Y Wasg

Opera Cenedlaethol Cymru yn cyhoeddi cynlluniau ar gyfer Haf 2024

30 Ebrill 2024
  • Arweinydd Llawryfog WNO, Carlo Rizzi yn dychwelyd i arwain Il trittico gan Puccini
  • Cyfarwyddwr Cerddoriaeth WNO Tomáš Hanus yn arwain taith gyngherddau haf Cerddorfa WNO am y tro cyntaf gyda Chroesi Ffiniau  
  • Opera Ieuenctid WNO yn perfformio arddangosiad blynyddol yng Nghanolfan Mileniwm Cymru

Mae Tymor Haf Opera Cenedlaethol Cymru wedi’i gyhoeddi, a fydd yn cynnwys triptych o operâu un act Puccini, taith o gyngherddau gan Gerddorfa WNO sy’n cael ei arwain am y tro cyntaf gan Gyfarwyddwr Cerddoriaeth WNO Tomáš Hanus, a pherfformiad blynyddol Opera Ieuenctid WNO, sef cynhyrchiad newydd o waith Cary John Franklin, The Very Last Green Thing.

Il trittico

Ar y cyd â Scottish Opera, bydd WNO yn perfformio Il tabarro, Suor Angelica a Gianni Schicchi gan Puccini mewn un noson, fel y bwriadwyd gan y cyfansoddwr.

Mae Il tabarro yn adrodd hanes priodas anhapus a gwraig sy’n ysu i ddianc, gyda chanlyniadau milain. Mae Suor Angelica yn dilyn aberth lleian a’i hiraeth am ei theulu ar ôl iddi gael ei hanfon i’r lleiandy i edifarhau am ei phechodau, ac mae Gianni Schicchi, sy’n cynnwys yr aria boblogaidd O mio babbino caro, yn adrodd hanes twyll a thrachwant wrth i deulu ddadlau am ewyllys coll. 

Mae Arweinydd Llawryfog WNO, Carlo Rizzi yn dychwelyd i arwain y cynhyrchiad newydd hwn gyda Greg Eldridge yn cyfarwyddo i ddod â gweledigaeth Syr David McVicar yn fyw. Mae’r cynhyrchiad yn dod ag ensemble o’r safon uchaf ynghyd gyda Roland Wood yn dychwelyd i rolau Michele (Il tabarro) a phrif rôl Gianni Schicchi ar ôl perfformio’r rolau hyn gyda Scottish Opera, ac Alexia Voulgaridou yn dychwelyd i WNO i ganu rolau Giorgetta (Il tabarro) a’r brif rôl Suor Angelica. Yn ei 35ain blwyddyn yn perfformio gyda WNO, mae’r soprano o Gymru, Rebecca Evans, yn ymuno â’r cast i chwarae rôl Nella (Gianni Schicchi). Mae’r cast hefyd yn cynnwys Tichina Vaughn a Sioned Gwen Davies sy’n perfformio gyda’r Cwmni am y tro cyntaf, Leonardo Caimi, Haegee Lee, Sioned Gwen Davies ac Alison Kettlewell.

Bydd Il trittico yn agor yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd ar 15 Mehefin tan 22 Mehefin.

Dywedodd Carlo Rizzi, Arweinydd Llawryfog WNO:

'Mae Il trittico yn cynnig tair opera fer mewn un noson: un sy’n dywyll a threisgar; un sy’n dorcalonnus o drist; ac un comedi ffraeth. Mae’r rhain yn straeon gwahanol iawn gyda cherddoriaeth Puccini yn cynnig amrywiaeth ddramatig yn y ffordd y cânt eu hadrodd.

‘I mi, mae thema ddynol a bythol yn clymu pob un at ei gilydd, a bydd hynny yn fy meddwl wrth i mi arwain. Y thema hon yw effaith plant ar fywydau eu rhieni. Yn Il tabarro, mae perthynas Michele a Giorgetta yn chwalu wedi iddynt golli eu plentyn, mae Suor Angelica yn dewis marw er mwyn aduno gyda’i phlentyn wedi hynny, ac mae Gianni Schicchi yn mynd i uffern (yn ôl Dante) am ddynwared Buoso Donati, er mwyn sicrhau cariad a diweddglo hapus i’w ferch, Lauretta.

‘Rydw i’n edrych ymlaen yn fawr iawn at ddechrau’r ymarferion ac i arwain Cerddorfa wych WNO yn dilyn llwyddiant ein prosiect recordio Puccini yn ddiweddar, a chyn hynny, cymaint o berfformiadau Puccini byw yng Nghymru ac o amgylch Lloegr dros y 30 mlynedd yr ydym wedi bod yn cydweithio.’

The Very Last Green Thing: Perfformiad Opera Ieuenctid Seligman

Yr haf hwn, bydd Opera Ieuenctid WNO yn perfformio opera dyfodolaidd Cary John Franklin, The Very Last Green Thing yn eu harddangosiad blynyddol yn Stiwdio Weston yng Nghanolfan Mileniwm Cymru mewn pedwar perfformiad ar 25-26 Mai. Mae’r opera, sy’n seiliedig yn y flwyddyn 2423, yn dilyn grŵp o blant ysgol a’u hathro android sy’n mynd am dro yn yr awyr agored, ac yn dod o hyd i gapsiwl amser a adawyd gan blant o 400 mlynedd yn ôl. Mae’r cast dwbl yn cynnwys 70 o leisiau ifanc 10 i 18 mlwydd oed, gyda chantorion o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, y lleisiau bariton HoWang Yuen a John Rhys Liddington yn rhannu rôl Android. Mae’r ddau’n dychwelyd ar ôl perfformio gyda WNO yn y cynhyrchiad Cherry Town, Moscow.

Bydd Dan Perkin, Cyfarwyddwr Cerddoriaeth Opera Ieuenctid WNO, yn arwain, a Rhian Hutchings yn cyfarwyddo, gyda dyluniadau gan Greta Baxter. Yn dilyn y perfformiad, bydd cantorion o’r grŵp 14-18 mlwydd oed hefyd yn perfformio opera newydd sbon 10 munud o hyd o’r enw Solomon’s Ring - darn a ddyfeisiwyd ganddynt gyda Dan a Rhian. Mae’r opera micro yn archwilio sut y gallai pethau sy’n ymddangos yn ddifywyd ddal pŵer go iawn.

Cerddorfa WNO

Taith yr Haf – Croesi Ffiniau

Am y tro cyntaf, bydd Cyfarwyddwr Cerddoriaeth WNO Tomáš Hanus yn arwain Cerddorfa WNO ar daith o amgylch Cymru a’r De Orllewin mewn rhaglen sy’n cynnwys detholiad o gampweithiau gorau Canol Ewrop. Bydd pob perfformiad yn dechrau gyda’r Agorawd o The Bartered Bride gan Smetana, i gydnabod mai 2024 yw blwyddyn cerddoriaeth Tsieceg.

Gan ddibynnu ar y lleoliad, mae cerddoriaeth gerddorfaol arall sy’n rhan o’r gyngerdd yn cynnwys Concerto Feiolin Beethoven gyda’r unawdydd offerynnol David Adams (Aberhonddu, Southampton ac Aberystwyth), neu Goncerto i’r Clarinét mewn A Fwyaf Mozart gyda’r unawdydd offerynnol Thomas Verity (Bangor, Caerdydd a’r Drenewydd). I gloi’r cyngherddau, ceir perfformiad o Symffoni Rhif 4 Schumann, wedi’i drwytho â’r ‘Thema Clara’ enwog, er anrhydedd i’w wraig.

Bydd y Gerddorfa yn perfformio mewn lleoliadau yn Aberhonddu (Theatr Brycheiniog, 4 Gorffennaf), Southampton (Turner Sims, 9 July), Caerdydd (Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, 11 Gorffennaf), Bangor (Canolfan Celfyddydau Pontio, 12 Gorffennaf), Y Drenewydd (Hafren, 13 Gorffennaf) ac Aberystwyth (Canolfan y Celfyddydau, 21 Gorffennaf).

Bydd Cerddorfa WNO hefyd yn perfformio eto eleni yng Ngŵyl Gerdd Abergwaun. Yn gyntaf yng Nghadeirlan Tŷ Ddewi ar 19 Gorffennaf gyda Chyfarwyddwr Cerddorol WNO Tomáš Hanus, ac yna yn y lleoliad siambr, Rhosygilwen ar 25 Gorffennaf dan arweiniad y cyngerddfeistr, David Adams.

DIWEDD

Nodiadau i Olygyddion

  • Opera Cenedlaethol Cymru yw’r cwmni opera cenedlaethol ar gyfer Cymru, a ariennir gan Gynghorau Celfyddydau Cymru a Lloegr i ddarparu cyngherddau, gwaith allgymorth ac operâu ar raddfa fawr ledled Cymru ac mewn dinasoedd mawr yn rhanbarthau Lloegr. Rydym yn ymdrechu i gynnig profiadau trawsnewidiol drwy ein rhaglen addysg ac allgymorth a’n prosiectau digidol llwyddiannus. Rydym yn gweithio gyda’n partneriaid i ddarganfod a meithrin doniau operatig ifanc, a’n nod yw dangos i genedlaethau’r dyfodol bod opera’n gelfyddyd foddhaus, berthnasol a byd-eang sydd â’r grym i gael effaith ac ysbrydoli.

Mae lluniau cynyrchiadau WNO ar gael i'w lawrlwytho o wno.org.uk/press

  • Mae Il trittico yn gynhyrchiad ar y cyd gyda Scottish Opera
  • Cefnogir Il trittico gan Bartneriaid WNO
  • Daw cefnogaeth cynhyrchu ar gyfer Il trittico gan Sheila a Richard Brooks.
  • Daw cefnogaeth cynhyrchu arweiniol gan Colwinston Charitable Trust
  • Mae cynyrchiadau a chomisiynau newydd WNO yn cael eu cefnogi gan y John Ellerman Foundation
  • Cefnogir cynyrchiadau gan Gronfa Dunard
  • Cefnogir Opera Ieuenctid WNO gan The Seligman Gift, Bateman Family Charitable Trust, The Kirby Laing Foundation, Gibbs Charitable Trust, Andrew Fletcher, Paul a Marie Carson, Partneriaid WNO, The Siôn Mullane Foundation a Unity Theatre Trust.
  • Cefnogir rôl Blaenwr Cerddorfa WNO gan Mathew a Lucy Prichard
  • Cefnogir gwahanol Flaenwyr y Gerddorfa gan y Cylch Prif Chwaraewyr
  • Cefnogir rôl Cyfarwyddwr Cerddoriaeth WNO gan Marian a Gordon Pell

Am ragor o wybodaeth, lluniau neu gyfweliadau, cysylltwch â:

Christina Blakeman, Rheolwr y Wasg christina.blakeman@wno.org.uk

Rhys Edwards, Rheolwr Cyfathrebu rhys.edwards@wno.org.uk

Penny James a Rachel Bowyer, Pennaeth Cyfathrebu (rhannu swydd penny.james@wno.org.uk / rachel.bowyer@wno.org.uk