Opera Cenedlaethol Cymru’n Cyhoeddi Artistiaid Cyswllt Newydd ar gyfer Tymor 2024/2025
28 Awst 2024Mae Opera Cenedlaethol Cymru’n cyhoeddi triawd o Artistiaid Cyswllt sy’n ymuno â’r Cwmni o fis Medi eleni.
Bydd y sopranos Cymreig, Erin Rossington ac Eiry Price, a’r baswr Prydeinig, William Stevens, yn ymuno â’r Cwmni ac, fel Artistiaid Cyswllt, byddant yn derbyn hyfforddiant, cymorth, ac yn ennill profiad gyda rolau mewn operâu, cyngherddau, ac fel rhan o waith cymunedol ac ymgysylltu WNO.
Nid dieithryn i WNO mo Erin Rossington, gan ei bod wedi perfformio gyda’r Cwmni yn rôl Madam Mercury yn Chwarae Opera YN FYW fel rhan o Dymor y Gwanwyn 2024 WNO. Ymhlith ei rolau eraill yr oedd Micaëla yn La Tragedié de Carmen ar gyfer Gŵyl Opera Buxton, a Lady Billows yn Albert Herring ar gyfer Clonter Opera. Mae Erin yn perfformio’n rheolaidd ar y llwyfan cystadlu, ac yn ennill gwobrau sy’n cynnwys Gwobr Goffa Elizabeth Harwood yn RNCM yn 2019, ac Ysgoloriaeth Towyn Roberts yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn 2024. Fel Artist Cyswllt, bydd Erin yn chwarae rôl y Chwaer Gardod Gyntaf yn Il trittico yn ystod Tymor yr Hydref hwn, a bydd hefyd yn perfformio yn Ffefrynnau Opera yn y Ffilmiau. Fel rhan o Dymor y Gwanwyn 2025, bydd Erin yn perfformio rôl yr Iarlles yn The Marriage of Figaro ar 27 Chwefror 2025. Bydd hefyd yn perfformio yn Nhaith Cyngerdd Dathliad Blwyddyn Newydd ac yn Chwarae Opera yn FYW.
Graddiodd William Stevens o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Ymhlith ei ymrwymiadau diweddar y mae Don Basilio yn The Barber of Seville ar gyfer Opera Caerdydd, a Il Commendatore yn Don Giovanni, ynghyd â rolau Gilbert and Sullivan. Mae ei repertoire cyngherddau’n cynnwys gweithiau mawr gan Handel, Mozart, Brahms, a Shostakovich. Ar gyfer WNO, bydd William yn chwarae rolau Maestro Spinelloccio yn Il trittico yn ystod tymor yr Hydref hwn, ac yn dirprwyo ar gyfer Hobson yn Peter Grimes. Bydd William yn perfformio rôl Figaro yn The Marriage of Figaro ar 6 Mehefin 2025, ac yn dirprwyo yn y rôl ar gyfer gweddill y daith. Bydd hefyd yn perfformio yn y Cyngherddau Ysgolion, ac yn Nhaith Cyngerdd Dathliad Blwyddyn Newydd.
Mae Eiry Price yn gynfyfyrwraig yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, ym mhle cafodd ei chefnogi gan y Countess of Munster Trust, yr H R Taylor Trust, a Gwobr Dick Maidment a Peggy Cooper. Ymhlith ei hymrwymiadau diweddar y mae La Princesse de Trébizonde Offenbach gyda’r London Philharmonic Orchestra, a Il proscitto Mercadante dan arweinyddiaeth Carlo Rizzi, yr oedd y ddau mewn cydweithrediad ag Opera Rara. Ar y llwyfan cystadlu, enillodd Eiry Wobr Leisiol James Pantyfedwen, Ysgoloriaeth Park Jones, ac Ysgoloriaeth Towyn Roberts yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Ar gyfer WNO, bydd yn chwarae rôl yr Iarlles Ceprano yn Rigoletto Verdi yr Hydref hwn, Barbarina, ynghyd â dirprwyo ar gyfer Susanna, yn TheMarriage of Figaro, a’r Ail Nith yn Peter Grimes yn Nhymor y Gwanwyn 2025.
Bydd y tri artist yn perfformio yn Natganiad yr Artistiaid Cyswllt yn y Tabernacl, Caerdydd ar ddydd Sul 6 Gorffennaf 2025, 4pm.
Dywedodd Erin: “Mae’n wefr cael ymuno â WNO, ac rydw i wrth fy modd cael gweithio a byw yng Nghymru, gan ddefnyddio fy iaith gyntaf. Rydw i’n edrych ymlaen at gael canu yn harddwch Theatr Donald Gordon, a chael mynd ar daith, yn enwedig gan y caf ymweld â Llandudno, sef yr ardal y tyfais i fyny ynddi hi.”
Dywedodd William: "Mi welais WNO yn perfformio gyntaf pan oeddwn yn 16 a bu’n fwriad fyth ers hynny i weithio i’r Cwmni mewn swydd. Rhai o fy hoff atgofion yn y theatr fu gwylio cynyrchiadau WNO, ac mae’r cyfle i fod ar y llwyfan ym mhle’r oedden nhw wedi digwydd, ochr yn ochr â rhai o’r bobl oedd wedi’u creu, yn rhywbeth gwirioneddol gyffrous i mi. Rydw i wrth fy modd cael gweithio gyda thîm WNO dros y flwyddyn!"
DIWEDD
Nodiadau i Olygyddion
Opera Cenedlaethol Cymru yw cwmni opera cenedlaethol Cymru, a ariennir gan Gynghorau Celfyddydau Cymru a Lloegr i ddarparu opera, cyngherddau ac allgymorth ar raddfa fawr ledled Cymru ac i ddinasoedd mawr yn rhanbarthau Lloegr. Rydym yn ymdrechu i ddarparu profiadau trawsnewidiol drwy ein rhaglen addysg ac allgymorth a'n prosiectau digidol sydd wedi ennill sawl gwobr. Rydym yn gweithio gyda'n partneriaid i ddarganfod a meithrin talent operatig ifanc, a'n nod yw dangos i genedlaethau'r dyfodol bod opera yn ffurf gelfyddydol werth chweil, berthnasol a chyffredinol gyda'r pŵer i effeithio ac ysbrydoli.
Mae lluniau o gynyrchiadau WNO ar gael i’w lawrlwytho yn wno.org.uk/press
Mae rhagor o wybodaeth am gynyrchiadau WNO ar gael yn wno.org.uk
- Mae WNO yn ddiolchgar am gefnogaeth hael y Shirley & Rolf Olsen Bursary, Sheila and Richards Brooks Bursary, Anthony Evans Scholarship, The Eira Francis Davies Bursary, The WNO E L Schäfer Bursary, Bateman Family Charitable Trust, Joseph Strong Frazer Trust, Stanley Picker Trust, Chris Ball Bursary, a The Parry Family Bursary tuag at Gynllun Artist Cyswllt WNO.
- Cefnogaeth cynhyrchu arweiniol gan y Colwinston Charitable Trust.
- Cefnogaeth cynhyrchu gan y Dunard Fund.
- Cefnogir Il trittico gan Christopher Greene ac Annmaree O’Keeffe, David Macfarlane, Paul Burbidge, Richard Jackson, a chefnogwyr eraill Il trittico.
- Ceir cefnogaeth cynhyrchu ar gyfer Il trittico a Rigoletto gan Sheila a Richard Brooks.
- Mae Il trittico yn gynhyrchiad ar y cyd â Scottish Opera.
- Cerddorfa WNO gan Mathew a Lucy Prichard. Cefnogir Prif Chwaraewyr y gerddorfa gan ein Cylch Prif Chwaraewyr.
Am ragor o wybodaeth, lluniau neu gyfweliadau, cysylltwch â:
Christina Blakeman, Rheolwr y Wasg
Rhys Edwards, Rheolwr Cyfathrebu
Sophie Revell, Cynorthwyydd y Wasg a Chyfathrebu
Penny James and Rachel Bowyer, Pennaeth Cyfathrebu (rhannu’r swydd)
