Y Wasg

Opera Cenedlaethol Cymru yn cyhoeddi Tymor 2023/2024

20 Chwefror 2023
  • Perfformiad cyntaf Cymru o Ainadamar (Golijov), gyda’r coreograffydd Deborah Colker yn cyfarwyddo a Matthew Kofi Waldren yn arwain
  • Bydd y cyfarwyddwr Olivia Fuchs yn dychwelyd gyda chynhyrchiad cyntaf WNO o Death in Venice (Britten), gyda Mark Le Brocq a Roderick Williams
  • Bydd Sophie Bevan a Rebecca Evans yn chwarae’r prif rannau mewn cynhyrchiad newydd o Così fan tutte(Mozart), gyda Max Hoehn yn cyfarwyddo a Tomáš Hanus, Cyfarwyddwr Cerddoriaeth WNO, yn arwain
  • Bydd yr Arweinydd Llawryfog Carlo Rizzi yn dychwelyd i arwain cynhyrchiad newydd sbon arall i WNO – Il trittico (Puccini), sef triptych o operâu un act
  • Bydd Sarah Crisp yn ail-ymweld â chynhyrchiad clodfawr Syr David McVicar o La traviata (Verdi)
  • Bydd Cerddorfa WNO yn perfformio Symffoni Gyntaf Brahms, a chyda Corws WNO, Galargerdd (Requiem) Mozart yn Neuadd Dewi Sant yn ogystal â Chyngerdd Ffefrynnau Opera ar daith
  • Rhaglen amrywiol o brosiectau ymgysylltu drwy gydol y flwyddyn, yn cynnwys Chwarae Opera YN FYW, cyngherddau ysgolion ar daith, a rhaglen barhaus  o waith Celf ac Iechyd

Mae Opera Cenedlaethol Cymru wedi cyhoeddi ei gynlluniau ar gyfer Tymor 2023/2024. Bydd y Tymor yn cynnwys pedwar o gynyrchiadau newydd, gyda thri ohonynt yn cael eu perfformio gan WNO am y tro cyntaf erioed. 

Yn ogystal â’r operâu, bydd y Tymor yn cynnwys cyngherddau cerddorfaol ac amrywiaeth eang o weithgareddau ymgysylltu yng Nghymru ynghyd â chyrchfannau teithio WNO yn Lloegr.

Hydref 2023: Ainadamar a La traviata

Bydd Tymor yr Hydref yn dechrau gyda perfformiad cyntaf Cymru o opera y cyfansoddwr o’r Ariannin, Osvalso Golijov, sefAinadamar – cydgynhyrchiad rhwng Opera Ventures, Detroit Opera, Metropolitan Opera a Scottish Opera a gyflwynodd y perfformiad cyntaf ar lwyfan y DU ym mis Hydref 2022 gan ennill canmoliaeth feirniadol. Mae’r gwaith hwn, sydd wedi ennill dwy wobr Grammy ac a genir mewn Sbaeneg, yn gyfuniad o fflamenco ac opera. Mae’n ail-greu bywyd y bardd a’r dramodydd Sbaenaidd Federico García Lorca trwy gyfrwng ôl-fflachiau atgofion gan ei awen, yr actores Margarita Xirgu.

Deborah Colker (Gemau Olympaidd Rio 2016, Cirque du Soleil), y coreograffydd rhyngwladol enwog sydd wedi ennill gwobr Olivier am ei gwaith, a fydd yn eistedd yng nghadair y cyfarwyddwr. Rhagwelir y ceir gwledd unigryw a lliwgar o gerddoriaeth, dawns a theatr 

Bydd Matthew Kofi Waldren yn dychwelyd i WNO i arwain Ainadamar, yn dilyn ei gyfnod hynod lwyddiannus yn arwain Migrations gyda’r Cwmni yn ystod Hydref 2022. Mae’r cast yn cynnwys Jaquelina Livieri, y soprano o’r Ariannin, sy’n chwarae rhan Margarita Xirgu, ynghyd â Julieth Lozano (Nuria) ac Alfredo Tejada (Ruiz Alonso).

Daw Tymor yr Hydref i ben gyda pherfformiadau o gynhyrchiad clodfawr Syr David McVicar o opera boblogaidd Verdi, sef La traviata. Mae’r stori wedi’i seilio ar nofel Alexandre Dumas fils, La Dame aux Camélias – hanes yn llawn cariad rhwystredig, sgandal a hunanaberth.

Alexander Joel fydd yr arweinydd a Sarah Crisp fydd y cyfarwyddwr. Bydd y cynhyrchiad yn cynnwys y soprano Olga Pudova yn chwarae rhan Violetta Valéry, y butain llys sy’n gorfod wynebu’r dewis o roi’r gorau i’w ffordd gyfareddol o fyw oherwydd ei chariad at Alfredo Germont (David Junghoon Kim), y bardd bonheddig ond tlawd. Hefyd yn ymuno â’r cast, Mark S Doss, a fydd yn canu rhan Giorgio Germont, tad Alfredo.

Bydd y perfformiadau’n agor yng Nghaerdydd cyn mynd ar daith i Landudno, Bristol, Plymouth, Birmingham, Milton Keynes a Southampton.

Fel rhan o Gyfres Caerdydd Glasurol, bydd Cerddorfa WNO yn perfformio cyngerdd yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd ar 29 Hydref, gyda Tomáš Hanus, Cyfarwyddwr Cerddoriaeth WNO yn arwain. Bydd y rhaglen yn cynnwys Symffoni Gyntaf fendigedig Brahms, ynghyd ag agorawd ffantasi Tchaikovsky, Romeo a Juliet, a’r Four Last Songs gan Richard Strauss, a genir gan y soprano Chen Reiss. 

Dywedodd Tomáš Hanus: 

‘Mae’r cyngherddau cerddorfaol a gynhaliwn yn Neuadd Dewi Sant fel rhan o Gyfres Caerdydd Glasurol yn rhan bwysig o’n gwaith, ac mae’n gyfle inni gynnig rhywfaint o lawenydd i bobl trwy gyfrwng grym cerddoriaeth fyw. Rydw i’n falch iawn o gael gweithio mor agos gyda Cherddorfa WNO, a gydnabyddir yn rhyngwladol am ei rhagoriaeth yn y byd opera a’r byd cyngherddau – arwydd o hyn yw’r ffaith bod y gerddorfa wedi cael ei dewis i chwarae’r cyngerdd agoriadol yng Ngŵyl Gerddoriaeth Ryngwladol Prag yng Ngwanwyn 2023.’

Yn yr Hydref, bydd WNO yn parhau gyda’i sioe llwyddiannus i deuluoedd, Chwarae Opera YN FYW a fydd ar thema’r gofod. Gyda Tom Redmond fel y cyflwynydd, bydd y sioe yn cynnig golwg newydd ar opera a cherddoriaeth glasurol, yn cynnwys perfformio, canu a chwarae cerddorfaol. Bydd Chwarae Opera YN FYW yn agor yng Nghaerdydd ac yna’n teithio i Landudno, Bristol, Plymouth, Birmingham a Southampton gyda’r brif daith. Hwn fydd y tro cyntaf i Chwarae Operaymweld â Bristol.

Gwanwyn 2024: Così fan tutte a Death in Venice

Cyn i Dymor Gwanwyn yr operâu ddechrau, bydd Cerddorfa WNO yn mynd ar daith gyngherddol trwy Gymru ac i Dde Orllewin Lloegr ym mis Ionawr 2023.

Bydd dau o gynyrchiadau newydd yn cael eu perfformio gan WNO yng Ngwanwyn 2024, gan ddechrau gyda Così fan tutteMozart. Tomáš Hanus, Cyfarwyddwr Cerddoriaeth WNO, fydd yn arwain y cynhyrchiad newydd hwn o’r stori ‘dyfod i oed’, a Max Hoehn fydd yn cyfarwyddo. Bydd cynulleidfaoedd yn cael eu cludo’n ôl i’r ysgol lle mae disgyblion y chweched ddosbarth yn darganfod yr elfennau da a drwg sy’n perthyn i ddisgyn mewn cariad.

Bydd y soprano Sophie Bevan yn dychwelyd i WNO i ganu rôl Fiordiligi, ochr yn ochr â Kayleigh Decker (Dorabella), Egor Zhuravskii (Ferrando) a James Atkinson (Guglielmo), a fydd yn gwneud eu hymddangosiadau cyntaf a’r Cwmni yn y cynhyrchiad newydd hwn, gan gwblhau pedwarawd y cariadon ifanc. Hefyd, bydd Rebecca Evans, y soprano o Gymru, yn ymuno â’r cast i chwarae rhan Despina, a bydd Fabio Capitanucci yn chwarae rhan Don Alfonso.

Bydd cynhyrchiad newydd o Death in Venice gan Britten yn cwblhau operâu Tymor y Gwanwyn 2024 – y tro cyntaf i WNO lwyfannu’r opera hon. Caiff ei seilio ar nofel fer o’r un enw gan Thomas Mann, ac mae’r stori’n dilyn hynt yr awdur Gustav von Aschenbach wrth iddo deithio i Fenis er mwyn ceisio adennill ei awydd a’i allu i ysgrifennu. Yno, mae’n gwirioni ar fachgen ifanc a golygus o’r enw Tadzio. 

Bydd Olivia Fuchs yn dychwelyd i WNO i gyfarwyddo’r cynhyrchiad newydd hwn, lle gwelir dechrau’r ugeinfed ganrif yn adlewyrchu ein cyfnod ni, gyda delweddau o harddwch hudolus yn ogystal ag ymgais i archwilio’r grotésg sy’n llechu dan yr ymchwil am yr aruchel.

Bydd yr arweinydd Leo Hussain yn gweithio gyda’r Cwmni am y tro cyntaf i arwain y cynhyrchiad newydd hwn. Bydd y tenor Mark Le Brocq yn gwneud ei ymddangos gyntaf fel Aschenbach, a bydd y bariton enwog Roderick Williams yn chwarae rhan y Teithiwr / Hen Ŵr a fydd yn ei dywys tuag at ei ffawd. Alexander Chance fydd yn canu rôl yr uwchdenor ar gyfer Llais Apollo.

Bydd operâu’r Gwanwyn yn agor yng Nghaerdydd cyn teithio i Landudno, Southampton, Oxford, Bristol a Plymouth.

Yn ychwanegol at yr operâu teithiol, bydd Cerddorfa WNO yn perfformio cyngerdd Ffefrynnau Opera yng Nghaerdydd, Llandudno, Southampton, Bristol a Plymouth, gan gynnig cyfle i gynulleidfaoedd glywed rhai o ddarnau enwocaf y byd opera. Bydd y cyngerdd yn cynnwys ariâu, gweithiau corawl a gweithiau cerddorfaol enwoggan Mozart, Verdi, Britten a Puccini a mwy.

Yn ystod Tymor y Gwanwyn, bydd WNO hefyd yn mynd â chyngherddau rhad ac am ddim i ysgolion yng Nghaerdydd, Llandudno, Southampton a Plymouth ochr yn ochr â’r brif daith. Bydd y cyngherddau hwyliog hyn yn gyfle i gyflwyno plant a phobl ifanc i operâu a cherddoriaeth glasurol, a byddant yn cynnwys darnau cerddorol byr a chyfarwydd o’r byd opera, y byd teledu a’r byd ffilmiau, yn ogystal â darnau na fydd y plant, o bosibl, wedi’i glywed o’r blaen. Gyda Cherddorfa WNO yn cyfeilio, bydd y cyngherddau hyn yn galluogi’r myfyrwyr i ryngweithio â’r gerddoriaeth trwy gael pawb i ganu gyda’i gilydd a hefyd trwy fwynhau’r profiad o glywed grym eithriadol cerddorfa yn perfformio’n fyw.

Ar 21 Ebrill 2024, bydd Cerddorfa a Chorws WNO, dan arweiniad Tomáš Hanus, yn perfformio ail gyngerdd yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd, fel rhan o’r Gyfres Caerdydd Glasurol. Bydd y rhaglen yn cynnwys campwaith corawl tragwyddol Mozart, sef ei Alargerdd, a bydd yr hanner cyntaf yn cynnwys Pedwaredd Symffoni (olaf) Schumann, a gyfansoddwyd yn 1841 ac a ddiwygiwyd ddegawd yn ddiweddarach, ynghyd â Cantique de Jean Racine gan Fauré.

Haf 2023: Il trittico

Yn ystod Tymor yr Haf, bydd WNO yn perfformio triptych Puccini o operâu un act, sef Il trittico, am y tro cyntaf. Mae’r cynhyrchiad newydd hwn, a gyfarwyddir gan Syr David McVicar, yn gydgynhyrchiad gyda Scottish Opera, ac mae’n gyfle prin i fwynhau’r tair opera, sef Il tabarroSuor Angelica a Gianni Schicchi, ar yr un noson, yn unol â bwriad gwreiddiol y cyfansoddwr. Arweinydd Llawryfog WNO, sef Carlo Rizzi, fydd yr arweinydd.

Bydd y triawd hwn o operâu yn tywys y gynulleidfa trwy gorwynt o emosiynau. Mae Il tabarro yn archwilio priodas anhapus sy’n arwain at ganlyniadau gwaedlyd. Mae Suor Angelica yn dilyn aberth lleian a’i hiraeth am ei theulu ar ôl iddi gael ei hanfon i leiandy i edifarhau am ei phechodau. Ac mae Gianni Schicchi, sy’n enwog mewn diwylliant poblogaidd yn sgil yr aria O mio babbino caro, yn adrodd hanes twyll a barusrwydd wrth i deulu ddadlau ynghylch ewyllys sydd wedi mynd ar goll.

Bydd y mezzo-soprano Justina Gringytė yn dychwelyd i WNO, yn dilyn ei pherfformiadau diweddar yn La forza del destinoRoberto Devereux, i ganu rhan Zia Principessa, a bydd Vuvu Mpofu, y soprano o Dde Affrica (a fydd yn ymddangos cyn bo hir yng nghynhyrchiad newydd WNO o Candide), yn canu tair rôl, sef Lauretta/ Suor Genovieva a’r Gariadferch Ifanc. Gellir cadarnhau hefyd y bydd Alexia Voulgaridou yn ymddangos yn y cynhyrchiad (Giorgetta / Suor Angelica).

Yn ystod Tymor yr Haf, bydd Cerddorfa WNO yn mynd â chyngerdd ar daith – bydd rhagor o fanylion ar gael maes o law.

Prosiectau ac Ymgysylltu

Ochr yn ochr â’r cyngherddau a fydd yn ategu’r prif deithiau opera, bydd WNO yn parhau â rhaglen amrywiol yn llawn gweithgareddau cymunedol a gweithgareddau ymgysylltu. Bydd hyn yn cynnwys parhau â phrosiectau sydd eisoes ar y gweill, fel Lles gyda WNO sy’n cynorthwyo pobl â COVID Hir trwy gynnal gweithdai anadlu; Brave, sef prosiect sy’n tynnu sylw plant at gamfanteisio ar blant a chaethwasiaeth fodern mewn dull addas i’r oedran trwy gyfrwng cerddoriaeth; a Côr Cysur sy’n cynorthwyo pobl â dementia, eu gofalwyr a’u teuluoedd (prosiect sydd wedi ehangu’n ddiweddar oherwydd ei lwyddiant).

Yn dilyn ein gwaith llwyddiannus yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr, bydd Opera Tutti yn mynd ar daith yng Nghymru am y tro cyntaf, gydag aelodau o Gerddorfa WNO. Dyma gyngherddau a grëwyd yn benodol i ysgolion arbennig ar gyfer rhai ag anawsterau dysgu dwys a lluosog (PMLD). Mae’r cyngherddau hyn yn cynnig cyfle rhyngweithiol i blant a phobl ifanc PMLD glywed a rhannu’r llawenydd sy’n perthyn i gerddoriaeth a pherfformiadau clasurol – heb gyfle o’r fath, mae’n debyg y byddai llawer ohonynt yn cael anhawster i fynychu neu brofi cyngherddau cerddorol.

Hefyd, bydd WNO yn gweithio mewn cartrefi gofal ledled Gogledd Cymru er mwyn rhoi cyfle newydd i bobl glywed opera a cherddoriaeth glasurol – pobl na fyddai, o bosibl, yn gallu mynychu theatr neu eistedd trwy berfformiad. Bydd cantorion a cherddorion WNO yn ymweld â chartrefi gofal i gyflwyno rhaglen operatig fer ochr yn ochr â rhai ffefrynnau poblogaidd. 

Dywedodd Aidan Lang, Cyfarwyddwr Cyffredinol WNO: 

‘Mae operâu yn anhygoel mewn termau gweledol a cherddorol. Nid cyd-ddigwyddiad yw’r ffaith y bydd dau o’n cynyrchiadau newydd eleni – Ainadamar a Death in Venice – yn cynnwys elfennau o ddawnsio ac yn ein tywys ar siwrnai i wledydd eraill. Gyda CV sy’n cynnwys creu coreograffi ar gyfer seremoni agoriadol Gemau Olympaidd Rio a chynhyrchiad Cirque du Soleil, rydym yn edrych ymlaen yn arbennig at groesawu Deborah Colker i WNO i gyfarwyddo Ainadamar. Mae’r opera hon yn cynnig i’n cynulleidfaoedd rywbeth hollol wahanol i’r hyn y gallen nhw fod wedi’i brofi o’r blaen gyda’r cyfrwng celfyddydol hwn.

‘Rydw i wrth fy modd ein bod am gyflwyno tair opera i’n cynulleidfaoedd – operâu nad yw’r Cwmni wedi eu perfformio erioed o’r blaen. Yn ychwanegol at ein cynyrchiadau opera a’n cyngherddau cerddorfaol, mae ein gweithgareddau ymgysylltu (elfen rydw i’n falch iawn ohoni) yn parhau i gael effaith gadarnhaol ar ein cymunedau, gan ddefnyddio opera i wneud lles i fywydau trwy gyfrwng cerddoriaeth.’

‘Er gwaethaf y sefyllfa ddyrys sydd ohoni, rydym yn ffyddiog y gallwn barhau i fod yn gwmni uchelgeisiol, arloesol ac ystwyth. Rydym wedi cyhoeddi’n barod na fydd modd inni fynd ar daith i Liverpool mwyach, ond rydym yn falch y bydd modd inni ymweld â gweddill y lleoliadau a gynhwysir yn Nhymor 2023/2024 – sef Bristol, Birmingham, Milton Keynes, Oxford, Plymouth a Southampton.’

DIWEDD


Nodiadau i Olygyddion

Opera Cenedlaethol Cymru yw cwmni opera cenedlaethol Cymru, a ariennir gan Gynghorau Celfyddydau Cymru a Lloegr i ddarparu opera ar raddfa fawr, cyngherddau a gwaith allgymorth ledled Cymru ac i ddinasoedd mawr yn rhanbarthau Lloegr.  Rydym yn ymdrechu i ddarparu profiadau trawsnewidiol trwy ein rhaglen addysg ac allgymorth a’n prosiectau digidol arobryn.  Rydym yn gweithio gyda’n partneriaid i ddarganfod a meithrin talent operatig ifanc, a’n nod yw dangos i genedlaethau’r dyfodol fod opera yn ffurf gelfyddydol werthfawr, berthnasol a chyffredinol gyda’r pŵer i effeithio ac ysbrydoli.

Mae delweddau cynhyrchiad WNO ar gael i’w lawrlwytho yn wno.org.uk/pres

  •    Caiff cynyrchiadau newydd a chomisiynau newydd WNO eu cefnogi gan Sefydliad John Ellerman
  • Mae Ainadamar yn gydgynhyrchiad gyda Scottish Opera, Opera Ventures, Metropolitan Opera a Detroit Opera ac fe’i cefnogir gan Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston a Chyfranwyr WNO
  •  Mae La traviata yn gydgynhyrchiad gyda Scottish Opera, Gran Teatre del Liceu, Barcelona a Teatro Real, Madrid
  •  Cefnogir Così fan tutte gan Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston
  •   Cefnogir Death in Venice gan Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston ac fe’i cyflwynir er cof am John Crips
  •  Mae Il triticco yn gydgynhyrchiad gyda Scottish Opera ac fe’i cefnogir gan Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston a Phartneriaid WNO
  •  Cefnogir Rhaglen Datblygu Talent WNO gan Sefydliad Kirby Laing ac Ymddiriedolaeth Elusennol Teulu Bateman
  •  Cefnogir Lles gyda WNO gan Gyngor Celfyddydau Cymru trwy gyfrwng cronfa Celfyddydau, Iechyd a Lles y Loteri.
  •  Cefnogir Dysgu gyda WNO gan Sefydliad Garfield Weston.

I gael rhagor o wybodaeth, lluniau neu gyfweliadau, cysylltwch â’r canlynol: 

Christina Blakeman, Rheolwr y Wasg
christina.blakeman@wno.org.uk

Rhys Edwards, Rheolwr Cyfathrebu
rhys.edwards@wno.org.uk

Penny James a Rachel Bowyer, Pennaeth Cyfathrebu (trefniant rhannu swydd)
penny.james@wno.org.uk / rachel.bowyer@wno.org.uk