Y Wasg

Opera Cenedlaethol Cymru yn Lansio Podlediad Newydd

11 Mehefin 2020
  • Bydd y Cwmni yn cyhoeddi dwy gyfres yn Gymraeg a Saesneg
  • Bydd y cyfresi yn cynnig cipolwg ar fyd opera i'r rhai sy'n anghyfarwydd ag ef, a chefnogwyr brwd, fel ei gilydd
  • Defnyddiwyd technoleg ddigidol i gynhyrchu'r cyfresi yn unol â mesurau cyfyngiadau symud

Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn lansio podlediad newydd gyda dwy gyfres; un Saesneg - The O Word - ac un yn Gymraeg - Cipolwg.

Mae'r podlediad newydd yn cael ei lansio i ddarparu cipolwg ar gwmni opera teithiol sy'n gweithio ar raddfa ryngwladol, a thynnu sylw at berthnasedd opera heddiw a'r pŵer sydd ganddi i newid bywydau.  Bydd y ddwy gyfres yn ymchwilio i waith ac effaith ehangach y Cwmni, ar y llwyfan ac yn y gymuned ehangach, yn ogystal ag edrych ar bynciau megis y manteision o ganu i bawb, a beth sydd ei angen i fod yn ganwr opera.

Bwriad y ddwy gyfres yw dod â gwrandawyr yn agosach at y bobl y tu cefn i WNO a'r byd operatig ehangach, a bod yn ffynhonnell wybodaeth ac adloniant i'r rhai sy'n caru opera a'r rhai sy'n newydd i'r gelfyddyd.

Cyflwynir y cyfresi ar ffurf 'sioe sgwrsio', gan gynnwys cyfweliadau, ffeithiau, ymddangosiadau, cipolwg y tu cefn i'r llen a hanesion o fyd opera a thu hwnt.  Bydd y penodau ar gael yn wythnosol, gyda'r rhai cyntaf yn lansio ar 11 Mehefin.

Cyflwynir The O Word gan Gareth Jones, newyddiadurwr â diddordeb mawr mewn opera.  Yn ystod y gyfres, bydd Gareth yn llywio'i ffordd o amgylch byd cwmni opera teithiol, ac yn siarad â'r rhai blaenllaw wrth geisio ateb rhai o'r cwestiynau cyffrous yn ymwneud ag opera, trafod materion cyfoes a dyfodol opera.  Bydd y gyfres yn cynnwys cyfweliadau gyda chantorion ac unigolion allweddol ym myd y celfyddydau a thu hwnt, a bydd y bennod gyntaf yn cynnwys cyfweliad gyda Gwyn Hughes Jones, y tenor o Gymru sy'n adnabyddus yn rhyngwladol.

Gan gadw at y mesurau presennol ar gyfarfodydd a pherfformiadau cyhoeddus, bydd The O Word yn archwilio'r heriau presennol o fewn y diwydiant, ac yn myfyrio ar sut fydd opera yn edrych yn y dyfodol.

Bydd y gyfres Gymreig, Cipolwg, yn cael ei chyflwyno gan y digrifwr a'r newyddiadurwr Lorna Prichard, sydd wedi bod â diddordeb gydol oes mewn opera ers iddi weld ei hopera gyntaf yn chwech oed yn y Rhyl.  Bydd y gyfres yn darparu 'cipolwg' ar fyd opera, a bydd Lorna yn sgwrsio â chantorion, arweinwyr, arbenigwyr ac aelodau'r gynulleidfa ac yn archwilio byd rhyfedd a gwych opera a cherddoriaeth glasurol.  Bydd y gyfres yn dangos y gwaith caled sy'n digwydd wrth greu opera, yn ogystal ag edrych ar yr effaith ehangach mae cwmni opera yn ei chael ar y gymuned.

Llwyddwyd i recordio'r cyfresi gan lynu at fesurau pellhau cymdeithasol a'r cyfyngiadau gan ddefnyddio llwyfannau digidol.  Mae WNO wedi gweithio'n agos â stiwdio recordio Tŷ Cerdd, gyda chynhyrchwyr a pheirianwyr yn gweithio o bell i gynorthwyo gyda'r broses olygu.

Dywedodd Aidan Lang, Cyfarwyddwr Cyffredinol WNO: "Mae ein podlediad wedi bod yn yr arfaeth ers misoedd, a phan ddaeth y mesurau i rym, roeddem yn meddwl y byddai'n rhaid i ni roi'r gorau i'r gwaith cynhyrchu. Fodd bynnag, rydym wedi llwyddo i ddefnyddio llwyfannau cyfathrebu digidol ac ewyllys da ein cynhyrchwyr a chyfwelwyr, yn ogystal ag arbenigedd gan Dŷ Cerdd, i barhau â'r gwaith cynhyrchu. Yn y pen draw rydym yn gobeithio ein bod wedi cynhyrchu dwy gyfres o bodlediadau cadarnhaol y bydd y gwrandawyr yn eu mwynhau nawr ac yn y dyfodol."

Dywedodd Gareth Jones:
"Mae The O Word yn cynnig cipolwg ar fyd opera yn ei gyfanrwydd; nid y cynyrchiadau yn unig, ond sut mae opera yn gweddu i fyd heddiw, ar y llwyfan ac oddi arno. Rwy'n gobeithio y bydd y podlediad yn ddefnyddiol i'r rhai sy'n awyddus i archwilio opera yn ystod y cyfnod heriol hwn, ac y byddant yn mwynhau gwrando ar y sioe cymaint ag y rwyf innau wedi mwynhau ei gwneud."

Dywedodd Lorna Prichard:
Bydd Cipolwg yn gadael i bobl weld y byd opera o safbwynt cefnogwr opera brwd (fi!). Yn wahanol i'r rhan fwyaf o bobl, nid wyf yn ysu am weld bandiau mewn cyngherddau, yn hytrach, rwy'n mwynhau operâu ac rwy'n ceisio eu gweld dro ar ôl tro! Hefyd, rwyf bob amser yn edrych ymlaen at ddod o hyd i weithiau a chynyrchiadau newydd, a dysgu mwy. Yn wir, mae hon yn swydd ddelfrydol i mi. Gyda lwc, byddaf yn creu cefnogwyr newydd ar gyfer y gelfyddyd arbennig hon ar hyd y daith!"

Byddwch yn gallu lawrlwytho'r podlediad o nifer o gyfarwyddiaduron podlediadau, yn cynnwys Spotify, Apple Podcasts a Google Podcasts yn ogystal â gwefan WNO. 

wno.cymru


Nodiadau i Olygyddion

  • Opera Cenedlaethol Cymru yw'r cwmni opera cenedlaethol ar gyfer Cymru, a ariennir gan Gynghorau Celfyddydau Cymru a Lloegr i ddarparu operâu ar raddfa fawr, cyngherddau a gwaith allgymorth ledled Cymru ac mewn dinasoedd mawr yn rhanbarthau Lloegr. Rydym yn ymdrechu i gynnig profiadau trawsnewidiol drwy ein rhaglen addysgol a chymunedol a'n prosiectau digidol o'r safon uchaf. Rydym yn gweithio â'n partneriaid i ddarganfod a meithrin doniau operatig ifanc, ac rydym yn anelu at ddangos i genedlaethau'r dyfodol bod opera yn gelfyddyd werthfawr, berthnasol a rhyngwladol gyda'r pŵer i gael effaith ac ysbrydoli
  • Byddwch yn gallu lawrlwytho'r podlediad o nifer o gyfarwyddiaduron podlediadau, yn cynnwys Apple Podcasts, Google Podcasts a Spotify.  I ddod o hyd i'r podlediad a thanysgrifio iddo, mae angen i wrandawyr chwilio am 'The O Word', 'Cipolwg' neu 'Opera Cenedlaethol Cymru', a chlicio tanysgrifio.  Mae hefyd ar gael ar wefan WNO: wno.org.uk/theoword
    wno.org.uk/cipolwg
    wno.org.uk/podcast
  • Gareth Jones
    Mae Gareth Jones wedi bod yn gweithio fel darlledwr a newyddiadurwr ers 36 mlynedd. Fel un o fideo-newyddiadurwyr cyntaf y DU bu'n gweithio drwy gydol y 1990au gyda nifer o ohebwyr tramor y BBC, yn ffilmio a ffeilio adroddiadau o bob cwr o'r byd. Ar ôl gweithio i'r BBC yn Llundain, aeth ymlaen i weithio i'r Cenhedloedd Unedig yn Genefa, cyn dychwelyd i Gymru lle ymunodd ag adran materion cyfoes y BBC. Bu iddo ennill nifer o wobrau am ei gyfres enwog a oedd yn dilyn milwyr o Gymru yn Irac ac Affganistan, ac yn ystod y blynyddoedd diweddar mae wedi arbenigo mewn creu rhaglenni dogfen i BBC Radio 4. Mae pontio i bodledu yn naturiol i Gareth, sydd wedi mwynhau defnyddio'r dechnoleg a'r technegau darlledu diweddaraf.
  • Lorna Prichard
    Mae Lorna Prichard yn ddigrifwr a newyddiadurwr. Cychwynnodd ei gyrfa fel newyddiadurwr darlledu yn gweithio i BBC Cymru am bedair blynedd, yna gweithiodd fel gohebydd sgrin i ITV Wales am saith mlynedd. Yn 2018 cychwynnodd weithio'n llawrydd i gydbwyso newyddiaduraeth gyda gyrfa mewn comedi stand-yp. Mae wedi perfformio ei brand o hiwmor cyffesol a llawn egni mewn gigiau a gwyliau Cymraeg a Saesneg ledled y DU yn cynnwys Gŵyl Gomedi Machynlleth, a tri pherfformiad yn Edinburgh Fringe Festival. Mae ei noson gomedi misol Howl yn Tramshed Caerdydd a Phafiliwn Pier Penarth yn ddigwyddiadau allweddol yng nghymuned gomedi de Cymru. Y llynedd, cyflwynodd dwy raglen i BBC Radio Wales ar Sunday Trading Laws a gwyliau Turkey & Tinsel. Ym mis Ebrill, cynhyrchodd a chyflwynodd raglen hanner awr o hyd ar fyw gyda'r cyflwr niwral, Synesthesia, ar gyfer BBC Radio Wales, gyda phodlediad ar y gweill. Mae sioe banel ar gyfer S4C wedi ei chomisiynu.

    Mae lluniau cynyrchiadau WNO ar gael i'w lawrlwytho o http://www.wno.org.uk/press

    Am ragor o wybodaeth, lluniau neu gyfweliadau cysylltwch â:

    Rachel Bowyer / Penny James, Rheolwr y Wasg a Materion Cyhoeddus (rhannu swydd)
    029 2063 5038
    rachel.bowyer@wno.org.uk
    / penny.james@wno.org.uk

    Rhys Edwards, Swyddog y Wasg
    029 2063 503
    rhys.edwards@wno.org.uk