Opera Cenedlaethol Cymru yn Cyhoeddi Dychweliad i Berfformiadau Byw gyda’r opera deuluol Alice’s Adventures in Wonderland.
2 Mehefin 2021Mae Opera Cenedlaethol Cymru wedi cyhoeddi y bydd y Cwmni yn dychwelyd i berfformiadau byw gyda pherfformiadau awyr agored o gynhyrchiad Will Todd o’r opera deuluol Alice's Adventures in Wonderland yr haf hwn.
Dathlodd WNO ei phenblwydd yn 75 oed ar 15 Ebrill eleni a bydd yn dechrau perfformio'n fyw a chychwyn ar ei 75ain Tymor dathliadol gyda chynhyrchiad lliwgar o stori enwog Lewis Carroll mewn opera a gomisiynwyd ac a gynhyrchwyd yn wreiddiol gan Opera Holland Park. Hwn fydd dychweliad cyntaf y Cwmni i'r llwyfan yn perfformio o flaen cynulleidfa gyhoeddus yn dilyn ffocws y flwyddyn ddiwethaf ar weithgarwch digidol ac arlein.
Bwriedir cynnal perfformiadau rhwng 25 Mehefin hyd at 3 Gorffennaf yng Ngerddi Dyffryn yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ger Caerdydd ym Mro Morgannwg.
Bydd hanes clasurol anturiaethau Alice yn dod yn fyw yn yr opera deuluol hynod hon. Mae sgôr Will Todd, a berfformir gan gerddorfa fach, yn gymysgedd o arddulliau jazz, sioe gerdd ac opera, ac yn cyd-fynd yn berffaith â'r libretto i greu stori hwyliog a difyr sy'n ffyddlon i’r llyfr gwreiddiol. Mae cynlluniau hefyd ar y gweill i gynnal rhaglen o weithgareddau i deuluoedd i gyd-fynd â’r cynhyrchiad.
Bydd y perfformiad arddull cyngerdd promenâd yng Ngerddi Dyffryn yn mynd â chynulleidfaoedd o'r di-liw a’r diflas i'r lliwgar, gyda thair set yn eu hamgylchynu. Gwahoddir y gynulleidfa i ddod â blanced gyda nhw a throi i ddilyn taith Alice drwy’r Wlad Hud.
Mae'r cast yn cynnwys yr artistiaid gwadd Fflur Wyn fel Alice, Benjamin Bevan, Feargal Mostyn-Williams, Aoife Miskelly, a Kelvin Thomas, ynghyd ag aelodau o Gorws arobryn WNO mewn rolau blaenllaw eraill. Ar ôl parhau ar-lein yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, bydd rhaglen Datblygu Doniau WNO yn dychwelyd i berfformio’n fyw, ac Artistiaid Cyswllt WNO, Aaron O'Hare ac Adam Gilbert, yn perfformio am y tro cyntaf yn y cynhyrchiad ac ein Cymrawd Cyfarwyddo Jerwood newydd, Gareth Chambers, yn ymuno â'r tîm cyfarwyddo.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Cyffredinol Aidan Lang 'Rydyn ni’n falch dros ben o allu perfformio i gynulleidfaoedd byw a pha ffordd well o ddychwelyd na gydag opera deuluol y gall pawb ei mwynhau. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at rannu llawenydd a phrofiad opera fyw unwaith eto.'
Dywedodd y cyfansoddwr Will Todd: 'Rydw i’n teimlo mor gyffrous y bydd cynulleidfaoedd yng Nghymru yn cael cyfle i brofi Alice’s Adventures in Wonderland gydag Opera Cenedlaethol Cymru. Mae wedi bod yn ddarn mor hwyliog i ysgrifennu'r gerddoriaeth ar ei gyfer, ac i mi, mae'n ymwneud â sicrhau bod y gynulleidfa, hen ac ifanc, yn cael amser gwych yn gwylio a gwrando ar opera fyw.'
Bydd y tocynnau ar gyfer Alice's Adventures in Wonderland yn mynd ar werth yn gyhoeddus ar Ddydd Iau 3 Mehefin.
wno.org.uk
Diwedd
Nodiadau i Olygyddion
- Opera Cenedlaethol Cymru yw cwmni opera cenedlaethol Cymru, a ariennir gan Gynghorau Celfyddydau Cymru a Lloegr i ddarparu opera, cyngherddau a gwaith allgymorth ar raddfa fawr ledled Cymru ac i ddinasoedd mawr yn rhanbarthau Lloegr. Rydym yn ymdrechu i ddarparu profiadau trawsnewidiol drwy ein rhaglen addysg ac allgymorth a'n prosiectau digidol arobryn. Rydym yn gweithio gyda'n partneriaid i ddarganfod a meithrin doniau operatig ifanc, a'n nod yw dangos i genedlaethau'r dyfodol fod opera yn ffurf gelfyddydol werth chweil, berthnasol a byd-eang gyda'r gallu i gyffwrdd ac ysbrydoli pobl.
- Mae delweddau WNO ar gael i’w lawrlwytho yn http://www.wno.org.uk/press
- Cefnogir dychweliad WNO i’r llwyfan gan grant hael gan Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston
- Cefnogir Artist Cyswllt WNO, Adam Gilbert, gan Fwrsari Shirley a Rolf Olsen a chefnogir Aaron O’Hare gan Ysgoloriaeth Anthony Evans
- Cefnogir cynllun Artistiaid Cyswllt WNO gan Ymddiriedolaeth Elusennol Joseph Strong Frazer, Ymddiriedolaeth Elusennol Garrick, Ymddiriedolaeth Elusennol Fidelio, ac Ymddiriedolaeth Elusennol Thriplow
- Mae rhaglen Bwrsariaethau Creadigol Weston Jerwood 2020-2022 wedi'i chynllunio a'i chynhyrchu gan Jerwood Arts. Mae’n cael ei hariannu a'i chefnogi gan Gronfa Trawsnewid Arweinyddiaeth Cyngor Celfyddydau Lloegr, Sefydliad Garfield Weston, y Gronfa Gelf, Cyngor Celfyddydau Cymru, Creative Scotland, y Cyngor Prydeinig, Jerwood Arts a Sefydliad PRS
- Cefnogir rhaglen Datblygu Doniau WNO gan Sefydliad Kirby Laing Foundation ac Ymddiriedolaeth Elusennol Teulu Bateman
- Cefnogir gweithgareddau Ieuenctid, Cymunedol a Digidol WNO gan rodd hael gan Sefydliad Garfield Weston
Am ragor o wybodaeth, lluniau neu gyfweliadau, cysylltwch â:
Penny James, Rheolwr y Wasg
penny.james@wno.org.uk
Christina Blakeman, Swyddog y Wasg
christina.blakeman@wno.org.uk