Y Wasg

Opera Cenedlaethol Cymru yn Cyhoeddi tymor cyngherddau blynyddol y Gerddorfa ochr yn ochr ag Artistiaid Cyswllt newydd

2 Gorffennaf 2025

Opera Cenedlaethol Cymru yn Cyhoeddi tymor cyngherddau blynyddol y Gerddorfa ochr yn ochr ag Artistiaid Cyswllt newydd

  • Mae’r bartneriaeth â Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn parhau gyda chyngherddau â’r soprano Elizabeth Llewellyn, y mezzo soprano Justina Gringytė, Gala Opera, Arddangosfa Arweinwyr a chyngherddau Ochr yn Ochr
  • Artistiaid Cyswllt newydd yn ymuno ag WNO ar gyfer Tymor yr Hydref a chyfres o gyngherddau
  • Corws WNO yn dychwelyd gyda Chorws y Nadolig

Mae Opera Cenedlaethol Cymru wedi cyhoeddi rhaglen gyngherddau Cerddorfa WNO, a gynhelir yn ystod Tymor yr Hydref 2025. Bydd cantorion o fri rhyngwladol yn ymuno â hwy am gyngherddau, yn ogystal â mynd ar grwydr fel rhan o’u teithiau tymhorol poblogaidd.

Mae’r rhaglen yn cychwyn gyda’r soprano Elizabeth Llewellyn yn ymuno â cherddorfa WNO ar gyfer cyngerdd yn Neuadd Dora Stoutzker, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd, dan arweinyddiaeth yr arweinydd Tsieceg, Jiří Habart.

Bydd Elizabeth yn canu cylch caneuon rhamantus Wagner, Wesendonck Lieder, a ysbrydolwyd gan bum cerdd yn myfyrio ar gariad gwaharddedig a hiraeth. Bydd Jiří Habart yn arwain rhaglen sy’n cynnwys Die Ruinen von Athen, cyfres o gerddoriaeth ddramatig gan Beethoven sy’n cynnwys yr enwog Turkish March. Dilynir hyn gan agorawd Haydn o Die Schöpfung a daw i ben gyda Symffoni Rhif 8 Dvořák. Cynhelir y perfformiadau ddydd Gwener 24 a dydd Sadwrn 25 Hydref.

Mae Cerddorfa WNO yn dychwelyd i berfformio ochr yn ochr â chantorion Ysgol Opera David Seligman yng Ngala Opera flynyddol Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Bydd y rhaglen yn cynnwys yr hen ffefrynnau operatig cyfarwydd, a chânt eu perfformio ddydd Mawrth 2 a dydd Mercher 3 Rhagfyr.

Bydd Corws WNO yn dychwelyd gyda Chorws y Nadolig, gan berfformio ochr yn ochr â chantorion o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ddydd Sadwrn 6 Rhagfyr yng Nghapel Tabernacl, Caerdydd. Dan arweinyddiaeth Meistr Corws WNO, Frederick Brown, a Chyfarwyddwr Cerdd Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Tim Rhys-Evans, bydd y cyngerdd yn cynnwys opera, darnau corawl Cymraeg a cherddoriaeth Nadoligaidd gan y cyfansoddwyr John Rutter, Britten a John Taverner.

Artistiaid Cyswllt Newydd WNO

O fis Medi ymlaen, bydd y bariton Owain Rowlands a’r bas-bariton Ross Fettes yn ymuno â’r Cwmni fel Artistiaid Cyswllt newydd WNO. Fel Artistiaid Cyswllt, byddant yn cael hyfforddiant, cefnogaeth, ac yn ennill profiad gyda rolau mewn operâu, cyngherddau a gwaith ymgysylltu a chymunedol WNO.

Mae’r bariton o Gaerfyrddin, Owain Rowlands, wedi gweithio gyda WNO pan oedd yn astudio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, gan berfformio yng Ngala Opera flynyddol WNO a thrwy chwarae rhannau Notary, Guccio a Pinellino yng nghynhyrchiad diweddar WNO o Gianni Schicchi gan Puccini. Mae wedi cynrychioli Cymru yn Expo 2025 yn Japan fel Llysgennad Diwylliannol Rhyngwladol yr Urdd a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Mae Owain yn perfformio’n rheolaidd mewn cystadlaethau, ac wedi ennill gwobrau gan gynnwys Llais Llwyfan Llanbed, Cystadleuaeth Canwr Ifanc Cymreig Llundain, gwobr Ysgoloriaeth W Towyn Roberts a Gwobr Syr Ian Stoutzker. Bu iddo hefyd gyrraedd rownd derfynol Cystadleuaeth Ysgoloriaeth Syr Bryn Terfel, Llais Rhyngwladol y Dyfodol Pentywyn yn Eisteddfod Llangollen a Chanwr Ifanc y Flwyddyn Dunraven.  Bydd Owain yn cynrychioli WNO yn yr Eisteddfod eleni, gan berfformio ochr yn ochr â’r cyn-Artist Cyswllt Erin Rossington ac aelod o’r Gerddorfa Llinos Owen. Fel Artist Cyswllt yn Nhymor yr Hydref eleni, bydd Owain yn ymgymryd â rôl Jailer yn Tosca, yn cyflenwi rôl Maximilian yn Candide a hefyd yn perfformio yng nghyngherddau Ysgol WNO. Fel rhan o Dymor y Gwanwyn 2026, bydd Owain yn perfformio fel unawdydd yn y Cyngerdd blynyddol i Ddathlu’r Flwyddyn Newydd, yn cyflenwi rôl Mr Evans yn Blaze of Glory! ac yn rhan o’r corws ychwanegol yn Blaze of Glory! a The Flying Dutchman.

Yn ddiweddar, graddiodd y bas-bariton o’r Alban, Ross Fettes, o Ysgol Opera Ryngwladol y Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain, lle bu’n astudio dan arweiniad Graeme Broadbent, a chyn hynny cafodd ei hyfforddi gan Brindley Sherratt. Mae’n Ysgolor Stephen Roberts, wedi’i gefnogi gan Wobr Ysgoloriaeth Goffa Stephen Catto, yn ysgolor Ymddiriedolaeth y Countess of Munster ac yn Ysgolor Ymddiriedolaeth Josephine Baker.

Perfformiodd Ross gyda Scottish Opera yng nghynhyrchiad teithiol o Amadeus and the Bard yn 2019, ac mae ei berfformiadau opera diweddar, i gyd yn y Coleg Cerdd Brenhinol, yn cynnwys rolau Figaro yn TheMarriage of Figaro gan Mozart, Don Inigo Gomez yn L’heure espagnole gan Ravel, Baron Mirko Zeta yn The Merry Widow gan Lehár, a Pasquariello yn Don Giovanni Tenorio gan Salieri. Mae hefyd wedi perfformio Figaro gydag Westminster Opera yn eu cynhyrchiad o The Marriage of Figaro.

I WNO, bydd Ross yn ymgymryd â rôl Sacristan yn Tosca yn Nhymor yr Hydref eleni, a bydd hefyd yn ymuno ag Owain fel unawdydd yn y Cyngerdd blynyddol i Ddathlu’r Flwyddyn Newydd, yn llenwi rôl Daland ac yn rhan o’r corws ychwanegol yn The Flying Dutchman yn Nhymor y Gwanwyn 2026. Bydd y ddau yn cael cyfleoedd eraill i berfformio mewn digwyddiadau ac ymrwymiadau eraill, yn ogystal â’r Perfformiad Artist Cyswllt blynyddol.

Bydd y ddau yn cael cyfleoedd eraill i berfformio mewn digwyddiadau ac ymrwymiadau eraill, yn ogystal â’r Perfformiad Artist Cyswllt blynyddol, a fydd yn cael eu perfformio ar ddydd Sul 5 Gorffennaf 2026. 

Dywedodd Owain: ‘Rwyf wrth fy modd yn cael ymuno ag Opera Cenedlaethol Cymru fel Artist Cyswllt y tymor nesaf. Mae’r cyfle hwn yn teimlo fel cam hanfodol yn fy natblygiad, yn cael gweithio ochr yn ochr â Cherddorfa arbennig WNO a chael dysgu gan gantorion, arweinwyr a chyfarwyddwyr mor ysbrydoledig. Y tymor diwethaf, bûm yn ddigon ffodus i gael cyflenwi ychydig o rolau yn Gianni Schicchi, ac roedd y profiad yn hynod werthfawr. Dysgais gymaint drwy’r broses, a phopeth o fewn amgylchedd cefnogol a chroesawus - dyma sy’n gwneud WNO yn lle mor arbennig i ddatblygu. Dwi’n edrych ymlaen yn fawr iawn ac yn teimlo’n hynod o ffodus, yn enwedig gan fy mod yn Gymro yn gweithio yn ein Cwmni Opera Cenedlaethol. Dwi methu aros I ddechrau.’

Dywedodd Ross: ‘Rwyf wrth fy modd yn cael ymuno ag Opera Cenedlaethol Cymru fel Artist Cyswllt. A minnau o Glasgow yn wreiddiol, theatr ranbarthol ac opera oedd fy nghyflwyniad cyntaf i’r ffurf hon ar gelfyddyd, felly mae’n anrhydedd go iawn cael ymuno â chwmni rhanbarthol arall sy’n cyflwyno opera i gynulleidfaoedd ledled Cymru a Lloegr. Rwy’n edrych ymlaen yn eiddgar at gael gweithio a byw yng Nghaerdydd, ac alla i ddim aros i gychwyn arni.’

Tymor 2026 Cerddorfa WNO

I groesawu’r Flwyddyn Newydd, bydd Cerddorfa WNO unwaith eto yn llenwi’r aer â rhai o’r enghreifftiau gorau o gerddoriaeth Fiennaidd mewn cyngerdd i Ddathlu’r Flwyddyn Newydd. Bydd y Cyngerddfeistr David Adams yn arwain detholiad o waltsiau, polcas a ffefrynnau clasurol gan Josef Strauss, Johann Strauss II, Dvořák, Weber a Brahms, gyda'r Gerddorfa yn cael cwmni Artistiaid Cyswllt newydd WNO, Owain Rowlands a Ross Fettes.

Bydd y daith gyngerdd yn agor yn Theatr Brycheiniog, Aberhonddu ddydd Sadwrn 3 Ionawr 2026 cyn ymweld â Ilfracombe ar dydd Sul 4 Ionawr, Bangor ddydd Gwener 9 Ionawr; Hafren ddydd Sadwrn 10 Ionawr; Southampton ddydd Sul 11 Ionawr; Neuadd Dora Stoutzker Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd am ddau berfformiad ddydd Gwener 16 Ionawr; gan orffen yn Truro ddydd Sul 18 Ionawr.

Fis Chwefror, bydd Cerddorfa WNO yn dychwelyd i Neuadd Dora Stoutzker am gyngerdd dan arweiniad yr Arweinydd Llawryfog, Carlo Rizzi. Bydd y mezzo soprano Justina Gringytė yn ymuno â’r Cwmni i ganu Adoration gan Florence Price, Les Nuits d’été gan Berlioz a Symffoni Rhif 4 Bruckner. Bydd dau berfformiad y cyngerdd yn cael eu cynnal ddydd Sadwrn 14 a dydd Sul 15 Chwefror 2026..

Ym mis Mai bydd Arddangosfa’r Arweinydd yn dychwelyd, gydag arweinwyr ifanc Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn arwain Cerddorfa WNO mewn dathliad dros amser cinio i ddathlu talent ifanc. Cynhelir yr arddangosfa ddydd Mawrth 19 Mai.

Bydd Cerddorfa WNO yn dod â’u blwyddyn o bartneriaeth gyda Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru i ben gyda’u cyngerdd rheolaidd Ochr yn Ochr. Mae’r sesiynau Ochr yn Ochr yn rhoi cyfle i fyfyrwyr cerddoriaeth ddysgu gan aelodau o’n Cerddorfa, yn ogystal â chwarae ochr yn ochr â nhw, ac mae’n brofiad amhrisiadwy i fyfyrwyr efallai nad ydynt erioed o’r blaen wedi chwarae gyda cherddorfa. Bydd y cyngerdd yn cynnwys Concerto Vaughan Williams i’r Obo a Symffoni Rhif 2 Rachmaninov. Perfformir y cyngerdd ddydd Mercher 24 Mehefin.

wno.org.uk

DIWEDD


Nodiadau i Olygyddion 

Opera Cenedlaethol Cymru yw'r cwmni opera cenedlaethol ar gyfer Cymru, a ariennir gan Gynghorau Celfyddydau Cymru a Lloegr i ddarparu cyngherddau, gwaith allgymorth ac operâu ar raddfa fawr ledled Cymru ac mewn dinasoedd mawr yn rhanbarthau Lloegr. Rydym yn ymdrechu i gynnig profiadau trawsnewidiol drwy ein rhaglen addysg ac allgymorth a'n prosiectau digidol llwyddiannus. Rydym yn gweithio gyda'n partneriaid i ddarganfod a meithrin doniau operatig ifanc, a'n nod yw dangos i genedlaethau'r dyfodol bod opera'n gelfyddyd foddhaus, berthnasol a byd-eang sydd â'r grym i gael effaith ac i ysbrydoli. 

Mae lluniau cynyrchiadau WNO ar gael i'w lawrlwytho o https://wno.org.uk/cy/press 

Mae rhagor o wybodaeth ynghylch gwaith WNO ar gael yn wno.org.uk/cy/ 

  • Cefnogir rôl Blaenwr Cerddorfa WNO gan Mathew a Lucy Prichard
  • Cefnogir Cerddorfa WNO gan Mathew a Lucy Prichard
  • Cefnogir rolau yng Ngherddorfa WNO gan y Cylch Prif Chwaraewyr
  • Mae WNO yn ddiolchgar am gefnogaeth hael Bwrsariaeth Shirley a Rolf Olsen, Bwrsariaeth Sheila a Richards Brooks, Ysgoloriaeth Anthony Evans, Bwrsariaeth Eira Francis Davies, Ymddiriedolaeth Joseph Strong Frazer, Ymddiredolaeth Stanley Picker, Sefydliad Noël Coward, Ymddiriedolaeth Elusennol Thriplow a Bwrsariaeth Chris Ball tuag at ein rhaglen Artist Cyswllt WNO.

Am ragor o wybodaeth, lluniau neu gyfweliadau, cysylltwch â:  

Christina Blakeman, Rheolwr Cyfathrebu 

Christina.blakeman@wno.org.uk