cyfarwyddo a Dylunio Syrcas gan NoFit State a Firenza Guidi. Mae'r stori'n seiliedig ar nofel fer yn dwyn yr un teitl, o waith Thomas Mann, ac mae'n dilyn yr awdur Gustav von Aschenbach wrth iddo deithio i Fenis i geisio cael yr awen i lifo unwaith eto. Yno, mae'n gwirioni ar Tadzio, sy'n ifanc ac yn olygus iawn.  Bydd NoFit State yn dod â chymysgedd o gampau acrobatig a fydd yn gyfuniad o sgiliau, strapiau a rhaffau llac ac elfennau syrcas eraill, sy'n cydblethu drwy gydol yr opera. Bydd hyn yn cyflwyno elfen unigryw, ddiddorol ac yn ychwanegu at delynegiaeth y darn.

Bydd yr Arweinydd Prydeinig Leo Hussain yn arwain WNO am y tro cyntaf yn y cynhyrchiad hwn.  Bydd Mark Le Brocq yn dychwelyd i WNO i chwarae rhan Aschenbach am y tro cyntaf, gyda Roderick Williams yn chwarae rhan y Teithiwr yn ei arwain tuag at ei dynged.  Bydd Alexander Chance yn canu rhan uwchdenor Llais Apollo. Hefyd yn ymuno â'r cast ac yn perfformio am y tro cyntaf i'r Cwmni, yn rhan Tadzio, y mae Antony César. Perfformiwr amrywiaeth a syrcas yw Antony. Fe enillodd y 'Golden Buzzer' ar fersiwn Ffrainc o Britain's Got Talent, sef La France Incroyable Talent.

Mae'r Tymor hwn hefyd yn cynnig cyfle arall i Artistiaid Cyswllt presennol WNO gymryd rhan yn y cynyrchiadau opera. Bydd dwy gantores, sef Emily Christina Loftus a Beca Davies yn ymuno â chast Death in Venice.

Bydd Nicola Turner hefyd yn dychwelyd i WNO i ddylunio'r cynhyrchiad newydd hwn, sy'n cynnwys delweddau o harddwch hudolus, gyda dechrau'r ugeinfed ganrif yn gweithredu fel drych i'n cyfnod ni. Bydd hefyd yn archwilio'r agweddau grotésg sy'n cuddio o dan yr ymchwil am yr aruchel. Yn cwblhau'r tîm creadigol y mae'r Dylunydd Goleuo Robbie Butler a'r Dylunydd Fideo Sam Sharples.

Dywedodd Cyfarwyddwr Death in Venice, Olivia Fuchs: ‘Am gyffrous yw cael cyfarwyddo Death in Venice a chael gweithio gyda'r un tîm creadigol – Nicola Turner, Robbie Butler a Sam Sharples - ag a fu'n gweithio ar The Makropulos Affair! Rwy'n falch iawn o fod yn dychwelyd i WNO. A dyna bleser arbennig fydd cael cydweithio â NoFit State Circus, yr arweinydd Leo Hussain a'r artistiaid Mark Le Brocq a Roderick Williams, sy'n ddau berfformiwr hynod ddeallus ac amryddawn. Yn ymuno â nhw fydd yr artist campau awyr Antony César yn chwarae rhan Tadzio, yn ogystal ag ensemble cryf o artistiaid syrcas a chantorion, a fydd yn rhoi cyfle i gorws rhagorol WNO ddisgleirio. Rwy'n edrych ymlaen yn arw at ddechrau ymarfer.'

Bydd Death in Venice yn agor yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd ar 7 Mawrth cyn teithio i Landudno (13 Mawrth), Southampton (20 Mawrth), Rhydychen (26 Mawrth), Bryste (27 Ebrill), a Birmingham (11 Mai).

Ffefrynnau Opera

Yn ogystal â'r operâu sy'n mynd ar daith, bydd y Cwmni'n perfformio cyngerdd Ffefrynnau Opera yng Nghaerdydd, Llandudno, Southampton, Bryste a Plymouth, gan gynnig cyfle i'r cynulleidfaoedd glywed a mwynhau rhai o ddarnau mwyaf adnabyddus y byd opera. Bydd y cyngerdd yn dwyn ynghyd Cerddorfa WNO, Corws WNO, Artistiaid Cyswllt WNO ac un o gyn-Artistiaid Cyswllt WNO Adam Gilbert, yn ogystal â James Cleverton fel artist gwadd. Frederick Brown ac Edmund Whitehead fydd yn arwain y cyngerdd, a fydd yn cynnwys ariâu a darnau corawl a cherddorfaol adnabyddus, gan gynnwys cerddoriaeth gan Mozart, Verdi, Britten a Puccini ymysg eraill.

Cerddorfa WNO

Cyn operâu Tymor y Gwanwyn, ym mis Ionawr 2024 bydd Cerddorfa WNO yn mynd ar daith blwyddyn newydd i gyflwyno cyngerdd Dathliad Fiennaidd. Dan arweinyddiaeth y Cyngerfeistr David Adams, yn ymuno â'r Gerddorfa fydd Artistiaid Cyswllt presennol WNO Emily Christina Loftus a Beca Davies. Bydd y daith yn mynd â nhw drwy Gymru a de-orllewin Lloegr, gan agor yn y Neuadd Fawr yn Abertawe a chloi yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi yn Sir Benfro. Bydd y cyngerdd yn cynnwys cerddoriaeth gan Dvořák, Brahms, Stoltz, Richard a Johann Strauss a Schubert.

Ar 21 Ebrill 2024, bydd Cerddorfa WNO yn perfformio cyngerdd dan arweinyddiaeth Cyfarwyddwr Cerddoriaeth WNO Tomáš Hanus, fel rhan o Gyfres Caerdydd Glasurol. Gan fod Neuadd Dewi Sant wedi gorfod cau, cynhelir y cyngerdd hwn mewn lleoliad newydd, sydd i'w gadarnhau. Bydd y rhaglen yn cynnwys campwaith corawl oesol Mozart, Requiem, a fydd yn dilyn rhan gyntaf a fydd yn cynnwys Pedwaredd Symffoni Schumann (ei symffoni olaf), a gyfansoddwyd ym 1841 ac a adolygwyd ddegawd yn ddiweddarach, a'r hoenus Cantique de Jean Racine o waith Fauré.

Fel rhan o raglen Artistiaid Cyswllt WNO, bydd y tri Artist Cyswllt hefyd yn cyflwyno eu perfformiad eu hunain ar 7 Ebrill yn Neuadd Hoddinott y BBC, gyda Malcolm Martineau yn cyfeilio. Prosiectau ac Ymgysylltu Yn ystod Tymor y Gwanwyn, bydd WNO hefyd yn mynd â chyngherddau ysgol, mynediad am ddim, i Gaerdydd, Llandudno, Southampton a Plymouth ochr yn ochr â'r brif daith.  Mae'r cyngherddau rhyngweithiol hyn yn gyfle i gyflwyno plant a phobl ifanc i gerddoriaeth opera a chlasurol. Byddant yn cynnwys darnau byr o gerddoriaeth o'r byd opera, teledu a ffilm, rhywfaint o gerddoriaeth gyfarwydd a repertoire na fyddant, efallai, wedi ei chlywed o'r blaen.  Yn perfformio i gyfeiliant Cerddorfa WNO, bydd y cyngherddau hyn yn caniatáu i fyfyrwyr ryngweithio â'r gerddoriaeth drwy ymuno yn y canu a mwynhau'r profiad o glywed gogoniant nerthol cerddorfa'n perfformio'n fyw.

Bydd WNO hefyd yn parhau â rhaglen amrywiol o weithgareddau cymunedol ac ymgysylltu. Bydd hyn yn cynnwys parhau â phrosiectau sydd eisoes ar y gweill, megis Lles gyda WNO, sy'n cynorthwyo rhai sy'n byw gyda COVID hir drwy weithdai anadlu, a'r Côr Cysur, sy'n cynorthwyo pobl sy'n byw gyda dementia, eu gofalwyr a'u teuluoedd.

wno.org.uk

DIWEDD

Nodiadau i Olygyddion

Opera Cenedlaethol Cymru yw'r cwmni opera cenedlaethol ar gyfer Cymru, a ariennir gan Gynghorau Celfyddydau Cymru a Lloegr i ddarparu operâu ar raddfa fawr, cyngherddau a gwaith allgymorth ledled Cymru ac mewn dinasoedd mawr yn rhanbarthau Lloegr.  Rydym yn ymdrechu i gynnig profiadau trawsnewidiol drwy ein rhaglen addysg ac allgymorth a'n prosiectau digidol llwyddiannus.  Rydym yn gweithio gyda'n partneriaid i ddarganfod a meithrin doniau operatig ifanc, a'n nod yw dangos i genedlaethau'r dyfodol bod opera'n gelfyddyd foddhaus, berthnasol a byd-eang sydd â'r grym i gael effaith ac i ysbrydoli.

Mae lluniau cynyrchiadau WNO ar gael i'w lawrlwytho o https://wno.org.uk/cy/press

  • Prif gefnogaeth i'r cynhyrchiad gan Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston
  • Mae cynyrchiadau a chomisiynau newydd WNO yn cael eu cefnogi gan Sefydliad John Ellerman
  • Cefnogaeth i'r cynhyrchiad gan Gronfa Dunard.
  • Cefnogir rhan Despina yn Così fan tutte gan Samantha Maskrey
  • Cyflwynir Death in Venice er cof am John Crisp
  •  Cefnogir rhannau Voice of Apollo a Traveller gan Dr Julia Ellis a Malcolm Herring
  • Cefnogir Artistiaid Cyswllt WNO gan Fwrsariaeth Shirley a Rolf Olsen, Bwrsariaeth Sheila a Richard Brooks, Ysgoloriaeth Anthony Evans, Bwrsariaeth E.L. Schafer WNO, Ymddiriedolaeth Elusennol Teulu Bateman, Sefydliad Kirby Laing, Gwobr Syr John Moores WNO, Ymddiriedolaeth Elusennol Thriplow, Ymddiriedolaeth Joseph Strong Frazer, Ymddiredolaeth Stanley Picker, Ymddiriedolaeth Elusennol Garrick, Ymddiriedolaeth Elusennol Fidelio, Bwrsariaeth Chris Ball, a'r Teulu Parry.
  • Cefnogir rôl Blaenwr y Gerddorfa gan Mathew a Lucy Prichard.
  •  Cefnogir gwahanol rolau yn y Gerddorfa gan y Cylch Prif Chwaraewyr
  •  Cefnogir Lles gyda WNO gan Gyngor Celfyddydau Cymru trwy gronfa'r Loteri ar gyfer Iechyd a Llesiant drwy'r Celfyddydau.
  • Cefnogir Côr Cysur Llandeilo gan Ymddiriedolaeth Elusennol Michael Marks a chefnogir Côr Cysur Aberdaugleddau gan Music For All.

Am ragor o wybodaeth, lluniau neu gyfweliadau, cysylltwch â:

Christina Blakeman, Rheolwr y Wasg christina.blakeman@wno.org.uk

Rhys Edwards, Rheolwr Cyfathrebu rhys.edwards@wno.org.uk

Penny James a Rachel Bowyer, Pennaeth Cyfathrebu (rhannu swydd) penny.james@wno.org.uk / rachel.bowyer@wno.org.uk