Cerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru yn Cyhoeddi Taith Cyngherddau Croesi Ffiniau Cymru a Lloegr, dan arweiniad Cyfarwyddwr Cerdd WNO, Tomáš Hanus
11 Mehefin 2024Bydd Cerddorfa WNO yn cychwyn ar daith gerddorol drwy rai o gampweithiau gorau Canolbarth Ewrop, ar gyfer eu taith gyngerdd haf ‘Croesi Ffiniau’ a gyflwynir gan Gyfarwyddwr Cerdd WNO Tomáš Hanus.
Mae’r daith yn agor ddydd Iau 4 Gorffennaf yn Theatr Brycheiniog, Aberhonddu a bydd yn ymweld â lleoliadau ledled Cymru a Lloegr, gan gynnwys Turners Sims, Southampton (9 Gorffennaf), Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd (11 Gorffennaf), Pontio, Bangor (12 Gorffennaf), Yr Hafren, Y Drenewydd (13 Gorffennaf) a Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth (21 Gorffennaf).
Yn agor y cyngerdd mae Agorawd bywiog The Bartered Bride gan Smetana, i nodi 200 mlwyddiant geni’r cyfansoddwr. Yna, bydd cynulleidfaoedd yn Aberhonddu, Southampton ac Aberystwyth yn cael gwledd o Goncerto Feiolin nodedig Beethoven, gyda’r unawdydd Arweinydd WNO David Adams. Yn y cyfamser, bydd cynulleidfaoedd ym Mangor, Caerdydd a’r Drenewydd yn clywed Concerto Clarinét telynegol Mozart yn A Fwyaf; Cyfansoddiad offerynnol olaf Mozart, gyda’r unawdydd Thomas Verity.
Dywed Thomas Verity: ‘Rydym mor ffodus fel clarinetwyr i gael un o gampweithiau hwyr Mozart yn ein repertoire craidd. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at chwarae’r Concerto ledled Cymru gyda fy nghydweithwyr gwych WNO. Rwy’n gweld yr ail symudiad araf yn arbennig o hardd, lle mae fel petai Mozart yn ysgrifennu aria opera ar gyfer y clarinét!’
Yn cloi’r rhaglen mae Symffoni Rhif 4 syfrdanol ac ysbrydoledig Schumann, wedi’i thrwytho â’r enwog ‘Thema Clara’, wedi’i chyflwyno i’w wraig.
Dywedodd Cyfarwyddwr Cerdd WNO, Tomáš Hanus, ‘Rwy’n falch iawn o gael mynd ar daith o amgylch Cymru a Lloegr gyda Croesi Ffiniau WNO yr haf hwn, gan ymweld â rhai lleoliadau newydd yn y gwledydd hardd hyn. Mae’n bleser gallu cyflwyno Agorawd Bartered Bride Smetana yn y flwyddyn sy’n nodi 200 mlynedd ers geni Smetana, gan ddod â cherddoriaeth o fy ngwlad (Tsiecia) i’r Deyrnas Unedig. Mae hefyd yn gyfle gwych i arddangos cerddorion eithriadol Cerddorfa WNO, ynghyd ag Arweinydd Cerddorfa WNO David Adams ac Arweinydd Adran y Clarinetau Thomas Verity, mewn dau goncerto enfawr o’r repertoire clasurol, Concerto Feiolin nerthol Beethoven a Choncerto Clarinét poblogaidd Mozart. Rydyn ni’n cwblhau’r rhaglen hon gyda 4edd Symffoni danllyd, ond llai adnabyddus, Schumann, sy’n arddangosiad perffaith o gerddoriaeth yr ensemble gwych hwn.”
Gellir archebu tocynnau ar gyfer y cyngerdd o bob lleoliad. Am ragor o wybodaeth ewch i wno.org.uk/orchestra
DIWEDD
Nodiadau Golygyddol
Opera Cenedlaethol Cymru yw cwmni opera cenedlaethol Cymru, a ariennir gan Gynghorau Celfyddydau Cymru a Lloegr i ddarparu opera ar raddfa fawr, cyngherddau ac allgymorth ledled Cymru ac i ddinasoedd mawr yn rhanbarthau Lloegr. Rydym yn ymdrechu i ddarparu profiadau trawsnewidiol trwy ein rhaglen addysg ac allgymorth a'n prosiectau digidol arobryn. Rydym yn gweithio gyda’n partneriaid i ddarganfod a meithrin talent weithredol ifanc, a’n nod yw dangos i genedlaethau’r dyfodol fod opera yn ffurf gelfyddydol werthfawr, berthnasol a chyffredinol gyda’r pŵer i effeithio ac ysbrydoli.
Mae delweddau cynhyrchiad WNO ar gael i'w lawrlwytho yn wno.org.uk/press
Ceir rhagor o wybodaeth ar gynyrchiadau'r WNO ar wno.org.uk
- Cefnogir y Gerddorfa a Chadeirydd Arweinydd y Gerddorfa gan Mathew a Lucy Prichard
- Noddir Prif Gadeiryddion aelodau Cerddorfa WNO gan Gylch Prif Chwaraewyr WNO
- Cefnogir rôl Tomáš Hanus fel Cyfarwyddwr Cerdd WNO yn hael gan Marian a Gordon Pell
Am fwy o wybodaeth, lluniau neu gyfweliadau cysylltwch â:
Sophie Revell, Cynorthwyydd y Wasg a Chyfathrebu
Christina Blakeman, Rheolwr y Wasg
Rhys Edwards, Rheolwr Cyfathrebu
Penny James a Rachel Bowyer, Pennaeth Cyfathrebu (rhannu swydd)
Penny.james@wno.org.uk / Rachel.bowyer@wno.org.uk
Dyddiadau Taith Croesi Ffiniau
Lleoliad | Lle | Dyddiad | Amser |
---|---|---|---|
Theatr Brycheiniog | Aberhonddu | Iau 4 Gorffennaf | 7pm |
Turner Sims | Southampton | Mawrth 9 Gorffennaf | 7pm |
Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru | Caerdydd | Iau 11 Gorffennaf | 7.30pm |
Pontio | Bangor | Gwener 12 Gorffennaf | 7pm |
Yr Hafren | Y Drenewydd | Sadwrn 13 Gorffennaf | 4pm |
Canolfan y Celfyddydau | Aberystwyth | Sul 21 Gorffennaf | 4pm |