Y Wasg

Opera Cenedlaethol Cymru yn Cyhoeddi Manylion Tymor 2024/2025

6 Chwefror 2024
  • Adele Thomas yn cyfarwyddo gydag WNO am y tro cyntaf mewn cynhyrchiad o Rigoletto
  • Cyfarwyddwr Cerddoriaeth WNO Tomáš Hanus yn arwain cynhyrchiad newydd o Peter Grimes gyda Nicky Spence a’r Fonesig Sarah Connolly yn perfformio eu rhannau am y tro cyntaf
  • WNO yn dychwelyd i Abertawe gyda The Marriage of Figaro gan Mozart a’r cyntaf mewn taith newydd o gyngherddau Chwarae Opera YN FYW
  • Opera Ieuenctid WNO yn dathlu 20 mlynedd gyda chynhyrchiad dwyieithog newydd, Panig! Attack!!
  • Natalya Romaniw yn dychwelyd i WNO yn Il trittico

Mae Tymor 2024/2025 WNO wedi’i gyhoeddi, ac mae’n cynnwys dau gynhyrchiad newydd, dathliad 20 mlynedd o Opera Ieuenctid WNO, a dychweliad y Cwmni i Abertawe.

Rigoletto

Mae Adele Thomas, y cyfarwyddwr opera a theatr gerdd sy’n enedigol o Bort Talbot, yn cyfarwyddo gydag WNO am y tro cyntaf mewn cynhyrchiad newydd o Rigoletto gan Verdi, a fydd yn agor Tymor 2024/2025 WNO.

Mae’r cyfarwyddwr Pietro Rizzo yn dychwelyd i arwain stori ddirywiedig Verdi o anfoesoldeb a thwyll sydd wedi’i gosod yn llys didostur Dug Mantua. Mae’r stori ddirdynnol hon yn archwilio’r gwead o gariad, brad a chanlyniadau pŵer. Yn ôl Verdi, Rigoletto oedd ei opera orau, ac mae’r cynhyrchiad newydd hwn yn arddangos tapestri o emosiynau ac alawon bythgofiadwy, yn cynnwys aria La donna è mobile y Dug ac un o bedwarawdau enwocaf y byd opera Bella figlia dell'amore.

Cafodd y dyluniadau ar gyfer y cynhyrchiad eu creu gan enillydd Gwobr Opera Ewropeaidd, Annemarie Woods. 

Mae’r cast yn cynnwys Daniel Luis de Vicente a fydd yn canu’r brif rôl, gyda Leonardo Capalbo yn dychwelyd i WNO i ganu’r Dug.  Mae Soraya Mafi hefyd yn dychwelyd i WNO i ganu Gilda.

Bydd Rigoletto yn agor yng Nghaerdydd ar 21 Medi cyn teithio i Landudno, Plymouth, Rhydychen a Southampton.

Bydd perfformiadau pellach o’r cynhyrchiad newydd hwn yng Nghaerdydd a Bryste ym mis Chwefror 2025.

Il trittico | Suor Angelica a Gianni Schicchi

Yn dilyn ei berfformiad cyntaf gydag WNO yn ystod Haf 2024, bydd triptych o operâu un act Il trittico gan Puccini yn dychwelyd i Ganolfan Mileniwm Cymru ym mis Medi ochr yn ochr â Rigoletto. Bydd yr operâu dan arweiniad Alexander Joel y tro hwn.

Mae’r cynhyrchiad newydd hwn, a gyfarwyddwyd yn wreiddiol gan Syr David McVicar, yn gynhyrchiad ar y cyd gyda Scottish Opera.

Bydd y soprano Natalya Romaniw yn newydd i gast yr Hydref gan ddychwelyd i brif lwyfan WNO am y tro cyntaf ers Eugene Onegin (2017) i ganu Chwaer Angelica (Suor Angelica) a Giorgetta (Il tabarro).  Mae’r bariton Aluda Todua yn ymuno â chast yr Hydref i ganu Michele (Il tabarro) a’r brif rôl yn Gianni Schicchi. Mae’r tenor o Gymru Trystan Llŷr Griffiths hefyd yn dychwelyd i WNO i ganu Rinuccio (Gianni Schicchi) a Charwr Ifanc (Il tabarro).  Yn newydd i’r cast ar gyfer y perfformiadau yn yr Hydref hefyd fydd Anne Mason a Linda Richardson.

Bydd dwy o’r operâu, Suor Angelica a Gianni Schicchi, yn teithio i Landudno, Plymouth a Southampton fel sioe ddwbl ochr yn ochr â Rigoletto yn ystod mis Hydref a Thachwedd.

Bydd cyfle i gynulleidfaoedd Rhydychen fwynhau perfformiad cyngerdd o’r tair opera mewn un noson ar 25 Hydref.

Ffefrynnau Opera

Bydd Cerddorfa a Chorws WNO unwaith eto’n camu i ganol y llwyfan wrth i gyngerdd Ffefrynnau Opera WNO, Opera yn y Ffilmiau. Y tro hwn mae’r cyngerdd yn cynnwys rhaglen newydd o ariâu a chaneuon poblogaidd sy’n ymddangos mewn ffilmiau fel Pretty Woman, The Shawshank Redemption a Quantum of Solace. Bydd Ffefrynnau Opera yn cael ei pherfformio yng Nghaerdydd, Llandudno, Plymouth a Southampton.

Taith Fiennaidd

Bydd Cerddorfa WNO yn croesawu 2025 gydag un arall o’i theithiau cyngerdd Blwyddyn Newydd poblogaidd. Caiff cynulleidfaoedd eu tywys ar daith gerddorol i brifddinas Awstria gan waltsiau a pholcas poblogaidd yn Dathliad Fiennaidd dan arweiniad y Cyngerddfeistr David Adams.

National Opera Studio

Yn parhau partneriaeth hirdymor WNO â rhaglen Artistiaid Ifanc National Opera Studio, bydd cyfle i gynulleidfaoedd weld talent newydd heddiw ar gyfer operâu yfory yn sioe flynyddol National Opera Studio yn Theatr Donald Gordon Canolfan Mileniwm Cymru ynghyd â chyfeiliant gan Gerddorfa WNO ar 2 Chwefror.

The Marriage of Figaro

Bydd y Cyfarwyddwr Max Hoehn yn adfywio cynhyrchiad lliwgar Tobias Richter o The Marriage of Figaro gan Mozart fydd yn agor yng Nghaerdydd ar 6 Chwefror ac yn teithio i Abertawe a Bryste i ddechrau, gan nodi dychweliad WNO i’r llwyfan operatig yn Abertawe am y tro cyntaf ers degawd. Bydd perfformiadau pellach yng Nghaerdydd, Southampton, Birmingham, Milton Keynes, Llandudno a Plymouth rhwng mis Ebrill a mis Mehefin.

Mae nodau agoriadol yr agorawd adnabyddus yn gosod yr olygfa gerddorol ar gyfer yr opera glasurol hon sy’n llawn cariad, chwerthin a chamadnabyddiaeth.  Cafodd y cynhyrchiad hwn, sy’n cynnwys dyluniadau gan y diweddar Ralph Koltai a gwisgoedd gan Sue Blane, ei greu i fod yn wledd i’r llygaid yn ogystal â’r clustiau.

Bydd The Marriage of Figaro dan arweiniad cyn-Arweinydd Cyswllt WNO, Karem Hasan.

Bydd y soprano o Awstria, a’r enillydd Gwobr Ferrier 2014, Christina Gansch, yn perfformio am y tro cyntaf gydag WNO i ganu Susanna, a bydd hyn hefyd yn berfformiad rôl cyntaf iddi. Bu Christina yn cynrychioli Awstria yn rownd derfynol cystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd y BBC yn 2021.  Bydd cyn-Artist Cyswllt WNO, Harriet Eyley, yn dychwelyd i’r Cwmni i ganu Cherubino, Giorgio Caoduro yn dychwelyd i ganu Count Almaviva, a bydd Michael Mofidian yn canu’r brif rôl fel Figaro, barbwr enwocaf y byd opera.

Peter Grimes

Bydd WNO yn llwyfannu cynhyrchiad newydd o Peter Grimes, gan gwblhau ei Thymor o operâu ar gyfer 2024/2025. Bydd y cynhyrchiad hwn yn cael ei arwain gan Gyfarwyddwr Cerddoriaeth WNO, Tomáš Hanus, ei opera gyntaf gan Britten.

Mae’r opera hon, sy’n stori o ddirgelwch, rhagfarn a thrasiedi wedi’i threfnu i sgôr alawol, yn dilyn hanes y pysgotwr Peter Grimes wrth iddo frwydro yn erbyn y gwewyr y tu mewn iddo ar ôl i’w gymuned yn y dref arfordirol gefnu arno.

Yn ei berfformiad rôl cyntaf, mae’r tenor Nicky Spence yn ymgymryd â’r brif rôl, gan ddychwelyd i WNO yn dilyn perfformiadau yn The Makropulos Affair yn Nhymor Hydref 2022.  Bydd y mezzo soprano arbennig o Brydain, y Fonesig Sarah Connolly hefyd yn perfformio ei rôl gyntaf fel Y Fodryb.  Ymhlith y llu o gantorion o Gymru sydd hefyd yn rhan o’r cast mae David Kempster, Fflur Wyn, Jeffrey Lloyd Roberts a Sion Goronwy.

Mae Peter Grimes yn agor yng Nghaerdydd ar 5 Ebrill cyn mynd ar daith i Southampton, Birmingham, Milton Keynes, Llandudno a Plymouth.

Taith Haf

Yn dilyn rhaglen opera 2024/2025, bydd Cerddorfa WNO yn dechrau ar ei Thaith Haf unwaith eto, dan arweiniad Tomáš Hanus.  Bydd manylion pellach a rhaglen lawn ar gyfer y daith hon yn cael eu cyhoeddi’n ddiweddarach.

Allgymorth ac Ymgysylltiad

Bydd gweithgaredd rheolaidd Prosiectau ac Ymgysylltu WNO, yn cynnwys Lles gydag WNO, Côr Cysur WNO, a Dysgu gydag WNO, yn parhau drwy gydol y flwyddyn.  Yn ogystal, bydd Cyngherddau Ysgol yng Nghaerdydd ac ar daith yn ystod Tymor Hydref.

  • Chwarae Opera YN FYW yn agor yn Abertawe

Bydd Theatr y Grand hefyd yn cynnal perfformiadau agoriadol o’r sioe deuluol boblogaidd, Chwarae Opera YN FYW eleni wrth i WNO ddychwelyd i Abertawe.  Gan agor ar Ddydd Gŵyl Dewi (1 Mawrth), mae hon yn ffordd addas iawn i WNO gyhoeddi i ddinas Abertawe ei fod yn dychwelyd i’r llwyfan. 

Mae’r sioe deuluol ryngweithiol ac addysgiadol hon yn gyflwyniad perffaith i fyd opera a cherddoriaeth glasurol, a’r tro hwn, bydd gan y cyngherddau thema ‘cerddoriaeth ogoneddus o’r llwyfan a’r sgrin’  Bydd Tom Redmond yn dychwelyd i gyflwyno’r sioe a bydd Cerddorfa WNO yn rhan ohoni.

Fel yr arfer, bydd gweithgareddau difyr rhad ac am ddim yn y cyntedd cyn y perfformiadau a byddant yn cynnig dealltwriaeth fanylach o’r byd opera gyda gwisgoedd, paentio wynebau a phropiau i’w cael.

Yn dilyn y perfformiad yn Abertawe, cynhelir perfformiadau pellach yng Nghaerdydd, Southampton, Llandudno a Plymouth rhwng mis Ebrill a mis Mehefin.

  • Opera Ieuenctid WNO yn dathlu 20 mlynedd yn y Perfformiad Opera Ieuenctid Seligman

Yn 2025, bydd Opera Ieuenctid lwyddiannus WNO, sy’n cynnig cyfleoedd i bobl ifanc rhwng 10-25 oed, yn dathlu 20 mlynedd ers ei sefydlu gyda chynhyrchiad newydd i godi’r galon, gan ddod ag aelodau hen a newydd ynghyd i berfformio ochr yn ochr â Cherddorfa WNO. Bydd y comisiwn newydd sbon hwn ar gyfer Perfformiad Opera Ieuenctid Seligman eleni’n talu sylw pendant i’r Opera Ieuenctid, gan arddangos talentau eithriadol cantorion a chyn-aelodau ifanc WNO dros y ddau ddegawd diwethaf, a dathlu popeth sy’n gwneud y rhaglen hon mor arbennig.

Cyfansoddir y cynhyrchiad newydd hwn, Panig! Attack!! gan Dan Perkin, Cyfarwyddwr Cerddoriaeth Opera Ieuenctid WNO, gyda libreto dwyieithog (Cymraeg a Saesneg) gan Bethan Marlow. Bydd y libretto yn cynnwys Iaith Arwyddion Prydain yn ogystal. Gwneir y trefniant cerddorfaol ar gyfer y cynhyrchiad gan Owain Llwyd.

Cynhelir y perfformiadau yn y Theatr Newydd, Caerdydd ar ddydd Sadwrn 26 Ebrill am 2.30pm a 7.30pm.

  • The Marriage of Figaro Cwta | In Short

Yn dilyn rhaglen beilot lwyddiannus yn ystod Tymor 2023/2024, bydd Cwta | In Short yn dychwelyd ar gyfer 2024/2025 gyda fersiwn gryno o The Marriage of Figaro.  Mae Cwta | In Short yn cynnig fersiwn gryno o operâu clasurol gyda’r nod o annog pobl newydd i’r gelfyddyd.

Bydd y perfformiadau rhad ac am ddim yn cael eu cynnig ar ddyddiadau ym mis Ebrill a Mai i grwpiau ysgol a grwpiau gwasanaeth cerdd yng Nghaerdydd, Llandudno, Southampton, Birmingham a Milton Keynes.

Dywedodd Christopher Barron, Cyfarwyddwr Cyffredinol Dros Dro WNO:

‘Mae ein Tymor 2024/2025 yn cynnwys llu o uchafbwyntiau, sydd wedi’u hamserlennu rhwng dau gynhyrchiad newydd. Byddwn yn croesawu’r cyfarwyddwr o Gymru, Adele Thomas fydd yn ymuno ag WNO am y tro cyntaf i gyfarwyddo cynhyrchiad newydd o Rigoletto ac rydym yn edrych ymlaen at lwyfannu cynhyrchiad newydd o Peter Grimes gyda chast nodedig o gantorion. Fel yr arfer, bydd ein Cerddorfa a Chorws yn parhau i serennu yn ein cynyrchiadau yn ogystal â’u gwaith cyngerdd drwy gydol y flwyddyn.

‘Ar ôl gwylio WNO yn Theatr y Grand sawl gwaith fy hun yn ystod fy nyddiau prifysgol yn Abertawe, rwyf wrth fy modd  ein bod yn dychwelyd i Abertawe fel Cwmni gyda’n cynhyrchiad poblogaidd o The Marriage of Figaro ynghyd â’n sioe deuluol Chwarae Opera YN FYW.

‘Bydd gennym gyfle hefyd i arddangos talent ifanc wrth i Opera Ieuenctid WNO ddathlu 20 mlynedd ers ei sefydlu yn ei chynhyrchiad dwyieithog newydd sbon.  Mae’r rhaglen lwyddiannus hon wedi mynd o nerth i nerth ac mae’n parhau i gynnig cyfleoedd anhygoel i’n cantorion ifanc.  Mae’r gantores Natalya Romaniw yn sicr yn dystiolaeth o hyn; cyn-aelod Opera Ieuenctid WNO y mae ei seren yn disgleirio mwy bob dydd ac a fydd yn dychwelyd i ganu ar brif lwyfan WNO yn Il trittico yn ystod yr Hydref.’

DIWEDD

Nodiadau i Olygyddion

Opera Cenedlaethol Cymru yw'r cwmni opera cenedlaethol ar gyfer Cymru, a ariennir gan Gynghorau Celfyddydau Cymru a Lloegr i ddarparu cyngherddau, gwaith allgymorth ac operâu ar raddfa fawr ledled Cymru ac mewn dinasoedd mawr yn rhanbarthau Lloegr. Rydym yn ymdrechu i gynnig profiadau trawsnewidiol drwy ein rhaglen addysg ac allgymorth a'n prosiectau digidol llwyddiannus. Rydym yn gweithio gyda'n partneriaid i ddarganfod a meithrin doniau operatig ifanc, a'n nod yw dangos i genedlaethau'r dyfodol bod opera'n gelfyddyd foddhaus, berthnasol a byd-eang sydd â'r grym i gael effaith ac i ysbrydoli.

Mae lluniau cynyrchiadau WNO ar gael i'w lawrlwytho o https://wno.org.uk/cy/press

Mae rhagor o wybodaeth ynghylch gwaith WNO ar gael yn wno.org.uk/cy/

  • Prif gefnogaeth i'r cynhyrchiad gan Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston.
  • Cefnogir rôl Tomáš Hanus, Cyfarwyddwr Cerdd WNO, gan Marian a Gordon Pell
  • Cefnogir Cynyrchiadau 2024/2025 gan Gronfa Dunard
  • Cefnogir Peter Grimes gan Grŵp Britten WNO
  • Mae The Marriage of Figaro yn gynhyrchiad ar y cyd gyda Grand Théâtre de Genève a chaiff ei gefnogi gan Bartneriaid WNO
  • Mae Il trittico yn gynhyrchiad ar y cyd gyda Scottish Opera
  • Cynhyrchiad dathlu 20 mlynedd yr Opera Ieuenctid yw’r ‘Perfformiad Opera Ieuenctid Seligman’
  • Cefnogir Dysgu gydag WNO gan Ymddiriedolaeth Garfield Weston.

Am ragor o wybodaeth, lluniau neu gyfweliadau, cysylltwch â:

Christina Blakeman, Rheolwr y Wasg 

Christina.blakeman@wno.org.uk

Rhys Edwards, Rheolwr Cyfathrebu 

Rhys.edwards@wno.org.uk

Sophie Revell, Cynorthwyydd y Wasg a Chyfathrebu 

Sophie.revell@wno.org.uk

Penny James a Rachel Bowyer, Pennaeth Cyfathrebu (rhannu swydd) 

Penny.james@wno.org.uk / Rachel.bowyer@wno.org.uk