Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn rhoi ‘Croeso’ i’r Cyd-Brif Swyddogion Gweithredol/Cyfarwyddwr Cyffredinol Newydd
6 Ionawr 2025Mae’r flwyddyn newydd yn gychwyn cyfnod newydd i Adele Thomas a Sarah Crabtree, wrth iddynt gydweithio fel Cyd-Brif Swyddogion Gweithredol/Cyfarwyddwyr Cyffredinol Opera Cenedlaethol Cymru.
Yn ddiweddar cyfarwyddodd Adele Thomas, cyfarwyddwr theatr ac opera byd enwog, gynhyrchiad newydd WNO o Rigoletto, Verdi, tra bod y cynhyrchydd llawn gweledigaeth, Sarah Crabtree yn ymuno â’r Cwmni o The Royal Ballet and Opera, lle bu yn Gynhyrchydd Creadigol a Phennaeth Theatr Linbury (opera).
Mae Adele a Sarah yn rhannu’r swydd yng ngwir ystyr y gair, gan oruchwylio cyfeiriad a rheolaeth artistig y Cwmni yn gyfartal.
Wrth siarad am eu swydd newydd, dywedodd Adele Thomas a Sarah Crabtree:
‘Datblygodd Opera Cenedlaethol Cymru allan o ffrae danllydrhwng dau rym diwylliannol: yr ysbryd democratiaeth wedi’r rhyfel ac obsesiwn llawr gwlad Cymru â'r llais dynol wrth ganu. Mae’r endidau chwyldroadol hyn yn sail i'r ffordd yr ydym am ail-ddychmygu WNO fel cwmni opera y dyfodol. Gyda’i wreiddiau yng Nghymru, ond ei gyrhaeddiad a’i ddylanwad y tu hwnt, rydym am i WNO fod yn sefydliad celfyddydol arloesol, dewr a chyfoes o fewn ecoleg celfyddyd byw y DU, yn chwilio am amrywiaeth gwell ar ein llwyfannau ac ymysg ein cynulleidfaoedd, ac yn cwestiynu yr hyn y gall opera fod yn y byd modern.
‘Er bod dyfodol opera yng Nghymru a’r DU erioed wedi edrych mor enbyd, gydag adegau argyfyngus daw cyfleoedd gwych; mae’n anrhydedd i ni gael symud y Cwmni gwych yma ymlaen i’w bennod nesaf. Rhai o uchafbwyntiau’r tymor sydd i ddod yw dychwelyd i Abertawe am y tro cyntaf mewn degawd, a chynhyrchiad newydd hir-ddisgwyliedig o Peter Grimes, gyda chast o’r radd flaenaf, gan gynnwys rhai o artistiaid gorau Cymru o’u cenhedlaeth.’
Cyhoeddir cynlluniau ar gyfer tymor 2025/2026 WNO yn fuan, pan fydd y Cwmni yn dathlu ei ben-blwydd yn 80 oed.
DIWEDD
Nodiadau i Olygyddion
‘Croeso’ yw’r gair Cymraeg am ‘Welcome’.
Opera Cenedlaethol Cymru yw'r cwmni opera cenedlaethol ar gyfer Cymru, a ariennir gan Gynghorau Celfyddydau Cymru a Lloegr i ddarparu cyngherddau, gwaith allgymorth ac operâu ar raddfa fawr ledled Cymru ac mewn dinasoedd mawr yn rhanbarthau Lloegr. Rydym yn ymdrechu i gynnig profiadau trawsnewidiol drwy ein rhaglen addysg ac allgymorth a'n prosiectau digidol llwyddiannus. Rydym yn gweithio gyda'n partneriaid i ddarganfod a meithrin doniau operatig ifanc, a'n nod yw dangos i genedlaethau'r dyfodol bod opera'n gelfyddyd foddhaus, berthnasol a byd-eang sydd â'r grym i gael effaith ac i ysbrydoli.
Cafodd Adele Thomas ei geni a'i magu ym Mhort Talbot yn Ne Cymru. Derbyniodd Adele fwrsariaeth RTYDS ar gyfer arweinwyr artistig y dyfodol, a chafodd ei gwahodd ar gwrs cyfarwyddwyr ifanc y National Theatre Studio yn 2005. Mae hefyd yn Gymrodor Anrhydeddus Coleg Fitzwilliam, Caergrawnt.
Mae’r gwaith opera yn cynnwys Semele (Glyndebourne); Il trovatore (Opernhaus Zürich a ROH); In the Realms of Sorrow (Gŵyl Handel Llundain/Stone Nest); Bajazet (INO a ROH); Apollo e Dafne and Berenice (ROH); Così fan tutte (Opera Gogledd Iwerddon). Cafodd Bajazet a Berenice eu henwebu ar gyfer gwobr y Cynhyrchiad Opera Newydd Gorau yng Ngwobrau Olivier.
Mae’r gwaith theatr yn cynnwys The Memory of Water (Nottingham Playhouse); The Weir (ETT); Macbeth (Tobacco Factory); Eyam, The Oreseia, The Knight of the Burning Pestle and Thomas Tallis (Shakespeare’s Globe); The Golden Hours (Royal Court Theatre gan Unusual Unions); The Bloody Ballad and The Forsythe Sisters (Gagglebabble); The Passion and The Passion: One Year On (Cydymaith Prosiect, Theatr Cenedlaethol Cymru); Under Milk Wood (Royal & Derngate).
Ers 2017 mae Sarah Crabtree wedi bod yn Gynhyrchydd Creadigol ar gyfer Yr Opera Frenhinol, yn gyfrifol am raglennu a chynhyrchu yn Theatr Linbury ac ar gyfer cynyrchiadau'r Opera Frenhinol y tu hwnt i Covent Garden, mewn lleoliadau fel Shakespeare’s Globe a’r Roundhouse. Gweithiodd Sarah i Opera Holland Park rhwng 2006 a 2015 a daeth yn Gynhyrchydd Cyswllt i James Clutton yno yn 2012. Yn Opera Holland Park, sicrhaodd ddarpariaeth tymor haf y cwmni a chomisiynodd waith newydd cyntaf erioed Opera Holland Park: Alice’s Adventures in Wonderland, gan Will Todd yn 2012.
Mae uchafbwyntiau ei gyrfa yn Covent Garden yn cynnwys goruchwylio perfformiadau cyntaf yn y byd o Coraline gan Mark Anthony Turnage yn y Barbican, 4.48 Psychosis gan Philip Venable, The Blue Woman gan Laura Bowler, a‘r Last Days gan Oliver Leith. Mae hi hefyd wedi bod yn gyfrifol am raglen ymchwil a datblygu’r Opera Frenhinol, sy’n cefnogi datblygiad gwaith newydd ac artistiaid sy’n dod i'r amlwg. Yn eiriolwr brwd dros degwch yn y celfyddydau, sefydlodd Sarah Engender yn 2019, rhwydwaith cyntaf byd opera ar gyfer merched a phobl anneuaidd, gyda'r nod o ddarparu newid trawsnewidiol o safbwynt cydraddoldeb rhywedd ym myd opera. Mae Sarah yn bartner newid gyda Ramps on the Moon, sy’n gweithio tuag at newid diwylliannol prif lif ar gyfer pobl anabl yn y celfyddydau, gan weithredu gwrth-ableddiaeth ar draws y sector. Ymunodd Sarah â’r Opera Frenhinol fel Uwch Gynhyrchydd ym mis Ebrill 2015.
Mae lluniau cynyrchiadau WNO ar gael i'w lawrlwytho o https://wno.org.uk/cy/press
Ceir rhagor o wybodaeth am waith WNO yn wno.org.uk/cy/
Am ragor o wybodaeth, lluniau neu gyfweliadau, cysylltwch â:
Christina Blakeman, Rheolwr Cyfathrebu
Rachel Bowyer, Pennaeth Cyfathrebu