Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn dod a bywyd yr arloesol swffragét Margaret Haig Thomas, Boneddiges y Rhondda, i’r llwyfan yr haf hwn mewn cynhyrchiad swnllyd gyda chast o ferched yn unig mewn sioe o’r enw Rhondda Rips It Up!
8 Mawrth 2018- Sioe dull neuadd gerddoriaeth wreiddiol yn mynd ar daith ar gyfer tymor yr haf WNO
- Comisiwn newydd wedi ei gyfansoddi gan Elena Langer gyda libreto gan Emma Jenkins ac yn cynnwys cast sy’n ferched yn unig a thîm creadigol a gaiff ei arwain gan y cyfarwyddwr Caroline Clegg a’r cyfarwyddwr cerddorol Nicola Rose
- Serenna Lesley Garrett fel Meistres y Seremonïau (Emcee) a Madeleine Shaw fel Boneddiges y Rhondda
- Bydd y sioe yn cychwyn yn nhref enedigol Margaret Haig Thomas yng Nghasnewydd cyn teithio o amgylch Cymru a Lloegr
- Bydd WNO yn cynnal symposiwm yng Nghasnewydd yn trafod yr heriau y mae merched yn eu hwynebu yn y byd cerddoriaeth glasurol
- Bydd y daith hefyd yn cynnwys rhaglen gynhwysfawr o brosiectau cymunedol a phrosiectau ar gyfer yr ifanc ar brotestio, cicio yn erbyn y tresi a hawliau dynol a phrosiect digidol uchelgeisiol i ddod a Boneddiges y Rhondda yn fyw drwy osodiad Realiti Cymysg (Mixed Reality (MR)).
Mae bywyd y swffragét arloesol a’r ddynes fusnes, Margaret Haig Thomas, yn dod i’r llwyfan yr haf hwn mewn cynhyrchiad newydd gyda chast sy’n ferched yn unig gan Opera Cenedlaethol Cymru.
Nid yw Rhondda Rips It Up! fel unrhyw beth sydd wedi ei gyflwyno o’r blaen gan WNO. Caiff ei berfformio ar ddull neuadd gerddoriaeth glasurol gyda chaneuon gwreiddiol wedi eu hysbrydoli gan sloganau'r swffragetiaid. Mae’r cynhyrchiad tafod yn y boch hwn yn mynd a’r gynulleidfa ar daith hudolus y weithredwraig arbennig yma.
Roedd Boneddiges y Rhondda, fel y’i gelwir, yn swffragét a oedd yn rhedeg cangen Casnewydd o Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched sef y sefydliad milwrol a oedd yn ymgyrchu dros swffragetiaid yn y DU wedi ei sefydlu a’i rhedeg gan Emmeline Pankhurst.
Roedd hi’n ddynes fusnes arloesol ac yn aelod o fyrddau sawl cwmni rhyngwladol yn y 1920au. Hi oedd sefydlwr a golygydd y cylchgrawn dylanwadol femisintaidd Time and Tide ac ymgyrchodd yn ddiflino i sicrhau hawliau cyfartal ar gyfer merched. Hi oedd Llywydd Anrhydeddus benywaidd cyntaf Sefydliad y Cyfarwyddwyr ac wedi ei marwolaeth, roedd yn gyfrifol am sicrhau bod merched yn cael bod yn Nhŷ’r Arglwyddi.
Gyda nodi 100 mlynedd yn 2018 ers i’r dor gyntaf o ferched gael yr hawl cyfreithiol i bleidleisio, mae darlun swynol y WNO o fywyd Boneddiges y Rhondda wedi ei greu gan dîm o ferched gyda’r sgôr gwreiddiol wedi ei gyfansoddi gan Elena Langer a weithiodd ar Figaro Gets A Divorce gyda’r WNO a libreto gan Emma Jenkins a gyd-ysgrifennodd y libreto ar gyfer In Parenthesis a gyflwynwyd gan WNO yn 2016. Bydd y cynhyrchiad yn cael ei berfformio yn llwyr gan ferched.
Caroline Clegg sy’n arwain y tîm creadigol ac mae hi wedi gweithio yn flaenorol gyda WNO ar From The House of the Dead gan Janáček; y cyfarwyddwr cerddorol Nicola Rose (sydd wedi gweithio fel pianydd i WNO ers blynyddoedd) a’r cynllunydd Lara Booth.
Caiff rhan Boneddiges y Rhondda ei chwarae gan Madeleine Shaw (wedi ymddangos yn ddiweddar yn Der Rosenkavalier a Carmen ar gyfer WNO) a bydd y soprano Lesley Garrett yn arwain y gynulleidfa drwy’r stori fel Meistres y Seremonïau mewn cymeriad yn seiliedig ar fywyd y ddifyrwraig Vesta Tilley, arweinydd benywaidd yn dynwared dyn. Dychwela Lesley i WNO wedi iddi ddifyrru cynulleidfa yn The Merry Widow ac yna Chorus! yn ystod 2015.
Bydd Lesley ac aelodau o Gorws Merched WNO yn perfformio’r holl rolau eraill - gan gynnwys gwleidyddion gwrywaidd fel Winston Churchill, Herbert Henry Asquith a David Lloyd George ynghyd â thad Margaret, David Alfred Thomas, is-iarll cyntaf y Rhondda, a’i gŵr Sir Humphrey Mackworth (bu iddynt ysgaru cyn iddi ymgymryd â pherthynas gyda’r newyddiadurwraig Helen Archdale).
Gan ymadael a’r hyn sy’n arferol gan WNO yn ystod tymor yr haf, bydd Rhondda Rips It Up! yn cael ei ddangos am y tro cyntaf erioed yn y Riverfront yng Nghasnewydd cyn teithio ledled Cymru a Lloegr yn ystod mis Mehefin ac eto yn ystod yr hydref. Bydd y sioe yn ymddangos mewn lleoliadau llai mewn trefi a dinasoedd a bydd yn rhoi’r cyfle i WNO gyrraedd llawer iawn mwy o bobl gan gynnwys perfformiadau yn Aberhonddu, Treorci a’r Drenewydd. Bydd hefyd yn cael ei berfformio yn Hackney Empire yn Llundain am ddwy noson, lleoliad urddasol sy’n cynrychioli’r cyfnod a gaiff ei drafod yn y sioe.
Bydd rhaglen lawn o ddigwyddiadau rhad ac am ddim yn cyd fynd â’r cynhyrchiad er mwyn i bawb gael ymuno â gweithgareddau wedi eu cefnogi gan slogan y swffragét ‘Gweithredu nid Geiriau’ wrth i WNO weithio gydag ysgolion a grwpiau cymunedol eraill i ddathlu bywyd Margaret Haig Thomas. Bu i’w gwaith arwain y ffordd ar gyfer hawliau merched mewn byd personol, proffesiynol a gwleidyddol a hynny drwy gerddoriaeth, hiwmor a chân.
Bydd pobl ifanc yn gweithio gyda thîm creadigol y WNO i ddatblygu eu darnau neuadd gerddoriaeth eu hunain ar themâu protest, cicio yn erbyn y tresi a hawliau dynol a bydd corau cymunedol o gantorion yn perfformio mewn lleoliadau gyda chyfle i’r gynulleidfa ymuno a chanu gyda’r WNO. Bydd yna gyfres o weithdai a sgyrsiau yn ystod y daith ar gyfer grwpiau ar draws Cymru a Lloegr; gall cynulleidfaoedd hefyd weld ambell i swffragét yn galw heibio yn galw arnynt i ‘Bleidleisio ar gyfer Merched’.
Ar ddiwrnod y llwyfaniad cyntaf, bydd WNO hefyd yn cynnal symposiwm yng Nghasnewydd ar yr heriau y mae merched yn eu hwynebu yn y byd cerddoriaeth glasurol a fydd yn cynnwys nifer o siaradwyr amlwg ar draws y DU ac Ewrop yn rhannu eu profiadau, heriau ac yn edrych ar ffyrdd o wneud gwahaniaeth ar gyfer y dyfodol.
Bydd cyfres ddogfennol ar-lein wedi ei greu gan y libretydd Emma Jenkins, yn edrych ar stori ac anturiaethau'r swffragét o Gasnewydd, Margaret Haig Thomas, ac yn codi’r llen ar beth sydd angen i fynd â chomedi cerddorol modern o’r sgript i’r llwyfan.
Bydd WNO yn parhau gyda’i ddefnydd arloesol a chreadigol o dechnoleg ddigidol fel gwelwyd yn Field and Magic Butterfly. Dyma brosiect mwyaf uchelgeisiol ac arbrofol y cwmni hyd yn hyn sy’n cynnwys gosodiad Realiti Cymysg yn benodol i safle. Dyma arbrawf i WNO drwy gymysgu cerddoriaeth, theatr a pherfformiad. Bydd cynulleidfaoedd yn cael eu tywys o’r gwagle corfforol i amgylchedd estynedig drwy iPad fel y gall cynulleidfaoedd gael mynediad i fyd Boneddiges y Rhondda mewn ffordd gysylltiol ac unigryw.
Bydd yr Arddangosfa Realiti Estynedig yn caniatáu i gynulleidfaoedd archwilio The Sessions House ym Mrynbuga drwy rith luniau a thechnoleg - yma cafodd Margaret Haig Thomas ei rhoi ar brawf a’i dedfrydu am chwythu blwch postio yng Nghasnewydd gyda dyfais ffrwydrol wedi ei wneud gartref.
Dywedodd Cyfarwyddwr Artistig WNO, David Pountney: “Yn ystod yr haf eleni, mae WNO yn cyflwyno opera dull neuadd gerddoriaeth sy’n dathlu bywyd Boneddiges y Rhondda, Margaret Haig Thomas, drwy brofiadau digidol a chymunedol, fe daflodd hi bob rheol i’r neilltu ar gyfer merched ei chyfnod.”
‘Rydym yn falch o gael dod a bywyd un o arwresau tawel Cymru o symudiad y swffragetiaid i’r llwyfan. Roedd Boneddiges y Rhondda yn allweddol yn y frwydr i sicrhau cydraddoldeb i ferched gyda dros 40 mlynedd o ymgyrchu diddiwedd ac mae’n bwysig bod ei bywyd yn cael ei ddathlu. Mae ein tîm, sy’n ferched i gyd, yn berfformwyr cryf sydd wedi gweithio yn agos gyda chofiannydd Margaret, Angela John, ac rydym wedi ein hysbrydoli gan ganeuon ac areithiau'r swffragetiaid ynghyd â synau'r neuadd gerddoriaeth Edwardaidd i greu gwaith newydd amlwg a gwreiddiol sy’n wahanol iawn i waith arferol y WNO.’
Dywedodd cyfarwyddwr Rhondda Rips It Up!, Caroline Clegg: ‘Ei fod yn fraint cael dod â bywyd Boneddiges y Rhondda yn fyw ar y llwyfan: Mae Rhondda Rips It Up! yn wir ddathliad o fywyd merched annibynnol. Ynghyd â ymgyrchu er lles merched, roedd Margaret Haig Thomas yn ddynes fusnes arloesol ac yn ddynes annibynnol.’
‘Rydym yn gobeithio y bydd cynulleidfaoedd yn dysgu mwy am Foneddiges y Rhondda. Mae hi hefyd yn sioe eithriadol o wych gyda llawer iawn o ganeuon a dialog hwyliog a chyflym. Mae’r gerddoriaeth yn dal naws y cyfnod Edwardaidd ond mae yna deimlad cyfoes iddo hefyd. Mae’r libreto mor fywiog a doniol ac mae’r odlau a’r gerddoriaeth Edwardaidd yn farddonol iawn. Mae cynulleidfaoedd am gael lot o hwyl.’
Dywedodd y Libretydd Emma Jenkins: ‘Mae’n stomp hapus, yn chwip o stori. Yn hytrach na bod yn opera draddodiadol, mae ar ffurf neuadd gerddoriaeth Edwardaidd; gyda llawer iawn o bethau i wneud i’r gynulleidfa feddwl ddwywaith am ei ystyr a hiwmor risqué. Mae geiriau'r caneuon wedi eu hysgrifennu mewn odl sy’n rhoi rhythm gwych iddynt, ysbrydolwyd y libreto gan eiriau Margaret Haig Thomas ei hun. Rwyf wedi cymryd elfennau o’i bywyd a geiriau penodol y dywedodd ac wedi eu troi yn rhywbeth hollol newydd.’
Dywedodd y Cyfansoddwr Elena Langer: ‘Mae’r gerddoriaeth yn hybrid o ddulliau ac nid yw fel unrhyw beth arall rwyf wedi ei wneud o’r blaen. Mae’r gerddoriaeth wedi ei ysbrydoli gan sŵn cerddoriaeth y neuadd gerddoriaeth yn ystod y ganrif ddiwethaf ond rwyf wedi ei ail-ddiffinio yng nghyd-destun fy ngherddoriaeth fy hun. Rwyf wedi bod wrth fy modd yn ysgrifennu ar gyfer corws y merched mewn sioe mor ddynamig. Maent yn ferched; dynion; swffragetiaid; gwrth-swffragetiaid; gwŷr a chariadon; gwleidyddion a’r heddlu felly mae’r gerddoriaeth hefyd yn ddeinamig a chyflym.’
Dywedodd Lesley Garrett: ‘Mae Rhondda Rips It Up! yn ddathliad o fywyd dynes fendigedig. Roedd hi’n arloeswr, fel Emmeline Pankhurst ni ein hunain yma yng Nghymru. Dylai holl ferched Prydain fod yn ddiolchgar iddi. Mae’n anrhydedd bod yn rhan o waith sy’n dathlu merched mor bwerus â’u hymgais i sicrhau rhyddfreiniad, rhyddhad a pharch.’
Mae WNO yn falch iawn bod Ymddiriedolaeth Nicholas John wedi rhoi cyfraniad hael i gefnogi’r comisiwn newydd yma er cof am Joan Moody. Mae hyn yn parhau gyda thraddodiad yr Ymddiriedolaeth o gefnogi gwaith newydd ar gyfer y Cwmni a oedd yn cynnwys comisiynu In Parenthesis yn 2016.
Mae’r Cwmni yn ddiolchgar hefyd i Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston am eu cefnogaeth i’r cynhyrchiad a phrosiectau sy’n ymwneud ag o. Yn ychwanegol i’w cyfraniad hael, mae’r ymddiriedolaeth wedi rhoi addewid y byddant yn rhoi arian yn cyfateb pob cyfraniad sydd wedi ei wneud i Rhondda Rips It Up! hyd at swm o £25,000. Ers hynny, mae WNO wedi lansio ‘Undeb Rhondda’ fel y gall cefnogwyr unigol gymryd rhan a’r gobaith yw y bydd cynulleidfaoedd yn sianelu ‘Gweithredu nid Geiriau’ a chefnogi'r fenter newydd yma gyda’u cyfraniadau.
Mae’r Cwmni hefyd yn falch iawn bod lysgennad dylanwadol yn Noddwr ar gyfer codi arian: y Farwnes Gale o Flaenrhondda, Boneddiges Rhondda fodern, ac ymgyrchydd ar gyfer hawliau merched.
Lansiwyd Rhondda Rips It Up! yn swyddogol ddydd Iau 8 Mawrth yng nghartref WNO yng Nghanolfan y Mileniwm cyn digwyddiad wedi ei westeio gan Ann Jones, Dirprwy Swyddog Llywyddol yng Nghynulliad Cymru yn y Senedd er mwyn nodi Diwrnod Cenedlaethol y Merched.
Siaradodd y Cyfarwyddwr Caroline Clegg, y cyfansoddwr Elena Langer a’r libretydd Emma Jenkins am y cynhyrchiad. Rhoddodd Lesley Garrett a Madeleine Shaw berfformiad byr o’r darn gyda’r cyfeilydd Nicola Rose, cyfarwyddwr cerddorol y sioe, wrth y piano.
Mae mwy o wybodaeth am Rhondda Rips It Up! ar gael ar wno.org.uk
Diwedd
Nodiadau i Olygyddion
- Opera Cenedlaethol Cymru yw’r opera cenedlaethol ar gyfer Cymru. Caiff ei ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Lloegr i ddarparu opera ar raddfa fawr ar draws Cymru ac i ddinasoedd mawr yn rhanbarthau o Loegr.
- Mae lluniau WNO ar gael i’w lwytho i lawr yn www.wno.org.uk/press
- Am fwy o wybodaeth, lluniau neu gyfweliadau cysylltwch gyda Penny James a Branwen Jones, Rheolwr y Wasg a Chysylltiadau Cyhoeddus ar 029 20635038 neu penny.james@wno.org.uk / branwen.jones@wno.org.uk neu Christina Blakeman, Swyddog y Wasg 20635037 neu christina.blakeman@wno.org.uk
- Caiff Rhondda Rips It Up! ei gefnogi gan y canlynol: Ymddiriedolaeth Nicholas John er cof am Joan Moody, Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston - i greu rhaglen o weithgareddau cymunedol a gweithgareddau ar gyfer ieuenctid yng Nghymru, Sefydliad PRS, Ymddiriedolaeth The Leche, Ymddiriedolaeth RVW, Ymddiriedolaeth Elusennol Ambache, Ymddiriedolaeth Elusennol John Coates ac Undeb Rhondda'r WNO.
- Bydd y grŵp o Prosiect Ysgolion Casnewydd yn perfformio yn Glan yr Afon ar 7 Mehefin a bydd y grŵp o Prosiect Ysgolion Rhondda yn perfformio yn y Parc a’r Dâr ar y 27 Mehefin.
- Digwyddiadau Dewch i Ganu WNO yn Glan yr Afon (7 Mehefin), Theatr Brycheiniog (16 Mehefin) a Parc a’r Dâr (27 Mehefin).
- Bydd y corws cymunedol yn perfformio yn Glan yr Afon (7 Mehefin), y Mac (9 Mehefin), Theatr Newydd (14 Mehefin) a Parc and Dare (27 Mehefin).