Opera Cenedlaethol Cymru yn lansio'r Côr Cysur yn Aberdaugleddau, ar gyfer pobl sy'n byw â dementia yn Sir Benfro.
18 Hydref 2019Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn dymuno recriwtio aelodau i Gôr newydd, wedi'i leoli yn Sir Benfro fel rhan o brosiect rhyng-genedlaethol sy'n dwyn ynghyd 96 o blant ysgol gynradd o Ysgol Gynradd Gymunedol Aberdaugleddau a phobl leol sy'n byw â dementia.
Mae'r Côr Cysur yn cael ei greu gan WNO i annog y rhai hynny sy'n byw â dementia, eu teuluoedd a'u gofalwyr i fynychu sesiynau wythnosol i ganu ystod o ganeuon poblogaidd, gyda'r nod o fwynhau profiad cadarnhaol ar y cyd drwy gerddoriaeth. Arweinydd y Côr ar gyfer y sesiynau fydd David Fortey (o Only Men Aloud.) Bydd y côr newydd yn ymarfer ar foreau Llun yn Theatr Torch, Aberdaugleddau o ddydd Llun 28 Hydref ymlaen, a byddant yn perfformio gyda phlant ysgol lleol yn y cyngerdd terfynol ddechrau mis Gorffennaf 2020.
Yn ogystal â bod o fudd i bobl sy'n byw â dementia a'u teuluoedd, nod ehangach y prosiect yw cynyddu dealltwriaeth plant ifanc o ddementia. Mae sesiynau eisoes yn mynd rhagddynt gyda disgyblion Blwyddyn 5, rhwng 9 a 10 oed, o Aberdaugleddau. Yn ystod y prosiect, bydd y plant yn cael sesiynau ysgrifennu creadigol gyda'r bardd, Claire Williamson, gan ystyried themâu sy'n gysylltiedig â dementia a fydd yn sail i ystod o ganeuon newydd. Bydd y gerddoriaeth yn cael ei hychwanegu at y caneuon hyn gyda'r cyfansoddwr, Helen Woods yn ddiweddarach. Byddant hefyd yn cael gweithdy Ymwybyddiaeth o Ddementia sy'n briodol i oed a ddarperir gan PAVS (Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro). Drwy gydol y prosiect, bydd y plant yn cwrdd â phobl sydd â dementia ac yn dod i adnabod aelodau o'r Côr Cysur newydd drwy ymweliadau â chartrefi gofal lleol, a byddant yn ymgysylltu â gemau, y celfyddydau a chrefftau ar y cyd.
Daeth yr ysbrydoliaeth ar gyfer y prosiect Cysur o brofiad personol Cynhyrchydd Ieuenctid a Chymuned WNO, Jennifer Hill o salwch ei mam. Bu farw mam Jennifer o ddementia ym mis Hydref 2017. Cafodd ei synnu gan y ffaith bod unigolion yn aml yn dod i gysylltiad â dementia am y tro cyntaf, pan fo rhywun agos atynt yn mynd yn sâl. Dywedodd: "Hoffwn pe bawn wedi cael ymarfer i adnabod symptomau a nodweddion ymddygiad rhywun sydd â dementia a gwybodaeth well am y ffyrdd gorau a mwyaf caredig o gefnogi rhywun â'r salwch, gan eu helpu i barhau i deimlo'n rhan o gymuned a'u bod yn cael eu gwerthfawrogi. Gall y tameidiau lleiaf o wybodaeth a dealltwriaeth arwain at newid ymddygiadol sylweddol, gan wneud ein cymunedau yn fwy cyfeillgar i ddementia a bywydau'r rhai hynny sy'n byw â dementia fymryn yn haws."
Mae WNO yn falch o fod yn gweithio'n agos ag ystod o bartneriaid yn Sir Benfro, gan helpu i sefydlu'r prosiect, yn eu plith Theatr Torch, Cyngor Sir Benfro, Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro a'r Gymdeithas Alzheimer. Mae WNO hefyd yn ddiolchgar am gefnogaeth ariannol Garfield Weston ac Elusen Gwendoline a Margaret Davies.
Dywedodd Peter Doran, Cyfarwyddwr Artistig yn Theatr Torch "Yn 2016/17 gwnaeth Theatr Torch gyd-gynhyrchu Perthyn, sioe am ddementia a aeth ar daith ledled y wlad. Cafodd y cynhyrchiad effaith enfawr, nid yn unig ar y gynulleidfa, ond arnon ni i gyd hefyd a oedd yn cymryd rhan. Ers hynny, mae dementia wedi bod yn ganolog i lawer o'r hyn a wnawn yma. Mae'r Côr Cysur yn brosiect newydd a chyffrous arall, yr ydym yn falch iawn i fod yn rhan ohono."
Dywedodd Cherry Evans, Cysylltydd ar gyfer Cymunedau Cefnogi Dementia PAVS: "Mae PAVS yn falch iawn o gefnogi'r prosiect rhyng-genedlaethol hwn yn Sir Benfro. Wrth i ni gysylltu â'n cymunedau a gofyn iddynt ystyried eu lles, mae angen i ni sicrhau bod gennym wasanaethau ataliol i leihau arwahanrwydd a gwella cysylltiad cymdeithasol. I'n galluogi i wneud hyn, mae'n bwysig ein bod yn edrych ar weithio mewn partneriaeth ag ystod o sefydliadau. Mae hwn yn brosiect gwych i ddod i Aberdaugleddau, a bydd yn helpu teuluoedd i gael dealltwriaeth well o ddementia, drwy weithgareddau a fydd yn dwyn cenedlaethau ynghyd.
Mae'r Côr Cysur newydd yn agored i unrhyw un sy'n byw gyda dementia a'u cefnogwyr. Nid oes clyweliadau na chostau i gymryd rhan a gall cantorion o unrhyw safon ddod i ymuno â'r canu. Mae yna hefyd gyfleoedd i unrhyw un a all fod â phrofiad o'r salwch i wirfoddoli i gyd-ganu a helpu'n gyffredinol i gefnogi'r rhai hynny sy'n mynychu.
Am ragor o wybodaeth ac i gofrestru, cysylltwch â Jennifer Hill, Cynhyrchydd Ieuenctid a Chymuned WNO ar 02920 635063 neu drwy jennifer.hill@wno.org.uk
Nodiadau i Olygyddion
- Opera Cenedlaethol Cymru yw'r cwmni opera cenedlaethol ar gyfer Cymru. Ariennir WNO gan Gynghorau Celfyddydau Cymru a Lloegr i gyflwyno opera ar raddfa fawr ledled Cymru ac mewn dinasoedd mawr yn rhanbarthau Lloegr.
- Mae lluniau cynyrchiadau WNO ar gael i'w lawrlwytho o http://www.wno.org.uk/press
- Am ragor o wybodaeth, lluniau neu gyfweliadau cysylltwch â:
Rachel Bowyer / Penny James, Rheolwr y Wasg a Materion Cyhoeddus (rhannu swydd)
029 2063 5038
rachel.bowyer@wno.org.uk / penny.james@wno.org.uk
Rhys Edwards, Swyddog y Wasg
029 2063 5037
rhys.edwards@wno.org.uk
Grace Filmer, Cynorthwyydd y Wasg a Chyfathrebu
029 2063 5046
grace.filmer@wno.org.uk
- Cefnogir Cysur gan Gynllun Grant Cymunedau Cefnogi Dementia PAVS
- Cefnogir gweithgareddau Ieuenctid, Cymunedol a Digidol WNO gan rodd hael gan Sefydliad Garfield Weston