- Bydd Adele Thomas yn cyfarwyddo gydag WNO am y tro cyntaf mewn cynhyrchiad newydd o Rigoletto
- Bydd Natalya Romaniw yn dychwelyd i WNO yn Il trittico
- Bydd Ffefrynnau Opera yn dychwelyd gydag Opera yn y Ffilmiau
Rigoletto
Bydd Adele Thomas, y cyfarwyddwr opera a theatr gerdd sy’n hanu o Bort Talbot, yn cyfarwyddo gydag WNO am y tro cyntaf mewn cynhyrchiad newydd o Rigoletto gan Verdi, a bydd Pietro Rizzo yn dychwelyd i arwain.
Bydd stori ddirywiedig Verdi am anfoesoldeb a thwyll, a leolir yn llys didostur Dug Mantua, yn agor Tymor yr Hydref. Mae’r stori ddirdynnol hon yn archwilio cariad, brad a chanlyniadau pŵer. Yn ôl Verdi, Rigoletto oedd ei opera orau, ac mae’r cynhyrchiad newydd hwn yn arddangos tapestri o emosiynau ac alawon bythgofiadwy, yn cynnwys aria’r Dug, sef La donna è mobile, ac un o bedwarawdau enwocaf y byd opera, sef Bella figlia dell’amore.
Cafodd y dyluniadau ar gyfer y cynhyrchiad eu creu gan Annemarie Woods, enillydd Gwobr Opera Ewropeaidd.
Mae’r cast yn cynnwys Daniel Luis de Vicente a fydd yn canu’r brif rôl, gyda Leonardo Capalbo yn dychwelyd i WNO i ganu rhan y Dug. Hefyd, bydd Soraya Mafi yn dychwelyd i WNO i ganu rhan Gilda. Mae’r cast hefyd yn cynnwys Paul Carey Jones fel Monterone, Nathanael Tavernier fel Sparafucile, Natalia Kutateladze (sy’n perfformio am y tro cyntaf gydag WNO) fel Maddalena, a Zwkele Tshabalala fel Borsa.
Bydd Rigoletto yn agor yng Nghaerdydd ar 21 Medi cyn teithio i Landudno, Plymouth, Rhydychen a Southampton.
Medd Adele Thomas, y cyfarwyddwr:
‘Mae Rigoletto yn syllu i dywyllwch y natur ddynol. Fel drama, mae’r opera hon cystal â gweithiau Shakespeare a Racine ar sail ei dynoliaeth a’i hadrodd deifiol. Mae’r gerddoriaeth yn gyfareddol o’r dechrau i’r diwedd. Rydym eisiau creu cynhyrchiad a fydd yn defnyddio cariad Verdi tuag at y llwyfan Shakespearaidd a thanbeidrwydd ei wleidyddiaeth. Gwefr yw cael gweithio gartref yng Nghymru o’r diwedd. Yn WNO y syrthiais mewn cariad ag opera, a braint yw cael creu’r gwaith hwn gydag WNO.’
Il trittico | Suor Angelica a Gianni Schicchi
Yn dilyn perfformiad cyntaf WNO o Il trittico ym mis Mehefin 2024, bydd y triawd hwn o operâu un act gan Puccini yn dychwelyd i Ganolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd ym mis Medi, ochr yn ochr â Rigoletto. Y tro hwn, caiff yr operâu eu harwain gan Alexander Joel, a fydd yn dychwelyd ar ôl arwain La traviata yn ystod Hydref 2023.
Bydd cast yr Hydref yn cynnwys ambell berfformiwr newydd, yn cynnwys y soprano Natalya Romaniw, a fydd yn dychwelyd i lwyfan WNO am y tro cyntaf ers iddi berfformio yn Eugene Onegin (2017); bydd Natalya yn canu rhan y Chwaer Angelica (Sour Angelica) a Giorgetta (Il tabarro). Hefyd, bydd y bariton Aluda Todua a’r tenor Andrés Presno yn perfformio am y tro cyntaf gydag WNO yng nghast yr Hydref. Bydd Aluda yn canu rhan Michele (Il tabarro) a’r brif ran yn Gianni Schicchi a bydd Andrés yn canu rhan Luigi (Il tabarro). Bydd y mezzo-soprano Yvonne Howard yn perfformio gyda’r Cwmni am y tro cyntaf, gan ganu rhannau La Frugola (Il tabarro) a La Suora Infermiera (Suor Angelica). Bydd Trystan Llŷr Griffiths, y tenor o Gymru, yn dychwelyd i WNO i ganu rhannau Rinuccio (Gianni Schicchi) a’r Cariadfab Ifanc (Il tabarro). Ymhellach, bydd Mark Le Brocq yn dychwelyd i WNO fel Tinca (Il tabarro) a Gherardo (Gianni Schicchi) ar ôl ei berfformiad uchel ei fri o Aschenbach yn Death in Venice. Bydd Anne Mason a Linda Richardson hefyd yn newydd i’r cast ar gyfer perfformiadau’r Hydref. Bydd Haegee Lee, Sioned Gwen Davies, Benjamin Bevan, James Cleverton a Wojtek Gierlach yn ailafael yn y rolau a berfformiwyd ganddynt dros yr haf.
Yn ystod mis Hydref a mis Tachwedd bydd dwy o’r operâu, sef Suor Angelica a Gianni Schicchi, yn mynd ar daith i Landudno, Plymouth a Southampton, ochr yn ochr â Rigoletto.
Bydd cyfle i gynulleidfaoedd Rhydychen fwynhau perfformiad cyngerdd o’r tair opera mewn un noson ar 25 Hydref.
Yn ôl Alexander Joel, yr arweinydd:
‘Yn fy marn i, mae Il trittico ymhlith y gweithiau gorau a gyfansoddwyd – tair opera anhygoel, pob un â’i lliw cerddorol ac emosiynol ei hun. Dydyn nhw byth yn siomi’r gynulleidfa. Rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at ddychwelyd i WNO, yn enwedig gyda cherddoriaeth gan Puccini, fy hoff gyfansoddwr operâu.’
Ffefrynnau Opera
Bydd Cerddorfa a Chorws WNO yn camu i ganol y llwyfan unwaith eto pan fydd cyngerdd Ffefrynnau Opera WNO yn dychwelyd gyda’r thema Opera yn y Ffilmiau. Y tro hwn, bydd y cyngerdd yn cynnwys rhaglen newydd o ariâu a chaneuon poblogaidd sy’n ymddangos mewn ffilmiau fel Pretty Woman, The Shawshank Redemption a Quantum of Solace, ochr yn ochr â Largo al Factotum o The Barber of Seville a Te Deum o Tosca, er mwyn enwi dim ond rhai. Bydd y rhaglen Ffefrynnau Opera yn cael ei pherfformio yng Nghaerdydd, Llandudno, Plymouth a Southampton.
Cyngerdd Life on Our Planet
Bydd Cerddorfa WNO yn dychwelyd i Fryste, gan berfformio y tro hwn yn y Bristol Beacon, i gyd-fynd â Life on Our Planet gan Netflix. Ar y cyd â Netflix a Silverback Films, mae’r gyfres wyth rhan yn sôn am frwydrau epig bywyd i goncro a goroesi ar y blaned. Morgan Freeman, enillydd Gwobr yr Academi, yw’r adroddwr. Bydd y cyngerdd byd natur newydd ac ymgollol hwn yn cyflwyno uchafbwyntiau’r gyfres ochr yn ochr â thrac sain byw a chwaraeir gan Gerddorfa WNO.
Allgymorth ac Ymgysylltu
Bydd gweithgareddau rheolaidd Prosiectau ac Ymgysylltu WNO, yn cynnwys Lles gyda WNO, Côr Cysur WNO a Dysgu gyda WNO, yn parhau drwy gydol y flwyddyn. Hefyd, bydd Cyngherddau i Ysgolion yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd a hwnt ac yma ar draws y wlad yn ystod Tymor yr Hydref.
DIWEDD
Nodiadau i Olygyddion
Opera Cenedlaethol Cymru yw’r cwmni opera cenedlaethol ar gyfer Cymru, a ariennir gan Gynghorau Celfyddydau Cymru a Lloegr i ddarparu cyngherddau, gwaith allgymorth ac operâu ar raddfa fawr ledled Cymru ac mewn dinasoedd mawr yn rhanbarthau Lloegr. Rydym yn ymdrechu i gynnig profiadau trawsnewidiol drwy ein rhaglen addysg ac allgymorth a’n prosiectau digidol llwyddiannus. Rydym yn gweithio gyda’n partneriaid i ddarganfod a meithrin doniau operatig ifanc, a’n nod yw dangos i genedlaethau’r dyfodol bod opera’n gelfyddyd foddhaus, berthnasol a byd-eang sydd â’r grym i gael effaith ac i ysbrydoli.
Mae lluniau cynyrchiadau WNO ar gael i’w lawrlwytho o wno.org.uk/cy/press
Ceir rhagor o wybodaeth am gynyrchiadau WNO ar wno.org.uk/cy/
- Prif gefnogaeth i’r cynhyrchiad gan Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston.
- Cefnogir ein cynyrchiadau gan Gronfa Dunard.
- Cefnogir Il trittico gan Christopher Greene ac Annmaree O’Keeffe, David Macfarlane, Paul Burbidge, Richard Jackson a chefnogwyr eraill Il trittico.
- Cefnogir cynyrchiadau Il trittico a Rigoletto gan Sheila a Richard Brooks.
- Mae Il trittico yn gynhyrchiad ar y cyd gyda Scottish Opera.
- Cefnogir Dysgu gyda WNO gan Sefydliad Garfield Weston.
- Cefnogir y Côr Cysur gan Ymddiriedolaeth Elusennol Ivor ac Aeres Evans.
- Cefnogir Lles gyda WNO gan Gyngor Celfyddydau Cymru trwy gyfrwng arian y Celfyddydau, Iechyd a Lles gan y Loteri.
- Cefnogir Cerddorfa WNO gan Mathew a Lucy Prichard. Cefnogir Prif Gadeiryddion aelodau’r gerddorfa gan Gylch Prif Chwaraewyr WNO.
- Cefnogir rhaglen Artistiaid Cyswllt WNO gan Fwrsari Shirley a Rolf Olsen, Bwrsari Sheila a Richard Brooks, Ymddiriedolaeth Joseph Strong Frazer, Ysgoloriaeth Anthony Evans, Ymddiriedolaeth Stanley Picker, Bwrsari Chris Ball a’r Teulu Parry.
I gael rhagor o wybodaeth, lluniau neu gyfweliadau, cysylltwch â:
Christina Blakeman, Rheolwr y Wasg
Rhys Edwards, Rheolwr Cyfathrebu
Sophie Revell, Cynorthwyydd y Wasg a Chyfathrebu
Penny James a Rachel Bowyer, Pennaeth Cyfathrebu (rhannu swydd)
