Y Wasg

Clychau priodas yn canu ar gyfer Opera Cenedlaethol Cymru yn 2025

27 Tachwedd 2024

WNO yn dychwelyd i Abertawe gyda The Marriage of Figaro gan Mozart a’r cyntaf mewn taith newydd o gyngherddau Chwarae Opera YN FYW i’r teulu

National Opera Studio yn dychwelyd i Gaerdydd gyda sioe flynyddol

Cyngerdd y Fonesig Sarah Connolly cyn ei rôl yn Peter Grimes

Cerddorfa WNO i berfformio Cyngerdd Dathlu’r Flwyddyn Newydd a Ffefrynnau Opera yn y byd Ffilmiau

The Marriage of Figaro

Mae’r Cyfarwyddwr Max Hoehn yn dychwelyd i adfywio cynhyrchiad lliwgar Tobias Richter o The Marriage of Figaro gan Mozart a fydd yn agor yng Nghaerdydd ar 6 Chwefror ac yn cael ei arwain gan gyn Arweinydd Cyswllt WNO, Kerem Hasan. Mae nodau agoriadol yr agorawd adnabyddus yn gosod yr olygfa gerddorol ar gyfer yr opera glasurol hon sy’n llawn cariad, chwerthin a chamadnabyddiaeth. Cafodd y cynhyrchiad hwn, sy’n cynnwys dyluniadau gan y diweddar Ralph Koltai a gwisgoedd gan Sue Blane, ei greu i fod yn wledd i’r llygaid yn ogystal â’r clustiau.

Bydd y cynhyrchiad yna’n teithio i Theatr y Grand Abertawe, gan nodi dychweliad WNO i’r llwyfan operatig yn Abertawe am y tro cyntaf ers degawd.

Bydd y soprano o Awstria, a’r enillydd Gwobr Ferrier 2014, Christina Gansch, yn perfformio am y tro cyntaf gydag WNO i ganu Susanna, a bydd hyn hefyd yn berfformiad rôl cyntaf iddi. Bu Christina yn cynrychioli Awstria yn rownd derfynol cystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd y BBC yn 2021. Bydd y gantores soprano Chen Reiss hefyd yn perfformio gyda WNO am y tro cyntaf yn ei rôl fel Countess Almaviva. Bydd cyn-Artist Cyswllt WNO, Harriet Eyley, yn dychwelyd i’r Cwmni i ganu Cherubino, Giorgio Caoduro yn dychwelyd i ganu Count Almaviva, a bydd Michael Mofidian yn canu’r brif rôl fel Figaro. Hefyd yn ymuno â’r cast fydd Wyn Pencarreg fel Doctor Bartolo, Jeffrey Lloyd-Roberts fel Don Basilio a Don Curzio a Monika Sawa fel Marcellina.

Bydd perfformiadau pellach yng Nghaerdydd, Southampton, Birmingham, Milton Keynes, a Plymouth rhwng mis Ebrill a mis Mehefin.

Chwarae Opera YN FYW yn agor yn Abertawe

Bydd Theatr y Grand hefyd yn cynnal perfformiadau agoriadol o’r sioe deuluol boblogaidd, Chwarae Opera BYW eleni wrth i WNO ddychwelyd i Abertawe.  Gan agor ar Ddydd Gŵyl Dewi (1 Mawrth), mae hon yn ffordd addas iawn i WNO gyhoeddi i ddinas Abertawe ei fod yn dychwelyd i’r llwyfan.

Mae’r sioe deuluol ryngweithiol ac addysgiadol hon yn gyflwyniad perffaith i fyd opera a cherddoriaeth glasurol, a’r tro hwn, bydd gan y cyngherddau thema ‘cerddoriaeth ogoneddus o’r llwyfan a’r sgrin’  Bydd Tom Redmond yn dychwelyd i gyflwyno’r sioe a bydd Cerddorfa WNO yn rhan ohoni ynghyd â Chorws WNO am y tro cyntaf erioed.

Fel yr arfer, bydd gweithgareddau difyr rhad ac am ddim yn y cyntedd cyn y perfformiadau a byddant yn cynnig dealltwriaeth fanylach o’r byd opera gyda gwisgoedd, paentio wynebau a phropiau i’w cael.

Yn dilyn y perfformiad yn Abertawe, cynhelir perfformiadau pellach yng Nghaerdydd, Southampton, a Plymouth rhwng mis Ebrill a mis Mehefin.

Taith Dathlu’r Flwyddyn Newydd

Bydd Cerddorfa WNO yn croesawu 2025 gydag un arall o’i theithiau cyngerdd Blwyddyn Newydd. O Johann Strauss II Overture i Die Fledermaus i Brahms Hungarian Dance No 4, bydd arweinydd Cerddorfa WNO a Chyngerddfeistr David Adams yn arwain detholiad o waltsiau, polcas a ffefrynnau clasurol. Bydd dau o Artistiaid Cyswllt diweddaraf WNO, Erin Rossington a William Stevens, yn ymuno â’r Gerddorfa.

Bydd y daith gyngerdd yn agor yn Neuadd Fawr Abertawe ar 3 Ionawr cyn mynd i Southampton (4 Ionawr), Aberhonddu (5 Ionawr), Bangor (10 Ionawr), Y Drenewydd (11 Ionawr), Truro (12 Ionawr) a gorffen yng Nghaerdydd yn y Neuadd Dora Stoutzker Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ar gyfer dau berfformiad ar 17 Ionawr.

Y Fonesig Sarah Connolly a Tomáš Hanus gyda Cherddorfa WNO

Ym mis Mawrth, bydd y Fonesig Sarah Connolly yn ymuno â Cherddorfa WNO ar gyfer cyngerdd wedi’i arwain gan Gyfarwyddwr Cerddoriaeth WNO Tomáš Hanus. Bydd y mezzo soprano Sarah Connolly yn ymuno â’r Cwmni cyn ei pherfformiadau yn Peter Grimes i ganu Lieder Eines fahrenden gesellen (’Songs of a Wayfarer’) gan Mahler. Bydd y cyngerdd hefyd yn cynnwys Symffoni Rhif 8 Heb ei gorffen Schubert, Symffoni Rhif 7 Sibelius ac Adagietto Mahler o Symffoni Rhif 5.

Bydd dau berfformiad o’r cyngerdd yn cael eu cynnal yn Neuadd Dora Stoutzker Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd ar y 15fed ar 16eg o Fawrth.

Ffefrynnau Opera

Bydd Cerddorfa a Chorws WNO unwaith eto’n camu i ganol y llwyfan wrth i gyngerdd Ffefrynnau Opera yn y Byd Ffilm WNO ddychwelyd. Y tro hwn mae’r cyngerdd yn cynnwys rhaglen newydd o ariâu a chaneuon poblogaidd sy’n ymddangos mewn ffilmiau fel Pretty Woman, The Shawshank Redemption, Philadelphia, Mrs Doubtfire a Quantum of Solace. Mae’r sopranos Meeta Raval a Haegee Lee yn dychwelyd i WNO ynghyd â’r bariton Phillip Rhodes ac Artist Cyswllt WNO Erin Rossington.

Bydd Ffefrynnau Opera yn y Byd Ffilm yn cael ei berfformio yng Nghaerdydd (7 Chwefror).

The Marriage of Figaro Cwta | In Short

Yn dilyn rhaglen beilot lwyddiannus yn ystod Tymor 2023/2024, ac fel rhan o’n rhaglen Rhaglenni ac Ymgysylltu, bydd Cwta | In Short yn dychwelyd gyda fersiwn gryno o The Marriage of Figaro.  Mae Cwta | In Short yn cynnig fersiwn gryno o operâu clasurol gyda’r nod o annog pobl newydd i’r gelfyddyd. Yn ymuno â’r cast mae aelodau o Gorws WNO, Artistiaid Cyswllt WNO, Sion Goronwy, Jack Holton a’r cyn Artist Cyswllt Emily Christina Loftus. Bydd Sarah Crisp yn cyfarwyddo a Frederick Brown yn arwain.

Bydd y perfformiadau rhad ac am ddim yn cael eu cynnig ar ddyddiadau ym mis Ebrill a Mai i grwpiau ysgol a grwpiau gwasanaeth cerdd yng Nghaerdydd, Southampton, Birmingham a Milton Keynes. 

National Opera Studio

Yn parhau partneriaeth hirdymor WNO â rhaglen Artistiaid Ifanc National Opera Studio, bydd cyfle i gynulleidfaoedd weld talent newydd heddiw ar gyfer operâu yfory yn sioe flynyddol National Opera Studio yn Theatr Donald Gordon Canolfan Mileniwm Cymru ynghyd â chyfeiliant gan Gerddorfa WNO ar 2 Chwefror. Yn syth o’i chyfnod yn arwain Rigoletto Verdi yn Llandudno a Plymouth yn ystod Tymor yr Hydref WNO, bydd Teresa Riverio Böhm yn dychwelyd i arwain a Laura Attridge yn cyfarwyddo.

DIWEDD

Nodiadau i Olygyddion 

Opera Cenedlaethol Cymru yw'r cwmni opera cenedlaethol ar gyfer Cymru, a ariennir gan Gynghorau Celfyddydau Cymru a Lloegr i ddarparu cyngherddau, gwaith allgymorth ac operâu ar raddfa fawr ledled Cymru ac mewn dinasoedd mawr yn rhanbarthau Lloegr. Rydym yn ymdrechu i gynnig profiadau trawsnewidiol drwy ein rhaglen addysg ac allgymorth a'n prosiectau digidol llwyddiannus. Rydym yn gweithio gyda'n partneriaid i ddarganfod a meithrin doniau operatig ifanc, a'n nod yw dangos i genedlaethau'r dyfodol bod opera'n gelfyddyd foddhaus, berthnasol a byd-eang sydd â'r grym i gael effaith ac i ysbrydoli. 

Mae lluniau cynyrchiadau WNO ar gael i'w lawrlwytho o https://wno.org.uk/cy/press 

Mae rhagor o wybodaeth ynghylch gwaith WNO ar gael yn wno.org.uk/cy/ 

  • Prif gefnogaeth i'r cynhyrchiad gan Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston.
  •  Cefnogir rôl Tomáš Hanus, Cyfarwyddwr Cerdd WNO, gan Marian a Gordon Pell
  •  Cefnogir Cynyrchiadau 2024/2025 gan Gronfa Dunard
  •  Mae The Marriage of Figaro yn gynhyrchiad ar y cyd gyda Grand Théâtre de Genève a chaiff ei gefnogi gan Bartneriaid WNO
  •  Cefnogir rôl Blaenwr Cerddorfa WNO gan Mathew a Lucy Prichard
  • Cefnogir Cerddorfa WNO gan Mathew a Lucy Prichard
  • Cefnogir rolau yng Ngherddorfa WNO gan y Cylch Prif Chwaraewyr
  • Mae WNO yn ddiolchgar am gefnogaeth hael Bwrsariaeth Shirley a Rolf Olsen, Bwrsariaeth Sheila a Richard Brooks, Ysgoloriaeth Anthony Evans, Bwrsariaeth Eira Francis Davies, Ymddiriedolaeth Elusennol Teulu Bateman, Ymddiriedolaeth Joseph Strong Frazer, Ymddiredolaeth Stanley Picker, a Bwrsariaeth Chris Ball tuag at ein Cynllun Artist Cyswllt WNO.

Am ragor o wybodaeth, lluniau neu gyfweliadau, cysylltwch â: 

Christina Blakeman, Rheolwr y Wasg 

Christina.blakeman@wno.org.uk 

Rachel Bowyer, Pennaeth Cyfathrebu

Rachel.bowyer@wno.org.uk