Y Wasg

Opera Cenedlaethol Cymru yn cyhoeddi rhagor o fanylion a gwybodaeth am y cast ar gyfer Tymor yr Hydref 2025

28 Gorffennaf 2025

Opera Cenedlaethol Cymru yn cyhoeddi rhagor o fanylion a gwybodaeth am y cast ar gyfer Tymor yr Hydref 2025 

  • Bydd Natalya Romaniw, y soprano o Gymru, yn dychwelyd i ganu’r brif ran yn Tosca
  • Bydd Rakie Ayola, yr actores o Gymru, yn ymuno â chast Candide yn ei rôl gyntaf mewn opera
  • Bydd Cerddorfa a Chôr WNO yn dod ynghyd ar gyfer Noson yn yr Opera

Tosca

Bydd Opera Cenedlaethol Cymru yn dechrau Tymor yr Hydref gyda chynhyrchiad newydd o Tosca gan Puccini, gydag Edward Dick yn cyfarwyddo am y tro cyntaf gydag Opera Cenedlaethol Cymru gyda’r cynhyrchiad a gyfarwyddwyd ganddo’n wreiddiol yn Opera North yn 2018.

A hithau bellach yn un o brif berfformwyr Tosca ledled y byd, bydd Natalya Romaniw, y soprano o Gymru, yn dychwelyd i WNO i ganu’r brif ran yn dilyn ei pherfformiad yng nghynhyrchiad Il trittico yn Hydref 2024 – perfformiad a lwyddodd i ennyn canmoliaeth fawr gan yr adolygwyr. Bydd yn cael cwmni Andrés Presno, a fydd yn dychwelyd i WNO i ganu rhan Cavaradossi, a Dario Solari, a fydd yn perfformio rhan Scarpia. Yn ogystal, bydd y cast yn cynnwys Artistiaid Cyswllt newydd WNO, sef Owain Rowlands (Ceidwad y Carchar) a Ross Fettes (y Sacristan), ynghyd ag Alun Rhys-Jenkins (Spoletta) a George Newton-Fitzgerald (Sciarrone).

Hwn hefyd fydd y tro cyntaf i’r arweinydd Gergely Madaras o Hwngari weithio gydag WNO i arwain sgôr fythgofiadwy Puccini, yn cynnwys yr aria iasol Te deum a’r hyfryd Vissi d’arte.

Mae cynhyrchiad Puccini yn llawn angerdd, grym a thwyll, ac mae’r cynhyrchiad modern newydd hwn yn parhau i ddod â’r stori wefreiddiol hon yn fyw – stori sy’n llawn cariad, trachwant a llygredigaeth ac sydd bellach ymhlith yr operâu mwyaf poblogaidd erioed.

Bydd Tosca yn agor yng Nghaerdydd ddydd Sul 14 Medi cyn mynd ar daith i Southampton, Llandudno a Bryste.

Medd Edward Dick, y Cyfarwyddwr:

‘Pan feddyliwch am opera, rydych yn meddwl am Tosca. Dyma un o’r darnau mwyaf operatig yn y repertoire; sgôr epig yn llawn digwyddiadau annisgwyl lle mae gwleidyddiaeth, rhyw a chrefydd yn gwrthdaro. Mae cerddoriaeth Puccini yn chwistrellu emosiwn i’r gynulleidfa, a’n nod oedd creu cynhyrchiad a fyddai mor ddramatig ac emosiynol â’r sgôr; cynhyrchiad gwleidyddol taer a fyddai’n sgubo aelodau’r gynulleidfa oddi ar eu traed ac yn adrodd rhywfaint o hanes y bydd sydd ohoni hefyd.

Rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at gael dychwelyd at y cynhyrchiad hwn gydag WNO. Un o’r pethau rydw i’n ymfalchïo mwyaf ynddo yw’r modd y mae’n cysylltu’n â chynulleidfaoedd sy’n newydd i opera. Os ydych yn hoffi gwylio ffilmiau cyffro, rydw i’n siŵr y byddwch wrth eich bodd â’r opera hon.’

Candide

Yn dilyn perfformiad cyntaf hynod lwyddiannus WNO o Candide gan Leonard Bernstein ym mis Mehefin 2023, bydd yr opera’n dychwelyd i Ganolfan Mileniwm Cymru ym mis Medi ochr yn ochr â Tosca. Bydd tîm y cynhyrchiad gwreiddiol yn aduno, dan gyfarwyddyd James Bonas. 

Un aelod newydd o’r cast fydd Rakie Ayola, yr actores o Gymru. Dyma’r tro cyntaf iddi weithio gydag WNO, a bydd yn perfformio rhan y Llefarydd/Pangloss/Gŵr Doeth/Cardotyn. Yn ogystal â bod yn actores uchel iawn ei pharch, mae Rakie hefyd yn gynhyrchydd. Cafodd ei magu yn ardal Trelái yng Nghaerdydd. Mae ei gyrfa’n ymestyn dros 36 mlynedd ac mae’n un o raddedigion a Chymrodyr Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Mae ei gwaith diweddar yn cynnwys Persephone yn Kaos (cyfres Netflix); ymddangosodd yn ail gyfres The Pact, gan ennill gwobr Actores Orau Bafta Cymru yn 2023; ymddangosodd yn y ffilm deledu Anthony, gan ennill gwobr Actores Ategol Orau Bafta Cymru yn 2021; ymddangosodd gyferbyn â Rhys Ifans (actor arall o Gymru) yn y ddrama On Bear Ridge gan Ed Thomas; a hefyd bydd yn ymddangos ochr yn ochr â Saoirse Ronan yn y ffilm nodwedd Bad Apples gan Pulse Films ar gyfer Paramount, dan gyfarwyddyd Jonatan Etzler.

Nathalie Pallandre a ddyluniodd y gwisgoedd, Thibault Vancraenenbroeck sy’n gyfrifol am y setiau, Ewan Jones a luniodd y coreograffi, a chrëwyd y gwaith fideo a’r animeiddiadau trawiadol gan Grégoire Pont. Y tro hwn, caiff yr opera ei harwain gan Ryan McAdams, yr arweinydd o America, sy’n arwain opera raddfa fawr am y tro cyntaf gydag WNO.

Mae’r cynhyrchiad hwn gan WNO, sydd wedi ennyn canmoliaeth yr adolygwyr, yn peri i Ffrainc y ddeunawfed ganrif wrthdaro ag America’r ugeinfed ganrif (y cyfnod ar ôl y rhyfel), a llwyddir i ddwyn ynghyd Broadway, opereta a’r dychan a welir yn nofel wreiddiol Voltaire, gan fynd ati ar yr un pryd i gyfuno cerddoriaeth ragorol Bernstein.

Mae’r animeiddio dyfeisgar yn creu byd dychmygol ar y llwyfan ac mae’n gweithio mewn cytgord â’r llwyfannu, y gerddoriaeth a’r dawnsio, gan gludo’r gynulleidfa o’r Alpau i jynglau’r Amason a thu hwnt.

Bydd y soprano Soraya Mafi yn dychwelyd i WNO yn dilyn ei pherfformiad o Gilda yng nghynhyrchiad WNO o Rigoletto yn 2024, gan ymuno â’r cast i chwarae rhan Cunégonde. Bydd y fezzo-soprano Amy J Payne yn perfformio gydag WNO am y tro cyntaf, gan ymuno â’r cast i chwarae rhan Yr Hen Fenyw. Yn ogystal, bydd y bariton Jack Holton (Maximillian) a Ryan Vaughan Davies, y tenor o Gymru, yn ymuno â’r cast ar ôl gweithio gydag WNO ar gynyrchiadau blaenorol. Bydd Ed Lyon yn dychwelyd i chwarae’r brif ran Candide, ar ôl llwyddo i ennill canmoliaeth fawr gan yr adolygwyr am ei berfformiad yn y gorffennol; a bydd Aled Hall, y tenor o Gymru, a’r fezzo-soprano Francesca Saracino yn dychwelyd fel y Llywodraethwr a Paquette.

Bydd Candide yn agor yng Nghaerdydd ddydd Mercher 17 Medi, ac ochr yn ochr â Tosca bydd yn mynd ar daith i Southampton, Llandudno a Bryste.

Medd James Bonas, y Cyfarwyddwr:

‘Pan wnaethon ni greu Candide yng Nghaerdydd a mynd ar daith wedyn, ymatebodd y gynulleidfa gyda llawenydd i’r hiwmor, yr ysmaldod a’r gorfoledd yn yr animeiddiadau. Fe wnaethon nhw syrthio mewn cariad â’r cantorion ac fe gawson nhw eu sgubo ymaith gan wallgofrwydd y stori ac alawon disglair Bernstein. A nawr, cawn wneud y cwbl eto!

Bydd Ed Lyon yn dychwelyd fel Candide, ochr yn ochr â’r eithriadol Soraya Mafi fel Cunégonde, gyda Jack Holton yn chwarae rhan ei brawd Maximillian. Bydd yr hynod ddoniol Amy J Payne yn ymuno â’r anturiaethau fel yr Hen Fenyw; a phleser o’r mwyaf fydd croesawu Rakie Ayola, seren BAFTA y llwyfan a’r sgrin, yn ei rôl ddwbl fel Pangloss a’r Llefarydd. Wrth gwrs, bydd gan Gôr WNO rôl flaenllaw a hollbwysig, gan ein tywys trwy’r tirlun a chan berfformio llu o gymeriadau gwych. A bydd y dihafal Ryan McAdams yn cadw golwg ar bopeth ac yn arwain Cerddorfa WNO. Dedwyddwch pur!’

 Noson yn yr Opera

Yr Hydref hwn, bydd Côr a Cherddorfa WNO yn dod ynghyd ar gyfer cyngherddau Noson yn yr Opera, gan arddangos rhai o alawon mwyaf poblogaidd a bythgofiadwy’r byd opera o blith gweithiau enwog cyfansoddwyr gorau’r byd. Bydd y cyngherddau’n cynnwys Intermezzo o Cavalleria rusticana, Un bel di (Un Diwrnod Teg) o Madam Butterfly a Chôr y Gwrachod o Macbeth. Mae’r cyngherddau hyn yn ffordd berffaith o ddarganfod opera am y tro cyntaf. Bydd cyngherddau Noson yn yr Opera yn cael eu cynnal yn Southampton, Llandudno, Bryste a Plymouth.

Lles gydag WNO – Rhaglen Llesiant Creadigol

Mewn partneriaeth ag Adran Bediatrig Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, bydd WNO yn parhau â’i raglen Llesiant Creadigol yr Hydref hwn. Nod y prosiect yw defnyddio amrywiaeth o weithgareddau celf creadigol a gwneud defnydd o dechnegau anadlu a chanu sydd wedi deillio o’r rhaglen Lles gydag WNO.

Bydd WNO yn cyflwyno rhaglen 18 wythnos yn llawn gweithgareddau creadigol a fydd yn cynnwys gweithio gydag ysgol gyfun yng Nghastell-nedd gyda deunaw o ddysgwyr sy’n dioddef gorbryder a diffyg hyder. Eleni, cynhelir y prosiect gydag ysgol Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), sef Ysgol Maes y Coed. Bydd y disgyblion yn mynd ati i greu Opera Fach, yn cynnwys cynhyrchu gwaith celf, cymeriadau a chefndir, yn ogystal â chyfansoddi sgôr wreiddiol. Bydd y tîm creadigol yn cyfuno syniadau a gwaith caled y disgyblion i greu perfformiad terfynol, a bydd teuluoedd y disgyblion yn cael gwahoddiad i wylio’r perfformiad hwnnw yng Ngwanwyn 2026.

Cyngherddau Ysgolion

Yr Hydref hwn, bydd Cyngherddau Ysgolion blynyddol WNO yn cael eu cyflwyno gan Elin Llwyd a byddant yn cynnwys Owain Rowlands (Artist Cyswllt newydd), Eiry Price (Artist Cyswllt blaenorol) a Cherddorfa WNO. Bydd y rhaglen yn tywys cynulleidfaoedd ifanc 7-11 oed ar siwrnai i fyd cerddoriaeth glasurol, a ysbrydolir gan adar. Bydd y cyngerdd yn cynnwys cyfansoddwyr fel Respighi, Mozart, Stravinsky a Dilys Elwyn-Edwards a bydd y cwbl yn cael ei ategu gan fideo a wnaed gan yr RSPB.

Bwriedir i Gyngherddau Ysgolion WNO ategu’r Cwricwlwm i Gymru a’r Cwricwlwm Cenedlaethol yn Lloegr. Bydd y cyngherddau’n agor yng Nghaerdydd a byddant yn mynd ar daith wedyn i Southampton, Llandudno a Plymouth ochr yn ochr â chynyrchiadau Hydref WNO. Bydd Rhaglenni a Gweithgareddau Ymgysylltu rheolaidd WNO, ynghyd â’r Côr Cysur a Dysgu gydag WNO, yn parhau drwy gydol y Tymor.

Opera Ieuenctid WNO

Bydd sesiynau wythnosol Opera Ieuenctid WNO yn dychwelyd ym mis Medi, gan anelu at Berfformiad Opera Ieuenctid Seligman yn 2026, lle bydd hyd at 80 o gyfranogwyr a chyn-fyfyrwyr yn ymuno â’r cast ar gyfer dau berfformiad ym mis Mai.


DIWEDD 

Nodiadau i Olygyddion

Opera Cenedlaethol Cymru yw cwmni opera cenedlaethol Cymru, a ariennir gan Gynghorau Celfyddydau Cymru a Lloegr i ddarparu opera ar raddfa fawr, cyngherddau a gwaith allgymorth ledled Cymru ac i ddinasoedd mawr yn rhanbarthau Lloegr.  Rydym yn ymdrechu i ddarparu profiadau trawsnewidiol trwy ein rhaglen addysg ac allgymorth a’n prosiectau digidol arobryn.  Rydym yn gweithio gyda’n partneriaid i ddarganfod a meithrin talent operatig ifanc, a’n nod yw dangos i genedlaethau’r dyfodol fod opera yn ffurf gelfyddydol werthfawr, berthnasol a chyffredinol gyda’r pŵer i effeithio ac ysbrydoli.

Mae delweddau cynhyrchu WNO ar gael i’w lawrlwytho ar https://wno.org.uk/cy/press

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am gynyrchiadau WNO ar https://wno.org.uk/cy/__home__

  • Rhoddir prif gefnogaeth i’r cynhyrchiad gan Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston
  • Cefnogir ein cynyrchiadau gan Gronfa Dunard
  • Cefnogir Dysgu gydag WNO gan Sefydliad Garfield Weston ac Ymddiriedolaeth Gibbs
  • Cefnogir Lles gydag WNO gan Gyngor Celfyddydau Cymru trwy gyfrwng arian y Celfyddydau, Iechyd a Lles gan y Loteri
  • Cefnogir Arweinydd Cerddorfa WNO gan Mathew a Lucy Prichard
  • Cefnogir Cerddorfa WNO gan Mathew a Lucy Prichard
  • Cefnogir Prif Gadeiryddion aelodau’r gerddorfa gan Gylch Prif Chwaraewyr WNO.
  • Mae WNO yn ddiolchgar am gefnogaeth hael Bwrsari Shirley a Rolf Olsen, Bwrsari Sheila a Richard Brooks, Ysgoloriaeth Anthony Evans, Bwrsari Eira Francis Davies, Ymddiriedolaeth Elusennol Fidelio, Ymddiriedolaeth Joseph Strong Frazer, Ymddiriedolaeth Stanley Picker, Sefydliad Noël Coward, Ymddiriedolaeth Elusennol Thriplow a Bwrsari Chris Ball tuag at raglen Artistiaid Cyswllt WNO
  • Lles gydag WNO – Cefnogir Llesiant Creadigol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
  • Lles gydag WNO – Cefnogir Llesiant Creadigol gan Elusen Gwendoline a Margaret Davies
  •  Cefnogir Opera Ieuenctid WNO a Pherfformiad Opera Ieuenctid Seligman gan gymynrodd y diweddar David Seligman a Rhodd Seligman, Ymddiriedolaeth Gibbs, Ymddiriedolaeth Clive Richards, ac Andrew Fletcher

I gael rhagor o wybodaeth, lluniau neu gyfweliadau, cysylltwch â:

 Christina Blakeman, Rheolwr Cyfathrebu 

Christina.blakeman@wno.org.uk