- Ed Lyon yn serennu mewn cynhyrchiad newydd sbon o Candide Bernstein gan dîm creadigol uchel eu parch
- Cyhoeddi Artistiaid Cyswllt WNO newydd
- Opera Ieuenctid WNO yn perfformio sioe arddangos flynyddol yng Nghanolfan Mileniwm Cymru
- Cerddorfa WNO ar daith dros yr haf gyda Cerddoriaeth o'r Galon
Mae Tymor Haf Opera Cenedlaethol Cymru wedi'i gyhoeddi, sy'n cynnwys taith o gynhyrchiad newydd o Candide gan Leonard Bernstein. Bydd Opera Ieuenctid dawnus WNO yn perfformio eu sioe arddangos flynyddol, a bydd Cerddorfa WNO yn mynd ar daith dros yr haf gyda Cerddoriaeth o'r Galon ac yn ymweld â lleoliadau ym mhob cwr o'r wlad. Cyhoeddir hefyd Artistiaid Cyswllt newydd y Cwmni, a datganiad gan Artist Cyswllt y presennol a’r gorffennol.
Candide
Caiff Ffrainc y ddeunawfed ganrif ei chyfuno ag America yr ugeinfed ganrif am antur ryfeddol yn y cynhyrchiad newydd o Candide gan Bernstein gan WNO.
Cyfunir cerddoriaeth Bernstein â hiwmor Dorothy Parker mewn perfformiad cerddorol sy'n tynnu ynghyd Broadway, y byd opera a dychan nofel wreiddiol Voltaire. Yng nghynhyrchiad newydd WNO, ceir byd dychmygol o gerddoriaeth, animeiddiad a dawns gyda gogwydd gwleidyddol. Caiff cymunedau eu hollti gan anghydraddoldeb, a theuluoedd eu drysu gan ryfel mewn stori sydd yr un mor berthnasol heddiw ag ydoedd pan y'i hysgrifennwyd gyntaf ym 1759.
Mae'r cynhyrchiad hwn yn dwyn ynghyd tîm creadigol uchel eu parch (enillwyr gwobr National French Critics yn 2022 am eu cynhyrchiad o The Snow Queen) dan arweiniad y cyfarwyddwr James Bonas. Yn gyfrifol am y gwisgoedd mae Nathalie Pallandre, y tu ôl i'r setiau mae Thibault Vancraenenbroeck, a Grégoire Pont yw meistr y fideo a'r animeiddiad. Dychwela'r arweinydd o America, Karen Kamensek, i WNO i ail-afael yn ei baton.
Y tenor Ed Lyon fydd yn canu prif rôl Candide ac yn ymuno ag ef yn y cast mae Vuvu Mpofu (Cunégonde), Madeleine Shaw (Yr Hen Fenyw) a Mark Nathan (Maximilian).
Bydd taith Candide yn dechrau yng Nghaerdydd (22–24 Mehefin) cyn iddynt grwydro i Truro (28 Mehefin), Llandudno (5 Gorffennaf), Rhydychen (8 Gorffennaf), Birmingham (12 Gorffennaf) ac Aberhonddu (15 Gorffennaf).
Artistiaid Cyswllt WNO
Bydd Artist Cyswllt WNO presennol Dafydd Allen a’r cyn-Artist Cyswllt Isabelle Peters yn perfformio am 1pm yn Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd ar 2 Mai.
Y ddau artist sydd wedi dewis eu repertoire. Ymhlith repertoire Dafydd mae Cinq melodies, Op. 2 gan Henri Duparc, In Flanders gan Ivor Gurney a Gwynfyd gan Meirion Williams, a bydd Isabelle yn canu gweithiau yn cynnwys Ariettes Oubliées gan Debussy, Nichts a Ich schwebe gan Strauss, a Lercehngesang gan Brahms.
Bydd triawd o Artistiaid Cyswllt newydd yn ymuno ag WNO fis Medi; sef y soprano Emily Christina Loftus, a'r mezzo-sopranos Beca Davies a Melissa Gregory. Fel rhan o'u cyfnod fel Artistiaid Cyswllt gydag WNO, bydd y tri yn derbyn hyfforddiant, cefnogaeth ac yn cael cyfle i ddatblygu eu sgiliau perfformio drwy rolau mewn operâu, cyngherddau a gwaith cymunedol ac ymgysylltu WNO.
The Pied Piper of Hamelin and The Crab That Played With The Sea: Perfformiad Opera Ieuenctid Seligman
Bydd sain hyfryd dros 80 o leisiau pobl ifanc rhwng 8 a 25 oed i'w glywed pan fydd Opera Ieuenctid WNO yn cyflwyno eu sioe agoriadol flynyddol yn Stiwdio Weston, Canolfan Mileniwm Cymru, a hynny mewn pedwar perfformiad ar 27–28 Mai. Mae WNO yn cydnabod rhodd hael y diweddar David Seligman a’r Rhodd Philippa a David Seligman.
Yn y bil dwbl corawl hwn, wedi'u gosod i gerddoriaeth gan Jonathan Willcocks a Paul Ayres, yn y drefn honno, bydd y grŵp dawnus o gantorion ifanc yn mynd ati i ddechrau i adrodd stori The Pied Piper of Hamelin sy'n defnyddio peipen hud i gael gwared ar lygod mawr y dref ac mae torri addewid yn arwain ato yn dial. Mae'r ail stori, The Crab That Played With The Sea, yn seiliedig ar Just So Stories gan Rudyard Kipling, yn darlunio dau gam y llanw a thrawsnewidiad y cranc o fwrddrwg enfawr i halen y ddaear. Y cyfarwyddwr uchel ei bri, Angharad Lee, sy'n cyfarwyddo'r sioe arddangos, a fydd yn cynnwys pypedwaith dychmygol ac ensemble bach o offerynwyr. Mae'r set a ddyluniwyd gan Céleste Langrée wedi'i ysbrydoli gan wersylloedd ieuenctid Llangrannog a Glan-llyn a bywiogrwydd meysydd chwarae pentrefi. Y Cyfarwyddwr Cerddoriaeth, Dan Perkin, fydd yn arwain.
Cerddorfa WNO
Canwr y Byd Caerdydd y BBC
Bydd Cerddorfa WNO yn ymuno â dathliadau pen-blwydd Canwr y Byd Caerdydd y BBC yn 40 oed fis Mehefin 2023, gan berfformio mewn cyngerdd Gala arbennig dan faton Pietro Rizzo ac yn serennu Louise Alder, Claire Barnett-Jones, Luis Gomes ac Andrei Kymach yn Neuadd Dewi Sant ar 16 Mehefin. Bydd Cerddorfa WNO hefyd yn ymuno â'r cantorion ar gyfer rownd gyntaf a thrydedd rownd y gystadleuaeth gyda'r arweinydd Michael Christie, a bydd Cyfarwyddwr Cyffredinol WNO, Aidan Lang, yn cadeirio'r Panel Beirniadu ar gyfer y Brif Wobr.
Taith yr Haf – Cerddoriaeth o’r Galon
Yr Haf hwn, bydd Cerddorfa WNO a'r arweinydd Matthew Kofi Waldren yn cydweithio â'r tenor, Trystan Llŷr Griffiths, a'r soprano, Nadine Benjamin, mewn rhaglen sy'n cynnwys detholiad o ariâu, deuawdau a chaneuon cerddorfaol sy'n cynrychioli dwyster cariad, serch a thor-calon, gan gynnwys Agorawd La forza del destino gan Verdi a'r Gypsy Dance yn Carmen gan Bizet, ochr yn ochr ag uchafbwyntiau a ffefrynnau o La traviata, Norma, Tosca ac Eugene Onegin.
Bydd y Gerddorfa yn galw heibio lleoliadau yn Barnstaple (Queen’s Theatre, 27 Mehefin), Torquay (Princess Theatre, 29 Mehefin), Casnewydd (Glan yr Afon, 30 Mehefin), Wolverhampton (The Grand Theatre, 2 Gorffennaf), Bangor (Canolfan Gelfyddydau Pontio, 18 Gorffennaf) a Southampton (Turner Sims, 20 Gorffennaf).
Meddai Cyfarwyddwr Cyffredinol WNO, Aidan Lang:
"Mae Candide yn ddarn gwych ar gyfer y Gerddorfa a thrwy roi'r cerddorion ar y llwyfan, bydd modd eu gweld yn serennu ochr yn ochr â'r cantorion. Bydd yr animeiddiad yn arwain cynulleidfaoedd ar daith gyflym a doniol mewn cynhyrchiad theatrig tu hwnt. Bydd ein Cerddorfa anhygoel yn WNO hefyd yn diddanu cynulleidfaoedd ar draws y wlad fel rhan o'u taith yr haf ac yng nghystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd. Pleser gennym yw croesawu tri Artist Cyswllt newydd i'r Cwmni, yn ogystal â dathlu doniau artistiaid presennol mewn perfformiad arbennig wrth iddynt agosáu at ddiwedd eu deiliadaeth. Bydd llond trol o ddoniau newydd i'w weld pan fydd Opera Ieuenctid WNO yn perfformio eu sioe arddangosl flynyddol, gan ein hatgoffa fod dyfodol y byd opera yng Nghymru mewn dwylo diogel."
DIWEDD
Nodiadau i Olygyddion
- Opera Cenedlaethol Cymru yw'r cwmni opera cenedlaethol ar gyfer Cymru, a ariennir gan Gynghorau Celfyddydau Cymru a Lloegr i ddarparu operâu ar raddfa fawr, cyngherddau a gwaith allgymorth ledled Cymru ac mewn dinasoedd mawr yn rhanbarthau Lloegr. Rydym yn ymdrechu i gynnig profiadau trawsnewidiol drwy ein rhaglen addysg ac allgymorth a'n prosiectau digidol llwyddiannus. Rydym yn gweithio gyda'n partneriaid i ddarganfod a meithrin doniau operatig ifanc, a'n nod yw dangos i genedlaethau'r dyfodol bod opera'n gelfyddyd foddhaus, berthnasol a byd-eang sydd â'r grym i gael effaith ac ysbrydoli.
- Mae lluniau y wasg WNO ar gael i'w lawrlwytho o https://wno.org.uk/cy/press
- Cefnogir The Pied Piper of Hamelin and The Crab That Played With The Sea: Perfformiad Opera Ieuenctid Seligman gan rodd o’r diweddar David Seligman a’r Rhodd Seligman.
- Cefnogir Opera Ieuenctid WNO gan Ymddiriedolaeth Elusennol Gibbs
- Caiff rhaglen Artistiaid Cyswllt WNO ei chefnogi gan Fwrsariaeth Shirley a Rolf Olsen, Bwrsariaeth Sheila a Richard Brooks, Gwobr Syr John Moores WNO, Ysgoloriaeth Anthony Evans, Bwrsariaeth Chris Ball, Ymddiriedolaeth Clive Richards, Ymddiriedolaeth Elusennol Thriplow, ac Ymddiriedolaeth Elusennol Joseph Strong Frazer
- Cyngherddau'r Gerddorfa – Cadeiriau'r Meistr wedi'u cefnogi gan y Cylch Prif Chwaraewyr
- Cefnogir rhaglen Datblygu Doniau WNO gan Sefydliad Kirby Laing ac Ymddiriedolaeth Elusennol Teulu Bateman
- Mae cynyrchiadau a chomisiynau newydd WNO yn cael eu cefnogi gan Sefydliad John Ellerman
Am ragor o wybodaeth, lluniau neu gyfweliadau, cysylltwch â:
Christina Blakeman, Swyddog y Wasg
Giselle Dugdale, Swyddog y Wasg
Penny James a Rachel Bowyer, Pennaeth Cyfathrebu (rhannu swydd)

