Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn falch o gyhoeddi penodiad tri aelod newydd i'w bwrdd; Andrew Miller, Henry Little a Sam Jones.
Ymgynghorydd celfyddydau a darlledwr yw Andrew Miller. Mae'n perthyn i'r genhedlaeth gyntaf o gyflwynwyr teledu anabl yn y DU ac mae'r rhaglenni y mae wedi gweithio arnynt yn cynnwys Boom! ar gyfer Channel 4 ac Advice Shop ar gyfer BBC1.
Mae Andrew wedi cyflawni swyddi uwch yng Nghyngor Celfyddydau Lloegr, Royal & Derngate Theatres a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (CBCDC). Sefydlodd ganolfan gelfyddydol newydd a hynod lwyddiannus CBCDC yng Nghaerdydd. Creodd hefyd y Tymor R17 yng Nghymru, sef gŵyl gelfyddydol genedlaethol yn nodi can mlynedd ers Chwyldro Rwsia, a enwebwyd am wobr RPS. Yn unigryw, mae Andrew yn gwasanaethu fel Aelod o Gyngor Celfyddydau Lloegr a Chyngor Celfyddydau Cymru. Mae hefyd yn un o ymddiriedolwyr asiantaeth datblygu celfyddydau digidol y DU, The Space. Yn 2018, penodwyd Andrew yn Hyrwyddwr Anabledd cyntaf Llywodraeth y DU ar gyfer y sector Celfyddydau a Diwylliant, gan sefydlu'r rôl fel llwyfan pwerus i ymgyrchu dros well cynhwysiant ar draws y celfyddydau, amgueddfeydd a ffilm.
Hefyd yn ymuno â'r bwrdd y mae Henry Little. Fe'i penodwyd yn Brif Weithredwr Opera Rara ym mis Tachwedd 2015. Ers hynny, mae wedi arwain sawl prosiect i'r cwmni, Zazà ac Echo ac Espoir, ac enwebwyd y tri phrosiect am Wobr Opera Ryngwladol am y recordiad opera gorau. Bu Henry Little yn Brif Weithredwr yr elusen cerddoriaeth genedlaethol, Orchestras Live, am saith mlynedd. Arweiniodd bartneriaethau arloesol a dyfeisgar gyda cherddorfeydd ym Mhrydain, gan fynd â'u gwaith i ardaloedd heb wasanaeth digonol yn Lloegr. Mae ganddo hanes blaenorol hir ac amrywiol o weithio ym maes opera, a ddechreuodd gyda thair blynedd fel cyfarwyddwr llwyfan llawrydd, cyn ymuno ag English National Opera fel Cyfarwyddwr Staff. Symudodd Henry am gyfnod byr i weithio i British Youth Opera fel Rheolwr Cyffredinol a Rheolwr Cwmni, ac yna aeth i weithio fel rheolwr artistiaid. Gweithiodd yng Nghyngor Celfyddydau Lloegr lle'r oedd yn Bennaeth Opera am ddeng mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwnnw, ffurfiodd gysylltiadau gweithio agos a rhagweithiol gyda chwmnïau opera mwyaf y DU, gan gynnwys Opera Cenedlaethol Cymru.
Mae Sam Jones yn Brif Weithredwr uchel ei barch sy'n adnabyddus yn fyd-eang am dyfu busnesau blaenllaw sy'n cynnig gwasanaeth digidol i ddefnyddwyr yn y byd chwaraeon, cerddoriaeth ac adloniant, ac am gyflawni twf refeniw ac adenillion cyfranddalwyr rhagorol. Mae ei gyfrifoldebau wedi'i roi yn y sefyllfa unigryw o ddatblygu cynhyrchion i eiconau, artistiaid a sefydliadau megis Adele, Madonna, Rihanna, The Telegraph, NFL, The Premier League, ATP, Turner, ac EMI Classics. Fel Prif Swyddog Gweithredol Overtier, mae Jones yn goruchwylio menter sydd y gyntaf o'i math i adeiladu a gweithredu'r genhedlaeth nesaf o wasanaethau ffrydio aml-blatfform ledled y byd. Cafodd Sam ei recriwtio i'r rôl hon gan Bruin Sports Capital, a greodd OverTier gyda WPP. Mae Jones hefyd yn ymgynghorydd bwrdd i Bruin ynglŷn â materion yn ymwneud â gwasanaethau uniongyrchol i ddefnyddwyr, technoleg a Chyfalaf Menter.
Cyn ei gyfnod yn Overtier, roedd Jones yn Brif Swyddog Gweithredol Digidol ac yn Aelod Bwrdd Gweithredol yn Bauer Media. Yn ystod ei gyfnod yno, gwelwyd cyflymiad twf sydyn ym musnes sain Bauer a chrëwyd y cynhyrchion sain digidol mwyaf poblogaidd a llwyddiannus yn Ewrop. Mae hefyd wedi cyflawni swyddi rheoli uwch gyda Warner Music Group, Perform Group a'r Telegraph.
Dywedodd Martyn Ryan, aelod a Chadeirydd Interim Bwrdd WNO: "Rydyn ni'n falch iawn o gael croesawu ein haelodau newydd i WNO ac ehangu ar yr amrywiaeth o brofiad sydd gennym ar ein Bwrdd - rydyn ni eisoes wedi gweld budd eu sgiliau a'u profiad yn ystod eu cysylltiadau cynnar â ni. Edrychwn ymlaen at ychwanegu rhagor o aelodau newydd yn ystod y misoedd nesaf."
Nodiadau i Olygyddion
- Opera Cenedlaethol Cymru yw'r cwmni opera cenedlaethol ar gyfer Cymru. Ariennir WNO gan Gynghorau Celfyddydau Cymru a Lloegr i gyflwyno opera ar raddfa fawr ledled Cymru ac mewn dinasoedd mawr yn rhanbarthau Lloegr.
- Mae lluniau cynyrchiadau WNO ar gael i’w lawrlwytho o http://www.wno.org.uk/press
- Am ragor o wybodaeth, lluniau neu gyfweliadau, cysylltwch â Rachel Bowyer neu Penny James, Rheolwr y Wasg a Materion Cyhoeddus (rhannu swydd) ar 029 20635038 neu rachel.bowyer@wno.org.uk / penny.james@wno.org.uk neu Christina Blakeman, Swyddog y Wasg, ar 029 2063 5037 neu christina.blakeman@wno.org.uk