Y Wasg

Opera Cenedlaethol Cymru yn cyhoeddi manylion Tymor 2022/2023

8 Chwefror 2022
‘Mae’r pandemig Covid-19 wedi rhoi cyfle i ni i gyd fyfyrio ar le mae opera yn sefyll yn ein cymdeithas heddiw ac fel Cwmni, rwy’n credu bod gennym ni gyfle nawr i ailfeddwl am ein gwaith. Mae’r tymor hwn wedi’i raglennu gyda’r bwriad o estyn allan i’n cynulleidfaoedd a gwneud cysylltiadau rhwng ein gweithgaredd a’u bywydau, tra ar yr un pryd sicrhau bod ein cynyrchiadau yn cynnig gwerth adloniant cryf. Ein cenhadaeth yw rhoi profiadau cofiadwy ac anghyffredin i’n cynulleidfaoedd ar y llwyfan ac oddi arno a fydd yn eu harwain i fyfyrio ar y gymdeithas gyfan, ond hefyd eu lle oddi mewn iddi, a gwelwn opera fel y cyfrwng delfrydol i wneud hynny.'

Aidan Lang, Cyfarwyddwr Cyffredinol WNO

  • Cyhoeddi rhaglen artistig Hydref 2022 i Haf 2023.
  • Cyhoeddi rhaglenni a chynlluniau ymgysylltu a fydd yn canolbwyntio ar Iechyd a Lles. 
  • Opera Ieuenctid WNO i berfformio addasiad modern o Cheryomushki gan Shostakovich, sef Cherry Town,Moscow yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, gyda Daisy Evans yn cyfarwyddo.
  • Dyddiadau taith newydd ar gyfer yr opera newydd sbon Migrations gan Will Todd 
  • Cynyrchiadau newydd o The Makropulos Affair a The Magic Flute a chomisiwn newydd - Blaze of Glory!
  • Perfformiadau o Candide gan Bernstein yn Haf 2023.

Mae Cyfarwyddwr Cyffredinol WNO Aidan Lang yn amlinellu gweledigaeth y cwmni ar gyfer tymor 2022/23 yma.  Gallwch hefyd weld Aidan yn cyflwyno holl gynyrchiadau’r Tymor yma.

Mae Opera Cenedlaethol Cymru wedi cyhoeddi ei raglen o gynyrchiadau a chyngherddau ar gyfer Tymor 2022/2023. Yn ogystal, mae'r Cwmni wedi datgelu Rhaglenni a Chynlluniau Ymgysylltu ar raddfa fawr, sydd wedi'u cynllunio i ymgysylltu ac effeithio'n gadarnhaol ar fywydau pobl yn y gymuned.  Bydd y Cwmni hefyd yn parhau â’i raglen datblygu talent drwy gydol y flwyddyn gyda’r nod o ddenu mwy o bobl ar draws y gymdeithas i gymryd rhan yn nyfodol opera.

Hydref 2022

Bydd Hydref 2022 yn agor gyda chynhyrchiad newydd o The Makropulos Affair; rhan o Gyfres Janáček WNO, bydd yn cael ei gyfarwyddo gan Olivia Fuchs a’i arwain gan Gyfarwyddwr Cerdd WNO Tomáš Hanus. Mae’r stori’n canolbwyntio ar y syniad o fywyd tragwyddol ac yn seiliedig ar ddrama gan y llenor Tsieciad, Karel Čapek. Mae’r opera’n dechrau yn ôl pob golwg fel stori am anghydfod cyfreithiol diddiwedd rhwng dau deulu, ond mae’n datblygu i fod yn ddirgelwch ynghylch ei chymeriad canolog enigmatig, Emilia Marty a fydd yn cael ei pherfformio gan Emma Bell. Yn ogystal â theithio i ddinasoedd y DU, bydd y cynhyrchiad hefyd yn cael ei berfformio'n rhyngwladol fel rhan o Ŵyl Brno i ddathlu Janáček a'i waith ym mis Tachwedd.

Yn dilyn The Makropulos Affair yn yr hydref byddwn yn perfformio La bohème, gan Puccini un o'r clasuron a chwedl am ieuenctid, gwrthryfel a rhyddid.  Bydd y cyfarwyddwr Annabel Arden yn dychwelyd i WNO i ailymweld â’i chynhyrchiad i roi ffresni i’r greadigaeth wreiddiol a fydd yn apelio at y rhai sy’n mwynhau’r opera boblogaidd hon eto neu’r rhai sy’n ei gweld am y tro cyntaf erioed. Bydd ein cynhyrchiad o La bohème yn cael ei arwain gan Pietro Rizzo, a fydd yn perfformio gyda WNO am y tro cyntaf.

Bydd Tymor yr Hydref hefyd yn gweld parhad yr opera newydd arloesol, Migrations yn dilyn ei pherfformiad cyntaf yn ystod Haf 2022. Er mwyn creu amrywiaeth o leisiau, mae’r awduron - Shreya Sen Handley, Edson Burton a Miles Chambers, Eric Ngalle Charles, Sarah Woods a Syr David Pountney, (sydd hefyd yn cyfarwyddo Migrations) wedi gweithio gyda'r cyfansoddwr Prydeinig Will Todd i greu'r libreto o chwe stori am fudo gyda rhai o'r naratifau wedi'u tynnu o brofiadau bywyd go iawn pobl. Mae’r cast o 100 o berfformwyr yn cynnwys Tom Randle, Meeta Raval, David Shipley a’r dalent Prydeinig newydd Peter Brathwaite ymhlith artistiaid eraill, ynghyd â Renewal, Côr Gospel o Fryste, dawnswyr Bollywood a chôr plant. Bydd Matthew Kofi Waldren yn cyfarwyddo. Mae'r opera newydd uchelgeisiol hon yn rhan o bartneriaeth pum mlynedd gyda Chyngor Ffoaduriaid Cymru yn gweithio gyda grwpiau yn y gymuned trwy brosiectau cyfansoddi, cerddoriaeth a pherfformio.

Ar 9 Hydref ar lwyfan Canolfan Mileniwm Cymru, bydd Opera Ieuenctid clodwiw WNO yn rhoi dau berfformiad o gynhyrchiad modern o Cheryomushki gan Shostakovich, sef Cherry Town, Moscow.  Yn dilyn llwyddiant ysgubol Don Pasquale yn 2019, bydd Daisy Evans yn dychwelyd i WNO i gyfarwyddo’r cynhyrchiad hwn, y cyntaf o ddau yn nhymor WNO 2022/2023. Yn ymuno â hi fydd rhai o weithwyr gorau’r diwydiant, gan gynnwys yr arweinydd Alice Farnham a’r arbenigwraig lleisiol Mary King, i arwain y cantorion ifanc 18 i 25 oed mewn profiad cwbl broffesiynol tra’n cynnig adloniant eithriadol i gynulleidfaoedd gan dalent newydd.

Gwanwyn 2023

Bydd Tymor y Gwanwyn WNO yn gweld parhad o ymrwymiad WNO i greu gwaith newydd a pherthnasol. Gyda chomisiwn newydd, sefBlaze of Glory!  Bydd Caroline Clegg (Cyfarwyddwr) ac Emma Jenkins (Libretydd) yn cydweithio unwaith eto yn dilyn eu cydweithrediad ar Rhondda Rips It Up! i WNO yn 2018.  Wedi'i gosod yn y 1950au, mae Blaze of Glory! yn opera i godi calon sy'n dilyn hynt a helynt grŵp o lowyr mewn pentref bychan sy'n ffurfio côr meibion i uno'r gymuned ar ôl trychineb glofaol. Bydd y brif ran, Dafydd Pugh yn cael ei ganu gan Jeffrey Lloyd-Roberts. Wedi'i chyfansoddi gan David Hackbridge Johnson, mae'r sgôr yn cynnwys canu mewn harmonïau agos, sy'n cael ei gysylltu â chorau meibion yn draddodiadol, yn ogystal ag opereta, cerddoriaeth band mawr, jeif, lindi hop a cherddoriaeth gospel Affricanaidd.  

Bydd cynhyrchiad newydd sbon o opera glasurol Mozart The Magic Flute wedi’i ddychmygu a’i gyfarwyddo gan Daisy Evans hefyd yn cael ei berfformio yng Ngwanwyn 2023, dan arweiniad Tomáš Hanus. Bydd ail-steilio’r libreto gan Evans yn rhoi golwg fodern ar y stori, gan gynyddu ei hapêl i deuluoedd ac adeiladu ar enw da’r opera fel yr opera gyntaf berffaith.

Daw Tymor 2022/2023 i ben gyda pherfformiadau o opereta gomig Bernstein, Candide yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ym mis Mehefin. Bydd manylion am y cynhyrchiad a dyddiadau perfformio yn dilyn yn fuan. 

Rhaglenni a Gweithgarwch Ymgysylltu

Mae ardaloedd Ffocws y Cwmni ar gyfer gwaith ymgysylltu yn galluogi WNO i wneud diwylliant yn brofiad bob dydd i gymunedau ledled y wlad gyda chanolfannau sefydledig yn Ne a Gogledd Cymru, Birmingham a Gorllewin Canolbarth Lloegr. Eu nod yw creu llwybrau ystyrlon i opera a cherddoriaeth glasurol ar gyfer pobl yn y gymuned ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd newydd ac iau ar draws y rhanbarthau. 

Bydd prosiectau 2022/2023 yn canolbwyntio ar Iechyd a Lles ac yn cynnwys:

Lles gydag WNO, rhaglen anadlu a chanu i bobl sy’n byw gyda COVID Hir yng Nghymru. Mae’r rhaglen yn cael ei chyflwyno’n llwyddiannus gan Opera Cenedlaethol Cymru mewn partneriaeth â Byrddau Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Caerdydd a’r Fro a Chwm Taf Morgannwg ac mae’n cael ei chefnogi gan grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru drwy Gronfa’r Loteri Genedlaethol: y Celfyddydau, Iechyd a Lles.  Crëwyd y rhaglen Lles gyda WNO i gefnogi anghenion lles corfforol ac emosiynol pobl sy’n byw gyda COVID Hir a bydd yn cael ei datblygu a'i hehangu i gyrraedd nifer ehangach o bobl ar draws byrddau iechyd eraill yng Nghymru yn 2022/2023.

Mae’r rhaglen wedi’i chynllunio gyda gweithwyr meddygol proffesiynol y GIG, fe’i dyfeisiwyd mewn ymgynghoriad ag Opera Cenedlaethol Lloegr ac mae’n seiliedig ar eu prosiect ENO Breathe. Mae sesiynau’n cael eu cynnal yn Gymraeg a Saesneg.

Mae WNO wedi comisiynu opera newydd i’w pherfformio yn Stiwdio Weston yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ym mis Hydref 2022 fel rhan o gydweithrediad tair blynedd yn gweithio gydag artistiaid newydd drwy Oasis Caerdydd, canolfan sy’n cefnogi pobl sy’n chwilio am noddfa yng Nghymru. Yn dilyn ffilm theatrig y tymor diwethaf A Song for the Future, mae'r awdur Sarah Woods a'r cyfansoddwr Boff Whalley yn dychwelyd gydag ensemble o awduron, artistiaid a cherddorion, i gyd-greu'r cynhyrchiad, wedi'i ysbrydoli gan straeon o argyfwng byd-eang a'r frwydr dros ddynoliaeth. Bydd y cynhyrchiad yn gwthio ffiniau opera ac yn arddangos amrywiaeth a chreadigrwydd lleisiau rhyngwladol yng Nghymru, trwy gyfuniad o gerddoriaeth glasurol gyda dylanwadau o bedwar ban byd.

Ochr yn ochr â’r cynhyrchiad Blaze of Glory! yng Ngwanwyn 2023, bydd WNO yn gosod y gymuned wrth galon ei waith mewn tri llinyn o weithgarwch ymgysylltu:  Bydd WNO yn cydweithio ag amrywiaeth eang o gorau meibion o bob cwr o Gymru a Lloegr i dynnu sylw at arwyddocâd hanesyddol y traddodiad hwn, y rôl bwysig sy’n dal i gael ei chwarae gan gorau meibion modern mewn gwahanol gymunedau, ac effeithiau buddiol canu ar iechyd meddwl dynion. Bydd y corau yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn perfformiadau o Blaze of Glory! mewn lleoliadau teithiol, a pherfformio fel rhan o’r adloniant cyn y sioe.Bydd  Blaze of Glory! hefyd yn fan cychwyn ar gyfer prosiect cyfansoddi ar gyfer pobl ifanc 14-17 oed ar hunaniaeth rhywedd, a fydd yn archwilio eu barn am rolau diwylliannol a chymdeithasol. Bydd datganiadau cyngerdd hefyd yn cael eu perfformio ledled Cymru mewn cartrefi gofal, a fydd yn cynnwys aelodau o gast Blaze of Glory!, yn diddanu ac yn cyrraedd pobl na allant fynd i’r theatr.

Cerddorfa WNO

Mae gan Gerddorfa WNO amserlen gyngherddau brysur ar gyfer 2022/2023 yn ogystal â’r cynyrchiadau a gyhoeddwyd, bydd yn cymryd rhan yn nhymor mawreddog Cyngherddau Clasurol Caerdydd yn Neuadd Dewi Sant ochr yn ochr â pherfformiadau ym Mhrâg ac yng Ngŵyl Brno. Mae cyngherddau Chwarae Opera yn FYW, a chyngherddau ar gyfer ysgolion a theuluoedd hefyd wedi’u trefnu trwy gydol y flwyddyn.

Dywedodd Cyfarwyddwr Cyffredinol WNO, Aidan Lang, am y Rymor Mae Opera yn ffurf fyw ar gelfyddyd ac mae ar gael ym mhob lliw a llun. Felly, gall gwmpasu’r ystod gyfan o emosiynau dynol, ac mae Tymor 2022/2023 WNO wedi’i gynllunio i fynegi’r amrywiaeth hwn. Rydym eisiau i’n cynyrchiadau fod yn wefreiddiol ac ysgogi’r meddwl, yn ogystal â bod yn hynod adloniadol. Bydd ein cynulleidfaoedd yn gallu dod o hyd i gysylltiadau rhwng yr hyn sydd ar y llwyfan a'r hyn y maent yn ei brofi yn eu bywydau eu hunain.

Mae’r operâu yn Nhymor yr Hydref yn cyffwrdd ar y syniad o drawsnewidiadau bywyd. Mae La bohème wedi’i osod ar y foment ddiofal honno ym mywydau grŵp o fyfyrwyr, ychydig cyn i realiti llym bywyd oedolyn ddechrau. I Emilia Marty, cymeriad canolog The Makropulos Affair, mae treigl bywyd o ieuenctid, trwy fod yn oedolyn i farwolaeth yn y pen draw, wedi'i atal ers 300 mlynedd, nes i’r drefn naturiol gael ei hadfer yn rhan olaf yr opera. Yn Migrations gan Will Todd, gwelwn drawsnewidiadau o fath gwahanol, wrth i’r cymeriadau yn naratifau lluosog yr opera ymgymryd â thaith gorfforol i wlad newydd, boed yn orfodol neu’n wirfoddol. 

Yn y Gwanwyn, mae cerddoriaeth yn edefyn cyffredin. Yn The Magic Flute, dangosir bod gan gerddoriaeth ei hun bŵer hudol a all ddofi anifeiliaid gwyllt, ein helpu i oresgyn eiliadau peryglus, a hyd yn oed ein helpu i ddod o hyd i'n gwir gariadon. Yn Blaze of Glory!, mae ffurfio Côr Meibion mewn pentref glofaol yn Ne Cymru ar ôl trychineb glofaol diweddar, yn dangos gwir allu cerddoriaeth i wella poenau a’r llawenydd wrth ddod â chymunedau ynghyd”.

Dywedodd Cyfarwyddwr Cerddoriaeth WNO, Tomáš Hanus “Fel Cyfarwyddwr Cerddoriaeth rwyf wedi fy nghyffroi’n fawr gan gynlluniau’r Cwmni a gyhoeddwyd ar gyfer Tymor 2022/2023. Mae’n bleser mawr gennyf arwain The Makropulos Affair ar daith y DU a hefyd mynd â’r cynhyrchiad yn rhyngwladol i ddinas enedigol y cyfansoddwr Janáček, sydd hefyd yn gartref i mi, a’i arwain yng Ngŵyl Brno.  Rwy’n siŵr y bydd cynulleidfaoedd yn mwynhau golwg newydd ar glasur Mozart, y Ffliwt Hud, ac rwy’n edrych ymlaen at arwain yr opera hon yn ystod Gwanwyn 2023. Bydd y cyngherddau cerddorfaol trwy gydol y flwyddyn yn ogystal â’r cynyrchiadau a’r gweithgaredd cymunedol a gynigir yn darparu eiliadau o gerddoriaeth fyw y mae mawr eu hangen i bobl eu mwynhau.”

wno.org.uk


Nodiadau i Olygyddion

  • Opera Cenedlaethol Cymru yw'r cwmni opera cenedlaethol ar gyfer Cymru, a ariennir gan Gynghorau Celfyddydau Cymru a Lloegr i ddarparu operâu ar raddfa fawr, cyngherddau a gwaith allgymorth ledled Cymru ac mewn dinasoedd mawr yn rhanbarthau Lloegr. Rydym yn ymdrechu i gynnig profiadau trawsnewidiol drwy ein rhaglen addysgol a chymunedol a'n prosiectau digidol o'r safon uchaf.  Rydym yn gweithio â'n partneriaid i ddarganfod a meithrin doniau operatig ifanc, ac rydym yn anelu at ddangos i genedlaethau'r dyfodol bod opera yn gelfyddyd werthfawr, berthnasol a rhyngwladol gyda'r pŵer i gael effaith ac ysbrydoli 
  • Mae lluniau cynyrchiadau WNO ar gael i'w lawrlwytho o http://www.wno.org.uk/press
  • Mae cynyrchiadau a chomisiynau newydd WNO yn cael eu cefnogi gan Sefydliad John Ellerman.
  • Mae APB yn Gefnogwr Blaenllaw i weithgarwch WNO.
  • Cefnogir rôl Cyfarwyddwr Cerdd WNO ar gyfer The Makropulos Affair gan Marian a Gordon Pell
  • Mae The Makropulos Affair yn cael ei gefnogi gan Harry Hyman a Melanie Meads, Cylch Janáček WNO a Phartneriaid WNO.
  • Mae rhaglen Artist Cyswllt WNO wedi ei chefnogi gan Fwrsariaeth Shirley a Rolf Olsen
  • Cefnogir rhaglen Datblygu Doniau WNO gan Sefydliad Kirby Laing ac Ymddiriedolaeth Elusennol Teulu Bateman.
  • Mae Blaze of Glory! yn cael ei gefnogi gan Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston, Elusen Gwendoline a Margaret Davies a Syndicet Comisiynau Newydd WNO.
  • Cefnogir Migrations gan Sefydliad John Ellerman, Sefydliad John S Cohen a Syndicet Comisiynau Newydd WNO. Cyflwynir y cynhyrchiad er cof am Anthony Bunker.
  • Cyflwynir Cherry Town, Moscow er cof am Philippa a David Seligman.
  • Cefnogir Swydd Animateur Lleisiol dan Hyfforddiant WNO gan Sefydliad Foyle.
  • Cefnogir y rhaglen Lles gyda WNO, gan Gyngor Celfyddydau Cymru trwy’r gronfa Loteri Genedlaethol: y Celfyddydau, Iechyd a Lles.

    Am ragor o wybodaeth, lluniau neu gyfweliadau, cysylltwch â:

    Penny James, Ymgynghorydd y Wasg
    penny.james@wno.org.uk

    Christina Blakeman, Swyddog y Wasg
    christina.blakeman@wno.org.uk

    Rhys Edwards, Swyddog y Wasg Ddigidol
    rhys.edwards@wno.org.uk