- Cyfarwyddwr Cerdd WNO Tomáš Hanus yn arwain cynhyrchiad newydd o Peter Grimes gyda Nicky Spence a’r Fonesig Sarah Connolly yn perfformio eu rhannau am y tro cyntaf
- Y soprano Erika Grimaldi yn perfformio am y tro cyntaf gydag WNO yn The Marriage of Figaro
- Lansio prosiect newydd Sea Interludes mewn partneriaeth â’r elusen Fishermen’s Mission
- Cerddorfa a Chorws WNO yn uno ar gyfer Chwarae Opera YN FYW
Peter Grimes
Yn dilyn llwyddiant cynhyrchiad newydd Opera Cenedlaethol Cymru o Death in Venice, Britten, mae ein Tymor y Gwanwyn yn agor gyda chynhyrchiad newydd arall, Peter Grimes, Britten.
Bydd y cynhyrchiad hwn yn cael ei arwain gan Gyfarwyddwr Cerdd WNO, Tomáš Hanus, ei opera gyntaf gan Britten, gyda Melly Still yn cyfarwyddo gydag WNO am y tro cyntaf.
Mae’r opera hon, sy’n stori o ddirgelwch, rhagfarn a thrasiedi wedi’i threfnu i sgôr alawol, yn dilyn hanes y pysgotwr Peter Grimes wrth iddo frwydro yn erbyn y gwewyr y tu mewn iddo ar ôl i’w gymuned yn y dref arfordirol gefnu arno. Yn ystod yr opera hon, mae cyflwr meddyliol bregus Peter yn datod ac wedi hynny’n dymchwel yn dilyn digwyddiad trasig gyda phrentis pysgota mewn storm, digwyddiad y gŵyr Peter y bydd, yn anochel, yn cael ei feio amdano.
Yn ei berfformiad rôl cyntaf, mae’r tenor Nicky Spence yn ymgymryd â’r brif rôl, gan ddychwelyd i WNO yn dilyn perfformiadau yn The Makropulos Affair yn hydref 2022. Bydd y mezzo soprano arbennig o Brydain, y Fonesig Sarah Connolly hefyd yn perfformio ei rôl gyntaf fel Auntie. Bydd Sally Matthews yn perfformio am y tro cyntaf gydag WNO fel Ellen Orford. Hefyd yn ymuno â’r cast mae Oliver Johnston fel Bob Boles, Dominic Sedgwick fel Ned Keene a Catherine Wyn-Rogers fel Mrs Sedley. Ymhlith y llu o gantorion o Gymru sydd hefyd yn rhan o’r cast mae David Kempster, Fflur Wyn, Jeffrey Lloyd-Roberts a Sion Goronwy.
Dywedodd Cyfarwyddwr Peter Grimes, Melly Still:
‘Rwy’n dal i binsio fy hun: ydw, rydw i’n gweithio ar Peter Grimes gyda Nicky Spence o bawb. Rydym yn byw’n agos at ein gilydd, felly rydym yn cyfryngu ar y cymeriadau mwyaf cymhleth, cynddeiriog a thrist yn yr opera, dros goffi yn Deptford, a’i fabi hefo fo. Hefyd rydym yn gweithio â chast anhygoel - llawer ohonom am y tro cyntaf ym myd Grimes, yn cymysgu gyda chyfoeth o brofiad Grimes - actorion gwych yn ogystal â bod yn gantorion arbennig; mae’r Fonesig Sarah Connolly, Catherine Wyn-Rogers, David Kempster, Dominic Sedgwick, Fflur Wyn, Eiry Price, Sion Goronwy a Callum Thorpe ymhlith y rhai sy’n dod â thân gwyllt i arfordir Suffolk. Rwyf wrth fy modd yn cael dod ynghyd unwaith eto â hud ysbrydol Sally Matthews (Rusalka Glyndebourne), a’r hynod ystyriol Jeffrey Lloyd-Roberts (The Wreckers Glyndebourne). Yn ymuno â’r tîm hefyd, mae artistiaid dawns a theatr lleol arbennig, a fydd o gymorth i ni i gyflwyno’r portread amrwd di-glem hwn o rywun o’r tu allan. Wrth gwrs, mae ar rywun o’r tu allan angen cymuned i fynd benben â hi: yn yr achos hwn, grym llawn Corws gwych WNO. Ac yn ein hebrwng gyda gwerthfawrogiad hynod sensitif o weledigaeth Britten, mae Tomáš Hanus, sydd wastad yn wych.’
Mae Peter Grimes yn agor yng Nghaerdydd ar 5 Ebrill, cyn mynd ar daith i Southampton, Birmingham, Milton Keynes, a Plymouth.
Y Fonesig Sarah Connolly a Tomáš Hanus gyda Cherddorfa WNO
Ym mis Mawrth, bydd y Fonesig Sarah Connolly yn ymuno â Cherddorfa WNO ar gyfer cyngerdd dan arweiniad Cyfarwyddwr Cerdd WNO Tomáš Hanus. Bydd y mezzo soprano Sarah Connolly yn ymuno â’r Cwmni cyn ei pherfformiadau yn Peter Grimes i ganu Lieder Eines fahrenden gesellen (’Songs of a Wayfarer’) gan Mahler. Bydd y cyngerdd hefyd yn cynnwys Symffoni Rhif 8 Heb ei Gorffen Schubert, Symffoni Rhif 7 Sibelius ac Adagietto Mahler o Symffoni Rhif 5.
Bydd dau berfformiad o’r cyngerdd yn cael eu cynnal yn Neuadd Dora Stoutzker, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd, ar y 15 a’r 16 Mawrth.
The Marriage of Figaro
Yn dilyn y perfformiadau fis Chwefror, mae cynhyrchiad lliwgar Tobias Richter o The Marriage of Figaro, gan Mozart yn dychwelyd i Ganolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd ar 9 Ebrill, ynghyd â Peter Grimes, gyda Max Hoehn yn cyfarwyddo a chyn-Arweinydd Cyswllt WNO, Kerem Hasan, yn arwain.
Bydd y soprano Erika Grimaldi yn ymuno â’r cast, gan berfformio gydag WNO am y tro cyntaf yn ei rôl fel Countess Almaviva, gyda Chen Reiss yn ailafael yn y rôl pan mae’r cynhyrchiad yn teithio i Milton Keynes a Plymouth. Bydd Michael Mofidian, Christina Gansch, Harriet Eyley, Giorgio Caoduro, Wyn Pencarreg, Jeffrey Lloyd-Roberts, Artist Cyswllt WNO Eiry Price, Monika Sawa a Julian Boyce yn ailafael yn eu rolau ers perfformiadau Chwefror. Bydd Artist Cyswllt WNO, William Stevens, yn perfformio’r brif ran, Figaro, pan ar daith yn Plymouth.
Mae The Marriage of Figaro yn agor yng Nghaerdydd ar 9 Ebrill, cyn mynd ar daith i Southampton, Birmingham, Milton Keynes, a Plymouth.
The Marriage of Figaro Cwta | In Short
Yn dilyn rhaglen beilot lwyddiannus yn ystod Tymor 2023/2024, bydd Cwta | In Short yn dychwelyd gyda fersiwn gryno oThe Marriage of Figaro yn 2025. Mae Cwta | In Short yn cynnig fersiwn gryno o operâu clasurol gyda’r nod o annog pobl newydd i’r gelfyddyd.
Cynigir perfformiadau rhad ac am ddim ar ddyddiadau ym mis Ebrill a Mai, i grwpiau ysgol a grwpiau gwasanaeth cerdd yng Nghaerdydd, Southampton, Birmingham a Milton Keynes.
Chwarae Opera YN FYW
Mae Chwarae Opera YN FYW WNO yn dychwelyd i Gaerdydd cyn mynd ar daith y gwanwyn hwn, gyda’r holl weithgareddau difyr rhad ac am ddim yn y cyntedd cyn y perfformiadau yn cynnig dealltwriaeth fanylach o’r byd opera, gyda gwisgoedd, peintio wynebau a phropiau i’w cael.
Mae’r sioe deuluol ryngweithiol ac addysgiadol hon yn gyflwyniad perffaith i fyd opera a cherddoriaeth glasurol, a’r tro hwn, bydd gan y cyngherddau addasiadau cerddorol gan Ian Stephens o’r llyfr, sy’n ffefryn ymysg teuluoedd, We’re Going on a Bear Hunt. Bydd tôn arall, a wnaethpwyd yn enwog gan Pavarotti, ac a fu mewn cyfres o hysbysebion Cornetto, O sole mio, hefyd yn ymddangos.
Bydd Tom Redmond yn dychwelyd i gyflwyno’r sioe, a bydd Cerddorfa WNO a Chorws WNO, yn ogystal â’r tenor Oliver Johnston yn rhan ohoni. Bydd cyn-Artist Cyswllt WNO, y mezzo-soprano Beca Davies, ac Artist Cyswllt presennol WNO, Erin Rossington, yn ymuno â nhw. Mae Caroline Clegg yn dychwelyd i WNO i gyfarwyddo, yr arweinydd o Iwerddon, Karen Ni Bhroin yn perfformio gyda WNO am y tro cyntaf, a dyluniadau gan Yu Song.
Wedi’r perfformiadau yng Nghaerdydd, bydd y cyngherddau’n teithio i Southampton a Plymouth.
Sea Interludes
Dywedodd Britten: ‘Wrth ysgrifennu Peter Grimes, roeddwn yn awyddus i fynegi fy ymwybyddiaeth o drafferthion parhaol dynion a merched y mae eu bywoliaeth yn dibynnu ar y môr’. Gan efelychu nod y cyfansoddwr ar gyfer ei opera, ac mewn partneriaeth ag elusen Fishermen’s Mission, mae prosiect Sea Interludes WNO yn amlygu profiadau pysgotwyr yr oes fodern a’u teuluoedd drwy berfformiad cerddorol. Mae Peter Grimes yn cynnwys nifer o themâu a sefyllfaoedd y gall cymunedau pysgota cyfoes barhau i uniaethu â hwy, a bydd y prosiect hwn yn rhannu eu lleisiau a’u straeon ym myd yr opera. Wrth sgwrsio a chydweithio â chyfranogwyr o Gymru a Chernyw, bydd y cyfansoddwr Gareth Bonello (The Gentle Good) yn creu casgliad newydd o ddarnau sy’n cyfleu brwydrau, llwyddiannau a realaeth ddyddiol bywydau wedi ymroi i, ac yn ddibynnol ar, y môr.
Bydd y darnau newydd yn cael eu perfformio cyn dyddiadau Peter Grimes y Cwmni yng Nghaerdydd, gan gynnig gwell dealltwriaeth o’r alwedigaeth beryglus ac ansicr hon i gynulleidfaoedd, a dathlu’r unigolion sy’n llafurio ar y moroedd ar ein rhan.
Côr Lluoedd Arfog Our Space
Mae WNO yn partneriaethu â Theatre Royal Plymouth, i ffurfio côr Lluoedd Arfog newydd yn Plymouth, gan ehangu cenhadaeth Our Space TRP i ddarparu cyfleoedd llesiant creadigol i bersonél milwrol presennol, cyn-filwyr, a’r rhai sydd wedi eu hanafu, wedi brifo neu’n sâl hirdymor. Wedi’i ysgogi gan gynhyrchiad WNO o Peter Grimes, bydd prosiect cyntaf y côr yn archwilio amrywiaeth o ganeuon am y môr ac am forio. Bydd y prosiect yn diweddu gyda pherfformiad yn ystod Diwrnod Lluoedd Arfog Plymouth ym mis Mehefin.
Llesiant gydag WNO - Rhaglen Llesiant Creadigol Ysgolion
Mewn partneriaeth ag Adran Pediatreg Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, mae WNO wedi cadarnhau ei rhaglen Llesiant Creadigol Ysgolion am y drydedd flwyddyn. Bydd WNO yn cyflwyno rhaglen wyth wythnos o weithgareddau creadigol, a fydd yn cynnwys gweithio gydag ysgol gyfun yn Abertawe, gyda hyd at 30 o ddysgwyr a allai fod yn profi diffyg hyder a gorbryder.
Nod y prosiect yw defnyddio ystod o weithgareddau'r celfyddydau creadigol ynghyd â thechnegau anadlu a chanu o’r rhaglen Llesiant gydag WNO.
Bydd Rhaglenni a gweithgareddau Ymgysylltu rheolaidd WNO, yn cynnwys Côr Cysur a Dysgu, yn parhau drwy gydol y tymor.
Dywedodd Cyfarwyddwr Rhaglenni ac Ymgysylltu WNO, Emma Flatley:
‘Rydym wrth ein bodd yn gallu ehangu ein rhaglen Ymgysylltu trwy ddatblygu partneriaethau gyda TRP ac ar draws y GIG, i ddarparu prosiectau ysbrydoledig a gaiff gymaint o effaith ar lesiant ac iechyd meddwl pobl. Wrth i ni ail greu byd emosiynol Peter Grimes, Britten, mae ein rhaglen newydd gyda’r Fishermen’s Mission yn hynod amserol. Mae wedi bod yn fraint cael dathlu’r gymuned forwrol go iawn ledled Cymru a Chernyw, mewn straeon cerddorol sy’n dangos heriau gweithio ar y môr.’
DIWEDD
Nodiadau i Olygyddion
Opera Cenedlaethol Cymru yw'r cwmni opera cenedlaethol ar gyfer Cymru, a ariennir gan Gynghorau Celfyddydau Cymru a Lloegr i ddarparu cyngherddau, gwaith allgymorth ac operâu ar raddfa fawr ledled Cymru ac mewn dinasoedd mawr yn rhanbarthau Lloegr. Rydym yn ymdrechu i gynnig profiadau trawsnewidiol drwy ein rhaglen addysg ac allgymorth a'n prosiectau digidol llwyddiannus. Rydym yn gweithio gyda'n partneriaid i ddarganfod a meithrin doniau operatig ifanc, a'n nod yw dangos i genedlaethau'r dyfodol bod opera'n gelfyddyd foddhaus, berthnasol a byd-eang sydd â'r grym i gael effaith ac i ysbrydoli.
Mae lluniau cynyrchiadau WNO ar gael i'w lawrlwytho o https://wno.org.uk/cy/press
Mae rhagor o wybodaeth ynghylch gwaith WNO ar gael yn wno.org.uk/cy/
- Prif gefnogaeth i'r cynhyrchiad gan Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston.
- Cefnogir rôl Tomáš Hanus, Cyfarwyddwr Cerdd WNO, gan Marian a Gordon Pell
- Cefnogir Cynyrchiadau 2024/2025 gan Gronfa Dunard, Ymddiriedolaeth Opera Laidlaw a Sheila a Richard Brooks
- Cyflwynir Peter Grimes er cof am y diweddar Arglwydd Davies o Landinam
- Cefnogir Peter Grimes gan Grŵp Britten WNO
- Cefnogir Peter Grimes gan Paul Burbidge
- Cefnogir Cerddorfa WNO gan Mathew a Lucy Prichard
- Mae The Marriage of Figaro yn gynhyrchiad ar y cyd gyda Grand Théâtre de Genève a chaiff ei gefnogi gan Bartneriaid WNO
- Cyflwynir The Marriage of Figaro er cof am Eira Francis Davies
- Cefnogir Dysgu gydag WNO gan Sefydliad Garfield Weston ac Ymddiriedolaeth Gibbs
- Cefnogir Cysur gan Ymddiriedolaeth Elusennol Ivor ac Aeres Evans a Sefydliad Davies
- Cefnogir Rhaglenni a gweithgareddau Ymgysylltu WNO gan Ymddiriedolaeth Elusennol Joyce Fletcher
- Cefnogir Llesiant gyda WNO gan Gyngor Celfyddydau Cymru trwy Gronfa'r Loteri ar gyfer Iechyd a Llesiant drwy'r Celfyddydau
- Ariennir llesiant gyda Rhaglen Llesiant Creadigol Ysgolion WNO gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Am ragor o wybodaeth, lluniau neu gyfweliadau, cysylltwch â:
Christina Blakeman, Rheolwr Cyfathrebu