Opera Cenedlaethol Cymru yn cyhoeddi tymor 2025/2026 yn nodi ei ben-blwydd yn 80 oed
18 Chwefror 2025- Cynhyrchiad newydd o The Flying Dutchman gan Wagner ar gyfer blwyddyn pen-blwydd y WNO yn 80 oed
- Y soprano o Gymru, Natalya Romaniw, yn dychwelyd i ganu’r brif ran yn Tosca
- Llwyddiannau diweddar Blaze of Glory! a Candide yn dychwelyd i'r llwyfan
Mae Opera Cenedlaethol Cymru wedi cyhoeddi ei dymor 2025/2026, a fydd hefyd yn gweld y Cwmni yn dathlu ei ben-blwydd yn 80 oed.
Mae’r flwyddyn yn cynnwys cynhyrchiad newydd o The Flying Dutchman gan Wagner yn ystod Tymor y Gwanwyn, a chynhyrchiad newydd o Tosca gan Puccini, a welwyd yn wreiddiol yn Opera North, yn ystod Tymor yr Hydref.
Bydd y llwyddiannau diweddar Blaze of Glory! a Candide yn dychwelyd i’r llwyfan, yn ogystal â chyngerdd poblogaidd Ffefrynnau Opera a sioe deuluol WNO, Chwarae Opera YN FYW.
Bydd yna hefyd barhad o daith cyngerdd Blwyddyn Newydd Cerddorfa WNO, a Rhaglenni ac Ymgysylltu WNO mewn cymunedau ledled Cymru a De-orllewin Lloegr.
Hydref 2025: Tosca a Candide
Mae Tymor yr Hydref WNO yn agor gyda chynhyrchiad newydd o Tosca gan Puccini. Mae Edward Dick, a gychwynnodd y cynhyrchiad hwn yn Opera North yn 2018, yn ymuno â WNO i gyfarwyddo’r clasur opera hwn sy’n llawn angerdd, pŵer a thwyll, wedi’i gosod i sgôr bythgofiadwy Puccini gan gynnwys yr aria deimladwy Te deum a Vissi d’arte arswydus o hardd.
Yn dychwelyd i WNO mae’r soprano o Gymru, Natalya Romaniw, a fydd yn canu’r brif ran. Yn ymuno â hi bydd Andrés Presno sy'n dychwelyd i WNO i ganu Cavaradossi.
Mae'r arweinydd o Hwngari, Gergeley Madaras, yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf gyda’r WNO i arwain y cynhyrchiad newydd pwerus a dramatig hwn, a gafodd ganmoliaeth feirniadol yn wreiddiol.
Yn dychwelyd i WNO yn ystod Tymor yr Hydref mae cynhyrchiad enwog y Cwmni o Candide Leonard Bernstein, sy’n dod ag egni sioe y West End i’r llwyfan opera.
Mae Ffrainc y 18fed ganrif yn gwrthdaro ag America yn y cyfnod ar ôl y rhyfel yn yr 20fed ganrif yn y stori hon sydd yr un mor berthnasol nawr â phan gafodd ei hysgrifennu gyntaf. Gan gyfuno disgleirdeb cerddoriaeth Bernstein â ffraethineb Dorothy Parker, mae’r cynhyrchiad hwn yn cyfuno Broadway, opereta a dychan nofel wreiddiol Voltaire.
Mae animeiddiadau deheuig yn gweithio mewn cytgord â’r llwyfannu, cerddoriaeth a dawns i greu byd llawn dychymyg ar y llwyfan lle mae cynulleidfaoedd yn cael eu tywys ar daith o’r Alpau i jyngl yr Amazon, a thu hwnt.
Wedi’i gyflwyno gyntaf yn Haf 2023, mae’r tîm cynhyrchu gwreiddiol yn dychwelyd i WNO, dan arweiniad y cyfarwyddwr James Bonas. Mae’r dyluniadau gwisgoedd gan Nathalie Pallandre gyda setiau gan Thibault Vancraenenbroeck, a dyluniad fideo ac animeiddiad gan Grégoire Pont gyda Choreograffi gan Ewan Jones. Y tro hwn, bydd y cynhyrchiad dan arweiniad yr arweinydd Americanaidd Ryan McAdams, yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf gyda WNO.
Mae Ed Lyon yn dychwelyd yn rôl deitl Candide, a enillodd glod beirniadol iddo, yn ogystal â’r tenor o Gymru, Aled Hall, sy’n dychwelyd yn rôl y Rheolwr. Mae’r cast hefyd yn cynnwys Soraya Mafi – a welwyd yn fwyaf diweddar gyda’r WNO fel Gilda yn Rigoletto – yn dychwelyd i ganu Cunégonde.
Bydd y ddau berfformiad yn agor yng Nghaerdydd cyn teithio i Southampton, Llandudno a Bryste.
Gwanwyn 2026: The Flying Dutchman a Blaze of Glory
Yn agor Tymor y Gwanwyn mae cynhyrchiad newydd o The Flying Dutchman. Mae’r cyfarwyddwr, cynhyrchydd a dylunydd fideo o Gymru, Jack Furness, yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf gyda WNO i gyfarwyddo’r ail-ddychmygu ffres a chyfoes hwn o gampwaith cynnar Wagner, a fydd yn cael ei arwain gan Gyfarwyddwr Cerdd WNO, Tomáš Hanus.
O nodiadau agoriadol yr agorawd daranllyd i’r ariâu brawychus, mae cerddoriaeth Wagner yn dwyn i gof bŵer y cefnfor, gan osod y cefndir yn berffaith ar gyfer y stori hon sy’n archwilio emosiynau dynol dwfn unigrwydd a hiraeth am gysylltiad.
Fel nod teilwng i ben-blwydd WNO yn 80 oed, bydd Blaze of Glory! yn dychwelyd i’r llwyfan ar gyfer Tymor y Gwanwyn, yn dilyn criw o lowyr Cymreig wrth iddynt gychwyn ar daith gerddorol i ailffurfio eu côr meibionar ôl trychineb lofaol leol.
Wedi’i drwytho yn y traddodiad corawl Cymreig a gydag ysbryd cymunedol yn ei galon, dyma’r ffordd berffaith i ddathlu’r garreg filltir arbennig hon i WNO, cwmni a gododd o’r cyfnod ar ôl y Rhyfel, wedi ei ysgogi gan yr angerdd am gerddoriaeth sydd gan grŵp o berfformwyr amatur o bob rhan o Dde Cymru, gan gynnwys meddygon, glowyr ac athrawon.
Wedi’i chyfansoddi gan David Hackbridge Johnson, a gyda libreto gan Emma Jenkins, mae’r sioe ddyrchafol hon yn cyfuno harmonïau traddodiadol Cymreig â synau a capella y 1950au, gydag opereta, gospel a band mawr yn rhan o’r gymysgedd.
Mae Caroline Clegg yn dychwelyd i gyfarwyddo, gyda James Southall yn arwain. Bydd nifer o’r cast gwreiddiol yn dychwelyd, gan gynnwys Jeffrey Lloyd-Roberts fel y Corfeistr Dafydd Pugh, Rebecca Evans fel Nerys Price, Themba Mvula fel Anthony a Feargal Mostyn-Williams fel Bryn Bevan.
Bydd y perfformiadau ill dau yn agor yng Nghaerdydd cyn teithio i Plymouth, Birmingham, Milton Keynes ac Abertawe.
Cyngerdd a Gweithgaredd Ymgysylltu
Bydd y tymor hefyd yn gweld parhad sioe deuluol WNO, Chwarae Opera YN FYW a fydd â thema Llongddrylliad! y tro hwn. Gyda Cherddorfa a Chorws WNO yn rhoi einioes iddo, mae Tom Redmond yn dychwelyd i lywio’r llong fel cyflwynydd ar gyfer y gyfres hon o sioeau sy’n parhau i swyno cynulleidfaoedd hen ac ifanc.
Corws a Cherddorfa WNO yn dod at ei gilydd eto ar gyfer cyngherddau Noson yn yr Opera. Yn cyfuno angerdd, drama ac alawon bythgofiadwy, gyda pherfformiadau yn ystod tymor yr Hydref. Bydd y cyngherddau yn cynnwys cerddoriaeth o Cavalleria rusticana, Madam Butterfly a Macbeth.
Rhywbeth sydd bellach yn draddodiad blynyddol, bydd Cerddorfa WNO yn cyfarch y Flwyddyn Newydd gyda’u taith boblogaidd o gerddoriaeth Fiennaidd a fydd yn teithio i leoliadau yng Nghymru a De-orllewin Lloegr.
Bydd rhaglen helaeth a gweithgarwch ymgysylltu WNO hefyd yn parhau i mewn i’r flwyddyn hon, sy’n cynnwys gweithgareddau rheolaidd i ysgolion a chyngherddau, Opera Ieuenctid WNO a’r rhaglen Lles gyda WNO.
Dywedodd Sarah Crabtree ac Adele Thomas, cyd-Brif Swyddogion Gweithredol / Cyfarwyddwyr Cyffredinol WNO:
‘Mae mor wefreiddiol cael cyhoeddi ein tymor cyntaf wrth y llyw gan WNO: tymor lle mae artistiaid Cymreig a straeon Cymreig ar flaen y gad. Mae’n bleser croesawu cymaint o hen ffrindiau yn ôl, gweld talent newydd sy’n dod i’r amlwg yn camu i’n llwyfannau a, thrwy ein gwaith rhyfeddol gyda phobl ifanc ac amrywiaeth enfawr o brosiectau yn ein cymunedau lleol, mae cymaint o bobl yn ymweld â’r opera am y tro cyntaf. Credwn mai opera yw ffurf gelfyddydol ddeinamig ein hoes ac rydym yn gyffrous i fod yn agor y drysau ar EICH Opera Cenedlaethol Cymru: YOUR Welsh National Opera.’
DIWEDD
Nodiadau Golygyddol
Opera Cenedlaethol Cymru yw cwmni opera cenedlaethol Cymru, a ariennir gan Gynghorau Celfyddydau Cymru a Lloegr i ddarparu opera ar raddfa fawr, cyngherddau ac allgymorth ledled Cymru ac i ddinasoedd mawr yn rhanbarthau Lloegr. Rydym yn ymdrechu i ddarparu profiadau trawsnewidiol trwy ein rhaglen addysg ac allgymorth a'n prosiectau digidol arobryn. Rydym yn gweithio gyda’n partneriaid i ddarganfod a meithrin talent operatig ifanc, a’n nod yw dangos i genedlaethau’r dyfodol fod opera yn ffurf gelfyddydol werthfawr, berthnasol a chyffredinol gyda’r pŵer i effeithio ac ysbrydoli.
Mae delweddau cynhyrchiad WNO ar gael i'w lawrlwytho yn wno.org.uk/press
Ceir rhagor o wybodaeth ar gynyrchiadau'r WNO ar wno.org.uk
- Cefnogir Tymor 2025/2026 gan Dunard Fund
- Cefnogir The Flying Dutchman gan Sheila a Richard Brooks
- Cefnogir rôl Cyfarwyddwr Cerdd WNO Tomáš Hanus gan Marian a Gordon Pell
Am fwy o wybodaeth, lluniau neu gyfweliadau cysylltwch â:
Christina Blakeman, Rheolwr Cyfathrebu
Christina.blakeman@wno.org.uk