Y Wasg

Opera Cenedlaethol Cymru yn cyhoeddi Tymor 2020/2021 a Chynlluniau Dathlu ei 75ain flwyddyn

31 Ionawr 2020

Mae gwreiddiau WNO yng nghymunedau de Cymru, ac erbyn heddiw mae ein cyrhaeddiad yn ymestyn i nifer o wahanol ddinasoedd ledled y Deyrnas Unedig, yn ogystal â thramor.  Mae dathlu ein pen-blwydd yn 75 oed yn amser da i ni atgyfnerthu ein cred bod WNO yma i'r cymunedau hynny i gyd, ac i greu gwaith sy'n cynhyrfu eich emosiynau ac sydd hefyd yn werthfawr a chyseiniol, ac yn adlewyrchu bywyd modern yn ei holl amrywiaeth a chymhlethdod.

Aidan Lang, Cyfarwyddwr Cyffredinol WNO

  • Rhaglen artistig wedi'i chyhoeddi ar gyfer tymor 2020/2021
  • Y Maestro Tomáš Hanus yn ymestyn ei rôl fel Cyfarwyddwr Cerdd WNO tan 2026
  • Rhoddion anrhegion sylweddol yn lansio ymgyrch 75ain flwyddyn WNO ac yn edrych tuag at ddyfodol opera
  • Ymrwymiad hirdymor i gydraddoldeb cyfle mewn rhaglen datblygu doniau newydd a lansiwyd ar gyfer  75ain flwyddyn WNO
  • Profiadau digidol arloesol sy'n rhoi'r Cwmni wrth galon arloesedd digidol yn y celfyddydau

Mae Opera Cenedlaethol Cymru wedi cyhoeddi ei raglen ar gyfer 2020/2021, ynghyd â chynlluniau i nodi ei 75ain flwyddyn yn 2021.

Ers gwreiddiau amatur y Cwmni a gafodd ei sefydlu yn y 1940au gan grŵp o bobl ledled de Cymru yn cynnwys glowyr, athrawon a meddygon, nid yn unig mae WNO wedi dod yn rym perfformio a theithio ar draws Cymru, Lloegr ac yn rhyngwladol, ond mae hefyd wedi defnyddio grym opera i ennyn diddordeb pobl o bob oedran a chefndir drwy ei waith partneriaeth, ymgysylltu a datblygu.

Ymhlith y manylion a gyhoeddwyd y mae rhaglen artistig ar gyfer y flwyddyn, gwaith ymgysylltu ac allgymorth, gweithgarwch cerddorol a chyngherddau, a chynlluniau ar gyfer y 75ain flwyddyn yn 2021.  Bydd y Cwmni hefyd yn lansio rhaglen datblygu doniau estynedig newydd gyda'r nod o ymgysylltu mwy o bobl ar draws cymdeithas, a bydd yn parhau i hybu arloesedd digidol yn y celfyddydau.

Hydref 2020

Bydd Hydref 2020 yn agor gyda chynhyrchiad 2008 WNO o Jenůfa gan Janáček i barhau â Chyfres Janáček y Cwmni.  Bydd Jenůfa yn cael ei harwain gan Gyfarwyddwr Cerdd WNO Tomáš Hanus sydd yn ddiweddar wedi arwyddo cytundeb newydd â'r Cwmni, gan ymestyn ei rôl artistig gydag WNO tan 2026. Mae cast y cynhyrchiad hwn yn cynnwys y soprano delynegol o America, Amanda Majeski, a fydd yn gwneud ei hymddangosiad cyntaf fel Jenůfa.

Yn nhymor yr Hydref hefyd bydd sioe agoriadol opera newydd o'r enw Migrations.  Bydd Migrations yn ffurfio rhan o Goffáu Mayflower 400 gan fod 2020 yn nodi 400 o flynyddoedd ers i'r Mayflower ddechrau ar ei thaith gyda 102 o deithwyr ar drywydd bywyd newydd yn America.  Mae'r digwyddiad coffáu hwn wedi rhoi cyfle unigryw i WNO nid yn unig i gofio gwaddod y teithwyr hynny a aeth ar y daith nodedig honno, ond i edrych ar straeon mudo ddoe a heddiw, sy'n briodol i rai o'r dinasoedd yr ydym yn teithio iddynt.  Mae Migrations yn archwilio gwahanol elfennau mudo, yn cynnwys effaith dynol un o'r penderfyniadau anoddaf y mae llawer wedi'u gorfodi i'w gwneud: gadael eu cartrefi a'u cymunedau ar drywydd bywyd gwell, mwy diogel. Mae'n stori hefyd o hyfdra a gwytnwch yr enaid dynol mewn gwahanol amgylchiadau ac mewn cyferbyniad â stori a theithiau mudo adar mewn byd natur.   Ar y llwyfan ac oddi arno trwy ein rhaglen ymgysylltu, byddwn yn archwilio sut mae'r profiadau a'r straeon hyn wedi cyfrannu at amrywiaeth cymdeithas fodern.

I greu amrywiaeth yn y lleisiau a'r profiadau, mae pum ysgrifennwr - Shreya Sen Handley, Edson Burton a Miles Chambers, Eric Ngalle Charles a Sarah Woods - wedi gweithio gyda Syr David Pountney i greu'r libreto o chwe stori, wedi'u hysbrydoli gan eu profiadau personol o fudo a gweithio gyda ffoaduriaid. 

Gyda cherddoriaeth gan y cyfansoddwr Prydeinig Will Todd, bydd Matthew Kofi Waldren yn arwain, a Syr David Pountney bydd yn cyfarwyddo’r opera gyda chefnogaeth gan dîm o gyfarwyddwyr cyswllt.  Mae'r cast o 100 o berfformwyr yn cynnwys Lester Lynch, Marion Newman, Simon Bailey, Tom Randle, Musa Ngqungwana a Meeta Raval, ynghyd â chôr gospel, dawnswyr Bollywood a chorws plant. 

Bydd yr opera uchelgeisiol newydd hon yn rhoi cyfle i WNO barhau i ddatblygu ei waith gyda ffoaduriaid a cheiswyr lloches, a ddechreuodd yn Nhymor Rhyddid 2019 pan ddechreuodd y Cwmni ar bartneriaeth pum mlynedd gyda Chyngor Ffoaduriaid Cymru.  Dros y tair blynedd nesaf bydd WNO yn gweithio gyda grwpiau cymunedol ffoaduriaid yng Nghaerdydd, Birmingham a Southampton drwy brosiectau cyfansoddi, cerddoriaeth a pherfformio.

Mae Tymor yr Hydref hefyd yn cynnwys parhad â thaith The Barber of Seville gan Rossini o'r Haf yn cynnwys un o gymeriadau mwyaf lliwgar opera, y digyffelyb Figaro. Bydd Cyn-arweinydd Cyswllt WNO Karem Hasan yn dychwelyd i arwain.

Cerddorfa WNO

Y tu hwnt i'r operâu prif raddfa, mae gan Gerddorfa WNO amserlen brysur o gyngherddau ar gyfer 2020/21.  Ar 8 Tachwedd, bydd y Gerddorfa yn cloi blwyddyn o ddathlu Beethoven 250 gyda pherfformiad cofiadwy o'r Nawfed Symffoni (Corawl).  Yn rhan o'r Gyfres o Gyngherddau Rhyngwladol yn Neuadd Dewi Sant, bydd y cyngerdd yn cael ei arwain gan Gyfarwyddwr Cerdd WNO Tomáš Hanus ac yn cynnwys Mary Elizabeth Williams, Madeleine Shaw, Peter Berger a James Platt a fydd yn perfformio ochr yn ochr â Chorws a Cherddorfa WNO, Corws Cymunedol WNO a Chorws Cenedlaethol Cymru y BBC. Bydd dau gyngerdd arall i Gerddorfa a Chyfarwyddwr Cerdd WNO Tomáš Hanus yn rhan o'r Gyfres o Gyngherddau Rhyngwladol ar 31 Ionawr a 25 Ebrill. 

Bydd Cerddorfa WNO yn parhau i ehangu cyrhaeddiad y Cwmni drwy ei thaith y gaeaf ym mis Ionawr 2021 dan gyfarwyddyd y Blaenwr a'r Arweinydd Cerddorfa David Adams, cyngherddau i Deuluoedd ac Ysgolion trwy gydol y flwyddyn yng Nghaerdydd a lleoliadau Hybiau WNO, a thrwy gydweithio â phartneriaid gwyliau cyson yn yr haf, yn cynnwys Proms Cymru a Gŵyl Abergwaun. 

Gwanwyn a Haf 2021 - WNO yn 75

Mae tymor y Gwanwyn yn nodi lansiad 75ain flwyddyn WNO gyda chynhyrchiad newydd o Faust gan Gounod, cynhyrchiad ar y cyd â Theatre Magdeberg. Roedd Faust yn un o'r operâu cyntaf i WNO eu perfformio ym mis Ebrill 1946.  Dyma'r tro cyntaf i'r sioe gael ei pherfformio ym Mhrydain Fawr ac yn ei chyfarwyddo fydd Olivia Fuchs, gydag Alexander Joel yn dychwelyd i WNO i arwain.  Yn ymuno â'r cast mae artist o Marinsky Theatre Natalya Pavlova a fydd yn gwneud ei hymddangosiad operatig cyntaf ym Mhrydain Fawr gan chwarae rôl Marguerite.

Bydd y soprano Gymraeg Rebecca Evans yn dychwelyd i ymgymryd â'i rôl fel Y Marschallin yn Der Rosenkavalier gan Strauss unwaith eto yn y Gwanwyn, rôl a ganodd gydag WNO am y tro cyntaf yn 2017.  Caiff ei haduno â Lucia Cervoni fel Octavian, ac yn ymuno â nhw'r tro hwn fydd Soraya Mafi a Julie Martin du Theil fel Sophie.  Tomáš Hanus fydd yn arwain y cynhyrchiad hwn a nododd ddechrau llwyddiannus ei daliadaeth fel Cyfarwyddwr Cerdd WNO yn 2017.

Yn cwblhau Tymor y Gwanwyn mae Il trovatore gan Verdi, opera a gafodd ei pherfformio ddiwethaf yn 2011, sy'n gweld rhai o ffefrynnau WNO yn dychwelyd, megis Mary Elizabeth Williams, David Kempster a Linda Richardson.  Pietro Rizzo fydd yn arwain.

Yn Nhymor yr Haf, gwelir parhad yn ymrwymiad WNO i gyflwyno gwaith newydd a pherthnasol i fwy o bobl ym mwy o leoedd, gyda chomisiwn newydd y tro hwn, sef Blaze of Glory!  Unwaith eto, bydd Caroline Clegg (Cyfarwyddwr) ac Emma Jenkins (libretydd) yn dod ynghyd yn WNO wedi iddynt gydweithio ar Rhondda Rips It Up! yn 2018 gyda darn newydd sy'n pwysleisio doniau lleisiol y dynion yng Nghorws WNO.  A hithau wedi'i gosod yn y 1950au, mae Blaze of Glory! yn dilyn ffawd grŵp o lowyr mewn pentref mwyngloddio bychan sy'n cychwyn ar hynt gerddorol drwy ffurfio côr meibion fel ffordd o uno'r gymuned ar ôl trychineb mwyngloddio.  Wedi'i gyfansoddi gan David Hackbridge Johnson, mae'r sgôr yn cynnwys canu mewn harmonïau agos, sy'n cael ei gysylltu â chorau meibion yn draddodiadol, yn ogystal â cherddoriaeth band mawr, jeif, lindi hop a cherddoriaeth gospel Affricanaidd.   Gan agor yn Theatr Newydd Caerdydd, bydd y cynhyrchiad yn mynd ar daith i leoliadau ar raddfa ganolig ledled Cymru a Lloegr.

Ochr yn ochr â'r cynhyrchiad, bydd WNO yn rhoi'r gymuned wrth galon y darn, gan weithio â chorau meibion a grwpiau canu cymunedol, yn arbennig yng Nghymoedd de Cymru ac ar draws y daith, a fydd yn perfformio yn yr opera.  Bydd Blaze of Glory! yn fan cychwyn ar gyfer prosiect cyfansoddi gyda phobl ifanc ar sail hunaniaeth rywedd ac archwilio eu safbwyntiau ynglŷn â rolau diwylliannol a chymdeithasol. 

Annog pobl ifanc i 'Ymddiddori ym Myd Opera'

Bydd menter newydd yn dechrau yn Hydref 2020 ar gyfer 75ain flwyddyn WNO i annog mwy o bobl ifanc i roi cynnig ar opera am y tro cyntaf.  Bydd 'Ymddiddori ym Myd Opera' yn creu cyfleoedd gwell i fyfyrwyr a gweithwyr proffesiynol ifanc gan roi hawl i bobl dan 35 oed gael prisiau gostyngol ar docynnau, cyfleoedd i uwchraddio, digwyddiadau arbennig a chynnwys digidol arbennig.  Yn ogystal, mae WNO yn adnewyddu ei ymrwymiad i gynnig tocynnau am £5 i unrhyw un sydd dan 16 oed.  

Gwaith ymgysylltu ac allgymorth

Mae WNO yn ymrwymedig i ymgysylltu â phobl o bob oed a chefndir drwy rym opera, ac mae patrwm teithio estynedig y Cwmni yn rhoi'r llwyfan delfrydol iddynt i wneud hyn.  Mae'r Cwmni wedi sefydlu ardaloedd Hwb ar gyfer gwaith ymgysylltu a fydd yn galluogi WNO i wneud diwylliant yn brofiad bob dydd i bobl yn y cymunedau yr ydym yn mynd ar daith iddynt. Mae gweithgarwch y Cwmni eisoes wedi'i hen sefydlu yn ein Hybiau yng ngogledd Cymru a Birmingham/Gorllewin Canolbarth Lloegr, ac ar ôl recriwtio Cynhyrchydd newydd ar gyfer y de orllewin (o Southampton i Plymouth), bydd y Cwmni yn sefydlu rhaglen gweithgareddau reolaidd yno o Dymor 2020/2021. Bydd hyn yn ein helpu ni i greu llwybrau gwerthfawr at opera a cherddoriaeth glasurol i gynulleidfaoedd newydd ac ieuengach ar draws y rhanbarth. 

Bydd y rhaglen gweithgareddau yng Nghaerdydd ac yn ein hardaloedd Hwb dros y tair blynedd nesaf yn cynnwys canolbwyntio ar:

  • Ddatblygu Doniau
  • Iechyd a Lles, gan weithio gyda'r rheiny sydd mewn gofal hirdymor, pobl sydd â dementia, ac archwilio'r rôl y gall cerddoriaeth a chanu ei chwarae wrth fynd i'r afael â materion iechyd meddwl
  • Gweithgareddau i deuluoedd a rhai sy'n pontio cenedlaethau drwy ddarparu gweithgareddau rheolaidd megis cyngherddau i'r teulu a dyddiau Darganfod Opera.
  • Dealltwriaeth ryngwladol a gweithio gyda'r rheiny sydd wedi'u gwahardd neu eu hynysu'n gymdeithasol, gan gynnwys gwaith gyda Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches a chynyddu amrywiaeth ethnig ein cyfranogwyr a'n hymarferwyr.

Bydd rhaglen gweithgareddau benodol bob ardal Hwb yn cael ei chynhyrchu i adlewyrchu anghenion penodol y gymuned honno ac yn addasu ac esblygu wrth i'r Cwmni weithio gyda nhw.

Datblygu doniau

Wrth i WNO agosáu at ei 75ain flwyddyn, mae gan y Cwmni gynlluniau i ddwyn ynghyd y rhaglen datblygu doniau gyfredol a'i ehangu, gan gryfhau'r ymrwymiad i ddod o hyd i ddoniau, eu meithrin a'u datblygu ar draws y Cwmni cyfan, ac annog cyfranogiad ac ymgysylltiad â'r Cwmni ymhlith y rheiny o gefndiroedd amrywiol.  Bydd Rheolwr Rhaglen newydd ar gyfer datblygu doniau yn cael ei recriwtio yn 2020 i arwain y fenter hon, gan ganolbwyntio ar ddatblygu llwybrau dilyniant clir o lefel llawr gwlad yr holl ffordd drwodd i feithrin doniau ifanc a datblygiad proffesiynol.  Mae ymrwymiad i gydraddoldeb cyfle yn ganolog i bob menter a bydd wrth galon y rhaglen gyffredinol.

Mae elfennau allweddol y rhaglen yn cynnwys:

  • Rhaglen Artistiaid Cyswllt 
  • TÎM WNO
  • Datblygu doniau cerddorfaol

Yn dilyn proses barhaus o glyweliadau, mae WNO yn edrych ymlaen at gyhoeddi dau dderbynnydd gyntaf ei raglen Artistiaid Cyswllt yn hwyrach yn 2020.  Cynhaliwyd clyweliadau ar gyfer y swyddi hyn ar draws y wlad i sicrhau proses recriwtio agored ac i annog cantorion o bob cefndir.  Mae hon yn swydd dan hyfforddiant lawn amser am flwyddyn i gantorion ifanc rhwng mis Awst 2020 a Gorffennaf 2021 sy'n cynnig rhaglen ddatblygu broffesiynol a dysgu strwythuredig, ynghyd â chyfle i berfformio rolau bach a llanw gydag WNO.  Bydd Llysgennad y rhaglen, Rebecca Evans yn mentora'r ddau ganwr drwy gydol y flwyddyn, a bydd y rhaglen yn cael ei monitro a'i chefnogi gan Bennaeth Rheolaeth Artistig a Phennaeth Cerdd WNO.

Mae'r Athro Rolf Olsen wedi dewis anrhydeddu cof ei wraig Shirley gyda rhodd o £500,000 i greu Bwrsariaeth Shirley a Rolf Olsen a fydd yn cefnogi cantorion ifanc sy'n ymuno â chynllun Artistiaid Cyswllt WNO o 2020/2021.  Dywedodd yr Athro Olsen: "Fy ngobaith yw y bydd y fenter hon yn darbwyllo eraill i roi i gynllun Artistiaid Cyswllt WNO fel y bydd y gefnogaeth yn parhau i dyfu i'r dyfodol a dod yn rhan gydnabyddedig a sefydledig o ymrwymiad WNO i ddarparu ac ehangu hyfforddiant pellach i gantorion ifanc, a thrwy gefnogi cronfa'r fwrsariaeth i sicrhau nad oes yr un person haeddiannol yn methu'r cyfle yn syml oherwydd diffyg cyllid. 

Bydd WNO hefyd yn lansio rhaglen hyfforddi newydd, TÎM WNO, i greu cyfleoedd i bobl ifanc o wahanol gefndiroedd, na fyddant fel arall efallai yn cael cyfle i ddatblygu gyrfa yn y diwydiant. Bydd TÎM WNO yn rhoi dealltwriaeth nid yn unig o ran perfformio ond hefyd o ran yr holl lwybrau proffesiynol eraill yn y diwydiant opera, a hynny ar y llwyfan ac oddi arno.  Bwriad y cynllun yw recriwtio hyd at 10 aelod ifanc o'r cwmni rhwng 16-25 oed na fyddant yn nodweddiadol yn cael cyfle i weithio yn y byd opera, o gefndiroedd du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig a chefndiroedd cymdeithasol-economaidd isel.  Y nod yw apelio at y rheiny sydd â diddordeb archwilio'r cyfleoedd gyrfa yn y diwydiant canu ac opera, gyda rhaglen a fydd yn cyfoethogi eu profiad yn y celfyddydau ac yn rhoi hyfforddiant a mentoriaeth broffesiynol iddynt.  Bydd aelodau hefyd yn cael cyfle i gymryd rhan mewn clyweliadau ar gyfer cynyrchiadau Opera Ieuenctid WNO.  Bydd cyfnod recriwtio'r cynllun yn dechrau fis Medi 2020 ar gyfer blwyddyn gychwynnol dan brawf. 

Bydd WNO yn parhau i gynnal ei raglen gerddorfaol ochr wrth ochr i fyfyrwyr yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd ac yn Royal Birmingham Conservatoire drwy gydol y flwyddyn.  

Yn 2021, bydd WNO yn cyhoeddi ei ail Arweinydd Preswyl Benywaidd.  Cyflwynwyd y cynllun am y tro cyntaf yng nghynhadledd 'Ble mae'r merched?' yn 2018 fel ffordd o fynd i'r afael â'r anghydbwysedd rhywedd ymhlith swyddi arwain. Derbynnydd cyntaf y cynllun hwn oedd Tianyi Lu yn 2019.  Bydd y Cwmni hefyd yn parhau i benodi arweinydd ifanc fel Cyfarwyddwr Cyswllt WNO yn 2021.  Mae'r swydd hon o ganlyniad i gydweithrediad sydd wedi'i hen sefydlu erbyn hyn rhwng WNO a Chystadleuaeth Arwain Donatella Flick-LSO. Mae'n cynnig cyfle i un o'r bobl a gyrhaeddodd rownd derfynol y Gystadleuaeth i weithio gydag WNO ar operâu prif raddfa, cyngherddau a phrosiectau Ieuenctid a Chymuned.  Kerem Hasan oedd y cyntaf i dderbyn y rôl hon yn 2018, gyda Harry Ogg yn ymgymryd â'r swydd yn 2019.

Dyfodol Opera

I ddathlu 75ain flwyddyn y Cwmni, bydd WNO yn comisiynu profiad creadigol newydd a fydd yn gofyn y cwestiwn, 'What might an opera look and sound like 75 years from now?'  Gan adeiladu ar fentrau digidol hynod lwyddiannus, ac fel rhan o strategaeth ddigidol WNO, bydd hwn yn darparu llwyfan cyhoeddus ychwanegol i bwysleisio sut gall technoleg, adrodd straeon ac opera weithio gyda'i gilydd a swyno a throchi cynulleidfaoedd y dyfodol.  Gobeithiwn y bydd hwn yn creu lle ar gyfer siarad a dadlau, ac y bydd y canfyddiadau yn bwydo i gomisiwn digidol newydd y brif raddfa yn 2022. 

Opera Ieuenctid 2021

Ar gyfer 75ain flwyddyn y Cwmni, bydd aelodau Opera Ieuenctid hynod lwyddiannus WNO yn cymryd eu lle ar brif lwyfan Canolfan Mileniwm Cymru fis Medi 2021 ar gyfer cynhyrchiad newydd o Cheryomushki gan Shostakovich.  Yn dilyn llwyddiant ysgubol Don Pasquale yn 2019, bydd Daisy Evans yn dychwelyd i WNO i gyfarwyddo'r Opera Ieuenctid mewn fersiwn o'r opera ar ei newydd wedd gydag elfen gyfoes.  Cynhelir y cynhyrchiad dan faton yr arweinydd Alice Farnham. Yn ogystal â chantorion o Opera Ieuenctid WNO a chyn-aelodau'r Opera Ieuenctid, bydd y cynhyrchiad yn cynnwys swyddi cynorthwyol, profiadau gwaith technegol ac offerynwyr dan hyfforddiant, gan ddarparu profiad hyfforddi unigryw i bobl ifanc sydd â diddordeb dilyn gyrfa broffesiynol o fewn opera a theatr, a gweithio ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol blaenllaw'r diwydiant a chael mentoriaeth gan arbenigwyr WNO.

Ymgyrch Codi Arian WNO yn 75

Pleser gan WNO yw cyhoeddi lansiad ymgyrch codi arian sylweddol i fod yn sail i ddyheadau artistig y Cwmni yn y dyfodol a'r ymrwymiad parhaus i annog cymaint o bobl â phosibl i fwynhau a chymryd rhan mewn opera ledled Cymru a Lloegr. Hyd yn hyn mae £1,000,000 wedi'i dderbyn gyda rhoddion o £500,000 yr un gan Colwinston Charitable Trust a'r Athro Rolf Olsen. Gyda hen hanes o gefnogi'r Cwmni, mae Colwinston Charitable Trust wedi dyfarnu ei grant mwyaf erioed o £500,000 i gefnogi cynyrchiadau opera yn WNO o 2021 ymlaen. Der Rosenkavalier fydd yr opera gyntaf i gael ei chefnogi yng Ngwanwyn 2021. Mae'r Ymddiriedolaeth wedi gwneud £250,000 o'r grant yn gyllid cyfatebol i annog pobl newydd i gyfrannu at operâu a chyfrannu mwy at operâu rhwng mis Ionawr 2021 ac Awst 2024 - bydd yr holl gyfraniadau newydd a wneir o 1 Mawrth 2020 yn gymwys.

Dywedodd Cadeirydd y Colwinston Charitable Trust, Mathew Prichard: "Rydym ni yn Colwinston yn rhoi pwyslais mawr ar bwysigrwydd ansawdd artistig, ac felly mae'n rhoi pleser mawr i ni gefnogi tair blynedd o raglen artistig WNO. Mae ansawdd yr un mor bwysig ym mhwll y gerddorfa â'r llwyfan, ac felly rydym yn hapus o gael ein cysylltu â hynny hefyd.

"Mae hwn yn gyfnod pwysig i WNO dan gyfeiriad artistig newydd ac rydym yn teimlo ei bod yn briodol cyfrannu grant sylweddol a fydd, gyda gobaith, yn annog eraill i gyfrannu wrth i'r cyfnod fynd rhagddo. Mae gan WNO enw da enwog am gynhyrchu operâu ardderchog ac rydym yn falch o helpu annog hyn i barhau." 

Mae WNO yn hynod ddiolchgar hefyd i Garfield Weston Foundation, Hodge Foundation, Joyce Fletcher Charitable Trust a Bateman Family Charitable Trust sy'n cefnogi rhaglenni gwaith sylweddol mewn ysgolion, cymunedau, meithrin doniau ac arloesedd digidol.  Dywedodd Alison Dunnett, Cyfarwyddwr Datblygu, Cyfathrebu a Strategaeth WNO: "Wrth i'r Cwmni agosáu at ei 75ain flwyddyn yn 2021, rydym yn hynod ddiolchgar i Colwinston Charitable Trust, yr Athro Olsen a nifer o'n cefnogwyr unigol, ymddiriedolaethau, sefydliadau a chefnogwyr corfforaethol a gobeithiwn y bydd yr ymgyrch hwn yn annog ein gwahanol gynulleidfaoedd a buddiolwyr i gefnogi dyfodol WNO a mwynhau perthynas agosach â'r Cwmni wrth i ni ddechrau pennod newydd yn hanes WNO." 

Bydd 75ain flwyddyn WNO yn cloi â chyngerdd arbennig yn Neuadd Dewi Sant ar 9 Rhagfyr 2021 a fydd yn foment i ddathlu'r 75 mlynedd diwethaf o ganu yn WNO, gan edrych ymlaen at ddyfodol opera.  Bydd y cyngerdd hwn yn ddathliad o holl ddoniau WNO, o'r Gerddorfa a'r Corws enwog i'r Opera Ieuenctid, Corws Cymunedol, Artistiaid Cyswllt a phlant ysgol o raglen bum mlynedd ysgolion WNO.  Bydd rhaglen y cyngerdd hwn yn cael ei ysbrydoli gan ddoe, heddiw ac yfory yn WNO, ac yn cynnwys darnau o'r gronfa operatig yn ogystal â chytganau gaeafol a chaneuon traddodiadol y Nadolig.  Bydd y cyngerdd hwn yn ffordd berffaith o ddathlu'r hyn y mae WNO yn ei gynrychioli - pleser canu - gan adlewyrchu gwreiddiau canu amatur y Cwmni.  

Dywed Cyfarwyddwr Cyffredinol WNO, Aidan Lang: "Mae opera wedi bodoli ers amser hir - 420 o flynyddoedd, â bod yn fanwl gywir - ac yn y cyfnod hwnnw mae wedi newid yn barhaus ac wedi ailddyfeisio ei hun.  Yn y 19eg ganrif, ac opera ar ei mwyaf poblogaidd, roedd yn ffurf 'boblogaidd' o gelfyddyd yng ngwir ystyr y gair, un a oedd yn cysylltu'n uniongyrchol â bywydau ei chynulleidfaoedd.  Ond, wrth i ffurfiau eraill o adloniant ddod i'r amlwg, dechreuodd boblogrwydd opera bylu, ac fe gollodd ei lle ym mywydau pobl.  Wrth i WNO ddechrau ar ei 75ain flwyddyn, gobeithiwn ailfeddiannu'r safle hwnnw unwaith eto. 

"Ein diben fel Cwmni yw diogelu natur ddwys cerddoriaeth gyda drama rymus i ddarparu ystod eang o brofiadau operatig, boed hynny ar lwyfannau mawr ein prif leoliadau teithio neu yn agosatrwydd un o'n prosiectau ysgolion neu gymunedol.  Yn ein byd sy'n gynyddol doredig, mae gan opera y gallu i ddwyn pobl ynghyd a'u huno yn eu dynoliaeth gyfrannol." 

Diwedd

Nodiadau i Olygyddion

  • Opera Cenedlaethol Cymru yw'r cwmni opera cenedlaethol ar gyfer Cymru, a ariennir gan Gynghorau Celfyddydau Cymru a Lloegr i ddarparu operâu ar raddfa fawr, cyngherddau a gwaith allgymorth ledled Cymru ac mewn dinasoedd mawr yn rhanbarthau Lloegr. Rydym yn ymdrechu i gynnig profiadau trawsnewidiol drwy ein rhaglen addysgol a chymunedol a'n prosiectau digidol o'r safon uchaf.  Rydym yn gweithio â'n partneriaid i ddarganfod a meithrin doniau operatig ifanc, ac rydym yn anelu at ddangos i genedlaethau'r dyfodol bod opera yn gelfyddyd werthfawr, berthnasol a rhyngwladol gyda'r pŵer i gael effaith ac ysbrydoli 
  • Mae lluniau cynyrchiadau WNO ar gael i'w lawrlwytho o wno.org.uk/press
  • Cefnogir Jenůfa gan Gylch Janáček a Phartneriaid WNO
  • Mae Faust yn gynhyrchiad ar y cyd â Theater Magdeburg a gefnogir gan Gyfeillion WNO
  • Mae Der Rosenkavalier yn gynhyrchiad ar y cyd â Theater Madgeburg
  • Cefnogir Der Rosenkavalier gan Colwinston Charitable Trust
  • Mae The Barber of Seville yn gynhyrchiad ar y cyd gydag Opera North a Vancouver Opera
  • Mae Il trovatore yn gynhyrchiad gan Scottish Opera
  • Mae Migrations yn rhan o Mayflower 400, sy’n nodi pedwar can mlynedd ers mordaith y llong hanesyddol hon, ei theithwyr a’i chriw, i America yn 1620.
  • Cefnogir rôl Cyfarwyddwr Cerdd WNO gan Marian a Gordon Pell
  • Mae swydd Arweinydd Cyswllt WNO mewn cydweithrediad â Chystadleuaeth Arwain Donatella Flick-LSO
  • Mae rhaglen Artist Cyswllt WNO wedi ei chefnogi gan Fwrsariaeth Shirley a Rolf Olsen
  • Cefnogir rhaglen Datblygu Doniau WNO gan Kirby Laing Foundation a Bateman Family Charitable Trust
  • Cefnogir gweithgareddau Ieuenctid, Cymunedol a Digidol WNO gan rodd hael gan Garfield Weston Foundation

Am ragor o wybodaeth, lluniau neu gyfweliadau cysylltwch â:  

Rachel Bowyer / Penny James, Rheolwr y Wasg (rhannu swydd) 
029 2063 5038
rachel.bowyer@wno.org.uk / penny.james@wno.org.uk

Rhys Edwards, Swyddog y Wasg 
029 2063 5037
rhys.edwards@wno.org.uk