Y Wasg

Opera Cenedlaethol Cymru yn lansio prosiect newydd ar gyfer ymgysylltu â’r gymuned yng Nghaerau a Threlái gyda’r actores BAFTA Rakie Ayola

22 Mai 2024

Flwyddyn ar ôl yr aflonyddwch cyhoeddus a ddigwyddodd yng Nghaerau a Threlái yn 2023, mae Opera Cenedlaethol Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn lansio prosiect newydd ar gyfer ymgysylltu â’r gymuned – sef Pont Trelái – gyda help yr actores BAFTA Rakie Ayola.

Rakie, a fagwyd yn Nhrelái, fydd llysgennad y prosiect. Y nod yw defnyddio grym trawsnewidiol cerddoriaeth a chreadigrwydd i gryfhau cysylltiadau cymunedol yn ardaloedd Caerau a Threlái yng Nghaerdydd.

Bydd Pont Trelái yn cyfrannu at waith ehangach sydd ar droed ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru a sefydliadau fel Gweithredu yng Nghaerau a Threlái er mwyn newid canfyddiadau a chyfoethogi bywydau pobl sy’n byw yn yr ardal – o gofio yr ystyrir bod yr ardal ymhlith y 10% gwaethaf yng Nghymru o ran amddifadedd.

Nod y rhaglen waith newydd hon gan WNO yw creu ffyrdd newydd ac ystyrlon o chwalu rhwystrau o ran cyfathrebu ac adeiladu pont er mwyn helpu pawb yn y gymuned i fyw a gweithio gyda’i gilydd. Bydd hefyd yn hwyluso gofod a rennir, lle bydd modd i wahanol fathau o bobl o bob cefndir ryngweithio a chreu celfyddyd sy’n dathlu’r gymuned.

Medd Rakie Ayola:

‘Pleser yw cael gweithio gydag Opera Cenedlaethol Cymru ar y prosiect hwn – bydd yn cynnig cyfle imi roi rhywbeth yn ôl i’r gymuned y cefais fy magu ynddi. Rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at gael gweithio ochr yn ochr â phobl Caerau a Threlái a chymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol a fydd yn dod â gwir lawenydd i ardal a gaiff ei chynrychioli’n annheg yn aml.’

‘Dyma gyfle i ddefnyddio doniau eithriadol pobl o bob oed wrth inni greu gwaith newydd a fydd yn adlewyrchu’r ysbryd cymunedol bywiog sy’n dal i ffynnu yng Nghaerau a Threlái.’

Cynhelir gweithdai WNO yn ysgolion cynradd Caerau a Threlái. Y nod ar y cychwyn fydd ennyn diddordeb plant 10-11 oed mewn addysg cerddoriaeth – rhywbeth arwyddocaol iawn ar adeg pan mae nifer o ysgolion yng Nghymru yn rhoi pynciau celf i’r naill ochr oherwydd cyfyngiadau ariannol.

Mae’r prosiect hefyd yn arwyddocaol gan fod grŵp oedran y plant a dargedir yn oedran pontio hollbwysig. Yn ystod y cyfnod datblygu hwn, mae disgyblion yn symud o ysgolion cynradd i ysgolion uwchradd, ac o ganlyniad maent yn ymddieithrio rhag addysg yn aml. Ceir nifer o achosion lle mae gangiau troseddu cyfundrefnol yn camfanteisio ar blant yr ardal, gan eu cymell i fasnachu cyffuriau trwy gyfrwng llinellau cyffuriau.

Mae’r ysgolion a ddewiswyd ar gyfer cam rhagarweiniol y prosiect yn cynnwys Ysgol Gynradd Gatholig Sant Francis ac Ysgol Gynradd Herbert Thompson. Yn nes ymlaen, bydd y prosiect yn cael ei ymestyn i ysgolion uwchradd a bydd gwaith cysylltiedig yn cael ei wneud yn Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd. Y gobaith yw y bydd yr ymgysylltu ychwanegol hwn yn helpu i fynd i’r afael â’r cymhlethdodau sy’n gysylltiedig â’r broses o bontio o’r naill gyfnod addysg allweddol i’r llall.

Sandra Taylor, Cynhyrchydd WNO, yw arweinydd y prosiect: Medd Sandra:

‘Mae modd i WNO gynnig cyfleoedd unigryw i blant a phobl ifanc weithio gyda gweithwyr proffesiynol hynod fedrus, a all eu hysbrydoli a helpu i ennyn dyheadau. Ar adeg pan mae’r cwricwlwm yn tueddu i roi’r celfyddydau i’r naill ochr, mae’r prosiect hwn yn cynnig cyfleoedd i fod yn greadigol – rhan bwysig o’r broses ddysgu sy’n helpu i feithrin chwilfrydedd, dychymyg, dewisiadau ac, yn y pen draw, y sgiliau ‘datrys problemau’ hollbwysig hynny y bydd eu hangen ar gyfer gyrfaoedd yn y dyfodol.’

Bydd y cam cyntaf hwn yn llywio’r modd y bydd prosiect Pont Trelái yn datblygu, gan alluogi ymarferwyr WNO i deilwra camau nesaf y rhaglen ar sail y dyheadau sydd gan y plant ar gyfer y prosiect.

Yna, bydd WNO yn bwrw ymlaen â’r cam nesaf. Bydd y cam hwnnw’n cynnwys gweithgareddau a fydd yn pontio’r cenedlaethau, gyda’r nod o ddwyn ynghyd y plant, y rhieni, yr athrawon a hoelion wyth y gymuned, fel gweithwyr cymdeithasol, aelodau o’r cyngor, ymatebwyr cyntaf a swyddogion Heddlu De Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wno.org.uk/cy

Diwedd

Nodiadau i Olygyddion

Opera Cenedlaethol Cymru yw’r cwmni opera cenedlaethol ar gyfer Cymru, a ariennir gan Gynghorau Celfyddydau Cymru a Lloegr i ddarparu cyngherddau, gwaith allgymorth ac operâu ar raddfa fawr ledled Cymru ac mewn dinasoedd mawr yn rhanbarthau Lloegr. Rydym yn ymdrechu i gynnig profiadau trawsnewidiol drwy ein rhaglen addysg ac allgymorth a’n prosiectau digidol llwyddiannus. Rydym yn gweithio gyda’n partneriaid i ddarganfod a meithrin doniau operatig ifanc, a’n nod yw dangos i genedlaethau’r dyfodol bod opera’n gelfyddyd foddhaus, berthnasol a byd-eang sydd â’r grym i gael effaith ac ysbrydoli.

Mae gan Rakie Ayola brofiad helaeth o weithio yn y theatr, ar y teledu, yn y byd ffilmiau ac ar y radio. Mae ei rolau clasurol yn cynnwys yr Arglwyddes Macbeth, Helena yn A Midsummer Night’s Dream, Portia yn The Merchant of Venice, Ariel yn The Tempest, Viola, Olivia yn Twelfth Night, Paulina yn The Winter’s Tale, ac yn fwyaf diweddar Regan yng nghynhyrchiad Talawa Theatr/Manchester Royal Exchange o King Lear, a ddarlledwyd yn ddiweddarach ar BBC4. Mae’r amryfal gwmnïau theatr y bu’n gweithio iddynt yn cynnwys y Royal Shakespeare Company, Birmingham Rep, y National Theatre a’r Globe. Yn y West End, mae Rakie wedi actio rhan Siobhan/yr adroddwr yn ‘The Curious Incident of the Dog in the Night Time’ a Hermione Granger yn ‘Harry Potter and the Cursed Child’. Mae ei gwaith ar y teledu ac yn y byd ffilmiau’n cynnwys Noughts and Crosses, Shetland, No Offence, Doctor Who – Midnight, Holby City, Been So Long a Dredd. Yn 2021, enillodd Wobr Teledu BAFTA am yr Actores Ategol Orau ar gyfer ei rôl yn ‘Anthony’, ac yn 2023 enillodd Wobr Siân Phillips yng Ngwobrau BAFTA CYMRU.

Mae lluniau o gynyrchiadau WNO ar gael i’w lawrlwytho o wno.org.uk/press

I gael rhagor o wybodaeth, lluniau neu gyfweliadau, cysylltwch â’r canlynol:

Rhys Edwards, Rheolwr Cyfathrebu

rhys.edwards@wno.org.uk

Penny James a Rachel Bowyer, Pennaeth Cyfathrebu (rhannu swydd)

penny.james@wno.org.uk / rachel.bowyer@wno.org.uk

wno.org.uk