Y Wasg

Cyhoeddi tymor 2018/19 Opera Cenedlaethol Cymru

8 Chwefror 2018

•Y Tymor yn agor gyda chynhyrchiad newydd o War and Peace Prokofiev

•Y triawd Verdi yn parhau yng ngwanwyn 2019 gyda chynhyrchiad newydd o Un ballo in maschera

•Cynlluniau am Dymor yr Haf arbennig ar thema Amnest, gan uno’r prif gwmni â’r Opera Ieuenctid a’r Corws Cymunedol

•Rhaglen deithio helaeth yng Nghymru a Lloegr, yn cynnwys mwy o gyngherddau teulu

Mae Opera Cenedlaethol Cymru wedi cyhoeddi ei raglen artistig ar gyfer 2018/19. Mae’r Tymor yn cynnwys cynhyrchiad newydd o War and Peace yn yr Hydref, parhad y triawd Verdi, sy’n ymestyn dros gyfnod o dair blynedd, gyda chynhyrchiad newydd o Un ballo in maschera yn y Gwanwyn, a chynlluniau am Dymor yr haf ar thema Amnest fydd yn dod â’r Cwmni cyfan ynghyd, o Gorws a Cherddorfa WNO i’r Opera Ieuenctid a’r Corws Cymunedol.

Yn ystod ei flwyddyn olaf fel Cyfarwyddwr Artistig WNO, bydd David Pountney yn gweithio ar y tri thymor artistig ar raglen fydd yn dathlu ehangder ei gyfeiriad artistig a dylanwad ei raglennu creadigol ar y Cwmni. Rydym yn falch iawn y bydd David yn parhau i weithio fel cyfarwyddwr gyda’r Cwmni yn y dyfodol ac yn dychwelyd i WNO ar gyfer prosiectau yn y dyfodol, yn cynnwys cyfarwyddo rhan olaf y triawd Verdi, Les vêpres siciliennes yng Ngwanwyn 2020. Yn ei flwyddyn olaf gyda’r Cwmni, mae’n dyst i’w waddol artistig fod ei gynhyrchiad o From the House of the Dead yn cael ei berfformio yng Ngŵyl Janáček Brno 2018 ar 2 Rhagfyr, cartref y cyfansoddwr ei hun a chartref Chyfarwyddwr Cerddoriaeth WNO Tomáš Hanus fydd yn arwain y perfformiad.

Hydref 2018 

Mae WNO yn dychwelyd i Rwsia yn Nhymor yr Hydref gyda chynhyrchiad newydd o War and Peace Prokofiev. Bydd Tomáš Hanus yn dychwelyd i’r prif lwyfan yn dilyn ei ymddangosiad yn Nhymor yr Hydref 2017, a ganmolwyd gan y beirniaid, gan ymuno unwaith eto â David Pountney, fydd yn cyfarwyddo.

Yn seiliedig ar nofel bwysig Tolstoy, mae’r opera’n portreadu hyfrydwch ac anwyldeb bywydau preifat carfan o aelodau cymdeithas fonheddig Rwsia, ac yna’n archwilio beth sy’n digwydd i’r personoliaethau hyn, ynghyd â holl bobl Rwsia, o ganlyniad i’r anhrefn a ddaw yn sgil ymosodiad Napoleon ar y wlad yn 1812. Dechreuodd Prokofiev ysgrifennu’r opera yn y 1940au ac, yn addas iawn i opera sydd â rhyfel a heddwch yn thema mor gryf ynddi, bydd yn cael ei pherfformio wrth i ganmlwyddiant cadoediad 1918 gael ei goffáu.

Mae Robert Innes Hopkins wedi seilio ei gynllun ar yr amffitheatr bren a greodd ar gyfer cynhyrchiad 2016 WNO o In Parenthesis. Mae hyn yn creu’r awyrgylch berffaith ar gyfer y ‘naratif cynulliadol’ lle mae cymdeithas Rwsia yn dod ynghyd i ddathlu stori ei goroesiad.

Fersiwn berfformio fydd hon yn seiliedig ar argraffiad beirniadol newydd Katya Ermolaeva a Rita McAllister o sgôr wreiddiol Prokofiev, a bydd yn cael ei berfformio yn Saesneg.

Rydym yn falch iawn fod y soprano Lauren Michelle yn dychwelyd i WNO yn dilyn ei pherfformiadau yn The Merchant of Venice, i chwarae rhan Natasha yn War and Peace. Mae gweddill y cast yn cynnwys Mark Le Brocq fel Pierre a Jonathan McGovern fel Andrei, gyda Jurgita Adamonyté, Leah-Marian Jones, Simon Bailey, David Stout, Adrian Dwyer, James Platt, Clive Bayley, ac aelodau o Gorws WNO yn chwarae rhannau amrywiol er mwyn pwysleisio’r syniad o ‘naratif cynulliadol’.

Hefyd yn yr hydref bydd adfywiad cyntaf WNO o gynhyrchiad 2007 o La Cenerentola Rossini, wedi ei arwain gan Tomáš Hanus. Mae’r opera ysgafn a lliwgar hon yn seiliedig ar stori Sinderela ac yn dilyn taith Angelina o’i gwreiddiau cyffredin i ddiweddglo rhamantus ei stori, sy’n cyrraedd uchafbwynt gyda’i aria olaf, Non più mesta.  

Rydym yn falch iawn o groesawu Tara Erraught i WNO ar gyfer ei hymddangosiad cyntaf gyda’r Cwmni mewn cynhyrchiad graddfa fawr, yn y brif ran Angelina. Mae tri chanwr Eidalaidd sydd ag enw rhagorol am eu harddull bel canto yn ymuno â’r cast i berfformio gyda’r Cwmni am y tro cyntaf: Matteo Macchioni (Don Rairo); Fabio Capitanucci (Don Magnifico) a Giorgio Caoduro (Dandini). Mae Wojtek Gierlach, Aoife Miskelly a Heather Lowe yn cwblhau’r cast.

Dywed Tomáš Hanus: ‘Mae canmlwyddiant diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf yn cael ei adleisio’n gryf iawn yn War and Peace Prokofiev. Rydw i’n edrych ymlaen yn fawr i weithio ar y campwaith hwn gyda’n Cerddorfa, Corws ac unawdwyr bendigedig. Bydd yn brofiad cyffroes a theimladwy i bob un ohonom ac i’r gynulleidfa. Byddwn wrth fy modd petai’r nosweithiau hyn yn dod yn gyfrwng personol iawn i rannu’r stori deimladwy hon a’r gerddoriaeth brydferth. Rydw i’n gobeithio hefyd y bydd ein cynulleidfaoedd yn mwynhau ac yn cael hwyl, ac yn profi, fel dywedodd Leonard Bernstein, ‘Orfoledd Cerddoriaeth’, gan y byddwn yn perfformio La Cenerentola hefyd, darn sydd â’r grym a’r prydferthwch i ddangos i bawb pa mor brydferth yw cerddoriaeth.’

Adfywiad o gynhyrchiad David McVicar o La traviata fydd trydedd opera Tymor yr Hydref, wedi ei arwain gan James Southall. Yn adrodd hanes trasig y butain llys Violetta a’i chariad Alfredo, mae La traviata yn dathlu trugaredd, cariad a hunanaberth yn wyneb rhagrith. Bydd y cast yn cynnwys Anush Hovhannisyan a Linda Richardson, fydd yn rhannu rhan Violetta, Kang Wang fel Alfredo a Roland Wood fel Giorgio.

Hefyd yn ystod tymor yr hydref, bydd rhagor o berfformiadau o Rhondda Rips It Up!, opera newydd WNO mewn arddull ‘neuadd gerddoriaeth’, sy’n dathlu’r swffragét Gymreig amlwg Margaret Haig Thomas (Arglwyddes Rhondda) can mlynedd wedi i ferched dderbyn yr hawl i bleidleisio. Gyda chast o ferched yn unig, mae’r cynhyrchiad yn agor ym mis Mehefin 2018, a bydd yn parhau i deithio ledled Cymru a Lloegr yn ystod Tymor yr Hydref WNO. I gyd-fynd â’r perfformiadau yn yr hydref cyflwynir rhaglen i ysgolion, Opera Engage, yn Southampton lle bydd WNO yn cynnal gweithdai gyda phobl ifanc rhwng 11-16 oed fydd yn gweithio ochr yn ochr â thîm creadigol WNO, cyfansoddwr, awdur a chantorion, yn ogystal â cherddorion lleol, i greu a pherfformio darnau mewn arddull neuadd gerddoriaeth ar thema protest, gwrthryfel a hawliau dynol, gan ymateb mewn modd theatrig i’r materion a gyflwynir yn Rhondda Rips It Up!

Gŵyl Janáček Brno 2018

Yn dilyn taith yr Hydref WNO bydd y Cwmni’n mynd â’i gynhyrchiad o From the House of the Dead Janáček, sydd wedi derbyn canmoliaeth gan y beirniaid, i Ŵyl Janáček Brno ar 2 Rhagfyr. Arweinir y perfformiad gan Tomáš Hanus, fydd yn mynd â’r Cwmni i’w dref enedigol am y tro cyntaf i ddathlu bywyd a gwaith Leoš Janáček. Bydd yn ddigwyddiad arbennig i’r cyfarwyddwr David Pountney hefyd, un sydd â chysylltiad hir â gwaith Janáček, ac a ddaeth â’r cyfansoddwr i amlygrwydd yn y DU gyda’i gylch arloesol o operâu Janáček yn y 1970au a 1980au, a gynhyrchwyd ar y cyd gan WNO a Scottish Opera.

Perfformir y cynhyrchiad gan ddefnyddio argraffiad beirniadol newydd y cerddolegwr John Tyrrell, a berfformiwyd gyntaf gan WNO yn hydref 2017, fersiwn sydd mor driw â phosib i fwriadau gwreiddiol Janáček.

Gwanwyn 2019 

Bydd cynhyrchiad newydd o Un ballo in maschera yn agor Tymor y Gwanwyn; ail gynhyrchiad trioleg Verdi WNO, wedi ei gyfarwyddo gan David Pountney a’i arwain gan Arweinydd Llawryfog WNO Carlo Rizzi, a’i gyd-gynhyrchu ag Oper dêr Stadt Bonn.

Fel operâu eraill y tymor hwn, mae Un ballo in maschera yn astudiaeth o Frenhiniaeth a’r berthynas rhwng materion personol a chyhoeddus. Mae’r bywyd preifat yn amlygu triongl serch trasig rhwng Amelia, ei gŵr Renato a’i chariad y Brenin (Riccardo), ffrind gorau Renato. Mae gan y Brenin obsesiwn â’r theatr a chuddwisg, ac mae hyn yn arwain at y ddawns fygydau a’r cynllwynio cynyddol yn ei erbyn gan ei elynion gwleidyddol a phersonol. Er gwaetha’r ffaith fod Riccardo’n ymwrthod â’i gariad tuag at Amelia yn y pendraw, yn uchafbwynt y darn daw Renato i wybod am y garwriaeth ac mae ei weithredoedd yn sgil y darganfyddiad hwnnw’n cael effaith ddinistriol.

Bydd y cast yn cynnwys y tenor uchel ei barch Gwyn Hughes-Jones, fydd yn canu rhan Riccardo a Sara Fulgoni, fydd yn canu rhan Ulrica.

Bydd ‘Peiriant Verdi’ y tîm cynllunio, set o dair ffrâm sy’n cyd-gloi, yn cael eu defnyddio unwaith eto yn y cynhyrchiad hwn, ond byddant yn edrych yn dra gwahanol i set La forza del destino, gan amlygu’r modd y mae’r Brenin yn chwarae â gwirionedd a chuddwisg drwy’r amser, ac yn colli ei synnwyr o realiti o ganlyniad i’w chwilfrydedd ynghylch yn y theatr.

Hefyd yn y gwanwyn bydd adfywiad o Roberto Devereux Donizetti a berfformiwyd gyntaf yn 2013 fel rhan o Dymor y Tuduriaid WNO. Bydd Carlo Rizzi’n arwain yr opera sydd wedi ei seilio’n fras ar fywyd Robert Devereux, Ail Iarll Essex a’i berthynas â’r Frenhines Elizabeth I. Bydd y cast yn cynnwys y soprano Joyce El-Khoury sy’n dychwelyd i WNO i chwarae rhan Elisabetta. Hefyd yn ymuno â’r cast fydd Justina Gringyté fel Sara a Gary Griffiths fel Nottingham.

Adfywiad clasurol o opera boblogaidd Mozart, The Magic Flute, wedi ei chanu yn Saesneg, fydd yn cloi Tymor y Gwanwyn. Mae’r cynhyrchiad hwn, wedi ei ysbrydoli gan Magritte, yn cynnwys cimwch blin, llew sy’n darllen papur newydd a physgodyn sy’n troi’n feic. Bydd y cast yn cynnwys Mark Stone fel Papageno ac Anita Watson fel Pamina.

Cyngherddau Cerddorfa WNO a rhaglen deithio

Mae Cerddorfa WNO wedi cynllunio rhaglen deithio gerddorfaol helaeth yng Nghymru a Lloegr yn ystod 2018/19. Bydd y Gerddorfa’n perfformio tri chyngerdd yn y Gyfres o Gyngherddau Rhyngwladol yn Neuadd Dewi Sant Caerdydd, wedi eu harwain gan y Cyfarwyddwr Cerddoriaeth Tomáš Hanus, rhwng mis Tachwedd 2018 a mis Mawrth 2019. Mae dau Gyngerdd i’r Teulu wedi eu cynllunio ar gyfer Caerdydd (28 Hydref 2018) a Birmingham (30 Mehefin 2019) a chyngerdd ysgolion yn Southampton (8 Mai 2019). Yn ogystal, bydd Cerddorfa WNO yn mynd â’i rhaglen boblogaidd o Gyngherddau Fienaidd Blwyddyn Newydd, sydd wedi hen sefydlu erbyn hyn, ar daith i nifer o leoliadau rhanbarthol ledled Cymru ym mis Ionawr 2019, dan arweiniad Arweinydd y Gerddorfa a’r meistr cyngerdd David Adams. Bydd y Gerddorfa’n teithio ledled Cymru a Lloegr hefyd gan ymweld â nifer o leoliadau rhanbarthol yn ystod haf 2019 fel rhan o’r rhaglen breswyl flynyddol, ac yn cyflwyno amrywiaeth eang o raglenni cerddorfaol safonol yn ogystal â chlasuron opera, sy’n boblogaidd iawn.

Gan gyfeirio at Dymor 2018/19, dywed David Pountney: ‘Mae gan Opera ddawn anhygoel i gwmpasu a chynrychioli digwyddiadau a symudiadau mawr mewn hanes. Nid yw’n edrych arnynt drwy lygaid cul gwleidyddiaeth, ond o safbwynt trugarog ac iachusol. Ar ddechrau ein blwyddyn, yn yr hydref, mae tair merch ifanc, faldodus a naïf efallai, ac annoeth o bosib, yn rhedeg i ffwrdd i chwilio am serch. Ar ddiwedd ein blwyddyn, rydym yn dod ar draws pobloedd gyfan yn ffoi rhag dioddefaint economaidd ac arswyd gwleidyddol. Mae hynny’n nodweddiadol o ehangder mynegiant operatig - o serch personol a phreifat i orymdaith aruchel hanes, a’r cyfan yn cael eu mynegi’n ddwys drwy lais dyrchafedig cerddoriaeth.’