Y Wasg

Opera Cenedlaethol Cymru yn Cyhoeddi Cynlluniau ar gyfer Perfformio'n Fyw yn 2021/22

10 Mehefin 2021

Wedi i Lywodraeth Cymru gyhoeddi bod perfformio byw yn bosib erbyn hyn, rydym yn falch iawn o fod mewn sefyllfa i gadarnhau manylion ein cynlluniau i ddychwelyd i berfformio a theithio, yn y tymor byr ac ymhellach i'r dyfodol

Cyfarwyddwr Cyffredinol WNO, Aidan Lang
  • Teithiau yng Nghymru a Lloegr i ailddechrau yn Hydref 2021
  • Dyddiad newydd yn Haf 2022 ar gyfer y perfformiad cyntaf yn y byd o'r comisiwn newydd Migrations
  • Cynyrchiadau Opera Ieuenctid WNO o The Black Spider a Cheryomushki

Mae Opera Cenedlaethol Cymru wedi cyhoeddi y bydd y Cwmni'n ailddechrau teithio yng Nghymru a Lloegr yn yr hydref eleni. Mae'r manylion a gyhoeddwyd yn cynnwys mynd â chynyrchiadau opera ar daith, gwaith ymgysylltu ac allgymorth, a chyngherddau cerddorfaol.

Yn ddiweddar, cyhoeddodd WNO y bydd y Cwmni'n ailddechrau perfformio'n fyw ac yn dechrau ar ei 75ain Tymor dathliadol yr haf hwn gydag Alice’s Adventures in Wonderland gan y cyfansoddwr Will Todd, gyda pherfformiadau o 25 Mehefin tan 3 Gorffennaf yng Ngerddi Dyffryn ym Mro Morgannwg.

Hydref 2021
Y bwriad yw y bydd Tymor graddfa fawr cyntaf WNO ers y pandemig yn agor yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd ym mis Medi, cyn teithio i leoliadau ar hyd a lled Cymru a Lloegr. Bydd cynhyrchiad hynod boblogaidd WNO o The Barber of Seville gan Rossini, sy'n cynnwys un o gymeriadau mwyaf lliwgar y byd opera - Figaro, yn cael ei berfformio ochr yn ochr â chynhyrchiad newydd sbon o Madan Butterfly wedi'i gyfarwyddo gan y cyfarwyddwr o Awstralia Lindy Hume a'i arwain gan Arweinydd Llawryfog WNO Carlo Rizzi. Mae'r cynhyrchiad newydd yn adrodd stori glasurol Puccini mewn ffordd sy'n berthnasol i gymdeithas, gyda'r gerddoriaeth hyfryd yn gefnlen i'r opera enwog hon. Mae cyfres o sgyrsiau a digwyddiadau digidol i archwilio themâu Madam Butterfly a pherthnasedd y cynhyrchiad hwn mewn cymdeithas heddiw wedi'u cynllunio hefyd.

Gwanwyn 2022
Bydd Tymor Gwanwyn 2022 WNO yn agor ym mis Chwefror, gan ddechrau yng Nghaerdydd cyn teithio i leoliadau ar hyd a lled Cymru a Lloegr. Mae'r cynyrchiadau'n cynnwys Don Giovanni gan Mozart, ynghyd â Jenůfa - sy'n parhau â Chyfres Janáček y Cwmni - wedi'i gyfarwyddo gan Katie Mitchell a'i arwain gan Gyfarwyddwr Cerddoriaeth WNO Tomáš Hanus. Bydd Madam Butterfly hefyd yn cael ei pherfformio mewn rhai lleoliadau y byddwn yn teithio iddynt yn ystod y gwanwyn.

Yn dilyn llwyddiant Brundibár yn 2019, bydd grwpiau Opera Ieuenctid WNO yn dod ynghyd unwaith eto ar gyfer pherfformiad graddfa lawn o The Black Spider yn Stiwdio Weston Canolfan Mileniwm Cymru ym mis Mai 2022. Mae hon yn stori iasol, ddigrif gan yr ysgrifennwr a chyfansoddwr a Meistr Cerddoriaeth y Frenhines Judith Weir, a bydd yn cael ei chanu gan aelodau Opera Ieuenctid De Cymru sydd rhwng 10 a 18 mlwydd oed..

Haf 2022
Bydd yr opera newydd, Migrations, a fwriadwyd ar gyfer Haf 2021 yn wreiddiol, yn cael ei pherfformio am y tro cyntaf yng Nghaerdydd ym mis Mehefin/Gorffennaf 2022 ac yn mynd ar daith yn ystod hydref 2022. Mae Migrations yn archwilio gwahanol elfennau mudo, gan gynnwys effaith ddynol un o'r penderfyniadau anoddaf y mae llawer wedi gorfod ei wneud, sef gadael eu cartref a'u cymuned i chwilio am fywyd gwell neu le mwy diogel i fyw. I greu amrywiaeth o leisiau a phrofiadau, mae pum ysgrifennwr - Shreya Sen Handley, Edson Burton a Miles Chambers, Eric Ngalle Charles a Sarah Woods - wedi gweithio gyda Syr David Pountney i greu'r libreto o chwe stori, wedi'u dylanwadu gan eu profiadau personol o fudo a gweithio gyda ffoaduriaid. 

Gyda cherddoriaeth gan y cyfansoddwr Prydeinig Will Todd ac wedi'i harwain gan Matthew Kofi Waldren, bydd yr opera'n cael ei chyfarwyddo gan Syr David Pountney gyda chefnogaeth gan dîm o gyfarwyddwyr cyswllt. Mae Migrations yn brosiect uchelgeisiol tu hwnt, gyda thîm creadigol ehangach a chast o 100 sy'n cynnwys côr gospel, corws o blant, dawnswyr Bollywood ac unawdwyr o bob cwr o'r byd.

Ym mis Gorffennaf 2022, bydd aelodau 18-25 mlwydd oed Opera Ieuenctid WNO yn cymryd eu lle ar y llwyfan mewn cynhyrchiad newydd o Cheryomushki gan Shostakovich.  Yn dilyn llwyddiant cynhyrchiad 2019 o Don Pasquale, bydd Daisy Evans yn dychwelyd i WNO i gyfarwyddo'r Opera Ieuenctid mewn fersiwn o'r opera ar ei newydd wedd gydag elfen gyfoes.  Cyflwynir y cynhyrchiad dan faton yr arweinydd Alice Farnham.  Yn ogystal â chantorion o Opera Ieuenctid WNO a chyn-aelodau'r Opera Ieuenctid, bydd y cynhyrchiad yn cynnwys rhannau cynorthwyol, profiadau gwaith technegol ac offerynwyr sy'n dal yn fyfyrwyr. Mae hyn yn darparu profiad hyfforddiant unigryw i bobl ifanc sydd â diddordeb mewn dilyn gyrfa broffesiynol ym myd opera a theatr, wrth iddynt weithio ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol blaenllaw o'r diwydiant a chael eu mentora gan arbenigwyr WNO. 

Cyngherddau Cerddorfaol
Yn ogystal â'r cynyrchiadau sydd wedi'u cynllunio, mae Cerddorfa WNO wedi cynllunio ei hamserlen gyngherddau ar gyfer 2021/2022.

Bydd Cerddorfa WNO yn dychwelyd i lwyfan cyngherddau Neuadd Dewi Sant dan arweinyddiaeth y Cyfarwyddwr Cerddoriaeth Tomáš Hanus ar gyfer perfformiadau ym mis Tachwedd eleni a mis Mai y flwyddyn nesaf fel rhan o'r Tymor Cyngherddau Rhyngwladol. Bwriedir cynnal cyngherddau ysgolion yn ystod hydref 2022 a chyngherddau i'r teulu drwy gydol y flwyddyn mewn nifer fawr o'r lleoliadau teithio, ynghyd â Gala Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ym mis Tachwedd 2021.

Gweithgareddau Rhaglen ac Ymgysylltu
Mae WNO yn gobeithio cynnal ei raglenni ymgysylltu â'r gymuned drwy sesiynau wyneb yn wyneb yn hytrach na gweithgareddau ar-lein pan fydd yn ddiogel gwneud hynny dros y misoedd nesaf. Mae hyn yn cynnwys parhau â'i weithgareddau mewn ysgolion, ei berfformiadau mewn ysbytai a chartrefi gofal a phrosiectau mewn partneriaeth ag Oasis Caerdydd a Chyngor Ffoaduriaid Cymru.  Bydd Côr Cysur WNO ar gyfer pobl sy'n byw â dementia hefyd yn parhau fel rhan o'r prosiect pontio cenedlaethau ehangach, Cysur, gan ddwyn ynghyd blant o ysgolion yn Aberdaugleddau a phobl leol sy'n byw â'r clefyd mewn gweithgareddau creadigol a ddaw i uchafbwynt yn haf 2022.

Aralleirio - Bydd prosiect digidol yn cael ei lansio yn haf 2021 hefyd. Bydd y prosiect yn cynnwys ariâu operatig adnabyddus wedi'u perfformio a'u ffilmio mewn gwahanol leoliadau a chyd-destunau sy'n eu gosod yn y byd sydd ohoni. Bydd y ffilmiau'n cael eu rhyddhau rhwng yr haf a'r hydref. Ymhlith yr ariâu sydd wedi'u cynnwys y mae Nessun Dorma ac O mio babbino caro gan Puccini, Triawd Rossini o Le Comte Ory a Tu se morta gan Monteverdi.

Prosiect Covid Hir - Mae WNO yn cynllunio rhaglen gydweithredol i ddiwallu anghenion cleifion Covid hir yng Nghymru. Bydd yn cefnogi adferiad corfforol, yn adfer llesiant meddyliol ac emosiynol, ac yn lleihau gorbryder. Bydd y Cwmni'n cydweithio â byrddau iechyd Cymru, mewn partneriaeth ag English National Opera, i ddatblygu rhaglen sy'n defnyddio technegau canu ac anadlu y mae cantorion opera proffesiynol yn eu defnyddio, i leihau diffyg anadl, cefnogi cyfranogwyr i ailddysgu anadlu llengigol a'u harfogi i barhau â'r gwaith hwn gartref. Ceir tystiolaeth fod canu'n cael effaith gadarnhaol ar lesiant, a nod y rhaglen yw sicrhau buddion meddyliol a meddygol i'r rhai sy'n cymryd rhan.

Prosiect HIV
Yn dilyn ymgynghori â Fast Track Cymru a Terrence Higgins Trust Cymru, bydd WNO yn gweithio mewn partneriaeth ag Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdyddi gyd-ddatblygu a threialu model gweithdy cyfranogol newydd. Bydd y model yn defnyddio opera, cerddoriaeth, ysgrifennu creadigol a chelf i wella addysg am HIV a dealltwriaeth ohono ymhlith pobl ifanc yng Nghymru. Bydd y prosiect yn cefnogi'r gwaith o gyflwyno'r cwricwlwm newydd i Gymru, sy'n rhoi pwyslais newydd ar Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb

Mae gweithgareddau Rhaglen Datblygu Doniau WNO, sydd wedi bod yn cael eu cynnal ar-lein dros y flwyddyn ddiwethaf, yn dychwelyd i fod yn weithgareddau byw. Mae'r rhaglen hon yn cynnwys rolau datblygu arbennig yn y Cwmni, gan gynnwys Artistiaid Cyswllt WNO, Aaron O’Hare, Adam Gilbert ac Isabelle Peters; Cymrawd Cyfarwyddo Weston Jerwood, Gareth Chambers; a rôl Arweinydd Cyswllt mewn cydweithrediad â Chystadleuaeth Arwain Donatella Flick-LSO.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Cerddoriaeth, Tomáš Hanus: 'Ar ôl treulio gormod o amser ar wahân i fy nghydweithwyr a'm ffrindiau yng Nghaerdydd, rwy'n falch iawn o gael dychwelyd i WNO yr hydref hwn i arwain The Barber of Seville. Rwy'n edrych ymlaen at sefyll ar y podiwm eto, a chael cefnogaeth staff a cherddorion dawnus Opera Cenedlaethol Cymru. Bydd yn fraint ac yn bleser cael perfformio cerddoriaeth fyw ar hyd a lled Cymru a Lloegr yn ystod Tymor 2021/22 ar ôl cyfnod mor drychinebus yn hanes theatr a dynol-ryw. Mae gan gerddoriaeth allu heb ei debyg i uno pobl, a chredaf fod gwir angen hynny ar bob un ohonom. Bydd Tymor 2021/22 yn ddathliad o gelfyddyd, ac rwy'n ysu eisiau iddo ddechrau.'

Dywedodd y Cyfarwyddwr Cyffredinol Aidan Lang: 'Wedi i Lywodraeth Cymru gyhoeddi bod perfformio byw yn bosib erbyn hyn, rydyn ni'n falch iawn o fod mewn sefyllfa i gadarnhau manylion cynlluniau i ddychwelyd i berfformio'n fyw a theithio, yn y tymor byr ac ymhellach i'r dyfodol. Er ein bod ni wedi gallu defnyddio platfformau digidol i barhau i ymgysylltu â'n cynulleidfaoedd a phobl yn y gymuned dros y flwyddyn ddiwethaf - rhywbeth rydyn ni'n bwriadu parhau i'w wneud, does dim byd cystal â chael profiad o gynyrchiadau byw a pharhau â'n gweithgareddau Rhaglenni ac Ymgysylltu wyneb yn wyneb. Rydyn ni'n edrych ymlaen yn arw at gael rhannu llawenydd a phrofiad opera fyw unwaith eto.  Rydyn ni hefyd wedi bod yn defnyddio'r amser hwn i ystyried sut y byddwn ni'n symud ymlaen i'r dyfodol, a'r ffordd orau y gallwn ni weithio i ddatblygu ein gweithgareddau mewn cymunedau a gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl drwy rym opera. Bydd hyn yn rhan fawr o'n cynlluniau newydd wrth inni symud ymlaen, yn ogystal â pharhau â'r gwaith Rhaglenni ac Ymgysylltu graddfa fawr rydyn ni eisoes yn ei wneud.

Gellir cael gwybodaeth ynghylch cynyrchiadau WNO a dyddiadau y bydd tocynnau'n mynd ar werth yn wno.org.uk 

Diwedd


Nodiadau i Olygyddion

  • Opera Cenedlaethol Cymru yw'r cwmni opera cenedlaethol ar gyfer Cymru, a ariennir gan Gynghorau Celfyddydau Cymru a Lloegr i ddarparu operâu ar raddfa fawr, cyngherddau a gwaith allgymorth ledled Cymru ac mewn dinasoedd mawr yn rhanbarthau Lloegr. Rydym yn ymdrechu i gynnig profiadau trawsnewidiol drwy ein rhaglen addysg ac allgymorth a'n prosiectau digidol llwyddiannus. Rydym yn gweithio gyda'n partneriaid i ddarganfod a meithrin doniau operatig ifanc, a'n nod yw dangos i genedlaethau'r dyfodol fod opera'n gelfyddyd werthfawr, berthnasol a byd-eang sydd â'r grym i gael effaith ac ysbrydoli.
  • Mae lluniau WNO ar gael i'w lawrlwytho o www.wno.org.uk/press
  • Mae The Barber of Seville yn gynhyrchiad ar y cyd ag Opera North a Vancouver Opera
  • Cefnogir Jenůfa gan Gylch Janáček a Phartneriaid WNO
  • Cefnogir dathliadau 75 mlynedd WNO gan Colwinston Charitable Trust
  • Cefnogir Artist Cyswllt WNO, Adam Golbert, gan Fwrsariaeth Shirley a Rolf Olsen
  • Cefnogir rhaglen Datblygu Doniau WNO gan Kirby Laing Foundation a Bateman Family Charitable Trust
  • Mae swydd Arweinydd Cyswllt WNO mewn cydweithrediad â Chystadleuaeth Arwain Donatella Flick-LSO
  • Mae rhaglen Bwrsariaethau Creadigol Weston Jerwood 2020-2022 wedi'i dylunio a'i chynhyrchu gan Jerwood Arts. Mae wedi'i hariannu a'i chefnogi gan gronfa 'Tranforming Leadership' Arts Council England, Garfield Weston Foundation, Art Fund, Cyngor Celfyddydau Cymru, Creative Scotland, British Council, Jerwood Arts a PRS Foundation. 
  • Cefnogir cyngherddau WNO sy'n rhan o'r Gyfres o Gyngherddau Rhyngwladol gan Colwinston Charitable Trust.
  •  Cefnogir gweithgareddau Ieuenctid, Cymunedol a Digidol WNO gan rodd hael gan Garfield Weston Foundation
  • Cefnogir Migrations gan Gynghrair Comisiynau Newydd WNO.

Am ragor o wybodaeth, lluniau neu gyfweliadau, cysylltwch â:
Penny James, Rheolwr y Wasg
penny.james@wno.org.uk

Christina Blakeman,
Swyddog y Wasg
christina.blakeman@wno.org.uk