
- Dehongliad newydd o Don Pasquale gan Donizetti wedi'i leoli mewn fan cebab i fynd ar daith i lwyfannau llai ledled Cymru a Lloegr
- Cyfieithiad newydd gan y cyfarwyddwr llwyddiannus Daisy Evans
- Andrew Shore fydd yn serennu fel Don Pasquale ac Artist Cyswllt WNO Harriet Eyley fydd yn chwarae rhan Norina.
Taith haf WNO eleni yw cynhyrchiad newydd trawiadol o Don Pasquale gan Donizetti. Bydd campau'r Don Pasquale cyfoes yn mynd ar daith yn y llwyfaniad newydd hwn o'r opera gomig glasurol rhwng Mai 25 a Gorffennaf 13. Wedi'i gosod yn ac o gwmpas fan cebab Pasquale, mae'n stori am freuddwydion rhamantus hen lanc a'r cariadon ifanc sy'n ei dwyllo.
Don Pasquale y 21ain Ganrif
Mae'r cyfarwyddwr Daisy Evans, y cyfarwyddwr cerdd Stephen Higgins a'r dylunydd Loren Elstein wedi rhwygo'r llyfr rheolau ac wedi newid y dyluniad, y naratif a'r libreto i ddiweddaru opera Donizetti i gynulleidfa hollol newydd yn ogystal â'r rhai sydd eisoes yn gyfarwydd â'r gwaith. Mae Elstein wedi creu set ffraeth sy'n eich cludo i ganol Caerdydd ac mae'n gosod y darn yn gadarn iawn yn y presennol.
Mae Don Pasquale yn cynnwys cast bach a cherddorfa ar y llwyfan sy'n creu profiad operatig agos, lle mae'r gynulleidfa reit o flaen yr holl ddigwyddiadau, sy'n rhoi persbectif newydd ar y clasur hwn gan Donizetti, sy'n addas ar gyfer pob oedran.
Y stori newydd anfarwol o ddigrif
Mae'r cynhyrchiad cyfoes hwn yn adrodd hanes dyn hunanbwysig a'r cariadon ifanc sy'n glyfrach nag ef yn y fersiwn hon ar gyfer 2019. Don Pasquale (Andrew Shore) yw'r patriarch hunanddyrchafedig a ddaeth i Gaerdydd yn y 1970au i wneud ei ffortiwn. Mae'n prynu fan cebab ac yn adeiladu ei ymerodraeth a bellach yn denu torf bob nos Wener. Mae ei nai Ernesto (Nico Darmanin), sydd eisiau bod yn ganwr/cyfansoddwr, wedi dod i aros. Ond, nid yw Don Pasquale yn or-hoff o'r llanc ifanc sy'n hoffi ysgrifennu barddoniaeth ac yn gwrthod tynnu ei bwysau i helpu. Nid yw Pasquale eisiau rhoi ei fan cebab i'w nai ar ôl iddo farw, ac felly mae'n penderfynu priodi a chael plant ei hun ac amddifadu ei nai yn llwyr.
Mae penderfyniad Pasquale i chwilio am wraig yn sioc fawr i Ernesto, ac mae ef a'i gariad Norina (Harriet Eyley) sy'n figan a Malatesta (Quirijn De Lang) yn cynllwynio i dwyllo'r dyn hŷn, i sicrhau eu dyfodol nhw a'i lusgo ef i'r 21ain Ganrif.
Mynd â'r fan ar daith
Yn dilyn llwyddiant Rhondda Rips It Up! gan Elena Langer yn 2018, bydd yr opera gomig hon yn teithio i ganolfannau canolig eu maint ledled Cymru a Lloegr. Mae'r cwmni'n parhau â'i ymrwymiad i gyrraedd ystod eang o gynulleidfaoedd gyda repertoire operatig amrywiol, gan ddod ag opera i drefi a dinasoedd gyda theatrau llai sydd ddim hefo digon o le i'r cwmni llawn. Dyma Don Pasquale fel nad ydych erioed wedi'i weld o'r blaen.
Dywedodd y cyfarwyddwr a'r libretydd Daisy Evans "Mae'r Don Pasquale yma yn ffres, yn gyfoes ac yn unigryw. Mae wedi cael ei ail-ddychmygu ar gyfer cynulleidfa fodern ac mae'r comedi glasurol yn cael ei gyrru gan faterion cyfoes. Mae Pasquale yn falch o'i fan cebab a'r blynyddoedd o wasanaeth y mae wedi ei roi i bartiwyr hwyr y nos yng Nghaerdydd, ond mae wedi mynd yn grintachlyd ac yn ofni moderneiddio. Cynrychiola ei nai Ernesto a'i gariad Norina y dyfodol - maent yn galw am ddefnyddio llai o blastig, bwyta eco-ymwybodol a dylunio mwy syml. Mae'r ddwy ochr yn cystadlu yn erbyn ei gilydd mewn comedi sy'n siŵr o'ch gwneud i chi chwerthin yn ogystal â meddwl"
Nodiadau i Olygyddion
- Opera Cenedlaethol Cymru yw cwmni opera cenedlaethol Cymru. Ariennir WNO gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Lloegr i gyflwyno opera ar raddfa fawr ledled Cymru ac yn ninasoedd mawr yn rhanbarthau Lloegr.
- Mae lluniau cynyrchiadau WNO ar gael i’w lawrlwytho o wno.org.uk/cy/press
- Am ragor o wybodaeth, lluniau neu gyfweliadau cysylltwch â Penny James, Rheolwr y Wasg a Rheolwr Materion Cyhoeddus ar 029 029 20635038 neu penny.james@wno.org.uk neu Christina Blakeman, Swyddog y Wasg ar christina.blakeman@wno.org.uk neu 029 2063 5037