Rhaglen Lles gyda WNO yn dangos llwyddiant wrth reoli symptomau Poen Parhaus, yn ôl adroddiad newydd
Mae Opera Cenedlaethol Cymru wedi cyhoeddi manylion adroddiad gwerthuso ar ei raglen beilot Lles gyda WNO: Rhaglen Rheoli Poen Parhaus. Mae’r adroddiad, a gwblhawyd gan Milestone Tweed, yn amlygu gwelliannau sylweddol o ran rheoli poen, iechyd meddwl ac emosiynol, ac ansawdd bywyd cyffredinol cyfranogwyr.
Cafodd y rhaglen beilot chwe wythnos o hyd o ganu ac anadlu, a gynhaliwyd rhwng mis Mawrth 2024 a mis Mawrth 2025, ei llunio i gefnogi pobl sy’n byw gyda phoen parhaus. Gan adeiladu ar lwyddiant Rhaglen Covid Hir Lles gyda WNO, a lansiwyd yn 2021, mae’r rhaglen yn cynnwys sesiynau awr o hyd bob wythnos ynghyd â sesiynau galw heibio dewisol bob pythefnos.
Erbyn mis Tachwedd 2024, pan luniwyd yr adroddiad, roedd 44 o gyfranogwyr wedi cymryd rhan mewn 36 sesiwn gyda chwe mynychwr fesul sesiwn ar gyfartaledd. Yn ogystal, cofnodwyd 65 o gyfranogwyr ar draws wyth sesiwn galw heibio, gan adlewyrchu ymgysylltiad ac ymrwymiad da.
Dyma brif ganfyddiadau’r gwerthusiad (yn seiliedig ar y cyfranogwyr a nodwyd uchod):
- Llai o boen a mwy o ymarferoldeb:
- Roedd y canlyniadau’n dangos gwelliant o 67% o ran poen/anesmwythder.
- Adroddwyd lleihad mewn poen gan 66% o’r cyfranogwyr ac maent yn priodoli’r newid hwn i’r rhaglen. Ar gyfer o leiaf un o bob deg, roedd y boen wedi lleihau’n sylweddol.
- Buddion emosiynol ac o safbwynt iechyd meddwl:
- Roedd y canlyniadau’n dangos gwelliant o 67% o ran gorbryder/iselder, ac roedd 69% yn adrodd gwell ansawdd bywyd yn gysylltiedig ag iechyd.
- Roedd cyfranogwyr yn teimlo’n fwy positif, gyda mwy o ffocws, ac yn teimlo bod eu cyflyrau’n llai o faich arnynt.
- Ymgysylltiad da gan gyfranogwyr:
- Mae 95% o’r cyfranogwyr yn dal i ddefnyddio’r technegau anadlu a’r ymarferion ar ôl y rhaglen.
- Roedd presenoldeb yn 82% ar gyfartaledd.
- Cost effeithlonrwydd:
- Amcangyfrifir fod sesiynau’n costio £12 y pen fesul awr, o’i gymharu â £34.30 am Ffisiotherapydd GIG Band 7 o’r Gwasanaethau Poen Cronig.
- Mae darpariaeth ganolog yn gwaredu’r angen i fyrddau iechyd unigol sefydlu rhaglenni costus, gan gyd-fynd â chanllawiau NICE a chreu arbedion.
- Buddion ychwanegol:
- Roedd data ansoddol yn amlygu themâu megis therapi holistaidd drwy gerddoriaeth, llawenydd a phositifrwydd, awdurdod, derbyniad, hunanreolaeth, perthynas â’r gymuned, a chynnydd mewn gwybodaeth a dysgu
Cyfeiriwyd cyfranogwyr Rhaglen Beilot Lles gyda WNO: Rheoli Poen Parhaus, a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac mewn partneriaeth â GIG Cymru, gan glinigau ledled Cymru; roedd rhai’n cyfeirio eu hunain at y gwasanaeth a chafodd eraill eu cyfeirio gan y sefydliad trydydd sector Cymru Versus Arthritis.
Dywedodd Owen Hughes, Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Poen Parhaus, GIG Cymru: “Bu’r bartneriaeth hon gyda WNO yn hynod o lwyddiannus. Mae’r adborth gan gyfranogwyr wedi bod yn wych gydag amryw yn dweud wrthym fod cymryd rhan yn y rhaglen wedi newid eu bywydau. Nid yn unig maent wedi mwynhau dysgu sut i ddefnyddio anadl a chanu i reoli eu poen, ond hefyd fe lwyddodd i roi hyder iddynt gymdeithasu unwaith eto. Dywedodd amryw ohonynt eu bod wedi mynd ymlaen i ymuno â chorau ac mae rhai yn dymuno mynd yn ôl i weithio. Mae grym cerddoriaeth a chân wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’w bywydau.”
Dywedodd June Evans, Cyfranogwr Lles gyda WNO: “Mae’r rhaglen hon wirioneddol wedi newid fy mywyd. Cyn i mi gychwyn ar y sesiynau roedd fy mywyd yn llawn galar oherwydd y salwch a ddioddefais ac roeddwn yn cael fy rheoli gan fy mhoenau. Mae llesiant gyda’r WNO wedi fy nysgu sut i leddfu’r boen ac mae pob sesiwn yn fy nhynnu yn nes at y person yr oeddwn ers talwm. Mae fy mywyd yn cynnig hapusrwydd unwaith eto ac wedi dangos i mi sut i wenu unwaith eto.”
Ochr yn ochr â’r cynllun peilot newydd hwn, mae WNO wedi parhau i ddatblygu ac ehangu’r rhaglen COVID Hir blaenllaw dros y flwyddyn ddiwethaf, i gynnwys cyflyrau hirdymor eraill megis ME/CFS a ffibromyalgia, gan gyd-fynd â rhaglen Adferiad Llywodraeth Cymru. Mae’r fenter wedi denu llawer o ddiddordeb ar draws y byd meddygol, gyda chyflwyniadau i Rwydwaith Straen Trawmatig Cymru, Cymdeithas Seicolegol Prydain, a chynrychiolaeth ryngwladol.
Mae WNO hefyd yn darparu mentrau presgripsiynu cymdeithasol newydd gan gynnwys: rhaglen ar gyfer myfyrwyr ysgol uwchradd sy’n profi gorbryder a diffyg hyder; partneriaeth gyda Chanolfan Ganser Felindre i fynd i’r afael â diffyg anadl; a chynllun peilot ar gyfer unigolion mewn gofal â chymorth mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.
Dywedodd Emma Flatley, Cyfarwyddwr Rhaglenni ac Ymgysylltiad WNO:“Rydym ni’n hynod falch o weld effaith fuddiol Lles gyda WNO: Rhaglen Poen Parhaus yn yr adroddiad hwn. Mae’r lefelau uchel o ymgysylltiad, cost effeithlonrwydd a chanlyniadau trawsnewidiol ar iechyd hirdymor unigolion yn amlygu ei photensial fel rhaglen werthfawr.
“Rydym yn falch o glywed yn uniongyrchol gan gyfranogwyr ynghylch sut mae’r rhaglen wedi gwella eu bywydau. Mae’r cyfle i esblygu’r rhaglen hon i greu gwasanaeth adfer ar gyfer meysydd iechyd eraill ac ymrwymo i sicrhau bod mwy o bobl yn gallu cael mynediad i’r gwasanaeth arloesol hwn mor bwysig.”
Darperir sesiynau Lles gyda WNO drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg, dros Zoom - i sicrhau hygyrchedd. Mae’r sesiynau wedi’u cyd-gynllunio ac yn cael eu harwain gan Arbenigwyr Lleisiol WNO Zoë Milton-Brown, Jenny Pearson a Kate Woolveridge MBE.
DIWEDD
Ar gyfer ymholiadau’r wasg, lluniau neu gyfweliadau, cysylltwch ag:
Elin Rees, Ymgynghorydd Cyfathrebu | comms@wno.org.uk
Nodiadau i Olygyddion
Opera Cenedlaethol Cymru yw'r cwmni opera cenedlaethol ar gyfer Cymru, a ariennir gan Gynghorau Celfyddydau Cymru a Lloegr i ddarparu cyngherddau, gwaith allgymorth ac operâu ar raddfa fawr ledled Cymru ac mewn dinasoedd mawr yn rhanbarthau Lloegr. Rydym yn ymdrechu i gynnig profiadau trawsnewidiol drwy ein rhaglen addysg ac allgymorth a'n prosiectau digidol llwyddiannus. Rydym yn gweithio gyda'n partneriaid i ddarganfod a meithrin doniau operatig ifanc, a'n nod yw dangos i genedlaethau'r dyfodol bod opera'n gelfyddyd foddhaus, berthnasol a byd-eang sydd â'r grym i gael effaith ac i ysbrydoli. Mae lluniau cynyrchiadau WNO ar gael i'w lawrlwytho o https://wno.org.uk/cy/press
Cefnogir Lles gyda WNO gan Gyngor Celfyddydau Cymru drwy’r Gronfa Loteri Celfyddydau, Iechyd a Lles, a byrddau iechyd GIG Cymru.
Ariennir cynllun peilot WNO ar gyfer Poen Parhaus yn rhannol gan Lywodraeth Cymru, ac fe’i darperir mewn partneriaeth â GIG Cymru.
Gwaith Rhaglenni ac Ymgysylltu WNO
Mae Rhaglenni a gwaith Ymgysylltu WNO, a sefydlwyd yn y 1970au, wedi’u disgrifio gan gyllidwyr a rhanddeiliaid fel ‘arfer sy’n arwain y sector’. Mae’r gwaith yn chwarae rôl allweddol mewn cyflawni diben y cwmni i sbarduno cenhedlaeth newydd o unigolion sy’n mwynhau opera drwy weithio gyda phobl o gymunedau - yn arbennig y rheiny nad sydd efallai wedi dod ar draws opera o’r blaen neu yn wir sydd â mynediad cyfyngedig at ddarpariaeth fwy cyffredinol o’r celfyddydau.
Mae’r rhaglen ddeinamig yn canolbwyntio ar gydweithio a chreu cyfleoedd i gymunedau awduro a chreu gwaith gydag WNO. Gan ddechrau gyda’r blynyddoedd cynnar hyd at bobl sydd wedi ymddeol, mae sesiynau WNO yn pontio’r cenedlaethau. Cynhelir gwaith cymunedol ar hyd a lled Cymru a Lloegr drwy sesiynau agored bron bob wythnos. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gweithiodd WNO gyda 58,000 o gyfranogwyr, ar hyd 74 prosiect, a chyrraedd 100,000 o bobl yn ychwanegol drwy raglenni digidol wedi’u teilwra.